Finance Committee
- Dechrau
- 10:00
- Cyfraniadau
- 116
- Geiriau a lefarwyd
- 5,690
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd rhan gyhoeddus y cyfarfod am 10:00.
3. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes i'r cyfarfod yma o'r Pwyllgor Cyllid ac rydyn ni yma y bore yma. Mae gennym ni un ymddiheuriad gan fod Rhianon Passmore wedi methu dod y bore yma, ac rydyn ni wedi derbyn yr ymddiheuriad yna. Mae'r cyfarfod yma yn mynd i gael ei ddarlledu'n fyw ar Senedd.tv a bydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'r cyfarfod yma hefyd yn ddwyieithog felly mae cyfieithu ar y pryd ar gael, ac mi fydd yna Gofnod y Trafodion ar gael yn ôl yr arfer. A gaf i ofyn a oes gan unrhyw un fuddiannau i'w nodi? Na, dwi ddim yn gweld neb. Yn y cyfarfod ar 6 Mawrth, cytunodd y pwyllgor ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o ddechrau cyfarfod y bore yma, so mae hynny'n ffein.
4. Papurau i'w nodi
Fe wnawn ni felly symud ymlaen i eitem 4, ac eitem 4 ydy papurau i'w nodi.