Dwi'n hapus i ddechrau, ac wedyn pasio ymlaen i Jen. Felly, mae wedi bod yn flwyddyn brysur iawn. Pan wnes i ailddarllen yr adroddiad, roedd yn amlwg ein bod ni wedi bod yn brysur iawn. Er enghraifft, fe wnaethon ni roi ein barn ar lot o bethau: ffyrdd, wrth gwrs, ar gychwyn y flwyddyn diwethaf; bioamrywiaeth, yn sôn am sut i gael dinasoedd a threfi yng Nghymru i groesawu mwy o natur yn yr adeiladau ac yn y blaen; TAN 15, ymgynghoriad ar lifogydd yng Nghymru a sut rŷn ni'n mynd i ddelio efo hyn yn y dyfodol, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n gweithio ar hwn yn y prosiect y flwyddyn hon. Mi wnaethon ni roi tystiolaeth ar Fil Seilwaith (Cymru). Rŷn ni wedi ysgrifennu at Lywodraethau gwahanol ym Mhrydain i ofyn am fwy o weithio gyda'n gilydd ar y grid. Ac un peth o ddiddordeb mawr iawn i fi yw gadael Trydar a defnyddio ffyrdd eraill i gysylltu efo pobl. So, y rhain oedd dim ond y barnau anffurfiol roedden ni'n eu gwneud i drio rhoi barn; nid awgrymiadau i Lywodraeth Cymru, ond dweud beth rŷn ni, fel comisiwn, yn ei feddwl am bethau gwahanol. Wedyn, wrth gwrs, roedd yna adroddiad ffurfiol, gydag awgrymiadau am ynni adnewyddadwy. A hefyd mi wnaethon ni wneud eithaf tipyn o waith ar draws Cymru gyda study tours i drio ffeindio mas beth sy'n digwydd gyda seilwaith mewn llefydd gwahanol, gan gynnwys llifogydd yn y gogledd ac ynni adnewyddadwy yn y canolbarth, a gyda'r porthladd yn sir Benfro.
Rŷn ni wedi gweithio gyda sawl sefydliad arall i gynnal digwyddiadau, er enghraifft, gweithio efo'r consumer water organisation, yn trio ffeindio mas mwy am y seilwaith dŵr yng Nghymru, a hefyd efo'r Royal Town Planning Institute. Hwn oedd y cwestiwn ges i yn wreiddiol, yn gofyn, 'Pan ti’n gadael Lloegr a dod i Gymru, beth yw’r gwahaniaeth?' Achos, i fi, pan ti’n croesi’r Hafren, ti jest yn gweld y byddai'n gallu bod bron yr un lle. Nawr, nid cweit cymaint â hyd yn oed blwyddyn yn ôl, achos ti'n gweld bod y fan yma'n ddwyieithog, ac mae rhai pethau’n wahanol, a hefyd dwi'n teimlo, dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, pan dwi'n ymweld â llefydd yn Lloegr, dwi'n teimlo bod y seilwaith seiclo, er enghraifft, yn edrych yn well, yn gyffredinol, yng Nghymru, ond ti’n dal yn methu dweud, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, dy fod yn gweld gwahaniaeth enfawr efo seilwaith. So, ni wedi gwneud dau sesiwn, un yn y gogledd ac un yn y de, efo RTPI i drafod hyn.
Dwi'n teimlo ein bod ni wedi gwneud lot o bethau sydd o ddiddordeb, a gobeithio o ddefnydd. Un o'r cwestiynau y llynedd oedd gwerth am arian o ran y gwariant ar y comisiwn, ac rŷn ni'n gallu mynd mewn i hwn gyda'r adroddiad ynni adnewyddadwy. Ond dwi'n gobeithio bod gan y farn rŷn ni wedi'i roi am bethau fel natur, a phethau arall, werth ariannol. Ac, wrth gwrs, os ydy'r Llywodraeth yn derbyn rhai o'r awgrymiadau allan o'r adroddiad ynni adnewyddadwy, rŷn ni'n gobeithio cael lot mwy o werth yn aros yng Nghymru. Ond dwi'n hapus i basio at Jen.