Ei gwneud yn ofyniad gorfodol i adrodd ar ganlyniadau sganiau canser o fewn 5 diwrnod gwaith
Ar agor i'w llofnodi tan 2 Mai 2027.
503 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad gorfodol i sicrhau bod canlyniadau pob sgan sy’n ymwneud â chanser, o’r sganiau a gynhelir yn ystod y broses ddiagnostig gychwynnol i’r sganiau monitro a dilynol, yn cael eu hadrodd o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddai hyn yn helpu i atal oedi cyn trafodaethau timau amlddisgyblaethol (MDT) a chyn dechrau triniaeth neu wneud penderfyniadau am driniaeth.
Rhagor o fanylion
Mae diagnosis o ganser yn effeithio ar y claf a’i deulu cyfan. Drwy gydol y daith, o’r diagnosis cychwynnol i’r monitro dilynol am ledaeniad posibl, mae’r amser a gymerir i adrodd ar ganlyniadau sganiau yn anghyson. Mae’r aros, y pryder a’r ansicrwydd yn rhoi straen enfawr ar iechyd meddwl cleifion a’u hanwyliaid.
Gyda thua un o bob dau berson yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes, mae’n amlwg bod angen gwella’r system bresennol. Gall oedi cyn cael canlyniadau sganiau ohirio penderfyniadau timau amlddisgyblaethol (MDT), apwyntiadau dilynol a dechrau triniaeth.
Mae cleifion a’u teuluoedd yn haeddu gwell. Byddai cyflwyno gofyniad gorfodol i adrodd ar ganlyniadau sganiau canser o fewn 5 diwrnod gwaith yn helpu i gyflymu penderfyniadau clinigol, lleihau oedi diangen a lleddfu’r baich emosiynol, gan gyfrannu at ofal mwy amserol a chanlyniadau gwell i gleifion.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 485 o'r 503 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 280 |
| Sir Gaerfyrddin | 109 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 17 |
| Casnewydd Islwyn | 14 |
| Gwynedd Maldwyn | 11 |
| Bangor Conwy Môn | 10 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni |