Sefydlu llwybr gofal cenedlaethol ar gyfer Anhwylder Osgoi/Cyfyngu o ran Bwyd (ARFID) a hyfforddiant diagnostig yn holl fyrddau iechyd GIG Cymru
Ar agor i'w llofnodi tan 6 Mai 2027.
5 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae ARFID yn anhwylder bwyta difrifol sy'n effeithio’n anghymesur ar bobl awtistig. Nid oes gan GIG Cymru lwybr clinigol cenedlaethol cyson ar gyfer ARFID, sy’n gadael plant ac oedolion heb ddiagnosis na gofal. Mae cleifion yn cael eu gwrthod yn rheolaidd gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a gwasanaethau anhwylderau bwyta, a hynny am nad yw ARFID yn deillio o bryderon am ddelwedd y corff. Mae'r methiant strwythurol hwn yn achosi diffyg maeth difrifol, cyfnodau yn yr ysbyty y mae modd eu hosgoi, a thrawma. Rhaid i fyrddau iechyd Cymru sefydlu gwasanaethau a hyfforddiant ARFID pwrpasol.
Rhagor o fanylion
Mae Anhwylder Osgoi/Cyfyngu o ran Bwyd (ARFID) yn anhwylder bwyta difrifol a gydnabyddir yn y Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddwl, Pumed Argraffiad (DSM-5), ac fe’i nodweddir gan gyfyngu difrifol o ran bwyd ar sail priodoleddau synhwyraidd, ofn pethau gwrthnaws, neu ddiffyg diddordeb mewn bwyta. Mae'n wahanol i anorecsia a bwlimia, gan nad yw'n deillio o bryderon am ddelwedd y corff.
Mae ymchwil yn dangos ei fod yn cyd-ddigwydd yn sylweddol â niwroamrywiaeth: mae hyd at 21% o unigolion awtistig yn cael ARFID, ond nid yw darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru yn ystyried y cysylltiad hwn. Ar draws Byrddau Iechyd, mae’r diffyg llwybrau clinigol diffiniedig yn golygu bod cleifion yn rheolaidd yn cael eu hanfon yn ôl ac ymlaen neu eu gwrthod gan CAMHS, gwasanaethau anhwylderau bwyta i oedolion, gwasanaethau deieteg a gwasanaethau pediatreg.
Mae Beat Eating Disorders yn tynnu sylw at y ffaith bod ymyrraeth ohiriedig yn arwain at gamfaethiad, bwydo trwy diwb, gofid seicolegol difrifol, a chyfnodau yn yr ysbyty y mae modd eu hosgoi. Bydd sefydlu llwybrau diagnostig safonol a hyfforddiant gorfodol i'r gweithlu ar draws GIG Cymru yn atal dirywiad clinigol hirdymor a methiant systemig.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 5 o'r 5 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Casnewydd Islwyn | 2 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 2 |
| Sir Gaerfyrddin | 1 |