8 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Iawn, diolch yn fawr iawn. Dros yr haf, bu'r pwyllgor diwylliant presennol, sy'n gyfrifol am y Gymraeg, ymhlith pethau eraill, yn ymgynghori ynghylch beth ddylai ei flaenoriaethau fod ar gyfer y chweched Senedd yma. Un o'r blaenoriaethau oedd cydnabod bod…
8 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch yn fawr iawn. Gyda chwricwlwm newydd ar y ffordd, a'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a'r Bil addysg Gymraeg ar y gorwel, mae'n amlwg bod newidiadau mawr ar droed i'r sector addysg o ran darpariaeth y Gymraeg. Fel rŷn ni eisoes…
8 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddoe, bues i'n cwrdd â phwyllgor Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, sydd ers blynyddoedd bellach wedi bod yn ymgyrchu dros gael swyddog i'r Gymraeg llawn amser yn yr undeb. Mae gan brifysgolion Aberystwyth, Abertawe a Bangor…
24 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
Mae unrhyw oedi cyn rheoleiddio gweithgarwch achub a chartrefu yn peryglu lles cŵn a chathod, yn creu risg y bydd y bylchau yn y ddeddfwriaeth bresennol ar fridio cŵn yn parhau ac yn tanseilio effeithiolrwydd cyfreithiau gwerthu anifeiliaid anwes, sy'n…
24 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rheoleiddio canolfannau achub ac ailgartrefu anifeiliaid
Dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle heddiw i drafod y mater pwysig yma, sef lles anifeiliaid. Mae e'n fater dwi'n siŵr bod pob un ohonom ni yn credu sy'n bwysig, achos mae ein hetholwyr ni yn poeni'n fawr iawn am y mater hwn. Yn wir, mae data o 2019 yn awgrymu…
24 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn ichi am yr ateb manwl yna. Fel rŷch chi'n gwybod, mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae tlodi gwledig yn arbennig, sydd yn berthnasol i'r rhanbarth dwi'n ei chynrychioli, yn aml iawn yn mynd o dan y radar: tlodi…
24 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57238
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd
Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu i'r ddadl yma heddiw, ond, cyn symud ymlaen, dwi am ddiolch o galon i'r comisiynydd am ei waith a'i ymrwymiad diflino i'r Gymraeg. Mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn yn barod am fanteision bod yn ddwyieithog, ac rydw innau hefyd…
23 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg
Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am y datganiad hwn. Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud gan Mabon ap Gwynfor, rwy'n hynod o falch o weld bod cynifer o bolisïau cyffrous a chwbl hanfodol i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Dileu TB Buchol
Mae'n ddrwg gen i.
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Dileu TB Buchol
Ac mae'r pwynt olaf, Gweinidog, yn ymwneud â brechu. Pan fo brechu ar gael, mae rôl ar ei gyfer, yn amlwg, wrth ddileu TB, ond dim ond wrth atal ac nid wrth wella'r clefyd y gellir ei ddefnyddio. Mae treialon maes gyda brechu gwartheg yn erbyn TB, fel…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Dileu TB Buchol
Gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Dwi'n mynd i gadw hwn yn weddol fyr achos dwi ddim eisiau ailadrodd llawer o'r pethau mae Sam Kurtz wedi'u dweud; dwi'n digwydd cytuno â nhw. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud bod TB mewn gwartheg yn parhau i…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Diolch i Mabon, hefyd, yn synnu, fel nifer ohonom ni, gyda'r diffyg strategaeth, a'r cyfeiriad yn arbennig at yr economi echdynnol yma: unwaith eto, cyfoeth Cymru yn cael ei golli i wledydd y tu hwnt i Gymru. Dim ond rhyw 10 y cant, fel roedd e'n sôn amdano…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Diolch, Janet, am hyrwyddo cregyn gleision Conwy. Bydd yn rhaid i mi eu blasu ryw ddiwrnod. Rydych yn llygad eich lle yn tynnu sylw at ddiffyg gweithgarwch wedi'i dargedu, ac mae'n syfrdanol nad yw hyn wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddech yn…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Roedd Rhun yn cefnogi, wrth gwrs, o safbwynt y buddiannau economaidd a chreu swyddi—bod potensial mawr i ddyframaeth, bod gyda ni arbenigedd yng Nghymru sydd yn destun edmygedd ar draws Ewrop gyfan, bod gyda ni bryderon bod yr arbenigedd yna a'r gallu sydd…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Taflodd Sam abwyd ataf—esgusodwch y gair mwys—ac rwy'n hapus i'w gymryd, ynglŷn â chyfleoedd yn sgil Brexit. Mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno'n llwyr â'i ddadansoddiad, oherwydd yr hyn a welaf ar draws ardaloedd arfordirol y DU a'r diwydiant pysgota yw llanast…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yn syml iawn, wrth i fi grynhoi, mae'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer pysgodfeydd a dyframaeth, a hynny wedi'i…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Felly, gyda rhagolygon cyffrous ar gyfer sector sy'n tyfu’n gyflym, mae angen inni wybod beth yw strategaeth y Llywodraeth yn y dyfodol i gefnogi dyframaeth a physgota môr yng Nghymru, ac, yn wir, beth yw ei strategaeth ar gyfer manteisio ar y potensial i…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Lywydd, mae gan Gymru—o, mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd—mae gan Gymru'r sylfaen wybodaeth a'r cyfalaf naturiol posibl i ddatblygu'r sector dyframaethu ymhellach, ond mae angen i Lywodraeth Cymru ailalinio a chanolbwyntio polisi ac adnoddau ar y sector…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Yn ddiweddar, rôn i’n rhan o ddirprwyaeth Plaid Cymru a fu ar ymweliad â'r cyfleuster dyframaeth arloesol ym Mhenmon, Ynys Môn, gyda'r Aelod o Ynys Môn, a gweld y cyfleoedd y gall y sector eu cynnig i Gymru. Dyma’r sector bwyd sy’n tyfu gyflymaf ar draws y…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Gadewch i mi droi yn awr at ddyframaethu. Wrth i'r galw am fwyd môr gynyddu, mae technoleg wedi'i gwneud hi'n bosibl tyfu bwyd mewn dyfroedd morol arfordirol a'r cefnfor agored. Mae dyframaethu'n ddull a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd a chynhyrchion masnachol…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Rhaid dweud felly fod yr effeithiau ar y diwydiant pysgota o adael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd ag arafwch wrth ddarparu gwell rheolaeth ar bysgodfeydd, yn gwneud dyfodol pysgota môr yng Nghymru yn hynod o ansicr, sydd yn bryder mawr, wrth gwrs. Felly, pa fath…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Nawr, is-adran y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli pysgodfeydd morol yn nyfroedd Cymru. Mabwysiadwyd y model cyflawni canolog hwn dros 10 mlynedd yn ôl. Rhagwelwyd y byddai'r model cyflawni cyfunol newydd yn rhoi cyfle i ddefnyddio…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Yn anffodus, o fewn rhaglen lywodraethu'r chweched Senedd hon, does dim unrhyw sôn am bysgodfeydd a dyframaeth o gwbl, fel petai nhw ddim yn bodoli o gwbl. Gallwn ni ond dod i'r casgliad, felly, nad yw'r sector hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae…
10 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu
Lywydd, Deddf Pysgodfeydd y DU 2020 sy'n darparu'r fframwaith ar gyfer polisi pysgota'r DU ar ôl Brexit. Mae'r Ddeddf yn ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i gynnwys holl ddyfroedd Cymru, a elwir yn barth Cymru. Felly, yn amlwg, mae hwn yn gyfle…