Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 10:26
- Cyfraniadau
- 456
- Geiriau a lefarwyd
- 31,413
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd rhan gyhoeddus y cyfarfod am 10:26.
2. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes i bawb i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Croeso i Aelodau i'r pwyllgor a'r cyfarfod. Rŷn ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Joyce Watson a Delyth Jewell, ynghyd â Julie Morgan. Ac rŷn ni'n croesawu Heledd Fychan, sydd yn dirprwyo ar ran Delyth. Felly, croeso cynnes atom ni.
Mae'r cyfarfod yma yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid, ac ar wahân i addasiadau’n ymwneud â chynnal y trafodion yn y fformat hwnnw, mae holl ofynion eraill y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mi fydd yr eitemau cyhoeddus yn cael eu darlledu’n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna gofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi, fel sydd yn digwydd bob tro.
Mae'n gyfarfod dwyieithog, ac felly mae yna offer cyfieithu ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Os bydd larwm tân yn canu, a dŷn ni ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, mi ddylai Aelodau a thystion adael yr ystafell drwy’r allanfeydd tân a dilyn y cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a staff.
A gaf i jest wneud yn siŵr bod pawb wedi diffodd unrhyw ddyfeisiadau symudol sydd gennych chi, neu o leiaf eu rhoi nhw yn y modd tawel, fel eu bod nhw ddim yn tarfu ar y cyfarfod? Cyn i ni fwrw iddi, a gaf i ofyn a oes gan unrhyw Aelod fuddiannau i’w datgan? Nac oes. Diolch yn fawr iawn.