Finance Committee
- Dechrau
- 09:32
- Cyfraniadau
- 143
- Geiriau a lefarwyd
- 9,200
- Lleoliad
- Committee Room 3 - Senedd
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:32.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da a chroeso i'r cyfarfod yma o'r Pwyllgor Cyllid. Mae'n braf gweld bod yr Aelodau i gyd yma ar-lein, ac mae gennym ni ein tystion efo ni y bore yma. Mae'r cyfarfod yma'n cael ei ddarlledu'n fyw ar Senedd.tv, a bydd Cofnod y Trafodion ar gael, wedi ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Dwi jest yn siecio os oes gan unrhyw un unrhyw fuddion i'w datgan. Na, dwi ddim yn gweld neb yn gwneud hynny. Fel dwi'n dweud, mae pawb yma, felly fe wnawn ni symud ymlaen i'r papurau i'w nodi.
2. Papurau i'w nodi
Mae gennym ni bedwar papur y bore yma. Ydyn ni'n hapus i'w nodi nhw? Ydyn. Mae pawb yn nodi'r rheini, felly fe wnawn ni symud ymlaen i eitem 3.