21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: Yr heriau a'r cyfleoedd
A gaf fi ddiolch i chi, Jenny, am roi cyfle imi ddweud ychydig eiriau? Ac a gaf fi hefyd dalu teyrnged i'ch gwaith ar amryw o faterion cyfiawnder cymdeithasol ers ichi gael eich ethol, ac am eich rôl fel cadeirydd ein gweithgor trawsbleidiol ar brydau ysgol…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Costau byw
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw'r Aelod dros Orllewin Clwyd, Darren Millar. Afraid dweud bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn—a dweud y lleiaf—i deuluoedd a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt, ac mae'r…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Weinidog. Gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon fod yr haf hwn wedi bod yn eithriadol o boeth a sych am gyfnod hir o amser; yn wir, mae’n debygol mai mis Mawrth i fis Awst eleni fydd y cyfnod o chwe mis sychaf ond dau ers i gofnodion ddechrau ym 1865. Er…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd
6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch dŵr yng Nghymru? OQ58387
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dim ond dau beth. Treth yw hon—nid ardoll mohono—a braint Llafur yw cyflwyno trethi, ac maen nhw'n gwneud hynny'n gyffredinol. Dyna pam rydym ni mor wahanol ar y llwyfan yma, yn sicr yma yng Nghymru. Byddwn i'n gofyn pa…
11 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines
Bu i'r newyddion torcalonnus bod ein Brenhines annwyl, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi marw ysgwyd pobl ein cenedl i'r byw, fel y gwnaeth ar draws y Gymanwlad ac, yn wir, y byd. Ar ran miloedd o bobl ar draws etholaeth Mynwy, rwy'n estyn hefyd…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, a chefnogaf y sylwadau a wnaed gan Gadeirydd ein pwyllgor, ac yn croesawu hefyd ein Haelodau o’r Senedd Ieuenctid yma heddiw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedoch chi, sef bod chwarae'n bwysig iawn i iechyd corfforol a meddyliol. Rwy'n croesawu mentrau fel y cynllun Haf o Hwyl i ymestyn chwarae. Fodd bynnag, rwyf wedi cael trafodaethau…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael ac yn hygyrch i bob plentyn? OQ58356
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno ei chwestiwn. Mae cwpan y byd yn gyfle delfrydol i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, ond gadewch inni edrych ychydig yn ehangach ar y llwyfan byd-eang hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd rhyngwladol ac mae gan bob…
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni ein hamcanion llesiant
Mae fy nghyfraniad yn mynd i fod yn fwy technegol ei natur, rwy'n credu. Yn gyntaf, Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn, y cyntaf o'r Senedd hon? Mae adroddiad blynyddol yn rhywbeth y dylem ni edrych ymlaen ato. Mae'n…
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad ac rwy'n croesawu cyfraniad Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth ynghylch awdurdodau lleol a'r gwaith a wnaethant. Rwy'n cyfrannu at y ddadl hon fel llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, ac…
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth yn rhan o waith craffu'r Pwyllgor Cyllid ar y Bil ac i ddiolch ar goedd am y gefnogaeth a'r cyngor a gynigiwyd gan y tîm clercio a chyfreithiol drwy gydol y broses hon. Hoffwn ddiolch hefyd i chi…
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Prif Weinidog, am yr ymateb, a diolch i chi am gydnabod y materion sy'n ymwneud â Chas-gwent. Dyna un o fy mhrif faterion, oherwydd llygredd aer ar yr A48, ac yn enwedig Rhiw Hardwick, y byddwch yn ymwybodol ohono, sef un o'r ffyrdd mwyaf llygredig…
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yn etholaeth Mynwy? OQ58365
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod dros Orllewin De Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn? Mae'n deg dweud bod y sector twristiaeth yn hanfodol i gynifer o'n cymunedau, sydd wedi'u taro mor galed gan y pandemig ac sy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl y rheoliadau…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae’r mater y mae’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru yn ei godi yn un pwysig, wrth gwrs. Felly hefyd sut y caiff gweithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector eu talu am dreuliau ychwanegol sy'n codi wrth iddynt gyflawni eu rolau—er enghraifft, costau tanwydd. Yn…
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 4. Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben (Gwelliannau 2, 10)
Ydy. Cynnig.
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 4. Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben (Gwelliannau 2, 10)
Na.
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 4. Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben (Gwelliannau 2, 10)
Cynnig—. Na—
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 4. Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben (Gwelliannau 2, 10)
Mae gwelliant 10 yn mewnosod cyfnod craffu o 28 diwrnod gofynnol lleiaf, fel yr ydym ni newydd ei glywed, cyn y ceir cynnal pleidlais ar Orchymyn ymestyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7(2). Ar hyn o bryd, fel y mae wedi ei ddrafftio, nid yw'r Bil…
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 3. Adolygu'r Ddeddf (Gwelliannau 8, 3, 4, 9)
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i Llyr Gruffydd am ei gefnogaeth drwy gydol hyn ac i fy ngwelliannau yno? Gweinidog, rwy'n falch i chi ddweud y byddwch yn cefnogi gwelliannau 3 a 4 yn enw Llyr Gruffydd. Rwy'n siomedig na allwch chi dderbyn…
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 3. Adolygu'r Ddeddf (Gwelliannau 8, 3, 4, 9)
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 8 yn gofyn am adolygiad o'r Ddeddf ddwy flynedd ar ôl iddi ddod i rym, yn ogystal â phedair blynedd ar ôl iddi ddod i rym. I fod yn gryno, ni fyddaf yn ailadrodd rhai o'r trafodaethau manwl yr ydym wedi eu cael gyda'r Gweinidog…
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 2. Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd (Gwelliant 7)
Ychydig iawn sydd gen i i'w ddweud, Llywydd. Rwy'n siomedig na ellir ychwanegu hynny, ond rwyf wedi clywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud. Rwy'n hapus i gynnig hynny.
5 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Grŵp 2. Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd (Gwelliant 7)
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod gwelliant 7, a gyflwynwyd yn fy enw i. Diben y gwelliant hwn yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o newidiadau i gyfraith trethiant a wneir gan reoliadau o dan adran…