Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 10:30
- Cyfraniadau
- 114
- Geiriau a lefarwyd
- 10,553
- Lleoliad
- Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Agor y cyfarfod
Cyfarfu'r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 10:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i chi i gyd i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y chweched Senedd. Croeso i'r Aelodau sydd yn ffurfio'r pwyllgor yma i'n cyfarfod cyntaf ni. A gaf i yn ffurfiol ddiolch am y fraint o gael cadeirio'r pwyllgor hefyd? Dwi'n ei chyfri'n anrhydedd fawr a dwi'n edrych ymlaen at chwarae rôl ragweithiol gyda holl aelodau'r pwyllgor yma i sicrhau ein bod ni'n cyflawni dyletswyddau, wrth gwrs, ond hefyd ein bod ni'n gweithio ar draws ffiniau pleidiau gwleidyddol a chwarae rhan ragweithiol i greu y Gymru well dwi'n gwybod ein bod ni i gyd eisiau ei gweld. Felly, diolch i chi a chroeso i bawb.
Mi awn ni felly at yr agenda y bore yma. Does yna ddim ymddiheuriadau; mae pawb yn bresennol. Dwi jest eisiau esbonio bod y cyfarfod yn digwydd yn ddwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael i'r Aelodau sy'n dymuno hynny. A gaf i atgoffa Aelodau hefyd bod dim angen i chi weithredu eich meicroffonau eich hunain? Mae'r cyfan yn cael ei wneud drosoch chi. A gaf i ofyn ar y cychwyn a oes unrhyw ddatganiadau o fuddiannau gan unrhyw Aelod? Na. Iawn. Dwi'n siŵr os oes yna rywbeth yn dod i'r amlwg yng nghwrs ein cyfarfodydd ni, fe wnewch chi dynnu sylw at hynny pan fydd hynny'n digwydd.