Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:31
- Cyfraniadau
- 465
- Geiriau a lefarwyd
- 34,094
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:31.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da, bawb. Croeso i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Croeso i Aelodau i'r cyfarfod. Mae yna ymddiheuriad wedi'i dderbyn gan Delyth Jewell, sydd ddim yn gallu bod gyda ni'r bore yma, a dwi'n ymwybodol y bydd Joyce Watson yn ymuno â ni nes ymlaen. Mae'r cyfarfod, wrth gwrs, yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid heddiw ac ar wahân i addasiadau sy'n ymwneud â chynnal y trafodion ar ffurf hybrid, mae holl ofynion eraill y Rheolau Sefydlog yn parhau. Mi fydd eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna Gofnod o'r Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae hwn yn gyfarfod dwyieithog, felly, wrth gwrs, mae yna offer cyfieithu ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Gaf i esbonio hefyd os bydd larwm tân yn canu, mae angen i Aelodau a thystion adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a'r staff? Dŷn ni ddim yn disgwyl ymarferiad, ond yn amlwg bydd angen ymateb i hynny os digwydd e. Gaf i ofyn i Aelodau hefyd sicrhau bod unrhyw ddyfeisiadau symudol sydd gennych chi wedi'u rhoi ar y modd tawel os yn bosib? A gaf i ofyn hefyd cyn cychwyn os oes yna unrhyw fuddiannau gan unrhyw un i'w datgan? Na, dim buddiannau, dyna ni.