Mae agoriad y chweched sesiwn o'r Senedd hon yn amser inni i gyd edrych tuag at y dyfodol. Mae pobl o bob cwr o Gymru, gan gynnwys y rhai pellaf o'r adeilad hwn, wedi dewis 60 Aelod i gynrychioli ein cyd-ddyheadau ac i lywio llwybr i'n gwlad. Yn y blynyddoedd i ddod, rwy'n siŵr y byddwn yn dadlau ac yn anghytuno ynglŷn â beth sydd orau i Gymru, ond bob amser, yn y tymor hwn o'r Senedd, gyda budd y rhai yr ydym yn eu cynrychioli wrth wraidd popeth a wnawn.
Rydym yn ymgasglu ar gyfer y chweched Senedd hon yng nghysgod pandemig y coronafeirws, pandemig sydd wedi creu cymaint o dristwch i gynifer o deuluoedd ar draws Cymru. Rydym yn oedi, fel y gwnawn yn rheolaidd yn y Siambr hon, i feddwl am bob un ohonynt heddiw. Ar yr un pryd, rydym wedi gweld Cymru ar ei gorau yn ein system gofal ac iechyd, y gweithwyr siop, yr athrawon, yr holl weithwyr gwasanaeth cyhoeddus hynny, y busnesau a'r gwirfoddolwyr y mae eu hymrwymiad a'u gwaith eithriadol o galed wedi helpu i gadw Cymru ar agor yn y cyfnod anoddaf yma.
Wrth inni edrych tu hwnt i'r pandemig, rydym yn cydnabod ein bod yn dal i wynebu llawer o heriau. Er mwyn mynd i'r afael â nhw, byddwn yn defnyddio ein pwerau i gyd i hybu ffyniant, cydraddoldeb a llesiant i bawb yng Nghymru, ac i droi ein golwg at argyfwng mawr arall ein hoes, yr her o ran newid yn yr hinsawdd a cholli ein bioamrywiaeth.
Fel cynrychiolwyr etholedig, mae gennym y fraint a'r ddyletswydd i ddiogelu a chryfhau ein democratiaeth, i hybu llesiant ein holl ddinasyddion, ac i hybu harddwch naturiol y wlad yr ydym mor lwcus i fyw ynddi, yma yng Nghymru, ac, yn unigryw, i wneud hynny gyda'r dyletswyddau a roesom ar ein hunain i ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol ym mhopeth, fel Llywodraeth a Senedd, y penderfynwn arno yma yn y Siambr hon.