10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 8: Targedau bioamrywiaeth: targedau o dan adran newydd 6B o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Gwelliannau 40, 4, 5A, 5, 54, 6, 31, 42, 43, 45)
Gan droi at welliant 5A yn enw Janet a gwelliant 5 yn enw Rhys, mae gen i ofn na allaf gefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd yn gysylltiedig â hyn—. Rwy'n cefnogi gwelliant 40, a gyflwynwyd gan Delyth, i ychwanegu 'adfer bioamrywiaeth i lefelau cydnerth' at y…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 8: Targedau bioamrywiaeth: targedau o dan adran newydd 6B o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Gwelliannau 40, 4, 5A, 5, 54, 6, 31, 42, 43, 45)
Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus iawn i ymateb i'r her honno ar unwaith, Alun, ac rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen. Ond mae arnaf i eisiau nodi'n benodol beth mae'r ddeddfwriaeth hon wedi'i wneud, pam y bu disgwyl mor hir amdani a chefnogaeth mor eang hefyd…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 7: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol: sylwadau ac ymchwiliadau (Gwelliannau 38, 39, 2, 3)
Diolch, Llywydd. Os cawn ni droi at welliant 38 a gwelliant canlyniadol 39 yn gyntaf oll, rwyf wirioneddol yn cefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd er fy mod i'n credu nad ydyn nhw'n darparu unrhyw swyddogaethau ychwanegol i Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 6: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: monitro ac adrodd (Gwelliant 37)
Diolch yn fawr, Delyth. Rwy'n deall pam rydych chi'n cynnig hwn, ond rydw i'n mynd i geisio rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi yma pam nad yw'n angenrheidiol. Mae'r adroddiadau a gynhyrchir o dan adran 12 o'r Bil yn darparu un o'r seiliau i Swyddfa…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 5: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: strategaeth (Gwelliannau 27, 34, 28, 29, 30)
Diolch, Llywydd. Os gallaf droi, yn gyntaf oll, at welliant 27 yn enw Janet Finch-Saunders, mae hwn, unwaith eto, yn debyg i welliant a gyflwynwyd, a drafodwyd ac yna a wrthodwyd yng Nghyfnod 2, ond fe wnaf i egluro pam—ein rhesymau dros hynny. Gall SLlAC…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 4: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: diben cyffredinol (Gwelliannau 36, 1, 47, 7)
Diolch, Llywydd. Yn gyntaf oll, os gallaf droi at welliant 36 a gwelliant canlyniadol 47, mae'r Bil fel y'i cyflwynwyd ac fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 yn alinio diben cyffredinol SLlAC â'r amcan amgylcheddol a nodir yn adran 1 o'r Bil, sy'n cynnwys…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 3: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: sefydlu a materion cysylltiedig (Gwelliannau 33, 25, 46, 26, 32, 8, 48)
Os gaf i droi felly, ar ôl dechrau ar nodyn cadarnhaol, at welliant 25, sy'n welliant tebyg i'r un a gyflwynwyd ac a wrthodwyd yn ystod Cyfnod 2, diben paragraff 3 o Atodlen 1 i'r Bil, y byddai'r gwelliant hwn yn ei ddiwygio, yw anghymhwyso aelodau sy'n…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 3: Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru: sefydlu a materion cysylltiedig (Gwelliannau 33, 25, 46, 26, 32, 8, 48)
Diolch, Llywydd. Yn gyntaf, diolch i bob Aelod am gynnig y gwelliannau hyn. Mae'n dipyn o gymysgedd yma, felly fe wnaf i geisio peidio â chymryd yn rhy hir, ond rwy'n mynd i ddechrau gyda'r cadarnhaol. Rydw i'n mynd i droi at welliant Janet, yn gyntaf oll…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 2: Adroddiad diogelu a gwella’r amgylchedd (Gwelliant 53)
Rydw i'n mynd i geisio, yn y ffordd rydyn ni wedi'i wneud trwy gydol Cyfnod y Pwyllgorau ar hyn, i esbonio pam nad wyf i'n credu bod angen hyn. Yn wir, mae yna ffyrdd y gallwn ni wneud i hyn ddigwydd, ond rwy'n deall yr ysbryd y mae hyn wedi'i gynnig ynddo…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 2: Adroddiad diogelu a gwella’r amgylchedd (Gwelliant 53)
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Delyth, a Janet hefyd.
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd (Gwelliannau 9, 10, 11, 12, 13)
Ond rydw i eisiau bod yn glir, dim ond os bydd y Bil yn cael ei basio ac os caiff ei basio mewn ffurf sy'n gyflawnadwy y gallwn ni wireddu'r cyfleoedd hyn. Mae gweithredu effeithiol yn gofyn am ddeddfwriaeth sy'n glir, yn ymarferol, ac sydd wedi'i seilio ar…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd (Gwelliannau 9, 10, 11, 12, 13)
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch, Janet, am gynnig hyn. Wrth i ni agor trafodion Cyfnod 3 heddiw ar Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi dod â ni at y…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y pwyllgor. Roeddwn i'n falch ein bod ni wedi gallu ymateb yn eithaf cadarnhaol i'r pwyntiau technegol a'r pwyntiau rhinweddau hynny. Diolch am y gwaith craffu rydych wedi'i wneud ar hyn. Yn sicr, o ran pwynt craffu…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026. Bydd y rheoliadau hyn yn cau tri chynllun amaethyddol gwaddol yr UE sydd wedi dyddio yng Nghymru, sef y cynllun cymorth…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfraniadau gan Janet Finch-Saunders a gan Carolyn hefyd. A gaf i ddweud, ar y dechrau, ein bod yn croesawu'r ymdrechion sydd eisoes wedi'u gwneud gan y diwydiant mordeithio yn arbennig i ddatgarboneiddio? Bu buddsoddiad yn…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n falch o gyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Estyniad i Weithgareddau Morol) 2026, sy'n diwygio Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 i…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'
Fel y gwyddoch, daw hyn o fewn y polisi cynllunio a phenderfyniadau cynllunio'r Arolygiaeth Gynllunio. Fodd bynnag, rydym yn gwneud sylwadau, a lle rydym o'r farn fod rhesymau da dros wrthwynebu datblygu'r tir, caiff y rheini eu cyflwyno ym mhob achos yno…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'
Fe fwynheais gyfraniadau'r holl Aelodau yma yn y ddadl hon, ac mae'n wych fod pridd yn cael ei drafod ac yn destun adroddiad pwyllgor hefyd. O safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddyfodol disglair a chynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru a'r…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru'
Diolch, Llywydd, a diolch yn fawr iawn am roi'r cyfle imi ymateb i'r adroddiad a phwysleisio pwysigrwydd pridd ar gyfer bywyd a lles yng Nghymru.
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn bendant, nid ydym yn aros i bethau wella. Mae hwn yn gwestiwn difrifol iawn—yn sicr. Cefais fy synnu gan y chwerthin, gan ei fod yn gwestiwn da iawn. Mae'n mynd yn ôl at ymgyrch a ddechreuodd yn ôl yn 2019 ar gau drws yr oergell. Yr hyn a wnawn yma yng…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi manwerthwyr i leihau eu defnydd o ynni drwy offer hyfforddi ymarferol a chymorth ariannol. Mae'r adnoddau hyfforddi hyn yn llywio penderfyniadau manwerthwyr ar oeri effeithlon, gan gynnwys opsiynau drws caeedig lle maent wedi'u…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ond dyma un o'r heriau sylfaenol, yn enwedig y cwmnïau hynny a oedd yn gwybod beth roeddent yn ei wneud. Ymddengys bod rhwymedigaeth foesol arnynt i gwympo ar eu bai a gwneud iawn am hyn. Y cwestiwn yw, yn gyfreithiol, sut y gallwch chi eu dwyn i gyfrif. Ond…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl ar ôl i'r grŵp rhyngweinidogol gyfarfod i weld a oes cytundeb y dylem fwrw ymlaen â gwaith ar hyn a beth y gallai'r gwaith hwnnw ei olygu. Os gallwch adael imi ddod yn ôl ar hynny, gallwn ddod â mwy o fanylion yn ôl yn ei…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â llygredd posib sy'n gysylltiedig â safleoedd gwaredu gwastraff hanesyddol. Ein hamcanion cyffredinol yw diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol a Cyfoeth…
4 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ar y cwestiwn olaf, gallai fod rhai datblygiadau diddorol mewn peiriannau, a byddai angen mynd i'r afael â hynny nid yn unig ar lefel Cymru, ond ar lefel y DU ac Ewrop hefyd, fel bod lluniad y peiriannau'n hidlo microblastig allan yn llygad y ffynnon. Mae'n…