Y Cabinet a'r gweinidogion
Yr hyn mae'r llywodraeth wedi'i addo: y Rhaglen Lywodraethu
Prif Weinidog

Rhun ap Iorwerth
Prif Weinidog Cymru
Yn arwain y llywodraeth ac yn ateb Cwestiynau i'r Prif Weinidog bob wythnos.
Beth sydd yn y portffolio (17 maes)
- Y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau
- Disgwyliadau, goruchwyliaeth a chymorth ar gyfer gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r Ysgrifennydd Parhaol (gyda chymorth y Gweinidog dros Effeithiolrwydd Llywodraeth)
- Datblygu, gweithredu a chyflwyno'r Rhaglen Lywodraethu a pholisïau Llywodraeth Cymru
- Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (gyda chymorth y Gweinidog dros Effeithiolrwydd Llywodraeth)
- Hyrwyddo a chynrychioli Cymru gartref a thramor
- Cysylltiadau Rhynglywodraethol
- Cysylltiadau Rhyngwladol gan gynnwys y rhwydwaith tramor a chysylltiadau â'r UE
- Argyfyngau Sifil Posibl a Chadeirio Fforwm Gwydnwch Cymru
- Diogelwch gwladol gan gynnwys gwrthderfysgaeth a seiberddiogelwch
- Cod y Gweinidogion
- Llywodraeth Agored a rheoli gwybodaeth, gan gynnwys diogelu data
- Cyrff Hyd Braich – llywodraethiant cyffredinol
- Ymchwiliad Cyhoeddus Llywodraeth y DU i Covid-19
- Arwain y Cabinet
- Cyfathrebu Strategol
- Penodiadau Cyhoeddus
- System etholiadol y Senedd
Cabinet

Sioned Williams
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Yn ateb dros: Tlodi a chostau byw, Cydraddoldeb a hawliau dynol
Beth sydd yn y portffolio (32 maes)
- Dirprwyo ar ran y Prif Weinidog
- Hawliau, hawlogaethau ac eiriolaeth o ran plant a phobl ifanc
- Polisi y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant a'r gweithlu
- Y Taliad Cynnal
- Polisi a rhaglenni Cymorth i Deuluoedd
- Rhianta
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
- Cydgysylltu mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant a mynd i'r afael â thlodi
- Cydgysylltu mesurau i liniaru Tlodi Plant
- Cydlynu â'r Adran Gwaith a Phensiynau ac ymgysylltu â pholisi Lles Llywodraeth y DU
- System Fudd-daliadau Cymru
- Tlodi tanwydd a bwyd
- Cynhwysiant ariannol, gan gynnwys undebau credyd
- Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau
- Cydgysylltu materion yn ymwneud â Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid, mudo a chydlyniant cymunedol
- Gwrthgaethwasiaeth, cam-drin domestig, trais ar sail rhywedd a thrais rhywiol
- Y sector gwirfoddol a gwirfoddoli
- Partneriaeth Gymdeithasol
- Y berthynas â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Cyfrifoldeb cyffredinol dros Bobl Anabl
- Arwain ar bolisi mewn perthynas â'r Lluoedd Arfog, Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a Chadetiaid yng Nghymru
- Cymru ac Affrica
- Arwain ar bolisi mewn perthynas â materion polisi cyfiawnder
- Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddwyr Benywaidd
- Cydlyniant cymunedol
- Diogelwch Cymunedol, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu
- Y berthynas â'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, yr Heddlu ac asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill
- Y berthynas â Llywodraeth y DU o ran Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf
- Gwasanaethau Cynghori ac Eiriolaeth
- Prif gyfrifoldeb am fonitro materion sy'n ymwneud â Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yng Nghymru
- Goruchwylio'r gwaith o ddosbarthu cyllid y Loteri yng Nghymru

Heledd Fychan
Y Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Yn ateb dros: Diwylliant, chwaraeon a Chymru yn y byd
Beth sydd yn y portffolio (20 maes)
- Rheoli Busnes y Llywodraeth yn y Senedd yn unol â'r Rheolau Sefydlog
- Darparu'r Datganiad Busnes wythnosol
- Cynrychioli'r Llywodraeth yn y Pwyllgor Busnes
- Prif Chwip y Llywodraeth
- Diwylliant a'r celfyddydau
- Polisi darlledu a'r cyfryngau
- Y Strategaeth Diwylliant, gan gyfeirio at y Gymraeg a'r Diwydiannau Creadigol
- Noddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a'i gylch gwaith
- Amgylchedd hanesyddol Cymru
- Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
- Amgueddfeydd a chasgliadau lleol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Llyfrgelloedd cyhoeddus
- Gwasanaethau archifau lleol
- Datblygu Archif Genedlaethol Cymru
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
- Chwaraeon Elît
- Chwaraeon cymunedol, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru
- Digwyddiadau Mawr

Anna Brychan
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Yn ateb dros: Ysgolion, Y Gymraeg
Beth sydd yn y portffolio (27 maes)
- Cyfrifoldeb yn y Cabinet am addysg, y Gymraeg, sgiliau ac addysg drydyddol.
- Safonau ysgolion, gwella a chyrhaeddiad disgyblion
- Llywodraethiant ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion
- Polisi cyllido ysgolion gan gynnwys Grant Addysg Awdurdodau Lleol
- Trefniadau ar gyfer y cwricwlwm ac asesu
- Dysgu digidol gan gynnwys Hwb a diogelwch ar-lein
- Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- Addysg plentyndod cynnar (ar wahân i hyfforddi’r gweithlu)
- Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl
- Cymorth i bobl â Dyslecsia
- Tegwch mewn Addysg gan gynnwys y dull 'ysgol gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl, presenoldeb a diogelu, ymddygiad a chynhwysiant ac ysgolion bro
- Bwyd a diod mewn ysgolion gan gynnwys Prydau Ysgol, Brecwast a Llaeth am Ddim a Bwyta'n Iach
- Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion
- Cyflawni a rheoli'r rhaglen gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
- Cymwysterau Cymru
- Cymwysterau TGAU
- Cymwysterau Safon Uwch (ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol)
- Rhaglen, cylch gwaith a chyllid Estyn
- Adnodd
- Llwybrau gyrfa ymarferwyr ysgolion, safonau proffesiynol, cymorth dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, gan gynnwys addysg gychwynnol i athrawon a Dysgu
- Ymgysylltu â’r gweithlu addysg gan gynnwys recriwtio a chadw staff, cyflog ac amodau, Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, llwyth gwaith a llesiant, a Chyngor y Gweithlu Addysg
- Llwybrau Dysgwyr 14-19 (ar y cyd â’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol)
- Cymraeg 2050 – gan gynnwys targedau a data, deddfwriaeth a safonau, cydymffurfiaeth sefydliadau â Safonau’r Gymraeg
- Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys trochi a throsglwyddo iaith
- Gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg
- Diogelu mewn lleoliadau addysg
- Y berthynas â Chomisiynydd y Gymraeg

Dafydd Trystan Davies
Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
Yn ateb dros: Y cyfansoddiad, Cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus
Beth sydd yn y portffolio (11 maes)
- Materion cyfansoddiadol, gan gynnwys datganoli pellach a threfniadau cyfansoddiadol Comisiwn Cymru
- Cydgysylltu gwaith ar y Fframweithiau Cyffredin
- Goruchwylio blaenoriaethau'r Llywodraeth
- Goruchwylio'r Rhaglen Lywodraethu
- Cefnogi'r gwaith o oruchwylio Swyddfa'r Cabinet
- Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Arwain
- Cynllunio ar gyfer y rhaglen ddeddfwriaethol
- Ystadegau Swyddogol, gan gynnwys y Cyfrifiad, ymchwil gymdeithasol ac arolwg cenedlaethol Cymru
- Adolygiad o Ymateb Cymru i Covid
- Gweithredu'r fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan gynnwys Fforymau Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a goruchwylio'r berthynas â Chyrff Cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a'r Nodau Datblygu Cynaliadwy
- Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Llyr Gruffydd
Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Yn ateb dros: Ffermio a'r Gymru wledig, Hinsawdd a natur
Beth sydd yn y portffolio (41 maes)
- Mesurau trawsbynciol ar gyfer lliniaru ac addasu yn sgil newid hinsawdd, gan gynnwys dŵr; draenio tir; risg llifogydd a risg arfordirol; a rheoli llygredd morol a llygredd aer
- Sero Net, newid hinsawdd, targedau lleihau allyriadau a chyllidebau carbon
- Rheoli Adnoddau Naturiol, gan gynnwys goruchwylio a gweithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru), a Cyfoeth Naturiol Cymru
- Yr economi gylchol
- Rheoli adnoddau a gwastraff yn gynaliadwy
- Ansawdd yr amgylchedd lleol, gan gynnwys polisi sŵn, sbwriel, tipio anghyfreithlon, y Cynllun Dychwelyd Ernes a’r Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig
- Dŵr
- Diogelwch cronfeydd dŵr
- Polisi a deddfwriaeth coedwigaeth, gan gynnwys ailstocio, iechyd coed a deunydd atgynhyrchu coedwigoedd, a'r Goedwig Genedlaethol
- Cynllunio morol a chynllunio dŵr croyw, bioamrywiaeth, cadwraeth a thrwyddedu
- Polisi bioamrywiaeth, gan gynnwys gweithredu'r Cynllun Adfer Natur
- Gwarchod a rheoli bywyd gwyllt
- Chwyn niweidiol
- Rheoleiddio iechyd planhigion, hadau a phlaladdwyr
- Arwain yn strategol ar randiroedd a seilwaith gwyrdd trefol
- Mannau Gwyrdd Cymunedol a thir comin
- Mynediad at gefn gwlad, yr arfordir, hawliau tramwy a dyfrffyrdd/cyrff dŵr
- Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
- Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) a'r polisi Cemegau
- Diogelwch tomenni glo
- Adfer mwyngloddiau brig
- Tir halogedig
- Ansawdd aer
- Rheoliadau amgylcheddol mewn perthynas ag ymbelydredd a niwclear
- Rheoliadau trwyddedu diwydiannol ac amgylcheddol
- Cynaliadwyedd cymunedau gwledig
- Prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad
- Cefnogi Amaethyddiaeth – diogeledd bwyd, materion economaidd, materion cymdeithasol
- Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- Datblygu'r sector amaethyddol, gan gynnwys cyflogau a sgiliau
- Y Rhaglen Datblygu Gwledig
- Y polisi tir gorau a mwyaf amlbwrpas, cyngor ar adfer safleoedd mwynau i ôl-ddefnydd amaethyddol, Dosbarthiad Tir Amaethyddol a gweithredu'r Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth)
- Newydd-ddyfodiaid i ffermio
- Iechyd a lles anifeiliaid
- Y Cynllun Dileu TB Buchol
- Polisi adnabod a symud da byw
- Polisi cofrestru daliadau
- Cnydau a addaswyd yn enetig
- Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth am bris cnydau
- Pysgodfeydd mewndirol, arfordirol a morol: rheoleiddio a gorfodi polisïau, a rheoli harbyrau pysgota
- Datblygu'r sector bwyd-amaeth, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, hyrwyddo a marchnata bwyd a diod o Gymru

Siân Gwenllian
Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Yn ateb dros: Tai, Cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus
Beth sydd yn y portffolio (26 maes)
- Materion yn ymwneud â pherfformiad, llywodraethiant a chyfansoddiad Llywodraeth Leol, trefniadau craffu, cabinetau, meiri etholedig, rôl cynghorwyr, eu hamrywiaeth, eu hymddygiad a'u tâl cydnabyddiaeth
- Diwygio Awdurdodau Lleol yn strwythurol, yn ddemocrataidd, yn ariannol ac yn gyfansoddiadol, gan gynnwys cydgysylltu modelau cydweithredu rhanbarthol
- Y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
- Gwasanaethau Tân ac Achub gan gynnwys diogelwch tân cymunedol
- Trefniadau etholiadol Llywodraeth Leol, noddi Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ac amseriad etholiadau Awdurdodau Lleol
- Rhoi cyllid heb ei neilltuo i Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu drwy setliadau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol
- Llywodraethiant ariannol, ariannu a chyfrifyddu mewn perthynas â Llywodraeth Leol
- Materion yn ymwneud â gweithlu Llywodraeth Leol
- Gweithgareddau Awdurdodau Lleol a chymdeithasau tai mewn perthynas â thai, gan gynnwys rheoli tai a dyrannu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
- Cyflenwad ac ansawdd tai'r farchnad, tai cymdeithasol a thai fforddiadwy
- Yr Is-adran Tir
- Ail Gartrefi
- Digartrefedd a chyngor ar dai
- Materion yn ymwneud â thai a ddarperir gan y sector rhentu preifat
- Rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Cymhorthion ac addasiadau, gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl a Grantiau Addasu Ffisegol
- Rhoi cymorth yn ymwneud â thai (ond nid talu'r Budd-dal Tai)
- Y Cynllun Cartrefi Cynnes
- Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn
- Goruchwylio a gweithredu'r Deddfau Cynllunio a phob agwedd ar bolisi cynllunio a phenderfynu ar geisiadau cynllunio a elwir i mewn ac apeliadau
- Lles cynllunio – y Cytundebau Adran 106 sydd yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol: penderfynu ar geisiadau cynllunio a chydsyniadau cysylltiedig
- Rheoliadau adeiladu
- Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040
- Adfywio, gan gynnwys Ardaloedd Adfywio Strategol; adfywio etifeddol; Trawsnewid Canol Trefi a darparu safleoedd ac adeiladau, tir diffaith a gwelliannau amgylcheddol mewn perthynas ag adfywio
- Polisi claddu ac amlosgi

Elin Jones
Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Yn ateb dros: Cyllid cyhoeddus
Beth sydd yn y portffolio (18 maes)
- Trysorlys Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer adnoddau Llywodraeth Cymru, a'u rheoli'n strategol
- Polisi trethi, gan gynnwys Diwygio'r Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, gostyngiadau'r dreth gyngor a Noddi gwasanaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru
- Polisi cyllid Llywodraeth Leol gan gynnwys diwygio ariannol
- Ardoll Ymwelwyr
- Monitro a rheoli'r gyllideb
- Buddsoddi Strategol
- Buddsoddi i Arbed
- Cyfrifyddu Ariannol ac archwilio
- Monitro a rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn
- Gweithredu a datblygu'r setliad cyllid datganoledig a'r Datganiad Polisi Cyllido
- Y berthynas â Thrysorlys EF a Chyllid a Thollau EF ar bob mater gwariant a threth
- Polisi cyflogau'r Sector Cyhoeddus
- Y dull strategol o gaffael, cynnal a gwaredu eiddo ac asedau eraill
- Materion masnachol a chaffael ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, gan gynnwys llywodraeth leol
- Polisi grantiau
- Goruchwylio'r gwaith o archwilio, arolygu a rheoleiddio mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus

Adam Price
Y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Yn ateb dros: Yr economi a swyddi, Ynni
Beth sydd yn y portffolio (36 maes)
- Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol
- Cymorth a chyngor i helpu busnesau i sefydlu, tyfu neu ddatblygu (gan gynnwys cymorth allforio a mewnfuddsoddi)
- Polisi a hyrwyddo Masnach Ryngwladol, gan gynnwys cydgysylltu materion yn ymwneud â Masnach rhwng y DU a'r UE
- Strategaeth a pholisi economaidd
- Y Cyflog Byw
- Porthladdoedd Rhydd
- Polisi ffiniau
- Cymru Greadigol
- Busnes Cymru
- Entrepreneuriaeth, menter a gwybodaeth fusnes
- Banc Datblygu Cymru
- Banc Cymunedol
- Yr Economi Sylfaenol
- Menter Gymdeithasol, yr economi gymdeithasol, a'r economi gydweithredol
- Bargeinion Dinesig / Twf a Chronfeydd Strwythurol / Buddsoddi Rhanbarthol yn y Dyfodol (gan weithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid a'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol)
- Caffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd
- Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer arferion busnes cyfrifol, twf a chystadleurwydd
- Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
- Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd
- Annog budd economaidd o ddigwyddiadau mawr
- Polisi cyflogadwyedd Ieuenctid ac Oedolion, a chyflawni hynny
- Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
- Cyflogaeth plant
- Manwerthu
- Twristiaeth
- Strategaeth y Sector Lletygarwch
- Polisi a strategaeth ynni gan gynnwys cynhyrchu ynni ar raddfa fach a chanolig, ynni domestig, ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, trosglwyddo a dosbarthu
- Cysylltiadau rhynglywodraethol ar bwerau ynni a gedwir yn ôl
- Ynni Cymru
- Cynlluniau perthynas a phartneriaeth gyda'r Crown Estate
- Seilwaith cysylltedd digidol, gan gynnwys Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, band eang cyflym a'r rhwydwaith symudol
- Polisi a Strategaeth Digidol a Data ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys AI
- Cynhwysiant Digidol
- Goruchwyliaeth hyd braich o Faes Awyr Caerdydd
- Ymchwil ac Arloesi, gan gynnwys ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio; manteisio i'r eithaf ar incwm ymchwil ac arloesi, a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil (ar wahân i iechyd a gofal cymdeithasol)
- Gwyddoniaeth: datblygu polisi gwyddoniaeth, gan gynnwys cyswllt â Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

Mabon ap Gwynfor
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Yn ateb dros: Y GIG, Gofal cymdeithasol
Beth sydd yn y portffolio (17 maes)
- Cyfrifoldeb yn y Cabinet am Iechyd a Gofal, gan gynnwys iechyd cyhoeddus ac ataliol, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl ac iechyd menywod.
- Goruchwylio GIG Cymru - perfformiad ac uwchgyfeirio, Cyllid y GIG, cynllunio
- Gwyddor gofal iechyd
- Gofal Sylfaenol
- Derbyn adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ymateb iddynt a'u llywio
- Polisi a chyllidebau ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
- Goruchwylio perthynas Llywodraeth Cymru ag Archwilio Cymru o ran gweithgareddau'r GIG
- Hyfforddi a datblygu gweithlu Meddygol y GIG [ac eithrio blynyddoedd 1-5 o Addysg Prifysgol Meddygon]
- Gwyddoniaeth, tystiolaeth a chyngor ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Profiad cleifion, eu cynnwys a llais y dinesydd
- Integreiddio
- Gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd mewn perthynas â'r sector iechyd a gofal
- Yr economi sylfaenol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwyddorau Bywyd
- Arloesi, technoleg a thrawsnewid digidol ym maes iechyd
- Iechyd Aelodau a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog
Dirprwy Weinidogion

Cefin Campbell
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
Yn ateb dros: Prifysgolion, colegau a sgiliau
Beth sydd yn y portffolio (25 maes)
- Diwygio Rhaglen Seren
- Strategaeth, polisi, cyllid ac ansawdd Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a phrofiad y dysgwr
- Medr
- Gweithlu Addysg Ôl-16 gan gynnwys ymgysylltu, tâl ac amodau, llwyth gwaith a llesiant
- Llwybrau Dysgwyr 14-19 (ar y cyd â’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg)
- Trefniadau Cymorth i Fyfyrwyr gan gynnwys y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, Cyllid Myfyrwyr Addysg Uwch ac arwain o ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
- Cynaliadwyedd addysg uwch i gynnwys cymorth i fyfyrwyr a sefydliadau
- Strategaeth a pholisi prentisiaethau
- Strategaeth a pholisi sgiliau gan gynnwys cysondeb â'r portffolio Menter, Cysylltedd ac Ynni
- Strategaeth a dysgu rhyngwladol, gan gynnwys y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (Taith) a Chymru Fyd-eang
- Strategaeth, polisi a chyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned
- Dysgu Carcharorion
- Y Fframwaith Credydau a Chymwysterau
- Cymwysterau trydyddol a galwedigaethol
- Cymwysterau Safon Uwch (ar y cyd â’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg)
- Cynyddu ac ehangu cyfranogiad ôl-16
- Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn sgiliau ac addysg drydyddol
- Dysgu Gydol Oes
- Polisi Gyrfaoedd a noddi Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG)
- Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
- Datblygu sgiliau'r gweithlu
- Y blynyddoedd cynnar – hyfforddi’r gweithlu
- Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
- Gwaith ieuenctid

Nerys Evans
Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Yn ateb dros: Iechyd y cyhoedd
Beth sydd yn y portffolio (14 maes)
- Arweinydd Trawslywodraethol ar Iechyd Ataliol
- Iechyd y cyhoedd
- Anghydraddoldebau iechyd
- Atal argyfyngau, parodrwydd ar eu cyfer ac ymateb iddynt o ran iechyd gan gynnwys parodrwydd ar gyfer pandemig
- Diogelu Iechyd
- Gwella Iechyd
- Gwasanaethau caethiwed
- Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
- Tybaco a Fepio
- Camddefnyddio sylweddau
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
- Gweithgarwch corfforol a hamdden egnïol yng Nghymru
- Gwasanaethau gwella iechyd a llesiant
- Gordewdra

Mark Hooper
Y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
Yn ateb dros: Trafnidiaeth
Beth sydd yn y portffolio (9 maes)
- Polisi trafnidiaeth
- Trafnidiaeth Cymru
- Ffyrdd, gan gynnwys adeiladu, gwella a chynnal y traffyrdd a'r cefnffyrdd
- Gwasanaethau bysiau
- Gwasanaethau rheilffyrdd drwy fasnachfraint Cymru a'r Gororau
- Teithio llesol
- Polisi hedfanaeth
- Polisi porthladdoedd
- Diogelwch ar y ffyrdd; llwybrau mwy diogel i'r ysgol; cludiant ar gyfer plant a phobl ifanc; rheoleiddio croesfannau i gerddwyr a pharcio ar y stryd

Delyth Jewell
Y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Yn ateb dros: Gofal cymdeithasol, Iechyd meddwl, Y GIG
Beth sydd yn y portffolio (16 maes)
- Goruchwylio Gofal Cymdeithasol Cymru
- Gwasanaethau iechyd meddwl
- Gwasanaethau a pholisi Iechyd Menywod
- Atal hunanladdiad
- Dementia
- Niwroamrywiaeth
- Anabledd dysgu
- Rheoleiddio gofal preswyl, gofal cartref, lleoliadau i oedolion, gofal maeth, darpariaeth gofal i blant o dan 12 oed a gofal iechyd preifat
- Arolygu gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol, ac adrodd arnynt (drwy Arolygiaeth Gofal Cymru), gan gynnwys adolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol ac ymateb i adroddiadau
- Polisi a goruchwylio darpariaeth holl weithgareddau gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gan gynnwys dyroddi canllawiau statudol
- Rhannu gwybodaeth o dan Ddeddf Plant 2004
- Gwasanaethau mabwysiadu a maethu
- Cafcass Cymru
- Gofalwyr
- Diogelu (mewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd) a chydgysylltu'r polisi diogelu cyffredinol ar draws y Llywodraeth
- Pobl hŷn
Swyddog y gyfraith
Y Cwnsler Cyffredinol yw prif gynghorydd cyfreithiol y llywodraeth, a does dim rhaid iddo fod yn Aelod o'r Senedd.

Elfyn Llwyd
Y Cwnsler Cyffredinol