16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cysylltu cymunedau â chyfleusterau gofal iechyd ac ysbytai allweddol. Mae nifer o wasanaethau bysiau i Ysbyty’r Faenor, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn ceisio cysylltu ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill fel rhan o…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc'
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am godi'r mater pwysig hwn drwy nifer o ddeisebau, ac yn enwedig y bobl ifanc a leisiodd eu barn mor huawdl yn ystod ymchwiliad y pwyllgor, ac yn ehangach, y gwaith a wnaed gan Senedd Ieuenctid Cymru sydd…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Terfynau cyflymder 20mya
Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am y pwynt y mae wedi'i wneud a chroesawu'r ffaith bod Ceidwadwr yn pwyso am gyflymder mwy diogel ar ein ffyrdd, cyflymder is, lle bo hynny'n briodol? Pan fydd y maes polisi penodol hwn wedi'i gyflawni, gallaf sicrhau'r…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Terfynau cyflymder 20mya
Gwnaf, wrth gwrs.
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Terfynau cyflymder 20mya
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Ac er ein bod wedi cyflwyno sawl gwelliant gan y Llywodraeth, hoffwn ailadrodd i'r Ceidwadwyr yr hyn a ddywedais mewn ymateb i gwestiynau yr wythnos…
25 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Terfynau cyflymder 20mya
Yn ffurfiol.
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
A gaf i ddiolch i Carolyn Thomas am ei chwestiynau a'i chynigion hefyd? Rwy'n credu bod Trafnidiaeth Cymru ar fin dechrau ymgyrch hysbysebu newydd i annog mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd. Mae gan linell y gororau, rwy'n credu, y potensial…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd creu GBR Cymru o fewn Great British Railways yn chwyldroadol o ran sicrhau bod gennym lais ynghylch sut y bydd gwelliannau'n digwydd a'r cyllid a ddaw i Gymru.
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei bwyntiau? Mae wedi bod yn eiriolwr hir dros ddatblygu ym Magwyr, creu gorsaf Magwyr, ac rwy'n falch iawn o fod wedi gweld bod hynny'n cael ei argymell yn adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Yn wir, mae pum…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Yn hollol. A gaf i ddiolch i Lesley Griffiths am ei chwestiynau? Fel y soniais i wrth Laura Jones, mae gennym banel hygyrchedd yn cynghori Trafnidiaeth Cymru. Maent yn cynghori ar drenau a gorsafoedd newydd ac wedi'u hadnewyddu, ac maent yn cynrychioli'r…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Mae cymdeithas a thechnoleg yn symud yn gyflym iawn, wrth gwrs, ond mae'n bwysig yn y cyfnod hwn o dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg nad ydym yn gadael unrhyw un ar ôl. Mae gan Trafnidiaeth Cymru banel hygyrchedd sy'n…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei phwyntiau a'i hymholiadau? Wrth gwrs, bydd gan linell Coryton ei gwasanaeth Sul cyntaf erioed o 2025 a bydd hynny'n caniatáu i fwy o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer hamdden neu ar gyfer gwaith yng nghanol y…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Wel, a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei chwestiynau hefyd, ac addo cyhoeddi'r adroddiad cyn gynted ag y gallaf gael golwg arno fy hun? Mae'n ymrwymiad cytundeb cydweithredu, ac rwy'n awyddus i weld canlyniadau'r adroddiad hwnnw, oherwydd bydd o bosibl yn…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Wel, a gaf i ddiolch i Paul Davies am ei gwestiynau, a dweud yn gyntaf oll—[Torri ar draws.] Nid yw Trafnidiaeth Cymru, hyd y gwn i, wedi rhwystro GWR rhag darparu mwy o wasanaethau yn y gorllewin, ac rwyf wedi codi hyn gyda phrif weithredwr Trafnidiaeth…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiwn? Hoffwn ailymweld â Maes-glas gyda'r Aelod a hefyd cwrdd â chynghorwyr ac ymgyrchwyr lleol, sy'n angerddol iawn dros greu gorsaf lle roedd un ar un adeg. Mae nifer o safleoedd ar hyd arfordir y…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
A gaf i ddiolch i Peredur am ei gwestiynau? Mae'n codi nifer o bwyntiau pwysig yr wyf yn siŵr yr hoffai Aelodau ar draws y Siambr eu gofyn; ymddiheuraf os byddaf yn ailadrodd unrhyw bwyntiau yn ystod fy ymatebion. Ond, o ran HS2, mae ein sefyllfa yn aros yr…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Wel, a gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chyfraniad heddiw ac am ei chwestiynau? Mae llawer o'r cwestiynau hynny yn hynod o bwysig, rwy'n credu—ei chwestiynau am ddyfodol Great British Railways a rôl Llywodraeth Cymru wrth sicrhau ein bod yn cael y…
24 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Partneriaeth newydd i drawsnewid ein rheilffyrdd
Dirprwy Lywydd, mae dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth, yng Nghymru ac yn San Steffan, eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Cymerwch y Bil gwasanaethau teithwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf, wythnosau yn unig ar ôl yr etholiad…
18 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am ei gwestiwn? Mae Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn datblygu atebion ar hyn o bryd i faterion gweithredol gyda llwybrau TrawsCymru penodol, gan gynnwys TrawsCymru T3, sy'n gweithredu—. Dyna'r gwasanaeth yr oedd Darren…
18 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Gwnaf. Mae dibynadwyedd gwael trafnidiaeth gyhoeddus a weithredir gan Avanti West Coast yn siomi teithwyr yng ngogledd Cymru. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, gan wella perfformiad, dibynadwyedd ac ansawdd ein…
18 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Diolch i John Griffiths ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae gwaith Gordon Brown yn wych. Cefais gyfle i gymryd rhan yn un o'r sesiynau a gynhaliodd. Roedd yn sesiwn rithwir. Am fod fy llythrennau cyntaf wedi ymddangos fel 'KS', fe wnaeth fy nghamgymryd am…
18 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Gwnaf. Mae ymgysylltiad cadarnhaol a chynnar wedi digwydd gyda'r Prif Weinidog, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifenyddion Gwladol dros fusnes a masnach, ac ynni hefyd. Rydym i gyd wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd ar ein huchelgais cyffredin i…
18 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Wel, a gaf i ddiolch i Sam Rowlands am ei gwestiwn? Rydym wedi cael trafodaethau niferus ers iddo gael ei ethol i'r Senedd am wasanaethau rheilffordd, nid yn unig ar draws gogledd Cymru, ond o ogledd Cymru i Lundain, ac rydym yn cytuno bod perfformiad Avanti…
18 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Wel, rwy'n cydnabod rhwystredigaeth Aelodau ar draws y Senedd a theithwyr ynghylch dibynadwyedd gwael gwasanaethau Avanti West Coast. Mae angen i'r gwasanaethau wella, o ystyried pa mor hanfodol yw'r cysylltiad rhwng gogledd Cymru a Llundain.
18 Medi 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae'n hollol gywir fod tryloywder yn hollbwysig wrth ystyried cynlluniau o'r math hwn. Roeddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gyfarfod â Paul Davies ac i ddysgu mwy am yr awgrym gan y gymuned. O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, cysylltodd fy swyddogion â'r cyngor, a…