Cyflwyno hawl ddiofyn i gadw anifail anwes mewn eiddo rhent yng Nghymru o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi
Ar agor i'w llofnodi tan 28 Ebrill 2027.
4 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Gofynnaf i'r Senedd ddiwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn sicrhau bod gan bob tenant hawl gyfreithiol ddiofyn i gadw anifail anwes.
Mae bron yn amhosibl dod o hyd i eiddo yng Nghymru lle caniateir i denantiaid gadw anifeiliaid anwes, er gwaethaf y ffaith bod hon yn wlad lle croesewir anifeiliaid anwes.
Rwyf am weld sefyllfa lle mae eiddo yn destun hawl ddiofyn i gadw anifeiliaid anwes. Dim ond os gall landlordiaid roi rheswm pendant, sy'n gyfiawn yn gyfreithiol, i awdurdodau tai y Senedd y dylid caniatáu iddynt gyfyngu ar yr hawl hon.
Rhagor o fanylion
Dim ond tua 7% i 8% o eiddo rhent preifat yng Nghymru sy'n cael eu hysbysebu'n ffurfiol fel rhai lle croesewir anifeiliaid anwes.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 3 o'r 4 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gŵyr Abertawe | 2 |
| Sir Gaerfyrddin | 1 |