20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Dwi’n gwerthfawrogi bod yna gais ar ddiwedd hynny am ryw fath o ddatganiad, ond nid dyna’r math o wybodaeth a fyddai mewn datganiad. Os oes gennych chi bryderon o’r fath, yn amlwg mae yna opsiynau i ofyn cwestiwn i’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
O ran y cais cyntaf, mae yna gwestiynau i’r Gweinidog ar 4 Tachwedd. Mae yna nifer o ddatganiadau wedi bod gan y Gweinidog hefyd, ond byddwn i yn eich annog chi i fod yn rhoi y cwestiynau hynny gerbron y Gweinidog ar 4 Tachwedd. Felly, mi fydd yna gyfle ar…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, diolch i’r Aelod am y cwestiynau hynny. Dwi’n meddwl, oherwydd bod gennych chi amryw o gwestiynau, byddwn i yn eich annog chi i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth. Ac yn sicr, os bydd angen diweddariad i’r Senedd oll, mi fyddaf i yn…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Dwi'n gobeithio bod pob Aelod yn y Senedd hon yn ymrwymo i ddileu tlodi ac eisiau gweld yr hyn y mae Trussell ei hun yn ymgyrchu arno fo, sef cael gwared ar fanciau bwyd. Rydyn ni wedi bod yn glir iawn fel Llywodraeth, a dwi'n gwybod bod y Dirprwy…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolchaf i'r Aelod am godi mater a godwyd hefyd gan Niamh Salkeld. Mae'n fater y gwnes i ymgyrchu arno yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, ac yn fater y bydd llawer o Aelodau wedi cefnogi pobl a'u teuluoedd yn ei gylch, y rhai yr effeithir arnyn nhw gan y…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Y pwynt rydych chi'n ei wneud ynghylch yr adroddiad 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder'—rwy'n gobeithio y gallwn gadw'r undod hwnnw a ganfuom flwyddyn yn ôl, oherwydd, fel y bydd pob un ohonom yn cofio, mae'r adroddiad yn adlewyrchu dewrder y rhai a gyfrannodd at…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, diolch i'r Aelod am godi'r ddau fater yna. O ran yr uwchgynhadledd tanau gwyllt, mi fyddwn ni'n cyhoeddi'r agenda, papurau a chofnodion yr uwchgynhadledd unwaith y bydd hi wedi digwydd—ac, wrth gwrs, bydd Gweinidogion yn hysbysu'r Senedd yn llawn am…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, yr hyn oedd yr Aelod yn ei godi oedd am ddatganiad; fel y Gweinidog efo'r cyfrifoldeb am hynny, dwi eisoes wedi gwneud datganiadau sydd yn sôn am y gwaith dwi wedi'i gomisiynu ynghylch edrych ar yr holl strwythurau o ran chwaraeon, gan gynnwys pyllau…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am godi'r ddau fater yna. O ran y cwrwgl, yn sicr, mae hwnna yn rhywbeth sy'n rhan o'n traddodiad ni fel cenedl, onid ydy? Rhywbeth unigryw yw, ac, yn sicr, byddwn i yn awgrymu eich bod chi yn ysgrifennu yn benodol at y…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi fyddwn i'n gofyn i chi, gan fod yna nifer o gwestiynau i'r Gweinidog yn yr hyn wnaethoch chi'n ei godi efo fi, ysgrifennu at y Gweinidog fel eich bod chi'n gallu cael ymateb llawn ar y pwyntiau penodol hynny. Ond yr…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a'r ceisiadau hynny. Mi fyddwch chi wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn flaenorol, ond hefyd mi fyddwch chi yn ymwybodol o ymrwymiad y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Dwi'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yna waith wedi'i wneud rhwng eich plaid chi a'm plaid i drwy'r cytundeb cydweithio ar y mater hwn, a nifer o fesurau wedi'u rhoi mewn lle sydd o fewn gallu awdurdodau lleol i fod yn medru eu gweithredu. Yn…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch am godi mater fydd o bwys i nifer fawr ohonom ni, os nad pob Aelod yma. Mi fyddaf i'n sicr o wneud y Gweinidog Cabinet yn ymwneud eich bod chi wedi codi hyn, sef Siân Gwenllian, a gweld pa ddiweddariadau sydd ar gael i'r holl Aelodau.
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes sydd ar gael fel arfer i'r Aelodau yn electronig.
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod. Mae'n wych clywed am y pethau rhagorol sydd yn digwydd yn eich etholaeth chi, a dwi wir yn mwynhau clywed am yr esiamplau hyn. Dyna pam y mae o yn bwysig bod pawb ohonon ni yn cyfrannu y syniadau hyn a'r enghreifftiau hyn i ddatblygiad y…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae Llywodraeth Cymru, a minnau fel Gweinidog, wedi ymrwymo i sicrhau bod diwylliant a chwaraeon yn hygyrch i bawb. Drwy'r gwaith ar ddatblygu strategaeth diwylliant a chwaraeon, rydyn ni'n edrych ar sut y gallwn ni gefnogi'r nod hwnnw. Drwy'r alwad am…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae'r cam cyntaf yn edrych ar y lleoliadau. Dŷn ni hefyd yn edrych ar ba ddata ychwanegol sydd ar gael, gan gynnwys oriau agor ac ati. Yr hyn sydd yn anodd ar y funud ydy bod gennym ni ddim darlun llawn er mwyn deall beth ydy'r rhwystrau a beth ydy'r pethau…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo yn adolygu'r wybodaeth sy'n cael ei gadw gan gyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i greu darlun cenedlaethol o gyfleusterau chwaraeon cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol ledled Cymru…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Dyna yn union pam dŷn ni'n edrych ar gyfleusterau ledled Cymru hefyd, a dyna pam dŷn ni'n dechrau efo naw awdurdod lleol sydd mewn gwahanol rannau o Gymru—rhai yn wledig, lle mae yna byllau nofio wedi cau—i ddeall yr heriau hynny a deall sut dŷn ni'n…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod. Mae Nofio Ysgol yn rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer nofio a diogelwch dŵr ysgolion, sy'n darparu cynnig cenedlaethol cyson o o leiaf 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr i ddisgyblion blynyddoedd 4 a 5. Mi ddechreuodd y gwaith hwn mewn naw…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am y cwestiwn. Dwi'n credu bod yna grŵp trawsbleidiol newydd yn mynd i gael ei ddechrau ar esports. Mae gennym ni ddwy blaid eisoes wedi ymrwymo i hynny, a gobeithio bod y sicrwydd dwi wedi ei roi fy mod i'n cydnabod y gallem ni fod yn gwneud mwy o ran…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi Esports Wales i ddatblygu sgiliau a llwybrau gyrfaol creadigol sy'n gysylltiedig ag e-chwaraeon. Rydyn ni'n ystyried cynigion ar gyfer buddsoddiad economaidd mewn e-chwaraeon wrth iddynt godi, a dŷn ni'n parhau i gefnogi…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am eich cwestiwn. Nid wyf yn gwybod, ond fe geisiaf gael gwybod beth yw'r sefyllfa. Fe fyddwch chi hefyd yn deall mai plaid wahanol a Gweinidog gwahanol a roddodd yr ymateb hwnnw ar y pryd, ond rwy'n hapus i ymchwilio ymhellach a sicrhau eich bod yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol hwnnw. Mae'n wych clywed am y prosiectau pwysig yma sydd yn digwydd rŵan, ac un o'r pethau dwi'n gobeithio y byddwch chi ac Aelodau eraill yn ei wneud, drwy'r alwad am dystiolaeth, ydy gyrru esiamplau lle mae hyn yn…
14 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rydyn ni'n gweithio drwy Chwaraeon Cymru a phartneriaid lleol i wneud chwaraeon yn hygyrch i bawb yn Afan Ogwr Rhondda. Rydw i eisoes wedi sôn bod yna heriau a rhwystrau'n bodoli, a drwy'r strategaeth diwylliant a chwaraeon…