Rhaid sicrhau na chollir yr unig ganolfan endometriosis drydyddol yng Nghymru sydd ag achrediad y BSGE.
Ar agor i'w llofnodi tan 8 Rhagfyr 2026.
11,691 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddWedi'i gyrraedd
Yng Nghymru, dim ond un ganolfan drydyddol arbenigol sydd ag achrediad y BSGE ar gyfer trin achosion cymhleth o endometriosis ymdreiddiol dwfn. (1) Wrth gyhoeddi ei gofrestr risg, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi nodi risg bosibl o golli achrediad y BSGE erbyn mis Rhagfyr 2026, a fyddai’n arwain at ganlyniadau difrifol i'r sefydliad o safbwynt ariannol, clinigol ac enw da. Nodir hefyd nad oes unrhyw gyllid ar gael, felly nid oes datrysiad ar hyn o bryd.
Rhagor o fanylion
Cyflwr cronig yw endometriosis sy'n effeithio ar tua un o bob 10 o fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni. Yn aml, mae angen ymyrraeth lawfeddygol arbenigol i drin y cyflwr, ac mae llawer o fenywod yn treulio blynyddoedd yn aros am ddiagnosis a thriniaeth briodol. Byddai colli'r ganolfan achrededig hon yn golled drychinebus i ofal iechyd menywod yng Nghymru. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar y Senedd i ymyrryd i fynd i’r afael â’r risg sy'n wynebu’r ganolfan endometriosis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
(1) BSGE – Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 9,449 o'r 11,691 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 1,396 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1,178 |
| Gŵyr Abertawe | 945 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 936 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 786 |
| Afan Ogwr Rhondda | 690 |
| Sir Gaerfyrddin | 683 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 614 |
| Casnewydd Islwyn | 483 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 452 |
| Sir Fynwy Torfaen | 402 |
| Ceredigion Penfro | 384 |
| Gwynedd Maldwyn | 161 |
| Bangor Conwy Môn | 141 |
| Clwyd | 109 |
| Fflint Wrecsam | 89 |