Diolch yn fawr, Cadeirydd. Mae'n bleser gen i i symud y gwelliant cyntaf yn y grŵp cyntaf ger ein bron heddiw. Jest ar y dechrau, hoffwn i ategu'r sylwadau y gwnaethom ni eu rhoi yn ystod y ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol, sef ein bod ni'n cefnogi amcanion y Bil yn gyffredinol. Mae'r camau yma sydd yn gwella hygyrchedd deddfwriaeth Cymru yn werthfawr iawn, ac rŷn ni'n cytuno gyda'r egwyddorion sylfaenol hynny.
Ond mae yna rai meysydd lle rŷn ni eisiau mireinio'r Bil, ac un ohonyn nhw ydy'r cwestiwn yma o sut i wella'r broses o graffu ar is-ddeddfwriaeth. Mae hi'n thema, wrth gwrs, lle rŷn ni yn y pwyllgor yma wedi mynegi rhai pryderon ynglŷn â'r duedd yn gyffredinol—nid yn unig, a bod yn deg, yn y Senedd yma, ond mae e'n dueddiad rŷn ni'n ei weld ar draws y byd democrataidd, a dweud y gwir—bod llywodraethau'n dibynnu'n fwyfwy ar is-ddeddfwriaeth er mwyn cwrdd â'u bwriadau polisi. Mae yna wagle wedi agor lan o ran atebolrwydd democrataidd yn sgil hynny, a beth rŷn ni'n ceisio ei wneud yn y gwelliant yma, ac yn y gwelliannau yn y grŵp nesaf y byddaf i'n cyfeirio atyn nhw maes o law, ydy dod lan â datrysiad i'r her yma sydd yn taro balans, a dweud y gwir, rhwng yr angen i unrhyw lywodraeth sicrhau eu rhaglen ddeddfwriaethol a'u bwriadau polisi a’r angen i gael atebolrwydd democrataidd effeithiol.
Y broblem yn ei chrynswth yw, ar hyn o bryd, gydag is-ddeddfwriaeth, fod y cyfle sy’n cael ei osod gerbron y Senedd yn binary, onid yw e? Mae e’n, 'Cymerwch e neu beidio', 'Take it or leave it', a dyw hwnna ddim yn gadael, wedyn, i gefnogaeth amodol neu i nuance gael eu hadlewyrchu ym mhenderfyniadau’r Senedd. Felly, beth rŷn ni’n ei wneud yn y gwelliant yma ydy cynnig trydydd opsiwn—hynny yw, i’r Senedd ofyn i'r Llywodraeth ailfeddwl. Mae’n cael ei ddisgrifio yn aml fel y 'think again option', a beth rŷn ni’n ei wneud yn y gwelliant yma, a dweud y gwir, ydy adlewyrchu neu drosi cymal tebyg mewn Bil sydd gerbron Tŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd, sef y Statutory Instruments (Amendments) Bill gan yr Arglwydd Gresford, sydd yn ceisio gwneud yr un peth. Wrth gwrs, yn eu cyd-destun nhw, maen nhw’n ei wneud e mewn cyd-destun dwy siambr—hynny yw, hala neges at Dŷ’r Cyffredin; yn ein cyd-destun ni, hala neges at y Llywodraeth, a gofyn i’r Llywodraeth ailfeddwl ar sail gwelliant sydd yn crynhoi pryder penodol gan y Senedd.
Byddai’r gwelliant, felly, yn caniatáu i’r Senedd gymeradwyo offeryn statudol yn amodol ar ddiwygiadau a fyddai’n cael eu pennu yn y penderfyniad, ac, yn dilyn hynny, gall y Llywodraeth benderfynu a ddylid gwneud yr offeryn fel y’i diwygiwyd neu dynnu’r drafft yn ôl. Mae hwn yn dal i sicrhau mai’r Llywodraeth sy’n parhau i fod yn awdurdod cyfrifol sy’n arfer y grym dirprwyedig i wneud y ddeddfwriaeth. Felly, mae hyn adlewyrchu natur y system gyfansoddiadol, os mynnwch chi. Mae hefyd yn atal y Senedd rhag gorfodi’r awdurdod cyfrifol i wneud offeryn sydd y tu hwnt i bwerau galluogi, neu nad yw’n gweithio am ryw reswm arall, hynny yw. So, yn syml iawn, mae’n galluogi’r Senedd i adlewyrchu barn y Senedd, i ofyn i’r Llywodraeth wedyn ailfeddwl, ac ystyried dod ag offeryn diwygiedig yn ôl.
Un peth arall i'w nodi yw y byddai’r weithdrefn yma'n berthnasol i offerynnau statudol Cymreig yn unig. Felly, ni fydd y prosesau arfaethedig yn y gwelliant yma yn berthnasol i offerynnau statudol ar y cyd neu gyfansawdd, nac i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor, a fydd yn parhau i gael eu gosod fel 'offerynnau statudol' yn hytrach nag 'offerynnau statudol Cymreig'. Gyda hyn o sylwadau agoriadol, Cadeirydd, fe wnaf i adael i Aelodau eraill leisio barn ac i glywed gan y Gweinidog cyn ymateb ymhellach.