21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Unwaith eto, Adam, diolch i chi am eich cefnogaeth hirsefydlog i'r egwyddorion sy'n sail i'r ddeddfwriaeth hon a chael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, a hefyd, gyda Mick Antoniw, am geisio sicrhau bod hyn yn gymwys yn gyffredinol ar draws y cyrff cyhoeddus. Yng…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mick, diolch yn fawr am hynny. Rwy'n cydnabod eich gwaith yn ymgyrchu ar y mater hwn a hefyd dros lowyr Orgreave a'u teuluoedd dros ddegawdau. Rydym yn edrych ar gymhwyso darn o ddeddfwriaeth a fydd yn darparu dyletswyddau newydd i ymateb i bryderon nid yn…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Nod y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yw cryfhau ymddygiad mewn swyddi cyhoeddus, gan gyflwyno dyletswydd gonestrwydd newydd, yn ei gwneud yn drosedd i gamarwain y cyhoedd, ac mae'n ehangu mynediad at gymorth cyfreithiol i deuluoedd mewn profedigaeth mewn…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Yn hollol. Mae'r pwynt olaf hwnnw mor bwysig, oherwydd rydyn ni eisiau gwneud hyn gyda'r cymunedau, gyda'r hyn maen nhw eisiau ei weld o'r safleoedd hyn, nid i'r cymunedau. Rwy'n credu bod y gwaith ymgysylltu â'r gymuned y gwnes i ei ddisgrifio'n gynharach…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Diolch yn fawr am hynna, ac, unwaith eto, diolch am eich cefnogaeth i hyn. Rwy'n credu mai hwn yw un o'r darnau gorau o ddeddfwriaeth y mae'r Senedd hon wedi'i basio. Rydym wedi pasio llawer o ddarnau da o ddeddfwriaeth, ond mae hwn yn newid dros genedlaethau…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Ar y pwynt olaf, yn sicr, yn bendant, Lindsay. Rwy'n credu bod y gwaith, a'n hymgysylltiad â Llywodraeth y DU, wedi bod yn hollbwysig. Roedden nhw'n barod i fuddsoddi, ond roedd angen i ni roi gwybod iddyn nhw faint roedden ni eisiau ar gyfer y pedair blynedd…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Diolch, Jane, a diolch eto am eich cefnogaeth i hyn. A gallaf roi sicrwydd diamwys i chi, oherwydd, yn y cyfnod hwn nawr, rydym yn dal i weithio gyda CNC, yr awdurdod mwyngloddiau presennol, a phartneriaid awdurdodau lleol a roddodd y cynigion ar gyfer y…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Diolch yn fawr iawn, a Julie, diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth i hyn ac am gydnabod bod hwn yn gam pwysig ymlaen. Gyda llaw, mae sefydlu'r awdurdod hwn, a'r cyllid rydym ni wedi'i roi y tu ôl i hyn nawr, yn denu diddordeb yn rhyngwladol, oherwydd mae…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Mae'n bwysig nad ydym yn tynnu ein llygad oddi ar y bêl o ran hyn, oherwydd dyma ddechrau taith hir o wneud y tomenni hyn yn ddiogel a gydag ôl-ddefnydd, o bosibl, i'r cymunedau hyn hefyd. Rydym ni'n mynd i fod yma am amser hir yn gwneud y gwaith hwn, ac mae…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Diolch, Delyth. Diolch yn fawr iawn. A diolch yn fawr iawn am eich croeso i'r cynlluniau yma heddiw hefyd.
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Wel, Janet, rwy'n nodi fel llefarydd y fainc flaen dros y Ceidwadwyr, eich bod yn croesawu'r cyllid rydym ni wedi'i roi i mewn iddo, ac rwy'n pwysleisio: rydym ni wedi ei roi i mewn iddo. A dim ond i'ch cywiro: ni ddaeth pishyn ceiniog oddi wrth y Llywodraeth…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Ni ellir cyflawni'r gwaith hwn heb fuddsoddiad sylweddol a pharhaus. Nid oedd Llywodraeth flaenorol y DU wedi helpu i ariannu cyfrifoldeb a rennir dros y gwaddol diwydiannol hwn yn y DU. Rwyf eisiau cydnabod cyfraniad Llywodraeth bresennol y DU, sydd wedi…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Mae'r gwaith hwn ar ddiogelwch tomenni glo, sydd wedi'i wreiddio yn ein hanes, wedi'i lunio gan heriau newid hinsawdd, ac wedi'i ysgogi gan ddyletswydd gofal i'n cymunedau, yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau mwyaf y Llywodraeth hon. Mae diogelwch tomenni…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pendant i ddiogelu cymunedau ledled Cymru rhag y bygythiad sy'n gysylltiedig â'n gwaddol mwyngloddio.
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo
Diolch, Dirprwy Lywydd, a cheisiaf ddilyn eich canllawiau yn y fan yna.
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Nid yn unig morwellt, ond mae morfeydd heli hefyd yn bwysig yn y cyd-destun hwn. Rydych chi'n nodi'n gywir ddigon nad dyma'r unig gyllid a ddarparwyd gennym. Rydym wedi dyfarnu, ers 2021, bron i £852,000 o gyllid tuag at adfer morfeydd heli drwy'r gronfa…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch yn fawr iawn, Mabon. Rydym wedi buddsoddi £300,000 i gefnogi adferiad morwellt ar hyd arfordir Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid diweddar ar gyfer datblygu cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol Rhwydwaith Morwellt Cymru, sy’n amlinellu gweledigaeth…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch, Delyth. Un o'r pethau a allai fod o ddiddordeb i chi ac eraill, yn hytrach nag ailadrodd yr amddiffyniadau sydd ar waith ar hyn o bryd a'n disgwyliad fel Llywodraeth Cymru y cânt eu defnyddio, yw ein bod, ers Deddf 2024, wedi agor ymgynghoriad i…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch, Delyth. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd glir i sicrhau bod amgylchedd yr aer yn cael ei ystyried gydag unrhyw gais cynllunio a wneir. Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswyddau i wella ansawdd aer yn eu hardaloedd, gan ddefnyddio mecanweithiau…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch, Natasha. Ac edrychwch, credaf fod hwnnw'n bennawd cwbl annymunol i awdurdod lleol. Gwelais rai o’r adroddiadau ar hyn, ac rwyf wedi gweld rhai o’r ymatebion gan rai o’r swyddogion a’r cynghorwyr, eu bod bellach wedi cyhoeddi mwy na 200—200—o…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch, Natasha. Mae Taclo Tipio Cymru, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru i dargedu ardaloedd lle ceir llawer o dipio anghyfreithlon. Mae ymarferion gwyliadwriaeth llwyddiannus wedi arwain…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mike, rydych chi'n llygad eich lle. Rwy'n falch eich bod chi a chymaint o Aelodau yno yn yr agoriad. Mae'n rhaid imi nodi bod gennyf fuddiant personol, gan fy mod wedi hwylio pob modfedd o'r gamlas fordwyadwy honno, ac eraill yn ne Cymru, yn fy nghwch 17…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch, Altaf, a gallaf deimlo’r cariad yma ar hyn o bryd yn y Siambr hon, at y gwirfoddolwyr yn ogystal â thuag at gorryn rafft y ffen, gan yr hyrwyddwr rhywogaethau. Mae buddsoddiad y gallwn ei alluogi, ond mae hefyd yn rhoi—. Fel y nodais, rydym wedi…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch am eich cwestiwn atodol. A gaf i ddechrau drwy ymuno â chi i ganmol gwaith y gwirfoddolwyr niferus sy'n gwneud cymaint ar draws ein rhwydwaith camlesi yng Nghymru a ledled y DU? Rwy’n cofio bod model yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn seiliedig…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch, Sioned. Mae camlesi'n cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er nad yw camlesi wedi’u datganoli, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau i wella’r rhwydwaith, ac mae’r rhain wedi cynnwys…