Economy, Trade, and Rural Affairs Committee
- Dechrau
- 09:39
- Cyfraniadau
- 4
- Geiriau a lefarwyd
- 383
- Lleoliad
- Committee Room 5 - Tŷ Hywel
Agor y cyfarfod
Cyfarfu'r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:39.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. A gaf i groesawu pawb i gyfarfod cyntaf Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y chweched Senedd? Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dwi wedi penderfynu y caiff y cyhoedd eu gwahardd o gyfarfod y pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv. Dŷn ni ddim wedi cael gwybod am unrhyw ymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod heddiw. Mae'r pwyllgor hefyd wedi cytuno, os byddaf yn cael unrhyw broblemau technegol, y bydd Hefin David yn cadeirio'r cyfarfod dros dro nes y gallaf ailddechrau cadeirio.
A gaf fi nawr wahodd Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau? Oes unrhyw fuddiannau gyda Aelodau licen nhw eu gwneud? Nac oes. Dyna ni. Diolch yn fawr iawn.