Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 310
- Geiriau a lefarwyd
- 20,917
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Bore da. Hoffwn eich croesawu chi a'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, rwyf wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Mae'r cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mae rhai o'n Haelodau ni a'n tystion y bore yma yn ymuno â ni drwy gyswllt fideo. Oes gan unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld unrhyw Aelod yn dweud bod gyda nhw fuddiannau i'w datgan.
2. Ymchwiliad undydd ar y diwydiannau celfyddydau a chreadigol
Felly, fe wnawn ni symud ymlaen at eitem 2, sef ymchwiliad undydd i'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol. Gaf i ofyn i'r tystion i gyflwyno eu hunain? Ar gyfer y sesiwn yma, fe wnaf i ofyn i'r tystion yn yr ystafell i gyflwyno eu hunain yn gyntaf, ac am yr ail sesiwn fe wnaf i fynd at y rhai ar-lein yn gyntaf. Fe wnaf i fynd at Louise yn gyntaf.