Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 3
- Geiriau a lefarwyd
- 178
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. A oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld bod yna rai.
2. Papurau i'w nodi
Felly, fe wnawn ni symud yn syth at eitem 2, sef papurau i'w nodi. Mae gennym ni sawl papur yn ein pecynnau i'w nodi. Jest ar gyfer unrhyw un sydd wedi ysgrifennu i mewn at y pwyllgor, byddwn ni yn ystyried y rhain yn ddyfnach mewn sesiwn breifat hefyd, ond jest i chi fod yn ymwybodol, dŷn ni yn nodi'r rhain. A oedd gan unrhyw un unrhyw beth roedden nhw eisiau dweud ar y record am unrhyw beth? Na, dwi ddim gweld bod unrhyw beth, felly fe wnawn ni nodi'r papurau hynny a symud at eitem 3.