Finance Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 114
- Geiriau a lefarwyd
- 8,946
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da, bawb, a chroeso i'r cyfarfod yma y bore yma. Croeso i'r Aelodau sydd wedi ymuno efo ni y bore yma, a chroeso i'r rhai sydd wedi ymuno efo ni i roi tystiolaeth i ni y bore yma hefyd. Rydyn ni wedi derbyn un ymddiheuriad, gan Rhianon Passmore, ac rydyn ni'n nodi hynny ac yn gobeithio y bydd hi'n teimlo'n well, ac yn diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am ymuno efo ni fel eilydd. Dwi jest yn gofyn yn ffurfiol a oes yna unrhyw fuddiannau angen eu datgan, ac yn nodi bod y clustffonau yn yr ystafell yn gweithio o ran cyfieithu.
2. Papurau i’w nodi
Felly, os ydy pob dim yn iawn felly, mi wnawn ni symud ymlaen i'r papurau i'w nodi. Dwi'n meddwl y gwnawn ni wahodd ein bod ni'n derbyn y papurau i gyd—o 1 i 6. Dwi eisiau tynnu eich sylw chi at bapur 7. Mae yna lythyr wedi dod gan y Gweinidog ynglŷn â'r fframwaith polisi trethi a'r cynllun gwaith polisi trethi ar gyfer 2021-26. Beth dwi'n ei ystyried, ac os ydyw'n dderbyniol gan y pwyllgor, ydy ein bod ni'n gofyn i'r Gweinidog ddod i drafod hyn efo ni ar ôl y gyllideb, so tua mis Mawrth, a gofyn i'r clercod drefnu hynny efo ni, os ydy pobl yn gytûn.