20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Diwrnod y Lluoedd Arfog
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw? Rwy'n falch iawn bod hwn yn achlysur blynyddol sydd bellach yn ein dyddiaduron fel Aelodau'r Senedd. Nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir, ond rydych yn sicr wedi cofleidio'r cyfle hwn i sicrhau ein bod…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i alw am ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar adroddiad interim Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar? Darllenais i'r adroddiad hwnnw gyda diddordeb, ac rydyn ni i gyd yn gwybod bod angen gwella ein…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un o'r materion eraill o ran anghydraddoldebau iechyd yw'r gwahaniaeth enfawr ym mherfformiad y GIG mewn gwahanol rannau o Gymru. Er enghraifft, pobl yn y gogledd sydd â'r adrannau brys sy'n perfformio waethaf yn y wlad. Mae pob un o'r tri ysbyty mawr yn y…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghenion dysgu ychwanegol
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt rydych chi'n ei wneud, Alun, am y ffaith ein bod angen dull cyson ar draws y wlad gyfan—yn sicr nid yw hynny'n wir. Mewn gwirionedd, un o'r problemau y mae etholwyr wedi'u codi gyda mi yw, pan fo…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Pwynt o Drefn
Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn mewn perthynas â sylw a wnaed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos diwethaf yn y ddadl lle galwodd fy mhlaid ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young, y bu…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
—rhywbeth a feirniadwyd yn hallt gan Archwilio Cymru. Felly, rwy'n annog pawb yn y Siambr hon, ac rwy'n eich atgoffa nad ydym yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi'r adroddiad hwn; rydym yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi'r adroddiad…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf braidd yn siomedig gydag ymateb y Gweinidog i'r ddadl heddiw. O dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gwyddom fod gennych bwerau i gyfarwyddo'r bwrdd iechyd mewn unrhyw ffordd y…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn ymyriad. Rydych wedi gwneud y datganiad hwnnw o'r blaen, fod unigolion allweddol wedi'u hatal dros dro, ac rwy'n falch iawn o glywed hynny. A allwch chi ddweud wrthyf a oes unigolion allweddol ym Mhartneriaeth…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—'Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru'
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch fod angen i'r sector preifat gamu i'r adwy. Yn wir, ymddengys eu bod wedi gwneud hynny mewn sawl ffordd, er mwyn llenwi peth o'r bwlch y mae Llywodraeth Cymru wedi'i adael. Ond onid…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Ni fydd yn syndod i'r Cwnsler Cyffredinol, nac i unrhyw un arall yn y Siambr hon, y byddwn yn cefnogi'r cynnig gerbron y Siambr heddiw, oherwydd credwn yn syml fod ar bobl Cymru eisiau i ni fwrw ymlaen a chyflawni manteision Brexit y mae llawer ohonyn nhw am…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr, Trefnydd, am eich datganiad heddiw. A gaf i alw am ddatganiad llafar ar gynhwysiant digidol gan Lywodraeth Cymru? Mae llawer o bryder wedi'i fynegi gan y comisiynydd pobl hŷn, Archwilio Cymru ac Age Cymru am yr anawsterau y mae rhai pobl hŷn…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deintyddiaeth y GIG
Dyna'n union sydd ei angen arnom a gobeithio y bydd rhywfaint o'r arloesedd a welwn gyda'r defnydd o dechnoleg yn y GIG nawr, gyda'r ap rydym yn ei gael o'r diwedd ar ôl gwario £15 miliwn, yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a'i wneud yn symlach…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deintyddiaeth y GIG
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deintyddiaeth y GIG
Nawr, clywais y Gweinidog, unwaith eto, yn awgrymu bod ymhell dros 100,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld yng Nghymru o ganlyniad i ddiwygio'r contract. Gwyddom fod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi dweud bod y Llywodraeth yn camarwain pobl drwy…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Deintyddiaeth y GIG
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl bwyllog ar y cyfan, ac mae'n eithaf amlwg fod gennym argyfwng deintyddiaeth ledled y wlad. Roeddwn ychydig yn siomedig gydag ymateb y Gweinidog. Fe…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ethol Cadeiryddion ac Aelodau Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn atgoffa pawb mai'r rheswm dros gyflwyno'r cynnig hwn heddiw yw oherwydd cytundeb yn y Pwyllgor Busnes trawsbleidiol, a dyna pam ei fod ar yr agenda. Ni chafwyd 'cytundebau budr', fel yr hoffai Rhun ap Iorwerth eu…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ethol Cadeiryddion ac Aelodau Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru
Rwy'n cynnig.
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Rwy'n cynnig.
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n amlwg fod yna oblygiadau ehangach. Mae'r adroddiad hwn wedi bod gyda chi ers pedwar mis, Weinidog—mae wedi bod yn gorwedd yn segur ers pedwar mis. A dweud y gwir rwy'n bryderus iawn eich bod chi ond yn dechrau cael y sgyrsiau hyn ynglŷn â goblygiadau…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Weinidog, mae pedwar mis wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r adroddiad. Yn y cyfnod hwnnw o bedwar mis, ni allaf ddyfalu pam nad yw'r unigolion a oedd yn gyfrifol am y gweithredoedd hyn wedi cael eu diswyddo o'r bwrdd iechyd. Mae'r rhain yn arferion…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae pobl ar draws gogledd Cymru yn flin ar hyn o bryd am yr hyn sy'n digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cefais gopi dienw o adroddiad fforensig Ernst & Young o broblemau cyfrifyddu ar y bwrdd, ac mae'n rhaid imi…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwyf wrth fy modd, fel dinesydd Gwyddelig yn ogystal â bod yn ddinesydd Prydeinig, a rhywun a aned ym Manceinion, eich bod yn siarad mewn termau mor gadarnhaol am y cysylltiadau sydd gennym ni yng Nghymru ag Iwerddon, ac…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn cysylltiad â'r cynllun cerdyn teithio rhatach. Mae etholwyr yn ardal Bae Colwyn wedi cysylltu â mi, yn gofyn a yw'n bosibl ymestyn…
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Yfory, fe fydd hi'n 60 mlynedd ers agor Sw Mynydd Cymru—sw cenedlaethol Cymru. Wedi'i lleoli ym Mae Colwyn, mae'r sw yn un o atyniadau twristiaeth gorau gogledd Cymru, ac mae'n croesawu tua 170,000 o bobl drwy ei gatiau bob blwyddyn. Ac mae wedi mynd o nerth…
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Rwy'n gwybod nad ydych yn hoffi barn gyhoeddus boblogaidd.