21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Yn ein barn ni, rhaid mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn ffordd sy'n deg, yn dryloyw ac nad yw'n dyfnhau anghydraddoldebau. Mae ein dull o weithredu wedi'i wreiddio mewn partneriaeth gymdeithasol. Mae canllawiau, a…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rydyn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phartneriaid i gefnogi'r broses o fabwysiadu AI yn ddiogel, yn dryloyw ac yn atebol. Mae hyn yn cynnwys cryfhau sgiliau, caffael cyfrifol, technoleg Gymraeg a'r sylfeini…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod, yn enwedig am roi enghraifft o'r union ffenomen yr oeddwn yn cyfeirio ati mewn ymateb i gyd-Aelod yn gynharach, y gall y cwmnïau uwch-dechnoleg hyn ddod o hyd i safleoedd llwyddiannus iawn ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth i'r sector amddiffyn yn cael ei ystyried mewn ffordd amserol a chymesur. Tra bod y fframwaith buddsoddi moesegol mewn amddiffyn yn cael ei ddatblygu, mae trefniadau interim ar waith i alluogi penderfyniadau brys i…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Yn hollol. Y Gweinidog cyllid sydd â'r cyfrifoldeb ffurfiol, ond gyda hyn, mae'n allweddol iawn, fel y dywed yr Aelod, yn sbardun economaidd enfawr. Mae caffael cyhoeddus yn un o brif arfau polisi diwydiannol mewn gwirionedd. Felly, y tu hwnt i'r targed, sut…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rydyn ni'n benderfynol bod mwy o fusnesau yng Nghymru yn elwa ar gaffael cyhoeddus. Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor wedi'i deilwra, tra bod Deddf Caffael 2023 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau, mewn caffaeliadau a gwmpesir, ystyried rhwystrau sy'n…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, ac ar un lefel, rhaid i Lywodraethau greu amodau eang llwyddiant economaidd, ond rhaid inni hefyd weithio mewn ffordd ofalus iawn yn y tymor byr, sy'n ymwneud â chreu swyddi mewn busnesau. Yn y pen draw, gall…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Mae'r cwestiwn yma yn greiddiol i'n strategaeth economaidd ni. Mi oeddwn i, y bore yma, wedi cwrdd, am y tro cyntaf, gyda'r panel sydd yn ein cynorthwyo ni i ddylunio'r asiantaeth ddatblygu, ac un o'r themâu…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Mae'r rhaglen lywodraethu yn nodi'r ystod o fesurau y byddwn ni'n eu cymryd i wella cyfleoedd a chanlyniadau economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru. Mae hyn yn cynnwys y genhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant, gan gefnogi busnesau bach a'r stryd fawr i ffynnu…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n credu y bydd yn rhaid imi adael i'r cwmni rannu unrhyw wybodaeth yr hoffai ei roi yn y parth cyhoeddus mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol. Mae hon yn amlwg yn wybodaeth sensitif i'r farchnad. Gallwch ddeall ei bod yn briodol i hynny ddod gan y cwmni…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Cyfarfûm â phrif swyddog gweithredol Tata Steel UK, Rajesh Nair, a'r undebau dur ar safle Tata ym Mhort Talbot ar 24 Medi i gael diweddariad pellach ar ddatblygiadau. Fe wnaethom ganolbwyntio ar ystod…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda National Grid Electricity Transmission. Mae gwaith gosod ffwrnais arc drydan Tata Steel UK yn fater masnachol. Fodd bynnag, rydyn ni’n codi'r mater fel y bo'n briodol.
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Wel, fel y dywedais, yn gyntaf oll byddwn yn dal Llywodraeth y DU a'r rhanddeiliaid perthnasol i'r ymrwymiadau y maent wedi'u gwneud. Lle bo'n bosibl, o fewn yr adnoddau sydd gennym, ac o fewn yr ysgogiadau sydd gennym, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n derbyn sail y cwestiwn yn llwyr, fod hyn yn hanfodol bwysig am resymau cymdeithasol ac economaidd. Wrth gwrs, mae'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU yn ei hanfod, ac felly un o'r pethau y mae angen i ni eu gwneud yw eu cymell i fynd ati'n gyflymach i…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n credu mai'r hyn rydym wedi'i ddweud yw ein bod yn cyflwyno fframwaith polisi cyffredinol o amgylch canolfannau data. Fe'i gadawaf i'r Gweinidog cynllunio fynd i'r afael â'r elfen gynllunio o hynny. Mae technoleg yn newid drwy'r amser, ac oherwydd yr…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Sut y mae hyn yn berthnasol i'r cwestiynau penodol hyn—. Ond edrychwch, dyma ymgais, unwaith eto, i ddefnyddio'r platfform hwn i hau ymraniad. Siaradwch ag undeb y gweithwyr siopau—mae problem wirioneddol o ran y gamdriniaeth y maent yn ei hwynebu…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Edrychwch, y cyfle go iawn i ni—. Os ydych chi eisiau siarad am ynni ar y môr, mae'r cyfle go iawn i ni yng Nghymru yn ein sector ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, yn ein diwydiannau ffrydiau llanw a môr-lynnoedd llanw. Dyna ble mae'r cyfle go iawn o ran…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Yn amlwg, roedd hyn yn newyddion siomedig iawn, ac yn peri cryn bryder i'r gweithwyr a'u teuluoedd wrth gwrs. Rwyf wedi cyfarfod ag Admiral, a gyda Legal & General hefyd yn wir, i weld beth y gallem ei wneud—yn gyntaf oll i ddeall beth y gallem ei wneud yng…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am gwestiwn hollbwysig, sydd, yn fy marn i, ar ein meddyliau ni oll ar hyn o bryd, onid yw? Rwy'n credu ei bod yn sicr yn wir fod deallusrwydd artiffisial yn un o'r ffactorau sy'n achosi'r lefel unigryw hon o darfu ar y…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn sicr, rwy'n credu ein bod yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru. Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r rhaglen honno y flwyddyn nesaf, hyd yn oed wrth inni ddechrau'r gwaith, fel y dywedais, o ddeall…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n trafod yn rheolaidd sut y gall sgiliau, cymorth cyflogadwyedd a phrentisiaethau arfogi pobl ifanc ledled Cymru i lwyddo mewn economi sy'n newid yn gyflym. Roedd y materion hyn yn nodwedd o'n huwchgynhadledd sgiliau'r dyfodol…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Yr hyn rwy'n cytuno â'r Aelod yn ei gylch yw nad oedd yr ymyriadau presennol yng Nghymru yn gweithio, ac roedd y canlyniadau eu hunain yn waeth. O ganlyniad i hynny, fel Llywodraeth, rydym wedi comisiynu gwaith gan yr Athro Melanie Jones, un o'r ffigurau…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud yn glir iawn ei fod o'r farn fod prentisiaethau'n hollbwysig i alluogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial a hefyd i ni i hybu'r math o ddatblygu economaidd rydym am ei weld ar draws pob sector ac ar draws pob cymuned. Byddwn…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei chwestiwn, ac fel y dywedais nawr, yn amlwg, cefais drafodaethau eisoes gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i weld beth arall y gellir ei wneud o fewn yr adnoddau sydd gennym. Credaf ei bod yn sicr yn wir ein bod yn gweld problem…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Rydw i wedi trafod Twf Swyddi Cymru+ gyda'r Dirprwy Weinidog, gan gynnwys y pwysau y mae darparwyr yn ei reoli wrth iddyn nhw ymateb i'r galw parhaus am gymorth.