Ie, diolch yn fawr. Mae'r cwestiwn yn un pwysig. Dwi'n credu, fel dwi wedi'i ddweud, weithiau mae yna ganfyddiad o grwpiau neu garfannau gwahanol, efallai, yn siarad gwahanol fathau o Gymraeg. Roedd hwnna wedi dod yn amlwg trwy fy ngwaith i: mae rhai unigolion ddim yn teimlo eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg yn ddigon cywir, efallai, neu ddim yn teimlo bod eu Cymraeg nhw o safon. Dwi ddim yn credu bod hynny ddim ond yn perthyn i ardaloedd dwysedd is; dwi'n credu bod hyn, efallai, yn perthyn i sawl cymuned ledled Cymru.
Dwi'n credu bod y pwynt ynglŷn â rhwystrau a sut rydyn ni'n dod dros y rhwystrau yma'n bwysig iawn. Dwi'n credu bod y Bil newydd—Bil y Gymraeg ac addysg—yn lechen lân. Mae'n gyfle i ni edrych ar sut mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu yn ein hysgolion ni. Dwi'n cytuno'n llwyr â'r pwynt ynglŷn â chontinwwm ieithyddol. Dwi'n credu efallai, yn y gorffennol, oherwydd y system addysg a ffactorau strwythurol eraill, rŷn ni wedi bod mewn sefyllfa lle roeddet ti'n siarad Cymraeg neu doeddet ti ddim yn siarad Cymraeg mewn ysgol, a dwi ddim yn credu bod hynny wedi helpu. Dwi'n credu bod nifer o'n disgyblion ni ddim wedi cael y cyfleoedd ddylen nhw i ymwneud â'r Gymraeg. Felly, dwi'n credu, gyda'r cwricwlwm newydd—dwi'n dweud 'newydd'; y cwricwlwm mwy diweddar sydd wedi dod i Gymru—a'r Bil addysg, dwi'n credu dŷn ni angen dechrau sôn am deithiau iaith, continwwm iaith, a dŷn ni angen deall ein bod ni gyd yn dal i ddysgu ynglŷn â'r Gymraeg. Rŷn ni i gyd yn dal ar ein teithiau ni.
So, wnes i dyfu lan mewn ardal lle doeddwn i ddim yn gallu mynd i brynu torth o fara'n Gymraeg; doeddwn i ddim yn gallu siarad am bethau dros y bwrdd bwyd gyda fy rhieni i ychwaith yn Gymraeg, ond trwy astudio o fewn y brifysgol a thrwy weithio yn y Gymraeg, dwi wedi gallu cynnal sgiliau iaith, ac wedyn dwi wedi gallu creu rhwydweithiau o ffrindiau'n dod o hynny. Felly, mae yna sawl pau neu sffêr defnydd iaith o fewn y gymdeithas a dwi'n credu, os wyt ti'n gallu cael rhywbeth sydd yn gallu cynnal dy sgiliau di, mae'n gallu golygu dy fod yn gallu ymwneud â'r Gymraeg mewn meysydd eraill.
Ond dwi'n credu bod torri lawr rhwystrau'n rili anodd. Dwi'n credu bod modelau rôl, efallai, yn un peth pwysig fanna, neu gatalyddion iaith. O fewn yr ardal y gwnes i ymchwil ynddi, dwi'n credu bod gweld athrawon a oedd yn siarad yn debyg, yn swnio'n debyg, wedi bod trwy brofiadau tebyg, efallai wedi rhoi rhyw fath o ysbrydoliaeth i unigolion eraill. Mae siaradwyr Cymraeg yn swnio'n wahanol ledled Cymru. Mae acenion yn wahanol. Felly, dwi'n credu bod yr ardal leol yn bwysig, so lle rydyn ni'n dysgu'r iaith a sut rydyn ni'n gallu creu cysylltiadau positif gyda'r Gymraeg.
Roeddet ti'n sôn am y syniad hwn o snobyddiaeth. Buasech chi'n gallu dadlau, ar un lefel, o bosib, fod yna hierarchy, neu o leiaf canfyddiad o hierarchy, o blith rhai pobl sydd efallai ddim yn teimlo bod eu sgiliau iaith neu eu hyder nhw'n caniatáu iddyn nhw fod yn rhan o hyn, ond dwi'n grediniol ein bod ni'n gallu gwneud rhywbeth am hynny, ein bod ni'n gallu cofleidio gwahanol fathau o Gymraeg. Dyna beth sy’n gyfoethog am yr iaith Gymraeg, onid yw e, fod pawb yn swnio’n wahanol yn dod o ardaloedd gwahanol.