ACHUB WARD LANSDOWNE – DIOGELU GOFAL HANFODOL AR GYFER POBL HŶN
Ar agor i'w llofnodi tan 2 Mai 2027.
322 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrthi'n cynnal proses ymgysylltu ac ymgynghori fewnol gyda staff mewn perthynas â newidiadau i’r gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Cymunedol Dewi Sant, gan gynnwys cynnig i gau Ward Lansdowne.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i atal y bwrdd rhag cau Ward Lansdowne. Nid yw’r gofal a ddarperir i gleifion hŷn yn dod i ben wrth iddynt adael ysbyty cyffredinol. Mae angen gwasanaethau adsefydlu arbenigol arnynt, ynghyd ag urddas, tosturi ac amser i wella'n ddiogel.
Mae'r tîm rhagorol sy’n gweithio yn Ward Lansdowne yn cydweithio er mwyn helpu cleifion i adennill eu hannibyniaeth, dychwelyd adref yn ddiogel gyda'r gofal sydd ei angen arnynt, neu symud i gartref nyrsio priodol. Rydym yn bodloni'r safonau gofynnol ac yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i gleifion.
Rhagor o fanylion
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio i’r cynllun i gau Ward Lansdowne, gan fynnu atebion ynghylch ble bydd y cleifion oedrannus hyn, sy’n agored i niwed, yn mynd. Pa welyau a gwasanaethau adsefydlu amgen fydd ar gael? Sut fydd eu diogelwch, eu hurddas a'u hadferiad yn cael eu diogelu? Dylech sicrhau bod asesiad effaith llawn yn cael ei gynnal cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud. Mae ein cleifion oedrannus yn haeddu atebion, diogelwch a'r gofal sydd ei angen arnynt.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 312 o'r 322 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 111 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 98 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 57 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 18 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 13 |
| Casnewydd Islwyn | 8 |