14 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 6
Yn benodol o ran ymgorffori’r confensiwn, rydyn ni’n gwybod bod yna ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, onid oedd, ar gyfer y Senedd hon. Pa effaith benodol ydych chi’n credu y bydd hynny’n ei chael ar y gwaith polisi sydd angen digwydd, er enghraifft er mwyn…
14 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 6
Diolch, Gadeirydd. Rŷn ni wedi trafod tipyn bach effaith yr oedi cyn cyhoeddi'r cynllun gweithredu ar hawliau pobl anabl, ac rydyn ni fel pwyllgor wedi clywed tystiolaeth na fydd yna nawr ymgorffori o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yn…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ariannu addysg
Enw'r adroddiad rŷn ni'n ei nodi yn ein cynnig yw 'Syrthio'n Brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy'n dwysáu'. Mae e'n parhau; dyw e ddim yn aros yn llonydd, dyw e ddim jest yn rhywbeth sydd wedi digwydd fel effaith y blynyddoedd o lymder rŷn ni…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub'
Diolch, Jenny. Lle rydym yn sôn am newidiadau i delerau ac amodau gyda'r diwygiadau hyn, hoffwn bwysleisio—[Anghlywadwy.]—y nodwyd bod angen iddynt digwydd, oherwydd arferion gwael ac ymarfer sydd wedi dyddio, y dylid gwneud hynny, wrth gwrs, mewn…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub'
Mae hwn yn adroddiad arwyddocaol a phellgyrhaeddol iawn oherwydd mae'n dangos mai'r mater sylfaenol yma yw methiant Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i ddiwygio llywodraethiant gwasanaethau tân ac achub Cymru. Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddatgelu…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch yn fawr. Yn ddiweddar, ymwelais â datblygiad tai Bryn Môr yng Nghastell-nedd. Mae'r datblygiad arloesol hwn gan Wellspring Homes yn defnyddio concrid cywarch yn ei ddeunyddiau adeiladu, sy'n cyfrannu at allu'r cartrefi i wrthsefyll llwydni ac i…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd ffermio? OQ61645
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Diolch yn fawr. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes mewn cyflwr argyfyngus oherwydd polisïau llymder, yn wynebu mwy o doriadau eleni, fel rŷch chi’n gwybod, wrth i fyrddau iechyd ddatgelu diffygion o ddegau o filiynau yn eu cyllid, ysgolion yn gorfod…
9 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru? OQ61633
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n sôn am y miliynau a wariwyd ar gynorthwyo plant mewn tlodi, fel pe bai hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono—nid dyna'r gwir, mae'n rhywbeth y dylem ni fod â chywilydd ohono, bod yn rhaid i ni ei wneud. Mae'n rhaid i ni ddarparu'r cymorth hwnnw…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 5
Diolch. Diolch, Cadeirydd.
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 5
Diolch, Cadeirydd. Jest un cwestiwn olaf. I ba raddau, yn eich profiad chi, ydy myfyrwyr anabl yn gadael addysg gyda'r sgiliau digonol i fynd trwy'r broses recriwtio gydag ymwybyddiaeth o'u hawliau yn y gweithle, er enghraifft gofyn am addasiadau rhesymol?
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 5
Diolch yn fawr. Ie, yn hollol, mae Cymdeithas Syndrom Down wedi cysylltu â ni ac wedi dweud y dylai ysgolion a cholegau siarad gyda myfyrwyr, efallai yn meddwl am opsiynau gyrfa, ac wrth gwrs prentisiaethau a chyrsiau coleg, cyn gynted ag y medran nhw, ac yn…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 5
Rwy'n meddwl bod Jane eisiau dod mewn. Jane.
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 5
Viv, ydych chi eisiau dod mewn?
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 5
Diolch yn fawr. Roeddwn i jest eisiau holi cwestiwn yn benodol ynglŷn â phobl sydd ag anabledd dysgu. Dwi'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu, ac rŷn ni wedi clywed lot o dystiolaeth gan deuluoedd yn dweud eu bod nhw'n teimlo bod y broses o…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 4
Jest un bach, cyflym. Rŷn ni wedi edrych ar ochr hawliau pobl anabl eu hunain, ond jest i edrych wedyn ar ochr y cyflogwyr, rŷch chi wedi dweud sawl gwaith bod diffyg hyder a bod nerfusrwydd, ac rŷn ni hefyd wedi trafod lot ei fod yn anwastad o ran sut mae…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 4
Diolch, Gadeirydd. I ba raddau mae pobl anabl yn ymwybodol o’u hawliau cyflogaeth, a pha gamau fyddech chi’n hoffi eu gweld yn cael eu cymryd gan Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o’r hawliau a’r camau y…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 4
Diolch, Cadeirydd, a phrynhawn da. Eisiau sôn yn benodol ydw i am hawliau pobl anabl, ac rydym ni wedi trafod tipyn y prynhawn yma yr oedi sydd wedi bod cyn cyhoeddi’r cynllun gweithredu hawliau anabledd a hefyd ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 3
Iawn. Diolch yn fawr. Rydych chi wedi sôn am yr adroddiad 'Business without Barriers' eisoes, a gwnaethoch chi ddweud yn hynny fod cymorth i bobl anabl i sefydlu eu busnes eu hunain yn rhan allweddol o gau'r bwlch cyflogaeth anabledd. Oes unrhyw beth y gallai…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 3
Diolch yn fawr. Gwnaf i droi nawr at rai o fentrau Llywodraeth Cymru yn y maes yma. Allwch chi roi gwybod i ni pa mor effeithiol rydych chi'n meddwl yw mentrau Llywodraeth Cymru fel hyrwyddwyr cyflogaeth Busnes Cymru yn cefnogi pobl anabl i'r gwaith, ac…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 3
Sori—os gallech chi, efallai, sôn am hwnna, y Mynediad i Waith, ac efallai'r cynllun arall sy'n ymyriad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sef Hyderus o ran Anabledd. So, ie, os gallech chi sôn pa mor dda ydych chi'n meddwl mae'r rhain yn gweithio, a beth yw'r…
7 Hydref 2024 , Equality and Social Justice Committee
Anabledd a chyflogaeth: sesiwn dystiolaeth 3
Diolch, Cadeirydd, a phrynhawn da. Wrth gwrs, mae gan fusnesau ddyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, onid oes? Felly, pa mor ymwybodol ŷch chi'n meddwl maen nhw o'r dyletswyddau cyfreithiol yma, a pha gamau pellach sydd eu hangen yn eich…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Cyfle teg—Sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu byw'r bywyd o'u dewis
Hoffwn dynnu sylw’n benodol at sefyllfa pobl ifanc ddall neu rannol ddall, gan ein bod ni yng Nghymru yn ymfalchïo, onid ydym, yn y ffaith ein bod yn arwain y ffordd ar hawliau plant, ac mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, i roi sylw dyledus i…
2 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Cyfle teg—Sicrhau bod pobl ddall a rhannol ddall yn gallu byw'r bywyd o'u dewis
Diolch, Julie Morgan, am ddod â'r ddadl bwysig yma i'r Senedd.