Os caf i ddod i mewn yn fanna, dwi'n meddwl os byddwn i'n bod yn gwbl onest, dyma un o'r prif heriau neu un o'r brif pryderon sydd gan ein hysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ni ar hyn o bryd. Mae chweched dosbarth mewn sefyllfa fregus iawn. Mae ysgolion mewn sefyllfa fregus iawn oherwydd y cyllidebau sydd ar gael i ysgolion yn gyffredinol, ac yn fwy, felly, ar lefel y chweched dosbarth, yn amlwg, lle mae'r niferoedd yn is. Ac yn groes i egwyddor ysgol, pan mae penderfyniadau yn cael eu gyrru gan gyllid a rhifau ar bapur, mae e'n creu her i ysgolion.
Dwi'n meddwl mai'r broblem sydd gennym ni ydy nad ydy hi'n level playing field. Felly, tra ein bod ni eisiau llwybrau cyfrwng Cymraeg a chyn gymaint o Gymraeg a darpariaeth ddwyieithog ag sydd yn bosib ym mhob un sector, y llwybrau gorau, y dilyniant gorau i bob dysgwr rydyn ni ei eisiau ar ddiwedd y dydd. Ond mae'r tir cystadlu yna mor anghyfartal o safbwynt cyllid, lle mae'n bosib cael grantiau allanol, lle mae'n bosib cael nawdd allanol ac yn y blaen, lle mae ysgolion o reidrwydd o dan anfantais.
Dwi'n meddwl beth sydd hefyd yn bwysig inni fod yn meddwl amdano ydy ein bod ni eisiau gweld y datblygiadau yma ym mhob sector. Rydym ni eisiau darpariaeth ddwyieithog. Rydym ni eisiau darpariaeth Gymraeg. Ond beth sy'n allweddol ydy nad yw hynny ar draul darpariaeth mewn sector arall. Dwi'n meddwl bod yna bryderon mewn ambell i le neu ambell i gyd-destun lle mae yna ddatblygiadau cyffrous efallai yn digwydd mewn un sefydliad, ond efallai beth rydyn ni'n ei wneud mewn gwirionedd ydy symud dysgwyr o un lle i le arall, ac os nad ydy'r ddarpariaeth yna yn gyflawn wedyn o ran cyfrwng Cymraeg, yn anffodus, beth rydyn ni'n ei weld ydy llithro am yn ôl, wedyn, o ran defnydd iaith y dysgwyr yna. Ond dwi'n dweud hwnna fel dyma'r her sydd gennym ni, ond dwi'n meddwl mai dyma lle mae'r cyfle hefyd.
Fel roedd Ioan yn cyfeirio ato rŵan, o ran y cynllun o safbwynt darpariaeth Cymraeg yng nghyd-destun gwaith Medr, yn amlwg, mae'r newidiadau yn frawychus ar sawl gwedd o'r hyn sy'n digwydd yn y sector ôl-16. Yn y fan yma, mae yna gyfle i edrych o ddifrif ar yr heriau sydd yn wynebu ysgolion â chweched dosbarth. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig ydy'r chweched dosbarth i fywyd yr ysgol, pa mor bwysig ydy o o ran dilyniant mewn addysg Gymraeg, mor bwysig ydy o o ran dilyniant yn y defnydd o sgiliau Cymraeg drwodd i addysg uwch neu i yrfaoedd ac yn y blaen. Felly, rydyn ni'n gwybod bod yna bwysigrwydd a gwerth i'r chweched dosbarth, ond beth sydd gennym ni ydy heriau cyllidol yn milwrio yn erbyn hynny. Ac felly, pan fyddwn ni, gobeithio, yn cyfrannu at ddatblygu'r cynllun yna, beth fyddwn ni'n gallu gwneud ydy sicrhau bod yna fformwlâu cyllido sy'n deg, bod yna gynllunio sydd yn deg ac yn rhesymol, a bod yna gydweithio pwrpasol hefyd.
Does yna ddim gwrthwynebiad o gwbl mewn ysgolion i gydweithio, wir. Mae yna nifer o ysgolion sy'n cydweithio â'u colegau addysg bellach lleol. Mae hwnna'n gweithio o fewn pynciau a meysydd penodol. Yn yr un modd, mae nifer o ysgolion yn pwlio eu hadnoddau at ei gilydd er mwyn cydweithio i ddarparu. Lle mae'r cydweithio'n mynd yn broblem ydy pan mae o'n troi o fod yn gydweithio i fod yn gystadleuaeth, a dyna beth rydyn ni eisiau ei osgoi. Beth rydyn ni eisiau ei sicrhau ydy bod unrhyw fuddsoddi mewn darpariaeth yn deg, yn rhesymol, ac yn dod yn ôl at beth sydd orau i'r dysgwr ar ddiwedd y dydd, yn hytrach na beth sydd yn arwain at lenwi coffrau rhyw sefydliad neu'i gilydd. Mae hwnna'n allweddol. Fel dwi'n dweud, mae yna heriau mawr ac mae yna bryderon difrifol yn ein hysgolion ni, ond gobeithio, trwy gydweithio a bod yna fewnbwn llawn gan ysgolion i'r broses o ddatblygu'r cynllun yna ac i gydweithio â Medr yn gyffredinol, efallai ein bod ni'n gallu mynd i'r afael â'r heriau yma rŵan.