Rwy'n meddwl yn allweddol, yn y lle cyntaf, mae'n dod i'r cwestiwn o ariannu gwasanaethau darlledu cyhoeddus, achos dyna'r newid enfawr rydyn ni'n ei weld, ac rwy'n derbyn bod hwn yn fater i Lywodraethau ac i'r DCMS, ond mae beth sy'n cael ei fwydo i mewn gan Ofcom yn allweddol hefyd. Os ydych chi'n edrych ar sefyllfa Netflix yn ymrwymo i wario £750 miliwn yn y Deyrnas Unedig eleni ar gynnwys newydd i Netflix, mae hwnna'n fwy na chyllideb cynnwys Channel 4 mewn blwyddyn o ryw £100 miliwn; mae e'n sylweddol yn fwy, wrth gwrs, na chyllideb cynnwys S4C.
Yr effaith mae e'n ei gael, yn aml iawn, yw ei fod yn dod â gwaith newydd, mae'n dod â chyfleoedd newydd, mae yna gyfle i gystadlu, sydd yn ffantastig, ond mae cystadlu yn erbyn y gwaith yna ar y tariffau, ar y prisiau sydd yn cael eu cynnig gan wasanaethau darlledu cyhoeddus, yn dod yn fwy ac yn fwy ac yn fwy anodd. Mae yna wasgfa wedi bod ar y gwasanaethau hynny yn sgil y pandemig, wrth reswm. Mae yna wasgfa anferth wedi bod ar gwmnïau cynhyrchu, sydd wedi colli trosiant sylweddol, sydd wedi gorfod talu'n sylweddol iawn am gostau i fedru cynhyrchu a ffilmio o fewn amodau COVID felly yn y cyfnod yma. Mae hwnna, yn y tymor hir, dwi'n meddwl, wrth i SVOD fuddsoddi mwy a mwy a mwy—. Nid llwyddiant dros nos yw Squid Game. Mae Netflix wedi buddsoddi £0.5 biliwn i gynhyrchu a chomisiynu cynnwys newydd yn benodol o Dde Corea, ac wedi gwneud gwaith manwl iawn yn gweld sut mae'r math arbennig yna o hiwmor tywyll yn llwyddo yn rhyngwladol, ac yn cefnogi ac yn datblygu hynny.
Dwi'n meddwl bod dibynnu yn llwyr ar systemau o reoleiddio ac o gael cylch gorchwyl unigol i ddarlledwyr cyhoeddus, sydd yn dueddol o fod yn snapshot o'r cyfnod sydd wedi bod, yn arwain lan at nawr, i gystadlu yn effeithiol yn erbyn cwmnïau sydd â'u blaenoriaeth nhw nawr, fel y mae Disney, i fod â mwy o danysgrifwyr byd eang na Netflix erbyn 2026—. Fi jest yn teimlo bod y cloc yn tician ar y cyfnod siarter yma. Oes, mae yna awgrymiadau arbennig o dda yma, ond dwi'n meddwl bod yn rhaid inni gael mwy o gadernid mewn rhai llefydd, fel yr amlygrwydd roedd Alun yn sôn amdano fe yn y sesiynau yn gynharach, os ŷn ni wir, wir, wir yn mynd i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau yma yn llwyddo. A hefyd bod yn realistig: nid pob sioe sy'n mynd i lwyddo yn rhyngwladol. Mae yna alw; mae yna gwmnïau sydd yn arbenigo mewn creu cynyrchiadau sydd efallai'n benodol o ddiddordeb yn bennaf i wylwyr a gwrandawyr o fewn Cymru. Does dim byd o'i le ar hynny—mae hynny'n iach iawn o ran ein datblygiad ni. Mae yna berygl efallai bod hwnna'n mynd yn ariannol anghynaliadwy oherwydd nad oes arian digonol ar gael i'w gynnal e a'n bod ni'n gweld yr elfennau hynny sydd yn hollbwysig o ran gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddo ac yn para.
Felly, dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych ar y ddau beth yna a dim diystyru un yn erbyn llall, achos ble arall bydd y cynnwys yna ar gael? Rwy'n mynd yn ôl at yr enghraifft yna o rygbi, ond mae hwnna, i fi, yn drobwynt. Mae'n fy atgoffa i o pan wnaeth Netflix gyhoeddi eu bod yn gwneud cyfres gyda David Attenborough. Roedd David Attenborough yn cael ei weld fel rhywun sacrosanct y BBC. Roedd e'n rheolwr ar BBC2; fe wnaeth e gyflwyno teledu lliw am y tro cyntaf, ond nawr, mae'n wyneb hefyd sydd i'w weld ar Netflix. Felly, buaswn i wir yn hoffi gweld mwy o ffocws a mwy o ewyllys yn sicr gan y Llywodraeth a gan y DCMS i weld gwasanaethau darlledu cyhoeddus yn llwyddo. Mae rhai o'r pethau—