20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Ni allaf ond dweud beth yw'r gyfraith unwaith eto. Mae'r gyfraith yno, mae hi'n bendant: ni all Gweinidogion Cymru ymyrryd oni bai am yr enghreifftiau penodol hynny yr wyf i wedi cyfeirio atyn nhw ddwywaith yn barod y prynhawn yma. Rwy'n deall pryder yr…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Fel dywedais i nawr, mae pwerau Gweinidogion Cymru o ran goruchwyliaeth ac ymyrryd, pan fo hynny'n briodol, wedi eu nodi yn bendant iawn. Eu bwriad yw ymdrin â materion fel llywodraethu, perfformiad, diogelwch cleifion neu gydymffurfio â dyletswyddau…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Fe nodir y gyfraith yn eglur iawn, fel roeddwn i'n dweud o'r blaen. Nid wyf i'n feirniadol o'r Aelod am godi hyn unwaith eto. Yn amlwg, mae yna broblem ganfyddedig, chwedl hi, ym Mhowys. Ond mater yw hwnnw i'r byrddau iechyd lleol, mewn gwirionedd. Y nhw sy'n…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae gan Weinidogion Cymru ystod o bwerau cyfreithiol i ymyrryd gyda'r gwasanaethau cyhoeddus a gafodd eu datganoli, ac fe fyddai'r defnydd o'r pwerau hynny'n cael ei asesu ar gyfer pob achos unigol. Rydym ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth er mwyn…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cynnwys cyngor a gwybodaeth, ac mae hi'n ofynnol i'r awdurdodau lleol gynnal trefniadau i ddarparu'r gwasanaethau hynny i bobl fabwysiedig ac eraill yr effeithir arnyn nhw yn…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae'r fframwaith deddfwriaethol yn cydnabod y gall effaith mabwysiadu barhau ar hyd oes unigolyn, fel mae'r Aelod yn ei gydnabod, ac mae'r fframwaith yn darparu mecanweithiau i bobl fabwysiedig allu cael gafael ar wasanaethau cymorth arbennig wedi plentyndod…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn. Fe all rhai a gafodd eu mabwysiadu yng Nghymru ofyn am asesiad ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Pan fydd anghenion yn parhau i oedran oedolyn, fe allan nhw gael gafael ar gymorth iechyd a gofal cymdeithasol…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, rwy'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae hi'n ei wneud yn yr ardal. Mae'n sicr yn bwysig iawn, a gallaf siarad o fy ngwybodaeth bersonol fy hun o'r gwaith rwy'n ei wneud yn y brifysgol yn Aberystwyth. Mae'n uchel…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Er bod cyfiawnder troseddol, fel y gŵyr yr Aelod, yn fater a gedwir yn ôl i raddau helaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phlismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron, llysoedd a gwasanaethau arbenigol i wella mynediad at gyfiawnder i oroeswyr treisio. Trwy'r…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Does gen i ddim amheuaeth pan wyf yn cytuno efo'r Aelod ar y pwynt yna, ac mae datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae'r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, fel yn yr Alban a gogledd yr Iwerddon…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dwi'n falch nad ydych chi'n cwffio efo'r dyn drws nesaf. [Chwerthin.] Mae datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder wedi bod yn argymhelliad mewn cyfres o gomisiynau annibynnol, sy'n dyddio'n ôl i gomisiwn Silk yn 2014. Mi wnaeth y comisiynau hynny, y tri…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, mae'n fater y mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n rhannol oherwydd bod cwmpas cymorth cyfreithiol wedi culhau ochr yn ochr â meini prawf cymhwysedd llymach. Mae hynny wedi cael effaith sylweddol iawn dros nifer o flynyddoedd ar y…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae pwysau ar y ddarpariaeth o gymorth cyfreithiol yng Nghymru yn bryder difrifol iawn. Mae llai o ddarpariaeth yn golygu nad yw llawer o gymunedau yn gallu cael mynediad at y cymorth cyfreithiol sydd ei angen arnynt. Er bod cymorth cyfreithiol yn fater a…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wrth gwrs, mae mynediad at gyfiawnder yn fwy o lawer na mynediad at y llysoedd yn unig. Mae'n rhaid i bobl allu deall eu hawliau, cael cyngor dibynadwy ar yr adeg iawn a chymryd rhan yn effeithiol mewn prosesau cyfreithiol sy'n effeithio arnyn nhw. Mae gallu…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Maddeuwch imi, Mair, doeddwn i methu eich ffeindio chi am funud bach. Mae gallu cael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder yn y Gymraeg yn rhan bwysig o fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Wrth imi feithrin cysylltiadau efo'r proffesiwn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Na, dydw i ddim—. Y swyddog cyfreithiol ydw i. Diolchaf iddo am y cwestiwn yna, ond nid yw i mi. Diolch yn fawr iawn.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Mae'n ddrwg gen i, Lywydd, nad wyf wedi dod â fy wellingtons gyda mi. [Chwerthin.] Nid wyf erioed wedi clywed y fath lwyth o faw ers amser maith. Ac ni fyddaf yn cymryd rhan yng ngwleidyddiaeth hynny, ond a yw'r Aelod o ddifrif yn dweud nad oes neb o fewn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, eto, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Rwy'n gwybod, mewn gwirionedd, bod menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn arbennig yn anffodus yn cael eu targedu gan aflonyddu a chamdriniaeth. Mae'r misogynedd hwn yn ofnadwy a dylid ei…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn, sy'n daten boeth y dyddiau hyn, os gallaf ei ddisgrifio felly. Mae Ofcom yn rheoleiddio rhai gwasanaethau ar-lein o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU 2023, gan gynnwys safonau i leihau twyllwybodaeth. Bydd…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwyf eisoes wedi dweud nad wyf yn anifail gwleidyddol, yn eithaf gwahanol i rai o fy nghyd-Aelodau. Nid yw'n gwestiwn y gallaf ei ateb, gyda pharch.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, wrth gwrs, gwaith Llywodraeth Cymru yw amddiffyn y setliad datganoli, ond hefyd i sicrhau bod pethau fel confensiwn Sewel yn cael eu dilyn, yn ogystal ag amddiffyn ac ymestyn y berthynas, mae rhywun yn gobeithio. Ym mis Gorffennaf eleni, fe gyhoeddais…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, dydw i ddim yn gallu rhoi fy marn i chi ar unrhyw beth oni bai am y gyfraith. Mae'r gyfraith yn blaen, ac fe ddywedais i wrthych chi ac rwyf wedi egluro ym mha le y byddai Gweinidogion yn ymgysylltu, ac ar hyn o bryd dydyn nhw ddim. Ond mae anghenraid…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Unwaith eto, nid wyf i'n ceisio bod yn wrthnysig, ond nid wyf i am ddyfalu ynglŷn â throthwyon, ac ni allaf i wneud hynny, am nad yw'r wybodaeth gennyf i o'm blaen. Ac nid wyf i am ddyfalu ynglŷn â'r gyfraith, chwaith. Ond yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrth y…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Wel, y peth cyntaf i'w ddweud—. Roedd yr Aelod yn cyfeirio at achos moesol. Nid beirniad moesoldeb mohonof i. Fy ngwaith i yw'r gyfraith—y gyfraith yn syml—ac mae'r ddeddfwriaeth yn eglur iawn. Fe wn i y bydd hyn yn siomi'r Aelod. Rwy'n deall yn llwyr bod hwn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Rwyf i wedi darllen yr adroddiad, yn amlwg. Mae hwn yn adroddiad pwysig ac mae'r broblem wedi bod yn eithaf hirsefydlog mewn llawer ardal yng Nghymru. Mewn gwirionedd, fe gafodd ei disgrifio, o ran y gogledd a'r canolbarth, fel diffeithdir cyngor, ac fe wn i…