3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni o ran trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, gyda rhwydwaith gogledd Cymru eisoes yn cyflwyno cynllun uchelgeisiol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus amlder uchel integredig. Rydym ni wedi lansio'r cyswllt bws T51…
3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, John. Dim ond i fod yn eglur, fe wnaethom ni gyhoeddiad ddiwedd yr wythnos diwethaf y byddwn ni'n rhewi prisiau tocynnau rheilffordd o 1 Mawrth. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu i dynnu'r pwysau oddi ar deuluoedd yng Nghymru ar adeg…
3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Alun. Mae'n rhaid i mi ddweud, pan welais i'r ddogfen 'Ymlaen, Gyda'n Gilydd' yn gyntaf, a luniwyd—a diolch, Ken, am eich arweinyddiaeth ar hyn, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru—y peth cyntaf i mi chwilio amdano oedd, 'A yw cangen Abertyleri…
3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd dogfen a gyhoeddwyd a oedd yn dangos, mewn gwirionedd, o ran y £14 biliwn, ble y byddai'r arian hwnnw yn cael ei wario, a byddai'n cael ei wario ledled Cymru gyfan. Mae hwnnw'n ymrwymiad na fyddai eich Llywodraeth Dorïaidd flaenorol yn ei wneud. Ac…
3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Os oes gennych chi ddyhead i fod mewn Llywodraeth, fe ddylech chi ddysgu sut mae'n gweithio. A'r hyn sy'n digwydd o ran cyllid hirdymor, mewn gwirionedd, yw y gall unrhyw Lywodraeth newid y penderfyniadau hynny. £14 biliwn oedd y cyhoeddiad hwnnw a…
3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn benderfynol o dynnu'r pwysau oddi ar ein ffyrdd, yn enwedig yr M4, a bydd datblygu'r seilwaith rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn rhoi mwy o ddewis i fwy o bobl o opsiynau trafnidiaeth amgen. Ar ôl misoedd o lunio cynllun, sydd…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe fuom ni'n gofyn ers amser maith am y buddsoddiad hwn. Gadewch i ni fod yn eglur: fe wnaethom ni ofyn amdano dan y Torïaid, ac ni wnaethon nhw ei roi i ni. Ac rydym ni wedi gofyn amdano dan Lywodraeth y DU. Ac fe fuom ni'n eglur ynglŷn â'r peth, a'r hyn y…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi sicrhau ymrwymiad hanesyddol hirdymor yn y rheilffyrdd sy'n werth £14 biliwn i Gymru oddi wrth Lywodraeth Lafur y DU. Roedd honno'n gryn dipyn o ymdrech, gadewch i mi ddweud wrthych chi, ond fe gyrhaeddom ni'r fan. Mae hynny'n…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod Deddf 2014 wedi arwain at newid diwylliannol mewn gofal cymdeithasol, gydag egwyddorion craidd fel atal, lles, llais a rheolaeth, cydgynhyrchu a gweithio amlasiantaeth. Mae hynny i gyd wedi cael ei gydnabod a'i werthfawrogi yn eang. Fe gawsom…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd gwerthusiad annibynnol yn canfod bod y Ddeddf wedi ysgogi newid diwylliannol gwirioneddol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n rhoi urddas, llais ac atal wrth hanfod gofal. Mae Llafur Cymru o'r farn y dylai gofal cymdeithasol gael ei adeiladu…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae safonau bwyd a maeth y sector cyhoeddus i gefnogi'r gwaith o gaffael dewisiadau bwyd sy'n fwy iach yn cael eu llywio eisoes gan sawl fframwaith a menter, ac fe fyddwn ni'n adolygu'r rhain ar gyfer cyfleoedd i gryfhau eu gweithrediad ymhellach yng Nghymru…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae deiet gwael yn niweidio pobl ac yn rhoi pwysau ar ein GIG. Mae gordewdra yn cynyddu'r risg o ganser, clefyd y galon a strôc. Dyna pam mae atal yn bwysig. I Lafur Cymru, mae hynny'n ymwneud â chyfiawnder lawn cymaint ag iechyd. Ni ddylai dyfodol unrhyw…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cynnal uniondeb swyddi cyhoeddus, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb fel unigolion i wneud ein rhan yn hynny o beth. Mae adolygiad Philip Rycroft i ymyrraeth dramor mewn gwleidyddiaeth yn rhywbeth y dylem ni i…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Lafur Cymru'n credu y dylid cael sefydliadau cadarn, gwybodaeth eglur, ac ymddiriedaeth mewn bywyd cyhoeddus. Mae democratiaeth yn werthfawr, ac mae angen i ni ei hamddiffyn. Rydym ni'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol a phartneriaid y DU…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i chi am godi hyn. Rwy'n deall sut y byddai llythyrau o'r fath yn peri pryder gwirioneddol. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n hynod siomedig i glywed y gallai rhai practisiau fod yn defnyddio'r trawsnewidiad hwnnw tuag at gytundeb GIG newydd yn gyfle…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn gwasanaethu tua 450,000 o bobl, gan gynnwys cymunedau ledled y Rhondda. Dan Lywodraeth Lafur Cymru, ym mhob mis, fe geir 227,000 o achosion cysylltu â meddygon teulu, tua 17,000 o dderbyniadau mewn adrannau brys, a 50,000…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd y bobl yr oeddwn i'n siarad â nhw yn y Rhyl ddoe wrth eu boddau gyda'r cyhoeddiad; roedden nhw wedi mopio'n lân, y bobl sy'n gweithio yno. Maen nhw wedi bod yn aros ers amser, ond maen nhw'n falch iawn y bydd hyn yn cael ei ddatblygu bellach. Yr hyn yr…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers nifer o flynyddoedd, fel y gwyddoch chi. Mae wedi cymryd amser maith i ni. Mae Ann Jones a Carolyn wedi bod ar ein cefnau drwy'r holl gyfnod hwnnw, doedden ni byth yn mynd i adael iddo fynd. Ond gadewch i mi…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, a gaf i ddechrau drwy dalu teyrnged i chi am eich dycnwch o ran y prosiect hwn hefyd? Rwy'n credu eich bod chi'n etifedd gwych i'r dycnwch a ddangoswyd gan Ann Jones, ac roedd yn wych ei gweld yn y cyhoeddiad ddoe. Rwy'n gwybod bod hyn wedi bod yn bwysig…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cadarnhau £33 miliwn ar gyfer cam 1 Ysbyty Brenhinol Alexandra; rhan o fuddsoddiad o £60 miliwn yn y safle. Roedd yn bleser cael bod gyda chi yn y Rhyl ddoe i nodi'r garreg filltir honno. I deuluoedd ar draws y Rhyl a'r…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n derbyn ein bod ni wedi methu â chyflawni; rwy'n credu y dylem ni fod yn falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w gyflawni dros bum mlynedd o Lywodraeth Lafur. Rwyf i wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod ni'n tyfu'r economi; gwneud yn…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gennym ni system sy'n ddibynadwy ac sy'n cael ei deall, a does gen i ddim cywilydd cael pobl o'r tu allan i Gymru i ddod i gicio'r teiars ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. A yw hynny'n rhywbeth na fyddai eich Llywodraeth chi, pe baech chi fyth mewn…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
[Anghlywadwy.]—system eglur o gyfrif. Bu gennym ni'r uned gyflawni, sydd wedi dod i mewn o'r tu allan i Gymru, i wneud yn siŵr ein bod ni'n cyflawni mewn ffordd sy'n dryloyw, sy'n eglur, ac mewn ffordd y mae pawb wedi gwneud hyn yn gyson ledled Cymru. Gadewch…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na, nid wyf i'n derbyn hynny, Darren. Yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrthych chi yw ein bod ni'n gwario mwy o arian nag erioed o'r blaen yn hanes Cymru ar iechyd yng Nghymru. Mae'r GIG yng Nghymru yn gweld 2.75 miliwn o bobl ar gyfer apwyntiadau yn fisol mewn…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud yn Betsi Cadwaladr. Rwy'n falch iawn o weld bod 63 y cant yn llai o gleifion yn aros am dros ddwy flynedd, felly mae hynny'n dod i lawr, ac mae hynny'n symud i'r cyfeiriad cywir. Mae llawer…