16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 1: Yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (Gwelliannau 48, 49, 50, 39)
Rwy'n ddiolchgar i gael y cyfle i gyfrannu at y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth a hefyd yn ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi cynnig y gwelliannau penodol hyn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Gweinidog a'i staff hefyd, sydd wedi helpu i lunio'r Bil hwn. A hoffwn…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio Etholiadol
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Diolch yn fawr iawn. Ar adeg yr ydym ni'n gweld atal pleidleiswyr yn fras ar waith yn Lloegr, rwy'n llwyr gefnogi eich nod chi o gynyddu ac ehangu cyfranogiad democrataidd yma yng Nghymru. Mae unrhyw bleidleisiwr sy'n…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd
Diolch i chi am gymryd fy ymyriad byr iawn. Rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelod, Llŷr—Rhun, mae'n ddrwg gen i. I dynnu sylw hefyd, rydyn ni'n deall nad oedd y teuluoedd mewn profedigaeth yn ymwybodol o'r cynnig hwn. Gwnaeth llawer ohonyn nhw gysylltu â ni i ddweud…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd
Cewch, wrth gwrs.
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd
A gaf i ond—?
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i sefydlu Pwyllgor Senedd
Gweinidog. Gweinidog, mae'n ddrwg gen i —
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau—'O Bump i Bedwar? P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru'
Fel y clywsom, dyfeisiwyd yr wythnos waith pum diwrnod ganrif yn ôl gan y Ford Motor Company ym 1926. Ar y pryd, roedd symud i wythnos waith pum diwrnod o wythnos waith saith diwrnod yn cael ei weld fel delfryd loerig a fyddai'n effeithio'n negyddol ar…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb. Mae lladd anifeiliaid at bwrpas helwriaeth yn rhywbeth rwy'n ei wrthwynebu, ac mae hynny'n cynnwys saethu unrhyw adar hefyd. Rwy'n sylweddoli y byddaf yn wahanol i lawer o bobl yma sy'n gwasanaethu'r un rhanbarth â mi. Mae…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
7. Pryd fydd adolygiad o'r cod ymarfer ar gyfer adar hela sy’n cael eu magu at bwrpas helwriaeth yn cael ei gynnal? OQ59488
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Ond rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig fy mod i'n gwneud y pwyntiau hyn hefyd, fel gwn i y bydd eraill hefyd. Rydym ni'n clywed am gychod camlas, rydym ni'n clywed am leoedd ofnadwy i'n ffoaduriaid ni fynd iddyn nhw, ac rwyf i…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Rwyf innau hefyd yn croesawu'r datganiad a wnaethoch chi heddiw, ac rwy'n cefnogi eich dull chi o weithredu yn gyfan gwbl. Hefyd, roedd hi'n anrhydedd mawr i mi fod yn y cinio a oedd yn cael ei gynnal gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru a chwrdd â llawer o bobl yno…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prynhawn da, Prif Weinidog. Mae'n eithaf cywilyddus, onid yw, bod y Ceidwadwyr yn parhau i rygnu ymlaen am y mater hwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn glir iawn, mewn gwirionedd: mae'r gyfraith adnabod pleidleisiwr…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—'Datgarboneiddio’r sector tai preifat'
Yn 2020, bu farw Awaab Ishak yn ddwy oed. Canfuwyd mai llwydni yn ei fflat oedd achos ei farwolaeth—llwydni gormodol—ac roedd yn eiddo tai cymdeithasol. Ond serch hynny, yn anffodus, gallai’r un peth ddigwydd mewn eiddo rhent preifat. Rydym wedi clywed, a'm…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'
Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond hoffwn ddiolch o galon i’r pwyllgor ac i’r Aelodau sydd wedi cyflwyno’r adroddiad hwn, ond yn fwy penodol, i’r rhanddeiliaid a gyfrannodd ato. Ni chredaf fod unrhyw un yma yn y Siambr hon, nac yn wir, unrhyw Aelod o'r…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn. Mae’n dda clywed y bydd cynllun newydd cyn bo hir. Byddai’n dda hefyd pe gallech egluro beth yw’r amserlenni, os ydych yn ymwybodol o hynny. Rydym wedi nodi, fel y gwyddoch, ar sail cyfraddau cwblhau yn 2016-17, y byddai'n cymryd 111 o…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fersiwn ddiweddaraf o'r rhaglen Cartrefi Clyd? OQ59427
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng
Rwyf eisiau canolbwyntio ar y chweched nod, sef lleihau'r risg o aildderbyn ar ôl i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae'r rhain i gyd yn gwau gyda'i gilydd, on'd ydyn nhw, yn enwedig ar ôl yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud wrth Vikki Howells, ac mae…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen y Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad hefyd, Weinidog.
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella llesiant meddyliol myfyrwyr addysg uwch? Heddiw, mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad er…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwyf i'n byw yn y Gelli Gandryll. Afon Gwy yw'r ail afon fwyaf llygredig yng Nghymru, ar ôl Afon Wysg, ac Afon Tawe yw'r drydedd afon fwyaf llygredig yng Nghymru. Mae bagiau post llawer ohonom ni'n cael eu llenwi gan bobl yn…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Arferion Mabwysiadu Hanesyddol
Hoffwn dalu teyrnged i'r bobl hynny yr effeithiwyd arnyn nhw gan yr arfer hollol wrthun hwn. Rwy'n talu teyrnged i'r pwyll a'r urddas rydych chi i gyd wedi ei gyfrannu i'r ddadl hon a'r drafodaeth hon, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn sefyll yma'n…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Prynhawn da, Trefnydd. Dim ond i gadw ein golygon ar filgwn, fel y gwyddoch chi, fe gawsom ni ddadl fywiog iawn yn y fan hon ynghylch gwahardd rasio milgwn, ac rwy'n ymwybodol eich bod chi'n bwriadu ymgynghori ar y mater penodol hwnnw. Felly, meddwl oeddwn i…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prynhawn da, Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau sôn am brinder deintyddion yn ein gwasanaethau GIG unwaith eto, ac mae hynny ar draws Cymru. Roeddwn i'n falch iawn o ddarllen bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Endometriosis a'r cynllun iechyd menywod yng Nghymru
Diolch yn fawr iawn i Huw am gyflwyno'r ddadl fer hon, ac rwyf am ddiolch i eraill yma a arhosodd yn y Siambr, o'r ddau ryw, ac ar draws y pleidiau i gyd. Diolch am aros gyda ni i wrando ar hyn oherwydd mae'n cael ei werthfawrogi. Rwyf eisiau cyffwrdd hefyd…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil twristiaeth Cymru
Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o'n heconomi; roedd yn 11.3 y cant o'r holl swyddi yn 2020, ac mewn ardaloedd gwledig fel yr un rwy'n ei chynrychioli, mae'r gyfran honno'n llawer uwch. Mae mwy na hanner y swyddi hynny'n rhan amser, cyfran lawer uwch na'r…