30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, nid yn unig o fewn fy mhortffolio i, gan y credaf fod cyfrifoldeb enfawr ar bob un ohonom ar draws y Llywodraeth i ddibynnu mwy ar atebion ar sail natur, gan y gallwn gymysgu cymaint o goncrit ag y dymunwn, ond oni bai ein bod yn gweithio gyda graen…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch. Nid wyf am drafod achosion llys penodol, ac yn y blaen—fe fyddwch yn deall na allaf wneud sylwadau ar y rheini—ond rydych chi'n gwneud pwynt dilys iawn ynglŷn â mesurau bioddiogelwch, ac fe ysgrifennaf at y cwmni ac eraill i sicrhau eu bod yn cael eu…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
'Pontio teg' yw'r union beth y ceisiwn ei gyflawni yma. Rydych chi'n dweud nad ydym wedi gwneud unrhyw beth; rydym wedi ymrwymo £1 biliwn i ffermio dros y tair blynedd nesaf i sicrhau y gall y ffermwyr hynny nad ydynt yn siŵr ynglŷn ag ymuno â'r cynllun…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Nid wyf o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â'r cyfnod pontio anodd rydym ynddo ar hyn o bryd, o raglen etifeddol cynllun y taliad sylfaenol i'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd. Mae'n daith y byddwn yn parhau arni. Fe ddywedoch chi fod y cynllun ffermio…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, nid yw'r swyddogaeth honno yn fy mhortffolio i mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae'n berthnasol i'r Gweinidog ynni a bydd hefyd yn berthnasol i'r Gweinidog cynllunio. Felly, efallai yr hoffech ofyn eich cwestiwn iddynt hwy pan ddaw cyfle i chi wneud hynny.
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am dynnu ein sylw at hynny. Rwyf bob amser yn pryderu pan fydd unrhyw amgylchiadau'n galw am bresenoldeb yr heddlu ac ymwneud yr heddlu. Mae yna ffordd benodol o wneud pethau, ac rwy'n credu ei bod yn weddus cadw at hynny bob amser. Ni wnaf sylwadau ar…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda fy nghyd-Aelod yn y Cabinet. Yn ystod yr wythnosau nesaf, gwn y bydd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn nodi ein cynlluniau i droi ein hymrwymiad maniffesto ar gyfer tanddaearu cylchedau trydan newydd…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am dynnu sylw at y cynllun penodol hwnnw. Rwyf bob amser yn credu bod y math hwn o waith yn fwyaf effeithiol pan fyddwch chi'n grymuso cymunedau lleol i weithredu yn y ffordd honno, ac wrth gwrs, rydym wedi cefnogi'r ymrwymiad hwnnw gyda buddsoddiad…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, diolch am y cwestiwn. Fel y dywedwch, mae'n debyg i'r cwestiwn sydd wedi'i ofyn, ac rwy'n teimlo y gallai'r ateb fod yn debyg hefyd. Ond mae'n ymwneud â tharo'r cydbwysedd hwnnw, rwy'n meddwl, ac fel y dywedais, dylai'r system gynllunio, pan fydd yn…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg mae'n ymwneud â tharo'r cydbwysedd cywir, onid yw? Rydym yn gwybod bod galw am ynni, rydym yn gwybod bod galw am fwyd, ac o ganlyniad bydd y galw am dir yn gwrthdaro o bryd i'w gilydd. Mae'r system gynllunio yno i geisio diogelu…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am godi'r mater hwn. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon y mae trigolion wedi'u codi ar y mater penodol hwn mewn gwirionedd. Fe fyddwch chi hefyd yn gwybod mai mater i Gyngor Dinas Casnewydd ydyw; ni fyddai'n briodol i mi ymyrryd mewn mater sydd, ac a ddylai…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Yn amlwg, mae ein mannau gwyrdd cymunedol yn bwysig i bobl, i natur a'r lleoedd lle mae pobl yn byw. Rydym yn buddsoddi mewn rhaglenni sy'n eu diogelu a'u gwella, gan gynnwys yng Nghasnewydd ac Islwyn. Rwyf am adeiladu ar y gwaith hwnnw, yn enwedig mewn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Wel, byddaf yn cyfeirio'r Aelod at ein maniffesto. Rydym ni wedi ymrwymo i'r cynllun hwn. Rhif 1, wrth gwrs, dyna'r gyfraith. Mae'n rhaid i ni ei wneud. Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni gyflawni'r cynllun hwn. Ond rydym ni wedi dweud yn ein…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Diolch. Fe allaf i eich sicrhau chi y byddwn ni'n parhau i weithio ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig ar hyn. Yn sicr, rwy'n gwybod bod llawer o waith wedi'i wneud gan fy rhagflaenydd a'r Gweinidogion cyfatebol ledled y Deyrnas Unedig—mae hynny'n parhau. Mae…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Diolch. Mae yna gryn dipyn yn fan yna. O ran pam cynnwys gwydr, o ystyried y costau dan sylw a'r goblygiadau i fusnesau, i awdurdodau lleol a'r newidiadau mewn arferion defnyddwyr y bydd eu hangen, rhaid i unrhyw gynllun a gynhaliwn ni mewn perthynas â…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Diolch yn fawr iawn am groesawu hyn. Yn amlwg, rydyn ni'n adeiladu ar waith a gafodd ei wneud yn flaenorol gan ein Llywodraeth ragflaenol. Mae'n rhywbeth rydyn ni wedi'i etifeddu, ond mae'n rhywbeth rydyn ni'n ei gofleidio, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Wel, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud i ddechrau yw, pe baem ni'n oedi, pe baem ni'n aros, yna does gen i ddim amheuaeth y byddech chi ar eich traed wedyn yn cwyno am y risg o dwyll. Oherwydd mae gweddill y DU yn symud i'r cyfeiriad hwn, iawn? A phawb a oedd yn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Nid cynnal y perfformiad ailgylchu presennol yw unig ddiben y cynllun, ond dal deunyddiau gwerthfawr a fyddai fel arall yn cael eu taflu fel sbwriel, eu colli o’r system ailgylchu, neu eu casglu ar ansawdd is, gan hefyd osod y sylfeini ar gyfer symud…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Bydd y cynllun yn cynnwys cynwysyddion diodydd metel a phlastig o'r diwrnod cyntaf. Bydd cynwysyddion gwydr hefyd o'r diwrnod cyntaf, ond gan adlewyrchu ein hymrwymiad maniffesto, byddwn ni'n gweithio'n agos gydag Exchange for Change, a'r diwydiant diodydd…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Nawr, mae Cymru eisoes yn cael ei chydnabod am gyflawni un o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd, ac er mwyn cyfiawnhau’r buddsoddiad a’r newidiadau sydd eu hangen gan fusnesau a defnyddwyr, mae'n rhaid iddo fe ddarparu manteision ychwanegol y tu hwnt i’r…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Nawr, penodwyd Exchange for Change yn dilyn proses gadarn i nodi sefydliad a fyddai'n gallu cyflawni'r cynllun yma yng Nghymru. Fel y sefydliad rheoli ernes, bydd Exchange for Change yn gweithio nawr gyda chynhyrchwyr, manwerthwyr, awdurdodau lleol a…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Diweddariad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes
Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn heddiw o fedru diweddaru Aelodau am y cynllun dychwelyd ernes yma yng Nghymru. Ar 20 Awst, fe gyhoeddais i benodiad Exchange for Change fel y sefydliad rheoli ernes inni yma yng Nghymru. Gyda’r penodiad hwn…
8 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am eich cwestiwn. Gallaf gadarnhau y byddwn yn gweithio gyda'r grwpiau a'r sefydliadau hyn i wneud yn siŵr eu bod yn gynaliadwy a bod eu rhaglenni'n cefnogi'r rhai sydd ag anghenion penodol o ran cael mynediad at fwyd. Mae swyddogion ar draws yr…
8 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailddosbarthu bwyd dros ben drwy ddarparu cyllid i FareShare Cymru a sefydliadau eraill i weithio gyda chynhyrchwyr a busnesau bwyd fel y gallwn ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau, grwpiau cymunedol, banciau bwyd a mwy.
8 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Ar lefel bersonol, rwyf wedi gwneud llawer gyda Chymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain dros nifer o flynyddoedd ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wnânt. Mewn gwirionedd, mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod y cyfraniad y mae saethu yn ei wneud i'r ecosystem…