Adolygu oedrannau sgrinio am ganser y fron yng Nghymru a gwella canfod canser yn gynnar a mynediad i fenywod o dan 50 oed
Ar agor i'w llofnodi tan 4 Mai 2027.
266 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Cefais ddiagnosis o ganser ymledol y fron Gradd 3 pan oeddwn i ond yn 42 oed. Yng Nghymru, mae sgrinio arferol am ganser y fron yn dechrau ar ôl i fenywod droi’n 50 oed, ond mae menywod iau yn gallu datblygu canser y fron hefyd. Roedd tua 13% o ddiagnosau canser y fron yng Nghymru rhwng 2020 a 2022 yn ymwneud â menywod o dan 50 oed. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cymhwystra ar gyfer sgrinio i fenywod o 30 oed ymlaen, gan gynnwys sgrinio yn seiliedig ar risg a gwell ymwybyddiaeth. Mae pob menyw yn haeddu'r cyfle i ganser gael ei ganfod yn gynnar, ni waeth beth fo'i hoedran.
Rhagor o fanylion
Yn ôl yr Archwiliad Cenedlaethol o Ganser Cynradd y Fron yn 2025, roedd tua 13% o ddiagnosau canser y fron yng Nghymru rhwng 2020 a 2022 yn ymwneud â menywod o dan 50 oed, gan gynnwys tua 3% ar gyfer menywod o dan 40 oed.
Mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod canser y fron yn effeithio ar fenywod na fydd y GIG yn eu gwahodd ar gyfer sgrinio fel mater o drefn. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gymhwystra ar gyfer sgrinio o 30 oed ymlaen, gan ystyried dulliau sgrinio sy'n briodol i oedran, asesiadau risg unigol, a mynediad cynharach i fenywod sy’n fwy tebygol o gael canser y fron.
Rwyf hefyd am weld addysg well am ganser y fron, mwy o ymwybyddiaeth o’r symptomau, ac asesiad amserol i fenywod iau sydd â phryderon ynghylch canser y fron.
Dylai unrhyw adolygiad ystyried manteision sgrinio, a’r niwed a all ddeillio ohono, gan gynnwys canlyniadau positif anghywir a gweithdrefnau diangen. Fy nod yw helpu i wella canfod canser yn gynnar a sicrhau nad yw menywod iau ledled Cymru yn cael eu hesgeuluso.
Rhy ifanc ar gyfer eu sgrinio, ond digon hen i gael canser.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 229 o'r 266 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Fflint Wrecsam | 129 |
| Gwynedd Maldwyn | 90 |
| Clwyd | 8 |
| Bangor Conwy Môn | 1 |
| Caerdydd Penarth | 1 |