Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:29
- Cyfraniadau
- 216
- Geiriau a lefarwyd
- 12,125
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:29.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Welcome, everyone, to this meeting of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee. We are also welcoming Hannah Blythyn, from the Economy, Trade and Rural Affairs Committee, Mike Hedges and Adam Price, from the Legislation, Justice and Constitution Committee, and Llyr Huws Gruffydd, from the Climate Change, Environment and Infrastructure Committee. A very warm welcome to you all. We have received apologies from Andrew R.T. Davies and Lee Waters, and Mick Antoniw will be joining us later on.
2. Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE: Sesiwn dystiolaeth gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS
Dŷn ni'n edrych ar adolygiad o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y pwyllgor mawr, sydd gyda ni y bore yma, yn clywed tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ar yr adolygiad o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu. Fel bydd pobl sydd yn gwylio'r pwyllgor y bore yma yn gweld, mae aelodau o bedwar o bwyllgorau'r Senedd yn cael eu cynrychioli yma yn yr ystafell ac yn cymryd y dystiolaeth, achos dŷn ni i gyd, fel pwyllgorau, yn gweithio i sicrhau bod persbectif Cymreig yn cael ei gyfrannu at y broses adolygu honno. Felly, gwnaf symud yn syth ymlaen a gofyn i'n tystion ni i gyflwyno eu hunain ar gyfer y record. Os byddech chi mor garedig, Ysgrifennydd y Cabinet, â chyflwyno eich hunan a hefyd ein tystion?