Rydyn ni'n falch iawn o'r cynllun, a dweud y gwir. Pwrpas y cynllun yn y lle cyntaf oedd rhoi lle i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr adnabod siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw gerdded i mewn i unrhyw dderbynfa, neu wrth iddyn nhw ymwneud ag unrhyw gorff cyhoeddus. Mae'r bathodyn bach oren, dwi'n meddwl, wedi bod yn llwyddiant yn ystod y cyfnod, ac mae hynny o achos bod sefydliadau'n credu yn hynny, ac eu bod nhw'n gweld ei fod o'n fuddiol, hefyd, nid yn unig o ran y cyhoedd ond hefyd o ran trafodaethau mewnol ymysg staff, lle hwyrach y tueddiad fyddai i ddechrau sgwrs yn Saesneg, ond yn amlwg erbyn hyn, os ydych chi'n gweld rhywun yn gwisgo'r bathodyn oren, mae yna le iddyn nhw ddechrau sgwrs yn Gymraeg. Mae hynny'n bwysig.
Mae'r cynllun wedi datblygu hefyd ar hyd y blynyddoedd. Erbyn hyn, nid jest bathodynnau ydyn nhw. Mae yna gortyn gwddf yn cael ei ddefnyddio, a hefyd rydyn ni ar hyn o bryd yn dilyn trafodaethau yn ystod COVID, i fod yn onest—rydyn ni yn siarad efo byrddau iechyd ynglŷn â phwytho'r bathodyn i mewn i wisgoedd gwaith er mwyn sicrhau hylendid o fewn y gweithle.
Felly, mae'r peth yn datblygu. Mae yna hefyd gynlluniau gan fyrddau iechyd i gynnwys y bathodyn oren ar yr hysbysfyrddau uwchben gwelyau cleifion, fel bod staff hefyd yn gallu gweld bod cleifion yn siarad Cymraeg, fel eu bod nhw'n dechrau sgwrs yn Gymraeg. Felly, mae yna fudd i hynny.
Fe wnaethon ni ymgyrch ym mis Tachwedd y llynedd a oedd yn dathlu 15 mlynedd, a’r gred bryd hynny oedd bod yna dwf aruthrol yn y galw am gynnyrch Iaith Gwaith, ond yn anffodus, wrth gwrs, mi oedd yr ymosodiad seiber yn meddwl bod neb yn gallu cysylltu efo ni i ofyn am fathodynnau, ac ati. Felly, mi oedd yn rhaid i ni aros tan lansio'r wefan newydd ym mis Awst i ni allu ymateb. Ond dwi'n meddwl bod o'n werth dweud wrthoch chi bod y twf sydd wedi bod ers i ni lansio'r wefan newydd rhyw dri mis yn ôl wedi bod yn eithaf sylweddol hefyd. Yn y mis cyn lansio'r wefan, doedd yna ond tua 650 o geisiadau am fathodynnau ac ati, ac yn y mis ar ôl lansiad y wefan, roedd hynny wedi cynyddu i dros 1,800, felly teirgwaith y galw, bron. A rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod y galw yna yn parhau. Mae yna gynlluniau i ni greu neu godi ymwybyddiaeth yn ystod y flwyddyn yma. Rydyn ni'n mynd i hyrwyddo Iaith Gwaith eto. Os ydych chi'n mynd ar ein gwefan ni, un o'r pethau cyntaf fyddwch chi'n gweld ydy bathodyn Iaith Gwaith ac yn annog pobl i ofyn am y cynnyrch sydd, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim hefyd, sydd yn syndod i rai sefydliadau pan maen nhw'n dod atom ni.
A dwi'n meddwl hefyd erbyn hyn dwi'n falch iawn o'r ffaith bod y rhaglen yma yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Mae'r Alban wedi mabwysiadu cynllun tebyg ond bod eu bathodyn nhw'n biws yn hytrach nag yn oren. Ac mi roeddwn i'n rhoi tystiolaeth i'r Dáil yn Iwerddon wythnos diwethaf, ac maen nhw wedi gofyn am fwy o fanylion ynglŷn â sut rydyn ni wedi llwyddo efo'r cynllun. Felly, dwi'n gobeithio bydd Cymru ar y blaen unwaith eto o ran dangos y ffordd ymlaen i ieithoedd lleiafrifol, a sut rydyn ni'n cynyddu defnydd o fewn cyrff cyhoeddus trwy rywbeth sydd yn syniad eithaf syml, i ddweud y gwir, ond sydd yn gweithio.