23 Medi 2021 , Health and Social Care Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
I'm Julie Morgan, Deputy Minister for Health and Social Services in the Welsh Government.
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol. Bydd Rheoliadau Drafft Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 sydd ger eich bron chi heddiw yn darparu ar gyfer dod â gweithrediad y darpariaethau…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mae fferylliaeth gymunedol yn gwbl hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau, a darparu gwasanaethau i'r rheini sy'n derbyn gofal cartref hefyd. Rwy'n credu bod gan fferyllfeydd cymunedol record dda iawn o ddarparu…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n ymwybodol ac wedi cael y llythyr gan Ben-y-bont ar Ogwr, ac roedd gennyf ddiddordeb mawr mewn darllen am eu cynllun peilot arfaethedig i dalu gweithwyr gofal cartref ar lefel y cyflog…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy'n falch fod y cyngor yn symud tuag at gomisiynu gwasanaethau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rwyf hefyd yn falch o nodi'r ystyriaeth ynghylch taliadau staff, yn unol â fy natganiad llafar diweddar yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch. Rwy'n credu bod y pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gweithwyr gofal cymdeithasol, ac nid wyf yn credu bod llawer o'r cyhoedd yn ymwybodol o werth y gwaith y maent yn ei wneud. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn i…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch. A diolch i Rhys ab Owen am ei gwestiwn teimladwy iawn. Gan ddechrau gyda'i sylwadau agoriadol am beidio ag aros am Lywodraeth y DU, byddai'n well gennym gael ateb ar gyfer Cymru a Lloegr, ond rwy'n cytuno'n llwyr na allwn aros am byth. Hoffem gael…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth', ar 29 Mehefin. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion i ddiwygio gofal cymdeithasol a gwella llesiant. Mae ein rhaglen lywodraethu'n cynnwys…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw. Ydw, rwyf i wedi cael llawer o drafodaethau gyda'r comisiynydd plant ynghylch y mater penodol hwn ac rwy'n gwybod ei bod yn teimlo'n angerddol iawn amdano. Rwyf i wedi siarad â phobl ifanc a phlant ynghylch…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am y pwynt pwysig yna ac am bwysleisio natur hollbwysig y gweithlu yn y maes hwn, oherwydd, fel y dywedodd hi, mae'r gweithlu'n darparu'r gwasanaethau mwyaf personol i bobl sy'n agored iawn i niwed. Ni allai fod yn waith…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch, Sam, yn fawr iawn, am y cwestiwn yna—cwestiwn pwysig iawn. Rydym ni yn bwriadu bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu a chomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol, oherwydd ei bod yn gwbl hanfodol bod y gwasanaethau hyn mor agos at y cyhoedd ac mor…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig iawn hynny. Mae bwrw ymlaen â swyddfa genedlaethol yn rhywbeth y mae ymateb cymysg iddo yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ond mae'n debyg bod mwy o gefnogaeth na pheidio. A diben swyddfa genedlaethol mewn…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y sylwadau hynny, ac rwy'n ailadrodd, mewn gwirionedd, fod y geiriau cyd-gynhyrchu a phartneriaeth yn eiriau cwbl allweddol yn y rhan fwyaf o'r datganiadau yr ydym ni'n eu gwneud, ac nid yw gweithio'n gydgynhyrchiol a gweithio…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau hynny ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffaith eich bod chi'n credu y gallwn ni i gyd gefnogi newidiadau i'r system. Mae egwyddorion Deddf 2014 wedi eu hailadrodd ym mhob dim yr ydym yn bwriadu ei wneud, gyda gofal…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth—Y camau nesaf
Diolch. Fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd o ran ein hymgynghoriad ar Bapur Gwyn 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth' ar 9 Chwefror. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer gwella trefniadau gofal cymdeithasol er mwyn galluogi'r sector yn…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol
Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Mae'n amlwg bod y mater ynglŷn â phwy sydd wedi cael y taliad cydnabod wedi achosi rhai problemau, yn enwedig gyda'r bobl y mae hi wedi sôn amdanyn nhw—eiriolwyr a chymorth busnes. Ond diben rhoi'r bonws i weithwyr…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol
Diolch i Rhun ap Iorwerth am yr holl bwyntiau yna. O ran pam y cyflog byw gwirioneddol yn hytrach na'r £10 y gwnaeth ef ei grybwyll, rwy'n credu i mi ymateb i hynny, i lefarydd y Ceidwadwyr. Mae'r cyflog byw gwirioneddol yn rhoi sicrwydd i weithwyr y bydd eu…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y sylwadau yna, a hoffwn i ailadrodd ein hymrwymiad llwyr i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Yn sicr, nid yw'r mater cyflog wedi'i fwrw ymaith. Fel y dywedais i yn fy natganiad, mae angen i ni wneud hyn yn ofalus ac yn ochelgar…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol
Fodd bynnag, mae'n sector cymhleth, ac rydym ni'n gwybod y bydd angen ymdrin â newid hirdymor gyda llaw gadarn, a rhaid iddo fod yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus. Bydd angen i ni fynd ati fesul cam i weithredu'r ymrwymiad hwn, sy'n golygu na fydd pob…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwaith Teg a’r Cyflog Byw Gwirioneddol mewn Gofal Cymdeithasol
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu amlinellu heddiw ein dull o sicrhau mai'r cyflog byw gwirioneddol yw'r gyfradd isaf a gaiff ei dalu i weithwyr gofal yng Nghymru. Rydym ni wedi mynegi ein cefnogaeth ers tro byd i gyflog byw gwirioneddol y Sefydliad Cyflog…
9 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am y sylwadau hynny, Mark, ac yn sicr nid yw'r ymddygiad a ddisgrifiodd ar ddechrau ei gyfraniad, am blant yn cael eu cosbi am ymddygiad sy'n deillio o'u hawtistiaeth, yn dderbyniol o gwbl. A chredaf ein bod i gyd, fel Aelodau etholaethol o'r Senedd…
9 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am y sylwadau hynny, Laura Anne Jones, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod y plant rydym yn sôn amdanynt yn rhai o'r plant mwyaf agored i niwed sydd angen gofal a chymorth, ac na ddylent ddioddef. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y plant agored…
9 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rhoddwyd gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am bryderon yn ymwneud â'r gwasanaeth a chynhaliodd arolygiad yn sgil hynny. Tynnwyd sylw'r darparwyr at feysydd i'w gwella, ond nid mewn perthynas ag arferion cyfyngol. Mae ymchwiliadau gan wasanaethau cymdeithasol…
9 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch ichi am y cwestiwn pwysig hwnnw, unwaith eto, oherwydd yn bendant, mae anghenion gofalwyr ifanc yn flaenoriaeth uchel yng nghynlluniau'r Llywodraeth, a gwyddom cymaint y maent yn ei wneud wrth ofalu am eu hanwyliaid. Ar y £3 miliwn, mae £1.75 miliwn…
9 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch i Delyth Jewell am y cwestiwn pwysig hwnnw, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r straen y mae gofalwyr wedi ei deimlo yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Ac rwy'n sicr yn ymwybodol o'r bobl sy'n gofalu am bobl ag anabledd dysgu neu bobl â chlefyd Alzheimer, fod…