13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Deallais o'ch sylwadau, Prif Weinidog, y bydd gennym ni ddull llawer mwy pwyllog gennych chi yfory ac na fydd gennym y symud oddi wrth cyfyngiadau a welwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac mae hwnnw yn benderfyniad i'r Llywodraethau ei wneud. Ond…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r pwynt a wnaethoch chi ynglŷn â siarad ag is-ganghellor y brifysgol yn Namibia yn un da—sef, oni bai ein bod ni i gyd yn cael ein brechu, ni fydd yr un ohonom ni yn ddiogel ar ddiwedd hyn, ac mae'n broblem fyd-eang y mae…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am eich datganiad y prynhawn yma, yn absenoldeb y Prif Weinidog. Fel rhywun sy'n gallu dwyn hynny i gof, pan ddeuthum i mewn i'r Siambr hon am y tro cyntaf yn 2007, pan fyddai pobl yn sôn am ddeddfwriaeth, roeddem ni'n sôn am…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Arweinydd y tŷ, roeddwn i'n gwrando ar eich ymateb i'm cyd-Aelod o Ganol De Cymru ar feinciau Plaid Cymru ynglŷn â sgandal y cladin. Ac mae hwn yn fater a godais i droeon gyda chi ac yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog hefyd, ac rwy'n ddiolchgar am ryngweithio'r…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n rhaid i mi ddweud mai dyna'r penderfyniad anghywir, Gweinidog. Dro ar ôl tro—a byddwn ni'n ei glywed yn y datganiad deddfwriaethol y prynhawn yma—mae'r Llywodraeth eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud yma yng Nghaerdydd, cael eu lleoli yma yn y Senedd…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roeddwn i'n ofalus iawn gyda fy ngeiriau i ddweud bod y feirws, mewn gwirionedd, wedi cael ei ddal mewn lleoliad ysbyty. Rwy'n derbyn y pwynt y ceir croesi llwybrau mewn ysbytai, ond dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro bod mesurau yn cael eu cymryd. Yn wir…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, fe wnaeth bron i chwarter y bobl sydd wedi dal COVID-19 yn ystod y 12, 15 mis diwethaf ddal y feirws COVID hwnnw mewn ysbyty. Fe wnaeth 21 y cant hefyd ddal COVID mewn cartref gofal. Dywedwyd wrthym ni dro ar ôl tro fod…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwygio ein Hundeb
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae'n eironig, braidd, pan ddihunais i y bore yma ac edrych ar y penawdau ar WalesOnline a gwefan y BBC, a gweld bod Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Llywodraeth y DU o…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae'n flin gennyf na allwch chi ymddiheuro ar y cofnod, Prif Weinidog, ond rwy'n ddiolchgar am eich esboniad manylach ynghylch yr hyn a oedd y tu ôl i'ch sylwadau ryw bythefnos yn ôl. Pe gallwn i fynd i'r afael, yn fy nhrydydd cwestiwn i chi, â'r newid…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, gofid y datganiad hwnnw yw eich bod wedi nodi bod ffermwyr yn rhan o'r broblem. Rydych chi'n gwybod ac rwyf innau'n gwybod bod y rheoliadau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru yn mynnu bod yn rhaid i'r holl wartheg, cyn eu symud, gael prawf TB…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl mewn ymateb i'm cyd-Aelod Janet Finch-Saunders, fe wnaethoch chi ddweud: 'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg wedi'u heintio a dod â nhw…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Weinidog, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r holl Aelodau a llawer o bobl mewn cymdeithas. Mae da byw sy'n crwydro'n broblem, yn ogystal â phobl sy'n crwydro cefn gwlad a'r peryglon y mae hynny'n eu hachosi i dda byw, a pheryglon y mae da byw yn eu…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Coronafeirws
Gweinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Fe hoffwn i godi pwynt gyda chi ynglŷn â llif yr wybodaeth a'r ffordd yr ydych chi'n cyflwyno'r wybodaeth honno i'r Senedd. Heddiw, fe gafodd y datganiad hwn ei ychwanegu i'r agenda ar y funud olaf. Ni…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn anffodus, ni chlywais ymrwymiad i gael adolygiad o'r fformiwla cyllid honno, er fy mod i'n derbyn ei fod yn faes cymhleth ac rwyf i yn derbyn y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, Prif Weinidog, am ffyrnigrwydd y sector wrth ddiogelu ei statws elusennol, a…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A ydych chi'n cydnabod, Prif Weinidog, mai dim ond 5 y cant o gyllid y mae'r fformiwla honno yn ei ddarparu i hosbisau plant yng Nghymru yn anffodus, ond yn Lloegr mae'n 21 y cant o gyllid ac yn yr Alban mae'n 50 y cant o gyllid? Nawr, nid wyf i am eiliad yn…
22 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ymwelais i â Tŷ Hafan ym Mro Morgannwg ddoe—cyfleuster gwych sy'n darparu cymaint o ofal a thynerwch i blant â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd hefyd. Mae Tŷ Gobaith, yn amlwg, yn gwneud yr un peth yn y gogledd. A…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma a'r ddogfen a ryddhawyd y bore yma yr ydym ni wedi cael cyfle nawr i'w darllen—bob un o'r 17 tudalen o'r rhaglen lywodraethu sydd ar gael i'r Aelodau ac i'r cyhoedd. Yn amlwg, fe wnaeth y cyhoedd…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Prif Weinidog, nid ydych chi'n fodlon nodi eich defnydd o bwerau treth incwm. Rydych chi wedi nodi yn fwy eglur yn eich ail ateb y defnydd o ardoll gofal cymdeithasol, gordal—galwch ef yr hyn a fynnwch—a diystyru gordal ardoll addysg, ac rwy'n ddiolchgar…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn hollol resymol, gan fod eich rhaglen lywodraethu yn sôn am gyfraddau treth incwm a pha un a fydd y Llywodraeth yn eu defnyddio ai peidio. Hefyd, yr hyn sy'n cael ei drafod yw ardollau neu ordaliadau penodol ar gyfer gofal…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydych chi wedi dweud yn y gorffennol na fydd eich Llywodraeth chi yn codi cyfraddau treth incwm Cymru o leiaf tan fod effaith economaidd coronafeirws wedi mynd heibio, ond rydych chi hefyd wedi dweud na wnewch chi ddiystyru…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel y dywedais i yn fy ymateb i'ch cwestiwn cyntaf, mae'n peri gofid i mi na fydd—yn eich barn chi, beth bynnag—ymchwiliad cyhoeddus annibynnol penodol yma yng Nghymru, wedi ei gomisiynu gennych chi fel Prif Weinidog. Efallai byddai rhai pobl yn dweud mai…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod hynny yn anffodus, Prif Weinidog, oherwydd, fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn aml iawn—ac wedi dweud yn gywir—mae'r penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn effeithio ar bobl yng Nghymru ac rydych chi wedi galw am fwy o bwerau mewn gwahanol…
8 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r 14, 15 mis diwethaf wedi bod yn drawmatig i lawer o bobl ym mhob rhan o Gymru. Un o'r pethau y mae Llywodraethau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ei wneud ar hyn o bryd yw comisiynu ymchwiliadau cyhoeddus, er…
26 Mai 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn dymuno defnyddio tactegau dargyfeiriol dro ar ôl tro, ond mae'n ffaith bod y sylwadau a gyflwynais i chi yn sylwadau gan berchnogion busnes eu hunain sy'n teimlo eu bod wedi cael eu dyrnu yn eu boliau neu gael cyllell…
26 Mai 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
—ond rydym ni wedi rhoi sylwadau ynghylch y diffyg cymorth yr ydych chi wedi ei roi ar y bwrdd i fusnesau ar hyd a lled Cymru. Pam nad ydych chi wedi rhoi cymorth ar gyfer grantiau cychwyn busnes i sicrhau y gall busnesau ail-gyfalafu eu hunain? Rydym ni'n…