Bore da, everyone. Welcome to today's meeting of the Children, Young People and Education Committee. In the absence of the Chair, Buffy Williams, the first item on today's agenda is the election of a temporary Chair for the duration of today's meeting. Therefore, under Standing Order 17.22, I call for nominations for a temporary Chair.
Thank you. Are there any other nominations? I see that there are none. I therefore propose that Vaughan Gething is appointed temporary Chair of the committee for today's meeting. Are there any objections? I see there are none and invite Vaughan to take the chair.
Welcome to the Children, Young People and Education Committee. Public items are being broadcast as usual. The meeting is bilingual, with simultaneous translation to English from Welsh. Are there any declarations of interest from Members?
Os caf i ddechrau, Cadeirydd, fel mae’r rhan fwyaf yn gwybod, mi fues i’n rhan o ddatblygu'r Bil hwn fel Aelod dynodedig, ac roedd hynny’n rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, ond fe ddaeth y cytundeb i ben cyn bod y drafft cyntaf o’r Bil yn cael ei gyhoeddi. Felly, mae’n werth nodi hynny a’i roi e ar y record.
Diolch, Cefin. Thank you. Buffy Williams has sent her apologies for today, so Joyce Watson is attending in her place. Welcome, Joyce. Natasha Asghar has sent apologies. Samuel Kurtz is leading for the Welsh Conservatives on this Bill, so welcome, Sam, and welcome, Joyce.
And welcome to your officials, Sioned Tobias, Bethan Webb and Siwan Daniel. Welcome.
I'd like to be able to move straight into proceedings. We're going to go through the housekeeping about proceedings and how the meeting will run. So, we're here for Stage 2 proceedings on the Welsh Language and Education (Wales) Bill. Members, you should have before you a marshalled list of amendments and the groupings of the amendments for debate. We have 27 groups to run through.
The marshalled list is the list of all the amendments tabled, marshalled in the order agreed by the committee, so we'll consider the amendments as are outlined on the agenda. This should be familiar to people who have done Bills in committee and, indeed, in the Chamber before as well. So, the groupings have been grouped to facilitate debate. The order in which Members are called to move to a decision is dictated by the marshalled list that you've all got before you. I'll advise Members when I call them whether they're being called to speak in the debate or to move their amendments for a decision.
There's one debate for each group of amendments. Members who wish to speak should do so by indicating with their hands in the usual way. I will call the Cabinet Secretary to speak on each group, and, for the record, as has been agreed by Business Committee, as the Chair, I'll move the amendments in the name of the Cabinet Secretary, and unless he indicates otherwise, I'll move all of the amendments in the name of the Cabinet Secretary. If there isn't an amendment you want moved, then please do indicate, Mark, and I won't move it.
There are legal advisers to committee and, indeed, to the Cabinet Secretary. They're not expected to provide advice on the record as usual. If there is a need for advice, we can have a break in proceedings. Is all of that clear? Fantastic.
The first group of amendments, group 1, relates to the Welsh language strategy targets and the national framework. We do have the possibility, if we don't get through all 27 groups today, to move into Wednesday, but let's try and do as much as possible in this one day as well.
Okay. So, the lead amendment in this group is amendment 100, and I call on Cefin Campbell to move and speak to the lead amendment and the other amendments in the group. Cefin.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. A bore da, bawb. Gaf i, o'r cychwyn, ddiolch o galon i'r clercod a'r cyfreithwyr hefyd yma yn y Senedd, am eu cymorth yn ystod y cyfnod hwn o'r Bil, wrth i fi baratoi, drafftio a gosod y gwelliannau hyn? Mae eich cefnogaeth chi wedi bod yn amhrisiadwy, felly diolch o galon i chi.
Yn gyntaf, os caf i, Gadeirydd, hoffwn i ddweud ychydig o eiriau cyffredinol am y Bil hollbwysig hwn. Chwarter canrif, ac ychydig bach yn fwy, ers agor y Senedd hon, mae'n destun siom bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r cyfle i siarad a dysgu'r iaith a'i defnyddio hi. Felly, mae'r Bil hwn yn ceisio unioni'r cam hwnnw. Mae taith y Bil drwy'r Senedd yn foment hanesyddol, dwi'n meddwl, gan ein bod yn deddfu, gobeithio, i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Ac mae hyn yn gam enfawr tuag at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, neu o leiaf y miliwn o siaradwyr Cymraeg rŷn ni i gyd yn ceisio anelu ato.
Os edrychwn ni ar y sefyllfa dros y ddegawd ddiwethaf, yn 2014, 10 mlynedd yn ôl, roedd 21.9 y cant o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn 2024, y ganran gyfatebol oedd 22.5 y cant, felly cynnydd dros ddegawd o ryw 0.6 y cant. Ac o safbwynt ysgolion uwchradd, mae’r rhai sydd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng dros y 10 mlynedd ddiwethaf, o 14.2 y cant i 13.5 y cant. Felly, mae'r taflwybr, yn sicr yn yr uwchradd, yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Felly, mae e'n tanlinellu pa mor bwysig yw'r Bil hwn o ran trawsnewid y drefniadaeth bresennol er mwyn sicrhau y twf angenrheidiol yn y nifer sydd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cyrraedd y nod yna o greu o leiaf miliwn o siaradwyr.
Felly, os caf i droi at y gwelliannau yn y grŵp yma, mae gwelliannau 99 a 100 yn ceisio newid y targed ar wyneb y Bil i ddarllen 'o leiaf' 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r Bil fel y mae e yn gosod nod o gynyddu'r nifer yng Nghymru sydd yn siaradwyr Cymraeg i filiwn. Fel rŷch chi wedi clywed yn barod, er nad oes cynnydd digonol wedi bod ar gyrraedd y miliwn hyd yn hyn, dwi’n credu bod angen inni sicrhau nad ŷn ni'n gosod nenfwd erbyn 2050 o ran yr uchelgais. Os gallwn ni fynd y tu hwnt i filiwn, wel, dwi'n siŵr y byddai hynny'n newyddion da iawn. Felly, dyw'r geiriad ddim yn newid ymrwymiad y polisi presennol o gwbl, ond mae e'n rhoi'r lle i’r Llywodraeth a Llywodraethau’r dyfodol anelu yn uwch o ran yr uchelgais hwnnw.
Mae gwelliant 101 yn ychwanegu cyfeiriad at lwyfannau digidol yn yr is-adran sydd yn galw ar Weinidogion Cymru, trwy strategaeth y Gymraeg, i bennu targedau ar gyfer cynyddu defnydd o'r iaith, sydd yn hollbwysig; mae caffael yr iaith yn un peth, ond mae ei defnyddio hi yn fater yr un mor bwysig. Mae yna gyfeiriad yn y strategaeth, wrth gwrs, at gynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ac yn gymdeithasol, ond yn y byd sydd ohoni, wrth gwrs, rŷn ni'n sylweddoli pa mor bwysig yw'r byd digidol o ran defnyddio'r Gymraeg. Mae hyn yn cael ei nodi yn strategaeth y Llywodraeth ar dechnoleg, a dwi'n dyfynnu fan hyn o'r ddogfen honno:
'Gall technoleg Gymraeg cywir, dibynadwy ein helpu ni i gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg, sef 1 o 2 brif darged Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Gall technoleg ei gwneud hi’n haws i ni ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, o addysg a gwaith i sgwrsio gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr.'
Ac fe glywais i ystadegyn diweddar hefyd yn nodi bod pobl ifanc—dros 70 y cant ohonyn nhw—yn cysylltu â'u ffrindiau drwy dechnoleg yn unig. Felly, mae'r hen arfer o godi ffôn a chael sgwrs wedi hen fynd ymhlith arferion pobl ifanc, sydd yn tanlinellu pa mor bwysig yw cynnwys yr elfen ddigidol fel dyhead.
Ac o ran gwelliannau’r Ysgrifennydd Cabinet yn y grŵp yma, rwy’n hapus iawn i’w cefnogi nhw. Ac roeddwn i'n hapus iawn i weld gwelliannau 1 a 2 a’r gwelliannau cysylltiedig yn cael eu gosod gan y Llywodraeth. Os na fyddai'r Llywodraeth wedi gwneud, wel, roeddwn i wedi bwriadu gwneud beth bynnag. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y drafodaeth ar y grŵp yma ar y gwelliannau hyn. Diolch, Cadeirydd.
Thank you, Cefin. Are there other Members who wish to speak. No, there are none. So, I call on the Cabinet Secretary for Finance and the Welsh Language—I won't always use your full title—to speak in response to this group of amendments.
Well, thank you very much, Chair. The target of a million speakers has become widely recognised since it was adopted by the Welsh Government in our 'Cymraeg 2050' strategy. As I told the committee during Stage 1, setting the target on a legal foundation safeguards its future and underlines its importance. The target is a challenging one, and we will need efforts across many different spheres to deliver it. The purpose of the Bill is to help create the conditions for attaining that target. The intention of the target is to inspire growth, and it was never intended to act as a cap or ceiling. Amendments 99 and 100, in the name of Cefin Campbell, will place that beyond any doubt, and the Government will be supporting the amendments.
However, the Government does not agree that the strategy should include targets on the use of the Welsh language on digital platforms. I agree with everything that Cefin Campbell said about the importance of those digital platforms, but it's not clear from the wording of the amendment what 'on digital platforms' actually means, and therefore formulating targets around this is not easily achieved. So, at the moment, the Government cannot support amendment 101.
Turning to the Government’s amendments in this group, I listened carefully to the evidence presented to the committee during Stage 1. Some stakeholders felt that the Bill did not articulate clearly enough the importance of Welsh-medium education. I'm happy to give an assurance again today that the Welsh Government is fully committed to seeing an increase in the percentage of pupils who receive their education in primarily Welsh language schools. In order to underline this, the aim of the Government’s amendments in this group is to make it clear in the first section of the Bill that continuing to grow the Welsh-medium sector, alongside addressing the teaching of Welsh in all schools, is a central part of our strategy for the Welsh language.
The effect of amendment 1 is that section 1(1)(c) would specifically state that the strategy must include targets to increase the number of pupils of compulsory school age receiving education in primarily Welsh language category schools, to increase the number of primarily Welsh language category schools and to increase the amount of Welsh language education in dual language and primarily English language, partly Welsh category schools. Amendment 3 provides Welsh Ministers with the power, by regulations, to amend the targets required to be included in the strategy. Amendment 69 provides that those regulations would be subject to the affirmative procedure in the Senedd.
Amendments 2, 4, 5, 6 and 7 are technical amendments to reflect amendment 1. Amendment 31 removes the specific targets to be included in the national framework in light of amendment 1, but it does create a requirement instead that the targets to be placed on local authorities in the national framework reflect the targets in the strategy.
Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, rwy'n hynod o falch o weld ymrwymiad y Llywodraeth yn llwyr i gynyddu nifer y disgyblion sy’n mynd i fynychu yn y dyfodol ysgolion prif iaith Cymraeg, a’r ddarpariaeth hefyd mewn ysgolion dwy iaith, a chynyddu’r ddarpariaeth mewn ysgolion prif iaith Saesneg. Felly, mae hynny’n arwyddocaol iawn, ac wrth gwrs rŷn ni’n cefnogi hynny.
Diolch ichi hefyd am gefnogi rhoi’r ddau air—er eu bod nhw’n eiriau bach, maen nhw’n golygu llawer iawn—'o leiaf' yn y bwriad yna o greu miliwn o siaradwyr. Felly, 'o leiaf 1 miliwn', gobeithio, y bydd hi o hyn ymlaen.
O ran, efallai, y diffyg cefnogaeth, nid i egwyddor ond i eiriad y gwelliannau sy’n cyfeirio at ddefnydd digidol o’r iaith Gymraeg, efallai, Gadeirydd, y gall hon fod yn sgwrs rhyngom ni ar gyfer Cyfnod 3 y Bil, i weld a oes modd inni gryfhau’r geiriad rywfaint bach i wneud y diffiniad yn fwy clir, o ran beth yn union rŷn ni’n ei olygu wrth 'lwyfannau digidol'. Maen nhw’n amrywiol ac maen nhw’n gymhleth. Rwy’n derbyn hynny. Felly, os byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon inni gael y sgwrs yna, byddwn i’n hapus iawn.
Diolch. We will now move to voting in the group. The question is that amendment 100 be agreed. Does any Member object? No. That amendment is agreed in accordance with Standing Order 17.34(i).
So, the question is that amendment 101 be agreed. Does any Member object? [Objection.] Okay, we'll move to a vote. So, the question is that amendment 101 be agreed. Those in favour, please raise your hands. And those against, please raise your hands. And there can't be any abstentions, everyone has voted. So, that's three in favour, three against. So, I need to cast my casting vote in the negative. That means that amendment 101 is not agreed.
I move amendment 1 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 1 be agreed. Does any Member object? No. Amendment 1 is agreed in accordance with Standing Orders.
I move amendment 2 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 2 be agreed. Does any Member object? No. Amendment 2 is agreed in accordance with Standing Orders.
I move amendment 4 in the name of the Cabinet Secretary. Are there any objections? There are none. Amendment 4 is agreed in accordance with Standing Orders.
So, we now move to group 2, on calculating the number of Welsh speakers. The lead amendment is amendment 102 in the name of Cefin Campbell, so I call on Cefin to move and speak to the lead amendment and other amendments in the group. Cefin.
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Mae gwelliannau 103, 104, 105 a 106 yn sicrhau mai’r cyfrifiad ar ei ffurf bresennol yw’r prif offeryn a ddefnyddir er mwyn cyfrif nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, er enghraifft, yn nodi bod angen ei wneud yn glir ar wyneb y Bil mai’r cyfrifiad a gynhelir yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920, tra bo'r cyfrifiad yn cael ei gynnal, dylid ei ddefnyddio i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg. Nawr, rŷn ni'n gwybod nad yw'r cyfrifiad yn hollol wyddonol gywir fel offeryn i fesur nifer y siaradwyr Cymraeg, ond dyma'r dull mwyaf dibynadwy sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac mae'r cyfrifiad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer asesu pob math o agweddau ar fywyd Cymru, gan gynnwys nifer y siaradwyr. Felly, mae ein gwelliannau ni yn ceisio newid y pwyslais i fod mwy ar y cyfrifiad ei hun, o’i gymharu â fel y mae’r Bil wedi'i eirio ar hyn o bryd.
Mae gwelliant 102 yn un syml sydd eisiau newid y cyfnod lle mae'n rhaid i Weinidogion ddadansoddi sefyllfa’r Gymraeg. Yn hytrach na phob pum mlynedd, rŷn ni'n awgrymu bod hynny'n cael ei newid i bedair blynedd, er mwyn adlewyrchu tymhorau newydd y Senedd ar ôl 2026, bydd yn mynd o dymor pum mlynedd i bedair blynedd. Mae'n bosibl na fydd dadansoddiad o gwbl yn ystod rhai tymhorau o'r Senedd os cadwn ni at y patrwm o bob pum mlynedd. Felly, byddai hynny yn cwtogi ar allu Aelodau o’r Senedd i graffu ar y cynnydd y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, a hefyd efallai cwtogi ar allu Llywodraeth y dydd i newid polisi pe bai angen, yn seiliedig ar y dadansoddiad data.
Yn yr un modd, Gadeirydd, mae gwelliant 103 yn ychwanegiad i’r Bil sydd yn ceisio gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i fesur defnydd o’r iaith yn fwy rheolaidd a chyda mwy o fanylder. Dwi’n credu wrth asesu nifer a chanran y disgyblion o oedran ysgol gorfodol ym mhob ardal awdurdod lleol sy’n cael addysg mewn ysgolion categori prif iaith Cymraeg, byddwn yn gallu mesur y cynnydd mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar draws Cymru, a gweld a oes angen mwy o gefnogaeth ac anogaeth ar rai awdurdodau lleol, yn fwy, efallai, na'r lleill, o ran cynyddu’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn eu hardal.
Ac o ran gwelliannau’r Llywodraeth, Gadeirydd, yn y grŵp yma, rwy'n hapus iawn i'w cefnogi nhw, ac yn edrych ymlaen at y drafodaeth unwaith eto ar y grŵp yma o welliannau. Diolch.
Diolch, Cadeirydd. Rwyf wedi gwrando yn ofalus ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Cefin Campbell ar y gwelliannau mae fe wedi'u symud yn y grŵp hwn.
Rwy’n gofyn i’r Aelodau wrthod y newid mae gwelliant 102 yn ei gynnig, oherwydd fy mod i’n credu bod y cylch pum mlynedd yn gyson â'r cylchoedd ar gyfer paratoi ac adolygu'r fframwaith cenedlaethol a'r cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg. Dwi ddim yn meddwl ei fod yn rhesymol i newid pob amserlen sydd ar gael dros bopeth mae Llywodraeth a'r Senedd yn ei wneud achos ein bod ni'n newid tymhorau'r Senedd ei hun. O leiaf, bydd un blwyddyn cyn y tymor newydd.
The most there will ever be will be one year, which would be the year before the first year of a new term, before the Senedd could look at those plans. I don't think it's reasonable to tear up a carefully crafted pattern of reporting simply because the Senedd itself has moved to a new timetable of its own elections.
Troi nawr, Gadeirydd, i welliant 103, bydd y wybodaeth mae Cefin Campbell yn cyfeirio ati ar gael. Felly, bydd modd ei chynnwys yn yr adroddiad i'w gyhoeddi o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a gofynnaf i'r Aelodau i gefnogi gwelliant 103.
Nid wyf wedi fy mherswadio gan y ddadl dros welliannau 104, 105, 106, 107 a 157 i newid pwyslais y polisi fel mai'r cyfrifiad fydd y sail ar gyfer cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg, oni bai fod rheoliadau'n cael eu gwneud sy'n pennu data arall i'w ystyried. Gallaf roi sicrwydd heddiw y bydd data o'r cyfrifiad yn un o gerrig sylfaen ein polisi tra bo'r data'n bodoli. Rydym eisiau creu Bil sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi ei ddrafftio mewn ffordd sy'n rhoi hyblygrwydd i ni ymateb i newidiadau. Mae newidiadau i'r cyfrifiad eisoes yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gwrando ar Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Ceidwadwyr yn dweud eu bod nhw'n mynd i symud o'r cyfrifiad yn y dyfodol. Mae'n hollol bosib ein bod ni wedi gweld y cyfrifiad olaf yn y ffurf rŷm ni wedi ei weld dros fwy na chanrif. Felly, nid yw’n synhwyrol i ni angori ein polisi iddo. Am y rhesymau hyn, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 104, 105 a 106.
I droi nawr i welliannau'r Llywodraeth—a diolch i Cefin Campbell am beth ddywedodd e am gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn—pwrpas gwelliant 8 y Llywodraeth yw newid yr oedran o bryd y gwneir penderfyniad ynghylch a yw person yn siaradwr Cymraeg ar sail hunan-asesiad yn unig o 16 oed i 17 oed.
Pwrpas gwelliant 9 yw newid yr oedran hyd at pryd y gwneir penderfyniad ynghylch a yw person yn siaradwr Cymraeg ar sail y dulliau a nodir yn adran 3(2)(b) i o dan 17 oed.
Pwrpas gwelliant 10 yw symud pŵer Gweinidogion Cymru yn y Bil, a oedd yn adran 3(2)(b). Mae’r pŵer yn caniatáu i Weinidogion Cymru lunio rheoliadau yn pennu dull o benderfynu a yw person yn siaradwr Cymraeg at ddibenion adrannau 1 a 2, ac yn pennu a yw’r dull hwnnw i’w ddefnyddio yn ogystal â’r asesiadau yn is-adran (2)(b), neu yn lle’r asesiadau hynny. Byddai hyn yn galluogi, er enghraifft, defnyddio gwybodaeth a data ar gyflawniadau dysgwyr pan fyddant yn 16 oed yn eu blwyddyn olaf o addysg orfodol, i’w ddefnyddio fel mesur ar gyfer penderfynu a ydynt yn siaradwyr Cymraeg yn ddibynnol ar wneud rheoliadau addas.
Gan fod gwelliant 107 yn ganlyniadol i welliant 106, rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliant 107, achos rŷm ni wedi gofyn i chi wrthod gwelliant 106.
Pwrpas gwelliant 68 yw adlewyrchu gwelliannau 9 a 10 i sicrhau bod rheoliadau a wneir o dan 3(3) yng ngwelliant 10 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol.
Galwaf, felly, ar aelodau’r pwyllgor i gefnogi gwelliannau 8, 9, 10 a 68 y Llywodraeth.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd, a diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb i'r grŵp o welliannau y gwnes i eu cynnig. Dwi ddim yn meddwl fy mod i eisiau hollti blew ynglŷn ag asesiadau bob pedair blynedd yn hytrach na phob pump; roeddwn i jest yn teimlo bod bob pedair yn gymesur â chyfnod y Senedd newydd, yn meddwl y byddai hynny yn fwy gweddus a phriodol ei fod e'n cyd-rhedeg. Ond, hynny yw, dyw hi ddim yn rhywbeth dwi eisiau ei orbwysleisio, felly dwi'n hapus i gael sgwrs bellach ynglŷn â hynny.
Diolch i chi am gefnogi gwelliant 103, sef yr angen am asesiadau defnydd mwy cyson yn yr ysgolion o wahanol gategorïau. Mae'ch sylw chi ynglŷn â'r cyfrifiad yn un diddorol. Dwi'n ymwybodol, wrth gwrs, fel pawb arall, fod yna drafodaethau'n digwydd ynglŷn â'r posibilrwydd o newid y cyfrifiad i'r dyfodol, a dwi'n derbyn y sylw bod angen inni fod yn effro i'r newidiadau hynny. Ond dwi'n credu mai ysbryd ein gwelliannau ni oedd, tra bo'r cyfrifiad yn bodoli, y dylem ni fod yn defnyddio'r cyfrifiad fel sail ddata o ran y nifer sydd yn medru siarad Cymraeg. Ond mae angen sgwrs, wrth gwrs, wedyn, wrth i'r cyfrifiad newid, ac wrth inni symud i ryw ddull gwahanol o fesur. Felly, dwi'n hapus i nodi bod y cyfrifiad yn ffynhonnell bwysig i ni, tra bydd y cyfrifiad, a bod angen sgwrs bellach rhywbryd eto yn y dyfodol pan fydd pethau yn newid. Diolch.
Okay. The question is that amendment 102 be agreed. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. We'll move to a vote. All those in favour of 102, please show. All those against. That's a tie. So, I cast my casting vote in the negative. Amendment 102 is therefore not agreed.
Does any Member object? [Objection.] There's an objection. We move to a vote. All those in favour of amendment 104. And all those against. That's a tie, so I use my casting vote in the negative. Amendment 104 is not agreed.
Okay. Does any Member object to amendment 105? [Objection.] There's an objection. We move to a vote. All those in favour of amendment 105, please show. And all those against. That's a tie. I therefore use my casting vote in the negative. Amendment 105 is not agreed.
Amendment 106 is moved. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. We'll move to a vote. All those in favour of amendment 106, please show. And all those against. That's a tie. I use my casting vote in the negative. Amendment 106 is not agreed.
That's moved. Does any Member object? [Objection.] There's an objection. We'll move to a vote. All those in favour. All those against. That's a tie. I use my casting vote in the negative.
We now come to group 3 on reviewing Welsh language standards. The lead and sole amendment is amendment 108. I call on Cefin Campbell to speak to this amendment. Cefin.
Diolch, Gadeirydd. Mae gwelliant 108 yn un syml sydd yn ceisio cryfhau ac adeiladu ar gynnwys presennol y Bil yn adran 1 ac adran 4, o dan Ran 1 y Bil. Roedd croeso mawr gan nifer o dystion i gynnwys pennu targedau ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle drwy gynyddu'r nifer o ofodau Cymraeg, ac rwy'n cytuno â nhw ar y pwynt yna. Mae'r pwyslais ar hyn o bryd yn rhy unigolyddol, felly mae angen paratoi gofodau penodol i siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle—lle i ddysgwyr a siaradwyr dihyder i ddod at ei gilydd i ymarfer eu sgiliau iaith.
Pwrpas gwelliant 108, felly, yw defnyddio adolygiad o'r safonau er mwyn hwyluso cyflawni targedau a bennir o dan y Rhan hon, cynyddu nifer y gweithleoedd lle mae'r weinyddiaeth fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, a chasglu data ar y defnydd o'r Gymraeg yng ngweinyddiaeth fewnol gweithle.
Byddai hyn hefyd yn cyflawni gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg, a ddywedodd deng mlynedd yn ôl—y comisiynydd a oedd yn bodoli bryd hynny, wrth gwrs—pan ddechreuwyd y drafodaeth am safonau bryd hynny, y byddai modd, efallai, medru categoreiddio gweithle fel gweithle Cymraeg, gweithle dwyieithog neu weithle cyfrwng Saesneg yn bennaf. Ond gwrthododd y Llywodraeth y syniad bryd hynny. Felly, bellach, byddai hyn yn gyson gyda nod presennol Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gofodau Cymraeg—mae hynny'n rhan o strategaeth y Llywodraeth—ac mae gweithleoedd, wrth gwrs, yn elfen allweddol o hynny. Wrth i ni symud at fwy o ddefnydd mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, mae creu'r gofodau yna ar gyfer defnydd o'r iaith yn gwbl allweddol. Byddai creu categorïau yn bwysig er mwyn mesur cynnydd. Felly, dyna fy sylwadau i ar y grŵp yma, Gadeirydd.
Diolch yn fawr i chi, Gadeirydd, am y cyfle cyntaf i gyfrannu heddiw. Byddaf yn pleidleisio yn erbyn hyn, achos ni chredaf ei bod yn briodol i ddeddfu fel hyn ar sut mae gweithle'n gweithio'n fewnol. Felly, byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn gwelliant 108.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Wel, dwi'n cytuno â beth ddywedodd Cefin Campbell am bwysigrwydd yr iaith yn y gweithle, a'r pethau rŷn ni eisiau eu gwneud i gynyddu defnydd o'r iaith yn y gweithle. Mae yna ddadl ar gael ar y pwynt mae Sam Kurtz wedi'i wneud, o ran ai rôl y Ddeddf yw delio â'r pethau mewnol yna yn y gweithle.
Ond, dwi'n cynnig bod y gwelliant hwn yn cael ei wrthod gan ei fod yn mynd y tu hwnt i bwrpas adran 4 o'r Bil hwn, sef cynnal adolygiad o safonau penodol i sicrhau eu bod yn hwyluso cyrraedd targed o fewn strategaeth y Gymraeg, neu i adlewyrchu a chefnogi darpariaethau yn Rhan 2 o'r Bil ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ddiwygio rheoliadau safonau ar unrhyw adeg, ond diben adran 4 yw sicrhau bod Gweinidogion yn cynnal adolygiad amserol o'r safonau penodol a all gefnogi'r broses o weithredu'r Bil. Mae ymestyn yr adolygiad y tu hwnt i hynny yn ddiangen oherwydd pwerau presennol y Gweinidogion.
Yn fwy cyffredinol, mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus sydd yn dod o dan y safonau i'w cefnogi ar eu taith fewnol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, ac i'w helpu i gasglu data perthnasol. Mae'r gefnogaeth hon gan y comisiynydd yn helpu cyrff i gynyddu eu gallu yn y Gymraeg, ac yn eu helpu i ddarparu mwy o wasanaethau i'r cyhoedd yn Gymraeg.
Rwy’n credu bod perswadio a chymorth ymarferol yn parhau i fod yn llwybr gwell i'r amcan cyffredin o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Am y rheswm yma, ac oherwydd bod gan Weinidogion eisoes y pwerau sydd eu hangen, rwy’n gofyn i'r Aelodau wrthod y gwelliant yn y grŵp hwn.
Diolch yn fawr iawn. Os caf i jest ymateb i sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet, dwi'n derbyn y sylw yn yr ystyr ein bod ni i gyd eisiau gweld a chefnogi'r egwyddor o weld mwy o ofodau Cymraeg, mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gweithle; dwi ddim yn credu ein bod ni'n anghytuno â'r nod hwnnw.
Pwrpas ein gwelliant ni yw bod Deddf yn cryfhau ymrwymiad cyrff cyhoeddus i sicrhau bod hynny yn digwydd. Mi allwn ni ddefnyddio’r perswâd gorau yn y byd. Mi allwn ni, yn sicr, fel mae’r comisiynydd yn ei wneud, roi’r gefnogaeth a’r canllawiau yn eu lle i annog mwy o ofodau Cymraeg mewn gweithleoedd. Ond rŷn ni i gyd yn gwybod, ar ôl blynyddoedd o weithredu’r safonau, mai mympwyol ydy’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, ein bod ni wedi gweld cynnydd araf mewn rhai ardaloedd, ac mewn rhai sectorau hefyd, o ran y defnydd o’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.
Felly, cryfhau drwy ddeddfwriaeth yr angen i greu gofodau lle mae pobl ddihyder, dysgwyr y Gymraeg, siaradwyr y Gymraeg, yn gallu dod at ei gilydd i arfer yr iaith, ac i fagu hyder o ran defnydd yr iaith, mewn peuoedd a sectorau lle mae angen iaith dechnegol neu iaith arbenigol, dwi’n meddwl mai dyna sydd angen ei wneud er mwyn cryfhau statws y Gymraeg unwaith eto yn ein gweithleoedd cyhoeddus.
Thank you. The question is that amendment 108 be agreed. Does any Member object? [Objection.] There are objections. We move to a vote. All those in favour, please show. All those against. Okay. There is one in favour, and five against. Therefore, the amendment is not agreed.
We move to group 4 on the importance of Welsh-medium education. The lead amendment is 109 in the name of Cefin Campbell. So, Cefin Campbell to move and speak to the lead amendment.
Diolch yn fawr. Mae hwn yn welliant, neu’r mae’r rhain yn welliannau procio. Mae gwelliannau 109 a 113 yn ychwanegu yn glir ar wyneb y Bil y datganiad na ddylai unrhyw un ohonom ni anghytuno ag e, achos mae’r dyfyniad nesaf dwi’n mynd i'w ddarllen i chi yn cael ei gynnwys yn nifer o strategaethau’r Llywodraeth yn barod, sef, a dwi’n dyfynnu,
'Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yw’r dull mwyaf effeithiol o sicrhau siaradwyr hyderus a rhugl sydd yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i addysg, yn gymunedol, mewn swyddi yn y dyfodol ac i drosglwyddo’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn teuluoedd.’
Dyfyniad o nifer o strategaethau’r Llywodraeth yw’r dyfyniad hwnnw.
Felly, mae’r dyfyniad yna hefyd wedi cael ei gynnwys yn y Papur Gwyn a oedd yn rhagflaenu’r Bil yma. Ond, yn anffodus, does yna ddim unrhyw gyfeiriad at y datganiad a’r bwriad polisi hwn ar wyneb y Bil presennol. A, hyd y gwn i, dyw e ddim yn y memorandwm esboniadol ychwaith. Felly, dwi’n cyflwyno’r gwelliannau hyn er mwyn ceisio sicrhau ei bod hi’n glir i bawb sydd ynghlwm â gweithredu’r Bil pa ddull yw’r ffordd fwyaf effeithiol os ydyn ni o ddifrif am sicrhau cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus.
Gobeithio y gallaf dderbyn cefnogaeth y Llywodraeth i hyn, neu o leiaf ymrwymiad i gynnwys y datganiad yn y fersiwn nesaf o’r memorandwm esboniadol ar ôl gorffen y Cyfnod 2 yma. Felly, Gadeirydd, gan fod y rhain yn welliannau procio, fyddaf i ddim yn symud i bleidlais, ond buaswn i'n ddiolchgar iawn os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet am sgwrs bellach ar hyn, i weld a fyddai modd ymgorffori'r dyfyniad a'r ymrwymiad polisi yna yn y memorandwm esboniadol ar gyfer Cyfnod 3.
Just for clarity's sake, my understanding is that you have moved the amendments, but are indicating that you're unlikely to put them to vote when the time comes—
Diolch, Gadeirydd. Rwy'n cytuno â beth mae Cefin Campbell wedi'i ddweud, a thema y gwelliannau yma. Maen nhw'n tanlinellu pwysigrwydd addysg i'r iaith Gymraeg ac os nad yw hwn yn mynd i'r bleidlais, byddwn i yn gefnogol o'r gwelliannau yma a thema y gwelliannau yma.
Diolch, Gadeirydd, ac wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cytuno â byrdwn y datganiad yng ngwelliant 113 ynghylch pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg, ac fel mae Cefin Campbell wedi'i ddweud, mae e yna yn nifer fawr o'r dogfennau rŷn ni wedi eu cyhoeddi fel Llywodraeth. Ond materion ar gyfer dogfennau polisi yw'r rhain, yn hytrach na deddfwriaeth.
Nid wyf yn argyhoeddedig mai mewn testun Bil yw'r lle gorau i ddatganiadau sydd heb ganlyniadau cyfreithiol. Yn hytrach, maent yn perthyn i ddogfennau polisi. Ac wrth gwrs, dwi'n hollol hapus i weithio gyda'r Aelod i weld os gallwn ni adlewyrchu hynny yn y memorandwm esboniadol newydd rŷn ni'n mynd i'w roi o flaen y Senedd cyn Cyfnod 3.
Rwy'n barod iawn hefyd i adlewyrchu sylwedd y gwelliant wrth siarad dros y Llywodraeth ar lawr y Senedd yng Nghyfnod 3. Bydd hynny'n bwynt cyfeirio clir i bawb fydd yn gyfrifol am roi'r Bil ar waith. Diolch am beth ddywedodd yr Aelod am sut mae'n mynd i ddelio â gwelliannau 109 a 113.
Mae gwelliannau'r Llywodraeth yng ngrŵp 1 yn mynd i'r afael â phwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg drwy gynnwys targedau yn y strategaeth i gynyddu nifer y disgyblion mewn ysgolion prif iaith Cymraeg. Bydd effaith gyfreithiol glir i'r darpariaethau hynny, a bydd yn ofynnol i'r Llywodraeth gymryd camau o ganlyniad, hynny yw, gosod targedau.
Felly, os yw'r Aelod yn symud y gwelliannau i'r bleidlais, dwi'n gofyn i'r Aelodau wrthod y gwelliannau, os yw hynny'n digwydd.
Dwi ddim yn bwriadu symud i bleidlais ar hyn, ond dwi'n croesawu'r cyfle efallai i drafod ymhellach cyn Cyfnod 3, gan obeithio y gallwn i berswadio'r Ysgrifennydd Cabinet efallai o leiaf i gynnwys y datganiad yna mewn memorandwm esboniadol, o bosibl, ond yn sicr dyna'r trywydd byddwn i'n hoffi ei ddilyn, a dwi'n edrych ymlaen at y sgwrs honno maes o law.
Diolch, Cefin. Does any Member object to the withdrawal of amendment 109, so it is not put to the vote? There is no objection, so amendment 109 is not put to the vote.
We now move to group 5, on targets for increasing numbers in Welsh-medium education. The lead amendment in this group is amendment 110, in the name of Cefin Campbell. So, Cefin will move the lead amendment and speak to the other amendment in the group. Cefin.
Diolch yn fawr iawn. Eto, mae hwn yn welliant procio, felly fyddaf i ddim yn symud at bleidlais ar hyn, ond dwi'n awyddus iawn i'r pwyllgor glywed pam dwi'n awyddus i sgwrs bellach ddigwydd ar y mater penodol yma.
Elfen allweddol gafodd ei chynnwys yn y Papur Gwyn oedd yn rhagflaenu'r Bil yma oedd rhoi ystyriaeth i'r taflwybr ar gyfer y ganran o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. A dyma beth oedd y Papur Gwyn yn ei ddweud, a dwi'n dyfynnu:
'Mae’r taflwybr presennol a osodwyd gan "Cymraeg 2050" yn 2017 yn gosod nod bydd o leiaf 40% o holl ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
'Fel rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Plaid Cymru, bydd y Llywodraeth hefyd yn cynnal astudiaeth dechnegol llawn ynghylch y taflwybr gyda mewnbwn arbenigol i gyd-fynd gyda’r uchelgais newydd fydd y ganolog i’r Bil. Bydd yr astudiaeth yn ystyried taflwybr mwy serth ar gyfer 2050 a thu hwnt sy’n modelu ar gyfer 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.'
Felly, roedd y dyfyniad yna yn rhan o'r cytundeb rhyngof i a'r Ysgrifennydd Cabinet dros addysg ar y pryd, ac fe wnaethon ni gynnwys hynny fel rhan o'r Papur Gwyn, gan obeithio ei fod yn gosod rhyw fath o gyd-destun gobeithiol o ran cynnwys y Bil ei hun.
Nawr, hyd y gwn i, ni chyflawnwyd yr astudiaeth dechnegol y mae cyfeiriad ati yn y dyfyniad. Fodd bynnag, gan ystyried bod y Bil yn gosod fframwaith ac ymyriadau tymor canol a hir ar gyfer y Gymraeg—er enghraifft, o leiaf miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a gosod nod addysg 2050 hefyd—dwi'n credu y byddai datgan taflwybr gwahanol yn y Bil yn ategu a chefnogi’r amcanion cysylltiedig hyn, yn ogystal â thanlinellu disgwyliadau clir i’r sector addysg a rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â maint yr uchelgais.
Os yw’r Llywodraeth a’r Senedd hon, gyda chefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer creu targed o o leiaf miliwn o siaradwyr, o ddifri am drawsnewid sefyllfa’r Gymraeg drwy gynyddu’n sylweddol y nifer sy’n medru siarad Cymraeg yn hyderus, yna rhaid gwthio’r uchelgais yma ymhellach, gyda 50 y cant o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 ac ymrwymiadau wedyn i sicrhau twf pellach na hynny yn y tymor hir—hynny yw, 10 y cant o gynnydd pob degawd. Mi fyddai hynny'n nod cymeradwy a syml i'w ddeall—hynny yw, 60 y cant erbyn 2060, ac yn y blaen. Os nad ydyn ni'n cynyddu’r uchelgais yma, bydd y Llywodraeth yn parhau i amddifadu 60 y cant o blant Cymru o’r cyfle i ddysgu’r iaith a dod yn siaradwyr hyderus, hyd yn oed ymhen chwarter canrif.
Fel mae tystiolaeth gan Gymdeithas yr Iaith yn nodi, yn yr 20 mlynedd rhwng 2003-04 a 2023-24, sef cyfnod o 20 mlynedd, dim ond cynnydd o 19.06 y cant i 22.47 y cant, sef 3 y cant mewn gwirionedd o gynnydd, sydd wedi bod yn nifer y plant sy'n cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cynradd, a chynnydd o 0.5 y cant yn y sector uwchradd. Felly, dydyn ni ddim wedi cael ein darbwyllo bod y targed o 40 y cant erbyn 2050 yn ddigon heriol ac uchelgeisiol. Ac mae'n rhaid inni gofio hefyd ein bod ni'n gwybod bod yna arafu yn y twf o ran y nifer sy'n mynychu addysg Gymraeg wedi digwydd yn ystod y pandemig ac ers y pandemig yn ogystal. Felly, mae yna waith dal i fyny. Dyna'r pwynt. Roedd 40 y cant ar gyfer 2050 yn gymeradwy flynyddoedd yn ôl, ond rydyn ni wedi colli tir ers hynny, felly mae'n rhaid i ni ddal i fyny. A'r pwynt rydyn ni'n ei wneud yn y gwelliant yma, y gwelliant procio yma, yw bod angen inni gynyddu'r uchelgais a symud, fesul degawd, 10 y cant o gynnydd bob cam.
Felly, mae hwn yn gynnig procio, felly dwi ddim am symud hwn i bleidlais, ond, eto, dwi'n awyddus iawn i gael y sgwrs gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â'r egwyddor yna o newid y taflwybr iddo fe fod yn fwy uchelgeisiol. Diolch, Cadeirydd.
Diolch, Cadeirydd. Tra fy mod i'n cytuno gyda thargedau 'Cymraeg 2050', yn fy marn i mae gwelliant 110 yn ceisio dileu'r dewis i rieni a disgyblion fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg neu Saesneg neu ddwyieithog. Er fy mod yn credu ei bod yn bwysig i blant ddysgu mwy o'r Gymraeg yn yr ysgol, mae amddiffyn dewis rhieni yr un mor bwysig. Rwyf hefyd yn gwrthwynebu’r targedau a nodir yng ngwelliant 129, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Llywodraeth Cymru sicrhau bod canran benodol o ddisgyblion yn mynychu ysgolion Cymraeg yn bennaf erbyn dyddiad penodol heb gynnig dewis. Rwy’n cytuno gyda'r thema o gyfle cyfartal i ddisgyblion gael addysg yn y Gymraeg, ond, fel y dywedais i'n gynharach, dwi'n credu bod y dewis gan y rhieni a'r plant yr un mor bwysig, ac, am y rhesymau yma, ni allaf gefnogi gwelliannau 110 a 129.
Diolch, Cadeirydd, a diolch i Cefin Campbell am beth ddywedodd e ar ddiwedd ei gyfraniad ef am bwysigrwydd cael sgwrs am y pethau pwysig dan y gwelliannau yn y grŵp hwn. Gallaf i esbonio safbwynt y Llywodraeth pam na allwn ni ddim derbyn y gwelliannau yn y grŵp hwn, ond beth y gallwn ni awgrymu gwneud, hefyd.
Byddai cefnogi gwelliant 129 yn golygu na fydd unrhyw ysgolion dwy iaith nac ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg yn bodoli yng Nghymru erbyn 2100, ac all y Llywodraeth ddim cefnogi’r polisi yma. Rydym ni'n cytuno, wrth gwrs, mai ysgolion prif iaith Cymraeg yw’r ffordd gyflymaf i ddisgyblion ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, ac mae polisi’r Llywodraeth, fel rydyn ni wedi clywed y bore yma, yn parhau i fod yn glir i gynyddu canran y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond hefyd, mae'r Bil yn rhoi neges glir bod rôl i ysgolion dwy iaith ac ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg wrth greu siaradwyr Cymraeg. Byddai’r gwelliannau, pe bydden nhw'n cael eu symud a'u derbyn, yn cael gwared ar yr ysgolion hyn erbyn 2100. Nid dyna yw polisi y Llywodraeth ac allwn ni ddim cytuno i’r gwelliannau yn y grŵp yma.
Gyda phopeth sy'n mynd i newid ar ôl y Bil hwn a phopeth arall sy'n gallu digwydd dros y chwarter canrif nesaf, dydw i ddim yn credu ei bod yn briodol gosod targedau y tu hwnt i 2050 am y tro. Ond yn hytrach, dwi yn barod i gydweithio gyda’r Aelod i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 yn gosod dyletswydd yn 2050 i adolygu pa dargedau y gellid eu gosod y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw. Ond heddiw, os bydd y gwelliannau yn cael eu rhoi i bleidlais, dwi'n gofyn i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliannau yn y grŵp hwn.
Diolch, Cadeirydd. Fel y gwnes i ddweud ar y dechrau, dwi ddim yn mynd i wthio am bleidlais ar y grŵp yma o welliannau, gan eu bod nhw'n welliannau procio, ond dwi jest eisiau ymateb i rai o’r sylwadau.
Yr egwyddor bwysig i fi wrth gynnig y gwelliannau yma yw nad ydyn ni'n amddifadu'r hawl i unrhyw blentyn gael eu trwytho yn y Gymraeg drwy’r system addysg a chaniatáu iddyn nhw ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus—a rhugl hefyd, gobeithio. Trwy ddweud, ymhen 75 mlynedd, neu beth bynnag, na fyddwn ni am weld, neu—mi wnaf i droi hwnna ar ei ben—drwy ddweud bod angen ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf arnom ni ymhen 75 o flynyddoedd, mae hynny'n gyfaddefiad y bydd yna rai plant o hyd yn cael eu hamddifadu o'r hawl a'r gallu i ddysgu'r iaith ac i ddod yn siaradwyr rhugl. Dwi'n gwrthwynebu'r egwyddor yna achos hoffwn i weld bob plentyn yng Nghymru yn cael yr hawl a'r cyfle hwnnw. Ond dwi'n croesawu, eto, y cynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet i gael sgwrs bellach ar hyn. Mae gyda ni ymrwymiad, a byddwn i'n hoffi gweld yr ymrwymiad yn uwch na'r 40 y cant presennol ar gyfer 2050. Ac wedyn, mae angen i ni gael sgwrs ynglŷn â beth i wneud ar ôl y targed hwnnw. Ond yr egwyddor i fi yw y dylai pob plentyn gael yr hawl i ddysgu'r iaith arbennig hon yng Nghymru, a dyna'r egwyddor dwi'n sefyll arni hi, Gadeirydd.
We now move on to group 6 on sixth forms—that wasn't deliberately grouped in that way; that's just a happy coincidence. The lead amendment in this group is 111, for cricketing fans who know what a Nelson is. I call on Cefin Campbell to move and speak to the lead amendment and the other amendments in the group.
Diolch, Cadeirydd. Eto, mae'r gwelliannau yma'n rhai procio, felly fyddaf i ddim yn gwthio am bleidlais. Mae’r gwelliannau yn y grŵp yma yn ceisio sicrhau bod rôl dosbarthiadau chwech mewn ysgolion yn glir wrth gyfrannu at nodau ac amcanion y Bil hwn.
Mae chweched dosbarth ysgolion mewn sefyllfa eithaf unigryw gan eu bod yn rhan o ysgolion ond maen nhw hefyd yn rhan o’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ac, felly, yn dod o dan gylch gorchwyl Medr. Nid yw rhan 3 y Bil, sy'n cynnwys dyletswyddau ar ysgolion i ddynodi eu categori iaith eu hunain, i fod â nodau dysgu Cymraeg, i fod â chynllun cyflawni addysg Gymraeg ar waith, a darparu isafswm o addysg Gymraeg yn unol â'u categori, yn berthnasol i ddysgwyr dros oedran ysgol gorfodol ac, felly, dyw hi ddim yn berthnasol i ysgolion mewn perthynas â'u chweched dosbarth ar hyn o bryd.
Nawr, dywedodd Medr yn eu tystiolaeth nad yw eu rôl nhw o gael arolygiaeth reoleiddiol dros chweched dosbarth ysgolion yn cael ei hystyried yn ddigonol yn y Bil, gan gynnwys y darpariaethau ar gyfer cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion. Roedden nhw'n teimlo y dylid edrych ar ysgolion yn eu cyfanrwydd er mwyn darparu llwybr cydlynol i ddysgwyr. Gan ystyried, Gadeirydd, bwysigrwydd dilyniant o’r sector addysg orfodol i’r sector ôl-orfodol, dwi'n credu y dylai’r cynlluniau cyflawni, a’r gyfran o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cael ei phennu ym mhob ysgol yn ôl ei chategori iaith, ymestyn hefyd i ddarpariaeth y chweched dosbarth o fewn yr ysgol unigol honno, a dyna pam dwi wedi cyflwyno gwelliannau 111, 112 a 127 i’r perwyl hwn.
Byddwn i yn ddiolchgar iawn i glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau bod dosbarthiadau chwech yn chwarae eu rhan o ran sicrhau cynnydd yn narpariaeth addysg Gymraeg a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus. Ac i ailadrodd yr hyn ddywedais i ar y dechrau, gan fod y rhain yn welliannau procio, fyddaf i ddim yn symud i bleidlais, ond byddwn i'n ddiolchgar iawn am drafodaeth bellach gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ar sicrhau sut mae chweched dosbarth ysgolion yn dod i mewn i ysbryd ac amcanion y Bil yma. Diolch.
So, amendment 111 is moved. Are there any Members who wish to speak in the debate? No, there are none. I call on Professor Drakeford to enter proceedings.
Thank you very much, Chair. Very regularly during Stage 1 discussions, I emphasised that this Bill had been brought forward to focus on creating more confident Welsh speakers through the efforts made during a student’s compulsory education. I also regularly recognised the importance of ensuring that those learners who choose to continue their education in school sixth forms can continue with their Welsh language learning or education through the medium of Welsh. The Bill already makes provision regarding this in section 23(3)(e), the national framework, and 28(2)(d), which deals with the WESPs. The effect of amendment 127, in the name of Cefin Campbell, would be to create an expectation that schools that have sixth forms will provide Welsh language provision in the sixth form that is the same as the Welsh language education that is provided during compulsory school age periods. This would, to all intents and purposes, extend the Welsh language as a mandatory element beyond compulsory school age.
Sixth-form provision is different in nature to provision for compulsory school age and it is part of tertiary education. It is subject to regulatory oversight by Medr, the Commission for Tertiary Education and Research. Medr works with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, as the organisation designated under the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 to advise Medr on its statutory duty to promote and ensure sufficient provision of Welsh-medium tertiary education. I think there is also a risk of unintended consequences should there be a requirement on schools to provide a certain level of Welsh language education in the sixth form. There is a risk that some schools would lose pupils if they had less flexibility regarding the language that sixth-form subjects are taught in. That, in some cases, could put at risk the ability of schools to provide sixth-form subjects. This could be particularly true in rural schools. We believe that allowing flexibility will support more pupils to stay in a Welsh-speaking environments in sixth forms, even if they do not study all subjects through the medium of Welsh.
Now, I agree with Cefin Campbell once again on the importance of Welsh-medium education in sixth forms. But, in my view, what we currently have, and the work that is being done by Medr and the coleg cenedlaethol, and those things that we're doing through this Bill in relation to tertiary education, are the best way of doing the work that Cefin Campbell referred to in his contribution.
Thank you very much, Chair. There are a number of points that arise here following the comments made by the Cabinet Secretary. The fundamental point behind our amendments in this instance is that the provision in sixth forms reflects the ethos and objectives of the school itself, and if that school is a primarily Welsh language school then one would expect the provision in the sixth form to reflect that in the same way. I don't entirely agree with the comments made by the Cabinet Secretary that there is a danger that we would lose pupils because of a limitation on the choice of medium. I think we need to create an ethos in Wales, through our education system in general, where we embrace bilingualism, where we see the advantages of Welsh-medium education, and bilingual education, as a crucial skill that can be transferred to the workplace and to those diverse sectors, those numerous sectors, that call for bilingual skills. So, we need to encourage our pupils to see the value of pursuing education through the medium of Welsh in the sixth form or in post-16 college, or any other kind of post-16 provision, because that is the kind of objective and ambition that we want to create for the future: to develop those confident bilingual skills for that range of sectors that are crying out for these kinds of skills.
So, our amendment seeks to tackle the provision in sixth forms of that same linguistic ethos and objective as seen in the compulsory sector in the years leading up to the sixth form. So, I don't agree with the comments by the Cabinet Secretary on that specific point. But, yes, I'm content to conclude on that point.
Thank you. The Member has indicated that he doesn't wish to move amendment 111 to a vote. So, are committee members content for amendment 111 to be withdrawn? I see that there are no objections. Amendment 111 is not put.
I move the amendment in the name of the Cabinet Secretary and call on the Cabinet Secretary to speak to the lead amendment and the other amendments in the group.
Wel, diolch yn fawr, Gadeirydd. Mae nifer fawr o welliannau yn y grŵp hwn, ac rwy'n ymddiheuro cyn dechrau am y manylion dwi'n mynd i'w roi i'r pwyllgor am bob gwelliant. Ond mae'n bwysig i gael popeth ar y record, achos mae gwelliannau pwysig yn y grŵp.
Roedd tystiolaeth i'r pwyllgor yma yn ystod Cyfnod 1 yn gofyn am fwy o ddiffiniad ac eglurder mewn rhannau o'r Bil. Mae'r gwelliannau yn y grŵp yma yn ymateb i waith y pwyllgor yn hyn o beth. Mae gwelliant 11 yn golygu bod y diffiniad o addysg Gymraeg wedi ei gyfyngu i addysg a hyfforddiant a ddarperir yn ystod sesiynau ysgol. Mae gwelliant 13 yn ei gwneud yn glir bod y diffiniad o 'ysgol' yn golygu ysgol a gynhelir gyda disgyblion o oedran ysgol gorfodol.
Mae gwelliant 14 yn cael gwared ar y diffiniad o 'sesiynau ysgol' yn adran 8(5) yn sgil gwelliant 64, sy’n diwygio adran 49. Pwrpas gwelliant 76 yw ehangu'r ystod o bobl y gall yr athrofa eu hariannu mewn perthynas ag addysgu neu ddysgu'r Gymraeg. Drwy newid 'ddarparwyr dysgu Cymraeg' i 'berson', mae'n ehangu'r pŵer fel y gall yr athrofa ariannu unrhyw berson, gan gynnwys darparwyr dysgu Cymraeg, mewn perthynas ag addysgu neu ddysgu Cymraeg. Mae cwmpas y pŵer cyllido yn llawer ehangach, ac yn galluogi'r athrofa i gynorthwyo mwy o bobl mewn perthynas ag addysgu neu ddysgu Cymraeg.
Gan droi at welliannau 79 ac 85, pwrpas gwelliant 79 yw cyfyngu'r diffiniad o ddarparwr dysgu Cymraeg yn adran 37(6) fel ei fod ond yn dal y darparwyr hynny y mae’r athrofa yn eu hariannu i ddarparu addysgu Cymraeg i bobl dros oedran ysgol gorfodol. Mae'r dystiolaeth i'r pwyllgor a dderbyniwyd gan Medr a'r coleg Cymraeg yn tynnu sylw at ddiffyg eglurder posib o ran cyfrifoldebau yn y sector addysg drydyddol a'r angen am ddiffiniadau cliriach ar gyfer darparwyr dysgu Cymraeg yn Rhan 5 o'r Bil.
Bydd gan yr athrofa rolau mewn perthynas â hybu cyfle cyfartal, gwelliant parhaus a gosod fframweithiau ansawdd, ac mae angen inni sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau Medr a'r athrofa yn cael eu diffinio'n glir.
Mae gwelliant 79 yn ei gwneud yn glir, pan fo’r Bil yn sôn am ddarparwyr dysgu Cymraeg, fod rôl yr athrofa wedi ei chyfyngu i'r darparwyr hynny sy’n cael arian gan yr athrofa i ddarparu dysgu Cymraeg i bobl dros oedran ysgol gorfodol. Bydd hyn yn sicrhau nad yw ysgolion chweched dosbarth a darparwyr eraill sy'n dysgu'r Gymraeg fel pwnc yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth yr athrofa oherwydd eu bod yn digwydd darparu dysgu Cymraeg i bobl dros oedran ysgol gorfodol. Mae ail ran gwelliant 79 yn sicrhau bod y diffiniad o 'oedran ysgol gorfodol' yn Rhan 5 yn gyson â'r diffiniad a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y system addysg, fel y nodir yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996.
Gan droi at welliant 85, mae hyn yn sicrhau bod gan y diffiniad o ddarparwyr dysgu Cymraeg yn adran 44(3)(e) yr un ystyr ag yn adran 37(6).
Hoffwn ddelio â gwelliannau 80, 81 ac 82 gyda'i gilydd, Cadeirydd. Pwrpas y gwelliannau hyn yw darparu diffiniad clir o'r ddarpariaeth dysgu Cymraeg a fydd yn cael ei dal gan adran 39 o'r Bil. Bydd adran 39 yn cynnwys cyfeiriad at a diffiniad ar gyfer 'rhaglenni dysgu Cymraeg'. Drwy gyflwyno gwelliannau 80 i 82, rwy'n ei gwneud yn glir bod dyletswydd yr athrofa yn adran 39 i hybu cyfle cyfartal ac annog pobl i gymryd rhan mewn dysgu Cymraeg wedi'i chyfyngu i'r rhaglenni mae’r athrofa yn eu darparu neu eu hariannu, nid pob un gweithgaredd dysgu Cymraeg. Bydd hyn yn rhoi eglurder ynghylch cyfrifoldebau, er enghraifft, yn y sector addysg drydyddol.
Mae gwelliant 86 yn cael gwared ar is-adrannau (1) a (2) o adran 49 o ganlyniad i welliant 87. Mae gwelliant 87 yn creu is-adrannau newydd yn adran 49 i gyfeirio at ddiffiniadau yn Neddf Addysg 1996. Mae gwelliant 86 a gwelliant 87 gyda’i gilydd yn golygu, pan fo Deddf Addysg 1996 yn rhoi ystyr neu'n diffinio term, mae'r diffiniad neu'r ystyr sy’n cael ei roi yn Neddf 1996 yn berthnasol, cyn belled â na wneir darpariaeth benodol yn y Bil hwn. Mae’r gwelliant yma yn disodli gwelliant 59, sydd wedi ei dynnu’n ôl.
Mae gwelliant 60 yn rhoi eglurder bod darpariaethau’r Bil yn berthnasol i ysgolion cymunedol, sefydledig neu wirfoddol yng Nghymru. Mae gwelliant 61 yn rhoi eglurder bod darpariaethau’r Bil yn berthnasol i ysgolion arbennig cymunedol yng Nghymru. Mae gwelliant 63 yn rhoi eglurder bod darpariaethau’r Bil yn berthnasol i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Mae gwelliant 64 yn dweud beth yw ystyr y term 'sesiynau ysgol' yn y Bil cyfan yng ngoleuni gwelliannau 11, 12 a 55. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu hamynedd a gofyn i chi gefnogi pob gwelliant yn y grŵp hwn?
Dim ond i ddweud y byddwch chi'n falch o glywed fy mod i ddim yn mynd i siarad ar y gwelliannau technegol yma. Dwi'n cytuno'n llwyr fod eu hangen nhw er mwyn tacluso'r Bil. Felly, hapus i'w cefnogi.
I move the amendment in the name of the Cabinet Secretary, and invite the Cabinet Secretary to speak to the lead amendment and the other amendments in the group.
Diolch yn fawr, Cadeirydd, a dwi'n ymddiheuro unwaith eto achos grŵp eithaf hir yw grŵp 8. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ymdrin â gofynion mewn perthynas ag addysg feithrin Gymraeg, fel mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud. Yn gyntaf, dwi eisiau tynnu sylw at welliant 12, sy’n diffinio ‘addysg feithrin Gymraeg’ fel
'(i) addysgu’r Gymraeg, a
'(ii) addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
'mewn ysgol neu ysgol feithrin a gynhelir yn ystod sesiynau ysgol i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol’.
Mae gwelliannau eraill y grŵp hwn yn cyfeirio at 'addysg feithrin Gymraeg' yn unol â'r diffiniad yng ngwelliant 12.
Mae gwelliant 15 yn gosod dyletswydd ar ysgolion a gynhelir, wrth lunio eu cynllun cyflawni addysg Gymraeg, i gynnwys gwybodaeth benodol os ydynt yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol, a gallaf i roi mwy o fanylion am y wybodaeth benodol os yw Aelodau eisiau clywed y manylion.
Mae gwelliant 20 yn gosod dyletswydd ar ysgolion cymunedol arbennig i gynnwys gwybodaeth benodol os ydynt yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol. Mae'n rhaid iddynt nodi swm yr addysg feithrin Gymraeg a ddarperir.
Mae gwelliant 22 yn creu adran newydd sy’n gosod dyletswydd ar ysgolion meithrin a gynhelir i lunio cynlluniau cyflawni addysg feithrin Gymraeg.
Mae’r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn yn cael eu gwneud o ganlyniad i’r cyfeiriadau hyn at addysg feithrin mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir.
Mae gwelliannau 17 ac 18 yn adlewyrchu gwelliant 15. Diben gwelliant 17 yw nodi bod yn rhaid i ysgolion a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol gymryd pob cam rhesymol i weithredu’r cynigion yn y cynllun am addysg feithrin Gymraeg. Yr un diben sydd i welliant 18, ond mewn perthynas â chynllun cyflawni sydd wedi ei ddiwygio.
Mae gwelliannau 50 a 51 yn ymwneud ag adran 28 o’r Bil, sef y rhestr o sefydliadau neu bersonau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â nhw wrth lunio eu cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg. Mae gwelliant 50 yn ychwanegu
‘phennaeth pob ysgol feithrin a gynhelir’,
ac mae gwelliant 51 yn ychwanegu,
‘chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir’.
Mae gwelliant 53 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol anfon eu cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg sydd wedi ei gymeradwyo at gorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir yn eu hardal.
Diben gwelliant 56 yw darparu eglurder o ran y diffiniad o ‘ysgol’ yn Rhan 4 y Bil, sef,
'ysgol a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol'.
Yn y Bil fel y cafodd ei gyflwyno, roedd adrannau 28(4)(b) a 31(1) wedi eu heithrio o’r diffiniad, gan olygu bod y diffiniad yn ehangach nag ysgolion sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol. Ond yn sgil gwelliannau 50, 51 a 53, mae’r eithriad hwnnw bellach yn ddiangen.
Mae gwelliant 58 yn sicrhau cysonder drafftio drwy’r Bil cyfan. Mae’n ei gwneud yn glir bod yn rhaid i ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae hyn yn gysylltiedig â gwelliant 62, ac mae gwelliant 62 yn sicrhau nad yw ysgolion meithrin a gynhelir yn cael eu trin fel ysgol a gynhelir at ddibenion y Bil, gan fod darpariaeth benodol yn cael ei gwneud amdanynt, a hynny yng ngwelliant 22.
Mae gwelliant 83 yn cael gwared ar y cyfeiriad at ysgolion
‘yng Nghymru (nad ydynt yn ddarparwyr dysgu Cymraeg)’
yn adran 41(b) o’r Bil, ac yn cynnwys cyfeiriad at ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir. Bydd hyn yn golygu bod dyletswydd yr athrofa o dan adran 41(b) yn canolbwyntio ar hybu cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion a gynhelir, a rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion meithrin.
Diolch i'r Aelodau am wrando yn ofalus ar y manylion yn y grŵp hwn, a dwi'n gofyn i'r Aelodau i gefnogi bob gwelliant yn y grŵp.
Os caf i. Rwy'n croesawu'r gwelliannau hyn yn fawr iawn, sy'n gysylltiedig â'r blynyddoedd cynnar. Fel y nododd Mudiad Meithrin yn eu tystiolaeth nhw i'r pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu,
'nad oes modd gwahanu’r sector addysg statudol o’r sector gofal ac addysg blynyddoedd cynnar...Mae’r berthynas agos rhwng y sectorau yn golygu bod diwygiadau i’r sector addysg statudol yn effeithio’n uniongyrchol ar y sector gofal ac addysg blynyddoedd cynnar—a hynny’n fwy amlwg yn sector Cymraeg.'
I ni sydd yn ymwybodol iawn o waith gwych y Mudiad Meithrin, mae hi'n llinell gyflenwi gwbl allweddol i dwf addysg Gymraeg, rhywbeth mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg hefyd yn nodi o ran ei bwysigrwydd. Felly, am y rhesymau syml hynny, Gadeirydd, rwy'n hapus iawn i bleidleisio o blaid y gwelliannau hyn.
Fantastic, thank you. We now move to group 9. Before I proceed to the next group, though, we'll have a brief comfort break. If people can try and be back in the next five minutes or so, if people need to use the facilities or get a hot drink, and then we'll move on with the next section up to the lunch break. But we'll start back with group 9. So, 10 minutes, please.
We're back in public session. We're going to start back on group 9, which are school language categories. The lead amendment in this group is amendment 114, so I call on Cefin Campbell to move and speak to the lead amendment and the other amendments in the group. Cefin.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Yn fy marn i, mae’r categorïau sy'n cael eu hamlinellu yn y Bil yn broblematig, felly dwi'n cynnig bod angen eu diffinio nhw yn fwy eglur. Beth rŷn ni wedi'i weld dros y degawdau yng Nghymru yw ein bod ni'n categoreiddio ysgolion, a chanlyniad hynny yw ein bod ni'n eu gosod nhw mewn sefyllfa statig, mewn gwirionedd, heb ysgogiad iddyn nhw i wneud cynnydd ar hyd y continwwm ieithyddol a symud i ryw gategori uwch o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Dyw'r Bil fel y mae e ddim yn rhoi sicrwydd y bydd ysgolion yn symud i fyny'r categori iaith yna, fel dwi wedi sôn amdano yn barod, sy'n codi cwestiwn sylfaenol, yn fy marn i, wedyn, ynglŷn ag effeithiolrwydd y Bil o safbwynt symud ysgolion yn eu blaenau.
Mae rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, RhAG, Cymdeithas yr Iaith, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn dadlau bod angen i'r categori prif iaith Cymraeg adlewyrchu’r categorïau 3 a 3P presennol, lle mae’r mwyafrif helaeth o'r addysgu yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, sef, mewn gwirionedd, pob pwnc ac eithrio’r Saesneg yn achos categori 3P. Fel arall, mae yna berygl o lithro nôl o ran faint o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy’n cael ei chynnig, oherwydd, ar hyn o bryd, byddai hi’n berffaith bosibl i ysgol prif iaith Cymraeg ddarparu cyn lleied â 51 y cant drwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, dwi'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf ohonom ni'n cytuno nad dyna lle rydym ni eisiau mynd o ran diffinio y math yna o gategori.
Felly, er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae gwelliant 114 a gwelliannau cysylltiedig yn fy enw i yn ceisio diffinio ysgolion prif iaith Cymraeg yn unol, yn y bôn, â'r diffiniad presennol o ysgol categori 3P. Golyga hyn wedyn na fydd unrhyw amheuaeth o ran statws y Gymraeg yn yr ysgolion hyn a maint yr addysg cyfrwng Cymraeg a fydd yn cael ei ddarparu.
Ymhellach, mae gwelliant 116 yn ganlyniadol, wedyn, i welliant 114, gan na fyddai angen i Weinidogion osod isafswm o addysg Gymraeg a fyddai'n cael ei ddarparu i ysgolion prif iaith Cymraeg gan ei fod wedi'i ddiffinio'n gliriach yn y cymal blaenorol.
Mae gwelliannau 119 a 120 yn ceisio newid y dyddiad terfyn, fel petai, ar gyfer ysgolion yn y ddau gategori arall i gyrraedd eu nodau dysgu Cymraeg. Rwy'n pryderu'n fawr am y geiriad presennol ar wyneb y Bil, sy'n gosod nod cyrhaeddiad ieithyddol i blant erbyn dyddiad—rwy'n dyfynnu o'r Bil drafft—
'a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau',
yn hytrach nag, yn ein barn ni, yn syml, 'erbyn 2050', fel cafodd ei nodi'n wreiddiol yn y Papur Gwyn. Yn fy marn i, mae angen bod yn fwy clir o ran y nod amser. Os dŷn ni ddim yn gwneud hyn, byddai'n rhoi rhwydd hynt i Weinidogion y dyfodol wthio'r targed yma yn ôl drwy reoliadau os nad ydyn nhw ar y trywydd cywir i'w gyrraedd, gan ailadrodd yr hyn, yn anffodus, sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf o ostwng targedau yn hytrach na gweithredu'n gadarn o'u plaid ac i gyrraedd nod yn uwch.
Bwriad y gwelliannau hyn, felly, yw nodi'n glir bod angen i ysgolion gyrraedd eu nodau dysgu erbyn 2050, sydd yn ddyddiad rŷn ni wedi'i dderbyn fel rhyw fath o drothwy ar gyfer creu o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac mae'n cyd-fynd â'r prif amcan a thargedau sy'n cael eu hamlinellu yn adran gyntaf y Bil hwn, fel dwi newydd sôn.
Mae gwelliant 123 yn ceisio atal Gweinidogion rhag newid categori iaith ysgol yn y categori prif iaith Cymraeg. Yn fy marn i, ni ddylai Gweinidogion allu dileu categori ysgol prif iaith Cymraeg. Er dwi'n derbyn does yna ddim darpariaeth yn y Bil sy'n caniatáu i reoliadau ddileu'r categori prif iaith Cymraeg, mae'r gwelliant hwn yn atal rheoliadau rhag diwygio'r categori hwnnw, rhag ofn yn y dyfodol y bydd Gweinidogion â barn wahanol am bwysigrwydd addysg Gymraeg.
Bwriad gwelliant 124 ac, felly hefyd, welliant canlyniadol rhif 125, yw cynyddu isafswm y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion categori dwy iaith ac ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg dros amser, a phwrpas gwelliant 126 yw sicrhau ar wyneb y Bil ddyletswydd ar gorff llywodraethu i gynllunio ar gyfer newid categori iaith ei ysgol. Byddai hyn yn adlewyrchu'r meddylfryd nad yw'r categorïau yn gategorïau statig ac na ddylai ysgol aros yn statig o fewn categori chwaith. Dyna yw prif fyrdwn hwn, sef ein bod ni'n awyddus i weld ysgolion yn symud ymlaen ar hyd y continwwm iaith yn hytrach nag aros mewn un categori fel rhywbeth tragwyddol.
Yn yr un modd, pwrpas gwelliant 142 yw ei gwneud yn gliriach o fewn y fframwaith cenedlaethol bod angen i ysgolion gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser fel bod modd i ysgolion symud drwy'r categorïau addysg. Felly, rwy'n edrych ymlaen unwaith eto, Gadeirydd, i gael trafodaeth ar y gwelliannau penodol hyn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Nid yw'r Llywodraeth yn credu bod y dystiolaeth a gafodd ei chlywed yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cefnogi'r cynigion yn y gwelliannau hyn, ac allaf i ddim gofyn i'r pwyllgor eu cefnogi nhw.
Mae gwelliant 114 yn diffinio'r categori prif iaith Cymraeg fel ysgolion sydd yn darparu eu holl darpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio pan gaiff ieithoedd heblaw am y Gymraeg eu haddysgu fel pwnc, ac, fel rydych chi wedi clywed, bod yr ethos a’r diwylliant a gaiff eu hybu gan yr ysgol ac o fewn iddi yn Gymraeg.
Byddai’r gwelliant hwn, yn ei ffurf bresennol, yn golygu y byddai llawer o ysgolion sydd ar hyn o bryd o fewn categori 3 yn y categorïau anstatudol yn cael eu cyfrif yn ysgolion dwy iaith, a gallai hyn arwain at ganfyddiad negyddol o ran effaith y Bil ar ysgolion sydd ar hyn o bryd yng nghategori 3. Fodd bynnag, rwy’n credu y gallai fod rhinwedd i ddatgan beth yw’r gofyniad lleiaf ar gyfer ysgolion Cymraeg yn bennaf, ac rwy’n credu bod potensial i ystyried gwelliant i’r perwyl hwn yng Nghyfnod 3.
Mae gwelliant 116 yn cael ei wneud o ganlyniad i welliant 114. Gan na allwn gefnogi gwelliant 114, nid yw’n briodol cefnogi gwelliant 116. Mae gwelliant 119 yn dileu gallu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn pennu erbyn pryd mae nod dysgu ysgolion dwy iaith yn codi fel bod disgyblion yn cyrraedd y lefel cyfeirio gyffredin B2 ar gyfer rhyngweithio llafar. Yn lle hynny, mae’r gwelliant yn nodi mai dyma fydd y nod dysgu erbyn diwedd mis Rhagfyr 2050. Felly, mae’r gwelliant hwn o bosib yn gam yn ôl i’r hyn sydd yn y Bil nawr. Mae’r Bil, fel y cafodd ei gyflwyno, yn golygu y gallai’r nodau dysgu gael eu huwchraddio gan reoliadau, ac rydyn ni’n rhagweld y byddai hyn yn digwydd cyn 2050. Wnaethon ni ddim rhoi union ddyddiad ar wyneb y Bil i ganiatáu hyblygrwydd i allu codi’r nod dysgu pan fydd ffactorau’n caniatáu i hynny ddigwydd, megis digon o weithlu ac adnoddau digonol. Ond, byddem ni’n gallu edrych ar welliant yng Nghyfnod 3 sy’n darparu bod yn rhaid i uwchraddio ddigwydd erbyn 31 Rhagfyr 2050 fan bellaf— a dwi’n meddwl bod hwnna’n ymateb i’r pwynt roedd Cefin Campbell yn ei godi pan oedd e’n siarad—ac nad yw'r rheoliadau i bennu dyddiad sydd yn bellach i ffwrdd na diwedd mis Rhagfyr 2050.
Yn dilyn yr un rhesymeg â’n penderfyniad i wrthod gwelliant 119, rydym yn gwrthod gwelliant 120, gan y gallai fod yn gam yn ôl, o bosib. Ond, unwaith eto, byddem ni’n gallu ystyried cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 sy’n darparu bod yn rhaid i’r uwchraddio ddigwydd erbyn 31 Rhagfyr 2050 fan bellaf.
Gan ein bod yn gwrthod gwelliant 114, rhaid inni wrthod gwelliant 123.
Rydym yn gwrthod gwelliant 124. Rydym yn credu y bydd yn briodol defnyddio’r pŵer yn adran 13(2)(b), sef pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio adran 10(3), er mwyn cynyddu isafswm yr addysg Gymraeg ar gyfer y categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, pan fydd ffactorau yn caniatáu ar gyfer hynny, ac, fel dywedais i, mae'r ffactorau yn cynnwys digon o weithlu ac adnoddau digonol.
Mae'r gwelliant yn cynnig dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i gynyddu'r isafswm o addysg Gymraeg sy'n cael ei bennu ar gyfer y categorïau prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, a dwy iaith. O safbwynt cyfreithiol, nid yw hyn yn eglur o ran pryd yn union y mae'n rhaid gwneud y rheoliadau hyn. Mae'n ddyletswydd benagored heb ddyddiad penodol.
Iawn. Diolch, Cadeirydd. Mae yna nifer o bwyntiau yn fanna, gan fod yna nifer o welliannau gwahanol yn y grŵp yma. Dwi am, efallai, eu cymryd nhw fesul grŵp o fewn y grŵp, os caf i eu disgrifio nhw yn y ffordd yna.
O ran diffinio yn well y categori prif iaith Cymraeg, fe ddywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, nad oeddech chi'n meddwl bod yna ddigon o dystiolaeth gadarn wedi cael ei chyflwyno i'r pwyllgor. Dwi ddim yn siŵr a ydw i'n cytuno, achos, fel gwnes i ddweud yn fy nghyflwyniad i, roedd Comisiynydd y Gymraeg, RhAG, Cymdeithas yr Iaith, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r ganolfan dysgu Cymraeg, sef yn fwy neu lai ein prif fudiadau iaith ni neu'n sefydliadau iaith ni yng Nghymru, yn anghytuno, a dweud y gwir. Roedden nhw'n meddwl bod angen cryfhau y categori prif iaith Cymraeg i adlewyrchu'n well y categorïau 3 a 3P presennol, achos, fel gwnes i ei ddweud, gellid bod y darparu cyn lleied â 51 y cant er mwyn i ysgol fod yn ysgol brif iaith Gymraeg. Wedi dweud hynny, dwi’n cydnabod ichi estyn cynnig am sgwrs, efallai, cyn Cyfnod 3 o ran gosod isafswm ar gyfer y categori arbennig yma, a dwi'n edrych ymlaen at gael y sgwrs yna gyda chi, achos mae’n un o’r pethau sy'n fy mhoeni i ac yn poeni'r mudiadau a’r sefydliadau iaith roeddwn i'n cyfeirio atyn nhw yn gynharach. Felly, mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu.
Os caf i fynd at y pwynt nesaf, o ran y gwelliant neu'r gwelliannau sy’n ceisio gosod dyddiad ar gyfer symud yr ysgolion yma ymlaen ar hyd y llwybrau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, dwi’n derbyn y pwynt rŷch wedi’i wneud fod lle a dyletswydd ar Weinidogion i uwchraddio wrth inni symud ymlaen dros y blynyddoedd nesaf, a dwi'n edrych ymlaen eto at gael sgwrs gyda chi ynglŷn â hynny. Dwi ddim eisiau gweld camu nôl yn digwydd o gwbl, ac felly dwi’n cytuno â’r egwyddor yna, ond dwi'n meddwl, er ein bod ni'n gallu uwchraddio ac yn annog uwchraddio i ddigwydd, dwi yn dal ddim yn credu bod lle i boeni am osod erbyn 2050 fel nod i'r uwchraddio yma i ddigwydd. Mae e, fel y dywedais i'n gynharach, yn cyd-fynd â’r garreg filltir bwysig yna rŷn wedi’i gosod ar gyfer 2050.
Y pwynt wedyn ynglŷn â nad yw'n rhesymol y dylai pob ysgol symud ar hyd y categorïau. Gwnaethoch chi grybwyll ffactorau allanol a allai beri bod hynny'n amhosibl, fel gweithlu, adnoddau ac yn y blaen. Dwi’n meddwl bod yna berygl yn fan hyn ein bod ni'n gyrru'r neges i ysgolion, 'Gwrandewch, gallai fod yna ffactorau, felly peidiwch â phoeni os dŷch chi ddim yn symud ar hyd y categorïau.' Nid dyna’r neges rŷn ni eisiau ei rhoi. Rŷn ni eisiau dweud wrthyn nhw, 'Gwrandewch, mae yna ddisgwyl ichi symud, ond rŷn ni'n derbyn dan rai eithriadau prin y bydd hynny'n amhosibl i chi ei gyflawni.' Felly, y neges yw ein bod ni'n disgwyl iddyn nhw symud ar hyd y categorïau a byddem ni'n rhoi pob cefnogaeth iddyn nhw i wneud hynny, ond rŷn ni hefyd, wrth gwrs, yn realiti y sefyllfa addysg ar hyn o bryd, yn derbyn bod yna heriau yn mynd i fod, ond eithriadau ddylai’r rheini fod, yn hytrach na ein bod ni'n gosod hynny fel norm posibl ar gyfer yr ysgolion yma. Felly, mae’r ieithwedd yn bwysig, dwi'n meddwl, o ran sut rŷn ni'n cefnogi ein hysgolion i ddatblygu.
Diolch yn fawr. The question is that amendment 114 be agreed. Does any Member object? [Objection.] There are objections, so we'll move to a vote. All of those in favour of amendment 114 please show. That’s one. And all of those against. That’s one in favour and five against. Amendment 114 is therefore not agreed.
We now move to group 10, on the minimum amount of Welsh-language education in primarily English, partly Welsh category schools. The lead amendment in this group is amendment 115, and I call on Cefin Campbell to move and speak to the lead amendment and the other amendments in this group. Cefin.
Thank you, Chair. These amendments refer to the Part of the Bill that sets a minimum of 10 per cent of provision in category 1 schools, namely, those primarily English language, partly Welsh schools. It’s unclear—and this is part of the evidence that was submitted by a number of organisations that have submitted evidence—it is unclear in the Bill whether this includes the time that is already set aside for learning Welsh as a subject, and that can vary between 6 per cent and 8 per cent of the curriculum, depending on the school, or whether the 10 per cent proposed is on top of that, if I understand correctly. So, we need clarity on this point. The current minimum includes the percentage of education that is compulsory in learning Welsh as a subject. So, if this 10 per cent mentioned in the Bill includes the 6 per cent to 8 per cent that is currently taught in terms of the Welsh language as the subject, well, it isn’t much of an increase, truth be told. But our amendments, amendments 117 and 118, seek to add a further 10 per cent to the current minimum; in other words, it changes the minimum to be around 20 per cent. This means that schools will have to meet the minimum level through the two elements, namely teaching the Welsh language as a subject and also holding one or two educational sessions per week in another subject through the medium of Welsh. And, as it happens, I attended an evening held by Estyn last night when they were presenting their annual report, and Estyn referred to a very large number of schools that are already demonstrating good practice in terms of introducing subjects beyond the Welsh language as a subject, and these in primarily English schools. So, I believe that this higher minimum of 20 per cent should be set in the first instance, which would be an increase on the current situation, and all schools could start working towards this immediately, with support from the Government to do just that. As I’ve said, there are a number of schools doing this already.
Amendment 118 beyond that calls on governing bodies to ensure that the school offers at least 5 per cent of any activities provided outside of formal school sessions through the medium of Welsh. And we’re talking here about informal activities, extra-curricular activities, that could include sessions held by the Urdd, rugby sessions and so on.
I have tabled amendment 115 because Government officials have told the committee that the current 10 per cent minimum wouldn’t be offered to each pupil, but as 10 per cent of the general education provision offered by a school, and that’s a matter of deep concern, because a related matter, which is relevant to this element and to the provision in each school category, is the principle of ensuring a minimum amount of Welsh language education for each pupil. That’s the principle here, in my view, that every pupil should have the opportunity to master the Welsh language. Otherwise, it’s not clear how it will be possible to achieve the educational goal that every pupil reaches at least B2 level if there is no guarantee that every pupil receives the provision and the necessary contact hours.
The aim of amendment 115, therefore, though it is a probing amendment, is to try to obtain further information from the Government on how we can ensure that every pupil, or as close to all pupils as possible, receives the minimum amount of Welsh language education provision. Otherwise, how do we ensure that every pupil leaves school as an independent and confident Welsh speaker at level B2, if there is no guarantee that they will receive the core contact hours that they require? So, there is a combination here, Chair, of a probing amendment and amendments that I would wish to move to a vote on. Thank you very much.
Diolch, Cadeirydd. Jest i siarad yn glou ar hyn, byddwn ni'n gefnogol o welliant 115, ond, ynglŷn â 116, 117 ac 118, ni fyddwn ni'n gefnogol heddiw, ond byddwn ni'n ddigon agored i gydweithio gyda'r Aelod, Cefin Campbell, i ddod â rhywbeth ymlaen yn ystod Cyfnod 3. Ond, ynglŷn â gwelliant 118 a'r 5 y cant o unrhyw weithgareddau y tu fas i sesiynau ysgol, mae bach o bryder gyda fi ar hyn, achos dwi'n credu ei fod yn hollbwysig bod plant, y tu fas i'r ysgol, yn cael rhywbeth ychwanegol i'w haddysg; nid dim ond drwy wersi mae plant yn dysgu yn yr ysgolion. So, dwi ddim yn moyn gweld unrhyw beth sydd yn tueddu stopio unrhyw blentyn rhag cael addysg ychwanegol y tu fas i'r ysgol, drwy weithgareddau eraill. Ond dwi'n ddigon hapus i gydweithio gyda'r Aelod yn ystod y cyfnod nesaf tuag at Gyfnod 3.
Thank you very much, Chair. I want to deal first with amendment 115. The problem that we have with amendment 115 is that it is contrary to the policy stance that we have taken, namely that the provisions of the Bill relate to the language provision of the school generally, not the language provision provided to every pupil, as is proposed by this amendment. The Bill as introduced allows for some needed flexibility for schools, and that's what we've heard from the schools. Of course, we want to see almost all pupils receiving the provision set out in the Bill, but if we're going to place a duty on schools to ensure that every student in that school should be treated in the same way, well, what about pupils who are out of school for a fortnight because of illness? What about pupils who have additional learning needs? What the schools were asking for was some flexibility, under the ceiling of what [correction: flexibility about what] the Bill sets out more generally, in order to deal with specific circumstances and needs and to provide flexibility to schools if they need to meet them by [correction: if they need it by] tailoring the provision. There is a key difference between ensuring that all pupils receive the same provision and the current requirement of the Bill that the general provision at school level meets the requirements of the language categories.
As you've heard, the aim of amendment 117 is to change the minimum Welsh language education required of schools in the primarily English language, partly Welsh category. Now, throughout Stage 1, the committee heard evidence from some key stakeholders that 10 per cent would be difficult to achieve. Now, I believe that the minimum of 10 per cent is an ambitious but realistic requirement, as introduced by the Bill. There is a real danger, in increasing that minimum to 20 per cent, that schools would simply not have the teaching capacity, even with the exemption periods, to provide that amount.
Certainly, some schools in the primarily English language, partly Welsh category will have the capacity to provide 20 per cent of their education through the medium of Welsh, and local authorities will encourage and support such ambition. However, there would be significant risks in setting a minimum of 20 per cent for all primarily English language, partly Welsh schools when the evidence that we have indicates clearly that this is not feasible at the moment.
It's also to remind the committee that there is a power for Welsh Ministers to amend section 10(3), so as to increase the minimum amount of Welsh language education provision for the primarily English language, partly Welsh category. And there is a duty on Welsh Ministers under section 13(5) to decide every five years whether that minimum should be increased. So, every five years we will reflect on the capacity of schools to achieve an increased minimum, especially with a view to meeting the upgraded learning goal set by section 11(3).
Diolch eto. Mae yna nifer o bwyntiau dwi eisiau ymateb iddyn nhw. A gaf i ddechrau gyda sylwadau Sam? Dwi'n siŵr fy mod i wedi deall yn iawn fod Sam, fel yr Ysgrifennydd Cabinet a minnau, yn dymuno gweld mwy o weithgareddau anffurfiol allgyrsiol yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg—hynny yw, defnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau hwyliog, lle dyw plant ddim hyd yn oed yn meddwl eu bod nhw yn siarad yr iaith, ond maen nhw'n ei defnyddio hi wrth gicio pêl, neu chwarae gemau, neu beth bynnag. Felly, rŷn ni i gyd ar yr un dudalen o ran hynny, ac rwy'n falch o gael y sgwrs bellach gyda thi, Sam, hefyd, ar y lleiafswm o 10 y cant.
Felly, jest i ymateb i'r Ysgrifennydd Cabinet, mae tair elfen, rwy'n meddwl, i'r gwelliannau yma. Ar y gwahaniaeth rhwng darpariaeth ysgolion a’r ddarpariaeth i bob disgybl, dwi’n derbyn y pwynt y byddai yna eithriadau o gwmpas anghenion dysgu ychwanegol ac absenoldeb hirdymor ac yn y blaen. Ond, mae’n rhaid inni fod yn gyson, wedyn, drwy’r Bil. Os ydyn ni’n dweud yn y Bil ein bod ni’n disgwyl i bob disgybl gyrraedd lefel B2 o leiaf, mae’n rhaid i hynny fod yn gyson, wedyn, gyda sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei darparu i bob disgybl, neu ni fyddai’r nod hwnnw’n gallu cael ei gyflawni. Felly, dwi’n meddwl bod angen inni gael sgwrs, Ysgrifennydd Cabinet, ynglŷn â chysoni’r ddwy elfen yna, sef bod pob disgybl yn cyrraedd lefel B2 a bod pob disgybl yn derbyn darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond dwi’n cydnabod eich pwynt chi fod yna eithriadau i hynny o dan rai amgylchiadau penodol.
Yr ail elfen, wedyn, yw beth yw’r ddarpariaeth bresennol, o ran addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion prif gyfrwng Saesneg. Os ydych chi'n dadlau bod 10 y cant yn anodd ei gyflawni, wel, mi fyddwn i’n dadlau bod 6 i 8 y cant eisoes yn cael ei ddarparu. Felly, yn ôl eich dadl chi, rŷn ni ond yn gofyn i’r ysgolion uwchradd i gynyddu eu darpariaeth ryw 2 y cant. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n ddigon uchelgeisiol dros y blynyddoedd nesaf—2 y cant ar ben yr hyn y maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd, mewn gwersi pwnc iaith Cymraeg. Dyna pam, os ydyn ni’n derbyn bod y cyfartaledd rywle rhwng 6 ag 8 y cant—. Os mai eich ysbryd chi yw 10 y cant ar ben y pwnc, wel, wedyn mae’n rhaid inni feddwl yn nhermau ryw 18 i 20 y cant fel swm o ran cyfran y cwricwlwm er mwyn sicrhau bod yna lefel o hyder yn cael ei chyflawni.
Os caf i ddweud hwn yn gwbl gignoeth, mewn gwirionedd, rŷn ni’n gwybod bod y system ail iaith bresennol yn methu â chyflawni'r nodau rŷn ni’n eu dymuno. Rŷn ni’n gwybod bod Cymraeg ail iaith, fel mae adroddiad Sioned Davies 12 mlynedd yn ôl yn nodi, yn methu â rhoi sgiliau digonol i’n plant i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Felly, beth rŷch chi’n ei awgrymu yw ychwanegu 2 y cant yn unig ar ben beth sy’n methu yn barod. Felly, dydw i, yn sicr, ddim yn gweld hynny’n gynnydd o unrhyw fath yn y byd sy’n mynd i arwain at siaradwyr hyderus. Dyna pam mae ein gwelliant ni yn awgrymu o gwmpas 20 y cant, er mwyn gwneud y cynnydd real ac effeithiol hynny yn y defnydd a’r set sgiliau sydd eu hangen. Felly, byddwn i’n croesawu sgwrs bellach gyda chi, os byddech chi’n hapus, ar y pwynt penodol yna.
Wedyn, i gloi, ar y gofyniad yn ein gwelliant ni i gyrff llywodraethu ddarparu 5 y cant o weithgaredd allgyrsiol, anffurfiol drwy gyfrwng y Gymraeg, dwi’n derbyn yn llwyr mai ond darparu hynny y mae ysgolion yn gallu ei wneud, nid gorfodi pob disgybl i fod yn rhan a chyfranogi o'r gweithgaredd yna. Felly, o bosibl, mae’n rhaid i ni dwtio’n gwelliant ni ar gyfer Cyfnod 3 i adlewyrchu’r hyn rydych chi’n cyfeirio ato, yn gwbl gywir, sef mai cynnig y ddarpariaeth yna, y cyfleoedd yna, y gall ysgolion ei wneud yn hytrach na gorfodi pob disgybl, achos, fel rŷn ni’n gwybod, ar ôl oriau ysgol y mae llawer o’r gweithgareddau yma’n cael eu cynnal, a does yna ddim gorfodaeth i ddisgyblion aros ar ôl ysgol i gyfranogi o’r gweithgareddau. Mater arall yw’r hyn sydd yn digwydd yn ystod awr ginio, wrth gwrs, lle mae mwy o reolaeth gan athrawon dros hynny. Ond y pwynt dwi’n credu dwi’n ei wneud yw bod yna dir y gallwn ni fod yn cytuno arno fe, dwi’n siŵr, gyda nifer o’r elfennau yma, felly buaswn i’n croesawu sgwrs bellach ar hynny. Diolch, Cadeirydd.
Thank you. The question is that amendment 115 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections, so we’ll move to a vote. All those in favour of amendment 115, please show. That’s three. All those against. That’s three. There are three in favour, three against. It’s a tie. Therefore, I use my casting vote in the negative, and amendment is 115 is not agreed.
Okay. Are there any objections? [Objection.] There are. So, all those in favour of amendment 117, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 117 is not agreed.
Okay. Are there objections? [Objection.] There are. So, all those in favour of amendment 118, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 118 is not agreed.
Is there an objection? [Objection.] Okay. So, there is an objection. All those in favour of amendment 119, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 119 is not agreed.
Okay. Amendment 120 is moved. Does any Member object? [Objection.] There is an objection, so we'll move to a vote. All those in favour of amendment 120, please show. That's one. All those against, please show. That's five. One in favour, five against. Amendment 120 is not agreed.
We move to group 11 on the promotion of Welsh language education and continuity in schools. The lead amendment is amendment 121. I call on Cefin Campbell to speak to the lead amendment and the other amendments in the group.
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Mae hybu addysg Gymraeg a dilyniant o fewn a rhwng ysgolion yn elfen hollbwysig yn ein dyhead i gynyddu nifer y plant sydd yn derbyn addysg drwy gyfrwng Cymraeg. Rŷn ni, wrth edrych yn ôl dros gyfnod o 30 mlynedd, yn gallu gweld bod yna gamau ar hyd y daith lle mae yna symud oddi wrth addysg Gymraeg yn gallu digwydd wrth drosglwyddo o un cyfnod allweddol i'r llall, yn bennaf wrth i ddisgyblion symud o addysg gynradd i addysg uwchradd. Mae gwelliant 121, felly, yn deillio o dystiolaeth a gyflwynwyd gan Rhieni dros Addysg Gymraeg. Ac yn eu tystiolaeth nhw—dwi'n dyfynnu—maen nhw'n dweud:
'Elfen allweddol er mwyn sicrhau dilyniant ieithyddol o’r cynradd i’r uwchradd ac osgoi colli disgyblion i ysgolion uwchradd Cymraeg yw sicrhau nad yw plant yn llithro i ysgol uwchradd â chategori is. Yn rhy aml, gwelwn hyn yn digwydd pan fo ysgolion cyfrwng Saesneg yn agosach i gartrefi’r plant neu’n haws i’w cyrraedd o ganlyniad i ddiffyg cludiant addas a hygyrch. Mae adran 11 (4) yn rhoi cyfle yma i osod yn glir y rhagdybiaeth bod y plant yn symud i’r ysgol o’r un categori neu uwch. Bydd yr adran hon yn cryfhau gallu Awdurdodau Lleol ac ysgolion i bontio gydag ysgolion o’r un categori. Bydd yn alinio gyda’r awydd i roi cyfleoedd trochi hwyr ym mlwyddyn 7 ac 8 i ddisgyblion hefyd.'
Dyma pam rwy'n cyflwyno’r gwelliant hwn a fydd yn golygu, os yn llwyddiannus, y bydd yr is-adran bellach yn darllen fel a ganlyn, a dwi'n dyfynnu:
'Mewn perthynas â’r nodau dysgu Cymraeg ar gyfer ysgol gynradd, mae disgwyliad cryf y bydd disgyblion yr ysgol yn parhau ag addysg mewn ysgolion o’r un categori iaith hyd nes iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol.'
Cadeirydd, dwi hefyd wedi cyflwyno gwelliant 143 yn y grŵp yma. Gyda’ch caniatâd, ar y pwynt yma hoffwn gyfeirio at welliant 29 gan y Llywodraeth, er iddo gael ei nodi fel rhan o grŵp 15 nes ymlaen. Y rheswm am hynny yw bod gwelliant 29 gan y Llywodraeth yn ceisio gwella’r Bil yn yr un lle a fy ngwelliant i yn y grŵp hwn. Felly, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Tra bod gwelliant 29 yn cryfhau’r Saesneg fel ei bod yn gydnaws â’r Gymraeg, bwriad gwelliant 143 yw ceisio cryfhau’r Bil yn y Gymraeg a’r Saesneg—nid yn unig annog dilyniant, ond annog a chynnal y dilyniant yna pan fydd y disgyblion yn trosglwyddo.
I gloi, o ran gwelliannau’r Llywodraeth yn y grŵp yma, rwy’n gefnogol i bwrpas ac effaith y gwelliannau hynny fel sy'n cael ei amlinellu gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a byddaf i'n hapus iawn i bleidleisio o’u plaid nhw.
Diolch, Cadeirydd. Dymunaf siarad ar welliannau 121, 27 a 47. Er y gallaf gefnogi rhai gwelliannau yn y grŵp hwn, ni allaf gefnogi'r tri hyn gan eu bod unwaith eto yn ceisio dileu'r dewis i rieni a disgyblion ynghylch addysg cyfrwng Gymraeg. Mae yna enghreifftiau yn ardaloedd gorllewin Cymru, er enghraifft, ble mae'r dewis gan y disgyblion os maen nhw'n moyn mynd i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, a dwi'n credu ei fod yn hollbwysig bod y dewis gan y rhieni a'r plant ar beth maen nhw'n moyn ei wneud. Mae yna waith i'w wneud ar hyn, wrth gwrs, ond dwi ddim yn credu bod angen deddfu yn y ffordd mae'r gwelliannau yma yn ei wneud.
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Dwi'n mynd i ddelio i ddechrau gyda gwelliant 121. Rŷn ni'n siarad yn fan hyn am y geiriau rŷn ni'n eu defnyddio. A dweud y gwir, dwi ddim yn teimlo mor gryf yn fan hyn, ond dwi'n mynd i jest esbonio'r cyngor dwi wedi'i gael a pham allaf i ddim cefnogi'r gwelliant.
Bwriad gwreiddiol y geiriad yn y Bil fel y cafodd ei gyflwyno oedd helpu ysgolion cynradd i gynllunio eu darpariaeth. Mae angen i ysgolion cynradd wybod at beth y maen nhw yn gweithio, gan y bydd y disgyblion yn gadael yr ysgol gynradd cyn iddyn nhw gyrraedd oedran ysgol gorfodol. Er fy mod yn deall y bwriad y tu ôl i eiriad y gwelliant 'disgwyliad cryf’, rwy’n credu bod 'tybiaeth' yn gryfach na 'disgwyliad', a dwi wedi cael cyngor cyfreithiol o’r un farn. Er fy mod yn awyddus i’r Bil gael ei gryfhau yn ystod proses graffu Cyfnod 2, rwy’n gyndyn o gefnogi gwelliant sydd, yn ôl y cyngor dwi wedi'i gael, yn gwanhau’r ddarpariaeth wreiddiol.
Yn troi nawr, Gadeirydd, at welliant 26 y Llywodraeth, diben y gwelliant yw ei gwneud yn glir mai’r gofyniad yn adran 23 yw bod Gweinidogion Cymru yn pennu yn y fframwaith cenedlaethol y camau y byddan nhw yn eu cymryd i hybu’r ‘addysg Gymraeg’ a ddarperir mewn ysgolion prif iaith Cymraeg yn hytrach nag ‘addysg’ yn gyffredinol.
Mae gwelliant 27 y Llywodraeth yn cael gwared ar y gofyniad i Weinidogion Cymru nodi yn y fframwaith cenedlaethol y camau y maen nhw am eu cymryd i hybu'r addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori dwy iaith. Mae hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar hybu addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion categori prif iaith Cymraeg, sy’n cyd-fynd â’n cred mai’r categori hwn yw’r ffordd gyflymaf i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.
O ran gwelliant yn enw Cefin Campbell, gwelliant 143, rŷm ni wedi clywed beth ddywedodd Cefin Campbell yn barod, ond rydw i'n pryderu y byddai 'cynnal dilyniant' yn gam yn ôl. Mae dyletswyddau yn y Bil i hyrwyddo addysg drochi hwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion symud o ysgol prif iaith Saesneg i ysgol prif iaith Cymraeg, os yw'n bosibl. Rŷn ni i gyd, siŵr o fod, wedi cwrdd â disgyblion gyda'r athrawon mwyaf brwdfrydig sy'n dangos bod hynny yn hollol bosibl. Mae hynny yn fwy na 'chynnal dilyniant'.
Mae gwelliant 30 y Llywodraeth yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i ddweud yn y fframwaith cenedlaethol pa gamau y byddant yn eu cymryd i annog dilyniant o ran addysgu Cymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir.
Mae gwelliant 47 yn cael gwared ar y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i nodi yn eu cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg y camau y byddant yn eu cymryd i hyrwyddo a darparu gwybodaeth am yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion dwy iaith. Dim ond mewn perthynas ag ysgolion prif iaith Cymraeg y bydd y ddyletswydd yma yn berthnasol. Yn debyg i welliant 27 yn y grŵp yma, mae’r gwelliant hwn yn golygu y bydd yr addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion categori prif iaith Cymraeg yn cael ei hybu.
Diolch yn fawr iawn. Os caf i ymateb efallai i sylwadau Sam i ddechrau, mae'r gair 'dewis' yma yn cael ei grybwyll yn aml iawn. Fel arfer, rhieni sydd yn gwneud y dewis, ond weithiau dyw'r disgybl ei hun ddim yn cael y dewis digonol yna o ddewis trywydd sydd yn mynd i ganiatáu iddo fe neu hi i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Ac ŷn ni'n gwybod, hynny yw, eu bod nhw'n mynd i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, drwy gyfrwng y Gymraeg neu mewn ysgolion dwy iaith, o leiaf, os ydyn nhw'n cael eu trochi yn y Gymraeg, os ydyn nhw'n clywed a chael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyson. Achos fel mae unrhyw un sydd wedi cael gwersi piano blynyddoedd mawr yn ôl, neu wersi golff, yn gwybod, os ŷch chi ddim yn arfer y sgiliau yn aml ac yn gyson, ŷch chi'n colli'r sgiliau yna. A beth ŷn ni'n ei weld yn ormodol mewn ysgolion yng Nghymru yw plant yn dod yn gymharol rugl erbyn blwyddyn 6, diwedd ysgol gynradd, yn siarad yn hyderus, wedyn maen nhw'n mynd i addysg trwy gyfrwng y Saesneg ac mae'r sgiliau maen nhw wedi'u hennill yn yr ysgol gynradd yn cael eu colli. Maen nhw'n colli'r hyder, wedyn, o ran defnydd iaith. Felly, dwi'n ofni ein bod ni'n gwarafun y dewis yna i blant, sydd yn bwysig iawn, iawn, yn fy marn i.
O ran semanteg, mae'n ddiddorol, pan ŷn ni yn trafod ystyr geiriau unigol—a dwi ddim yn gyfreithiwr, felly dwi ddim yn mynd i roi unrhyw her i'r cyngor cyfreithiol ŷch chi wedi'i gael; fyddwn i ddim yn mentro gwneud hynny. Ond mae gennym ni, ar y naill law, 'disgwyliad cryf', sydd yn cyfieithu i—wel, roeddwn i'n mynd i ddweud 'great expectations', ond mae hwnna'n swnio'n Dickensian iawn. Hynny yw, 'expectation' yw 'disgwyliad', ie? Ac wedyn mae 'tybiaeth' yn 'assumption'. Felly, dwi ddim yn gwybod. Efallai fod angen person llawer mwy clyfar na fi i esbonio'r nuances y tu ôl i'r ddau air yna, ond efallai fod hynny yn rhywbeth y cawn ni ei drafod eto, dros gwpaned o goffi cryf iawn, buaswn i'n ei awgrymu, er mwyn mynd mewn i berfedd ystyr geiriau.
Ond jest i fynd nôl at y pwynt olaf gwnaethoch chi: mae'r cyfleoedd trochi hwyr, wrth gwrs, yn rhywbeth ŷn ni'n eu croesawu yn fawr iawn. Rŷn ni'n gweld gymaint o enghreifftiau o blant yn cael eu trochi ac yn dod yn siaradwyr hyderus. Felly, i'w barhau, dwi'n meddwl, y drafodaeth ar semanteg. Ond dwi'n credu ein bod ni i gyd yn derbyn yr egwyddor fod angen inni hyrwyddo cymaint ag sy'n bosibl y dilyniant ieithyddol yna rhwng y gwahanol gyfnodau mewn addysg plentyn sydd mewn addysg orfodol. Felly, os caf awgrymu, trwy'r Gadair, ein bod ni'n parhau â'r sgwrs yna, i weld sut orau i gyfleu'r neges bositif yna i rieni ac i ddisgyblion hefyd.
Thank you. The question is that amendment 121 be agreed. Does any Member object? [Objection.] There is an objection, so we'll move to a vote. All those in favour of amendment 121, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 121 is not agreed.
We move to group 12 on exemptions. The lead amendment in this group is amendment 122, so I ask Cefin Campbell to move and speak to that amendment and the other amendments in the group.
Diolch, Gadeirydd. Ie, esemptiadau yw'r sylw yn y grŵp bach yma o welliannau. Pwrpas y gwelliannau yw hepgor adran 19 o’r Bil sy’n cyfeirio at esemptiad pellach ar gyfer ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg, yn arbennig y rheini sydd yn parhau o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol iddyn nhw ddarparu’r isafswm o addysg Gymraeg a fyddai’n ofynnol fel rhan o’r Bil.
Fel dwi wedi cyfeirio ato eisoes, wrth drafod faint o isafswm y dylid ei osod ar wyneb y Bil o ran addysg Gymraeg, os ydyw'r Bil—ac yn mynd yn ôl at ddadl yr Ysgrifennydd Cabinet—yn mynnu mai 10 y cant yw'r isafswm, wel, fyddwn i ddim yn disgwyl i unrhyw ysgol uwchradd fynnu, man pellaf, mwy nag un esemptiad o hynny, achos, fel dwi wedi dadlau, maen nhw'n barod yn darparu rhyw 8 y cant beth bynnag. Felly, dwi ddim yn gweld y ddadl yna o gwbl. Ond os ydym ni yn gallu cyrraedd y man, erbyn Cyfnod 3 y Bil yma, ein bod ni'n ystyried o ddifrif ychwanegu 10 y cant at yr isafswm presennol sy'n cael ei ddysgu fel Cymraeg fel pwnc, wedyn mae modd i ni ystyried un esemptiad fel norm disgwyliedig, gan ystyried yr heriau rŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw'n barod, a bod dau esemptiad yn gwbl, gwbl eithriadol, a dweud y gwir. Nawr, dwi'n derbyn bod rhai rhanddeiliaid, wrth gyflwyno tystiolaeth, fel awdurdodau lleol trwy'r WLGA, y Cyngor Gweithlu Addysg, a rhai undebau, wedi dweud y byddai esemptiad yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion, ond dwi hefyd yn cofio Comisiynydd y Gymraeg yn awgrymu y gall esemptiad barhau am gyfnod o hyd at 10 mlynedd. Dwi ddim yn credu bod un ohonom ni eisiau rhoi cymaint â hynny o esemptiad, achos os hynny wedyn mae'n anhebyg iawn y byddwn ni'n cyrraedd y nod o o leiaf miliwn o siaradwyr, achos mi fyddai 10 mlynedd o golli ar addysg yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ormod o golled o ran datblygu sgiliau iaith. Fe wnaeth tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith awgrymu y gallem ni weld oedi hir hefyd. Roedden nhw'n pryderu'n fawr am yr eithriadau i gyrraedd y lleiafswm, ac roedden nhw'n nodi y byddai hyn yn amharu ar ddatblygu sgiliau iaith disgyblion.
Nawr, os oes ysgol yn y sefyllfa o angen esemptiad, ac yna esemptiad arall eto, dyw hynny ddim yn caniatâu bron dim amser i'r ysgol, fel dwi wedi'i ddweud, chwarae ei rhan, fel rŷn ni'n disgwyl i bob ysgol ei wneud, o ran cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Fyddai hynny ddim yn deg ar y disgyblion hynny sy'n cael eu heffeithio, a ddylai, yn fy marn i, gael yr hawl, yr un hawl â phob disgybl mewn ysgolion eraill sydd yn gwneud yr ymdrech i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd y gymdeithas wedi awgrymu dileu adrannau 18 ac 19 yn gyfan gwbl, a roedd Mudiad Meithrin o'r farn, a dwi'n dyfynnu:
'Ni ddylai fod yn dderbyniol i ysgol dderbyn eithriad parhaol o dan rheoliadau "ecsemptiad" ac "ecsemptiad pellach".'
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau hyblygrwydd, yn enwedig os ŷn ni'n gweld yr isafswm yn cynyddu dros amser, dwi wedi awgrymu'r gwelliannau hyn, sydd yn cael gwared ar adran 19 ac esemptiad pellach er mwyn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i bawb—Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion—weithio'n drylwyr i gynyddu'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg yng Nghymru, a rhaid cynllunio'n unol â hynny, gan roi un cyfle yn unig am esemptiad. Dwi'n edrych ymlaen unwaith eto at glywed barn y pwyllgor ar y gwelliannau hyn.
Diolch yn fawr, Cefin. I now ask: are there other Members who wish to speak in the group? No, there are none, so I invite the Cabinet Secretary to speak.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Ni allaf gefnogi'r gwelliant yma gan ei fod, fel roedd Cefin Campbell yn cydnabod, yn mynd yn groes i'r hyn a wnaeth y pwyllgor hwn ei glywed gan nifer o'r tystion a'r sgyrsiau rydyn ni wedi'u cael gyda rhanddeiliaid. Gallai ail esemptiad fod yn rhesymol o dan rai amgylchiadau. Er fy mod yn deall rhywfaint o rwystredigaeth gyda darparu esemptiad pellach, hoffwn atgoffa Aelodau bod adran 19(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun cyflawni ddarparu gwybodaeth ynghylch sut y byddan nhw'n sicrhau bod yr isafswm o 10 y cant yn cael ei gyrraedd. Mae adran 19(2)(b) yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu nodi pryd yn union y bydd yr isafswm yn cael ei gyrraedd, heb fod yn hwyrach na diwedd cyfnod o dair blynedd y cynllun cyflawni.
Byddwn hefyd yn atgoffa’r Aelodau nad yw ail esemptiad yn rhywbeth y gall ysgol benderfynu arno ar ei ben ei hun. Mae cynlluniau cyflawni yn cynnwys proses gymeradwyo gan yr awdurdod lleol o dan adran 15 o’r Bil. Os nad yw awdurdod lleol wedi’i argyhoeddi gan y rheswm dros wneud cais am esemptiad pellach, neu os yw’r awdurdod lleol yn credu y gellir darparu cymorth ychwanegol i ysgol sy’n gofyn am esemptiad pellach, gallai’r awdurdod lleol wrthod y cynllun cyflawni, neu ei gymeradwyo gydag addasiadau.
Dwi’n meddwl, Cadeirydd, nid uchelgais yw'r gwahaniaeth rhwng Cefin Campbell a fi. Dwi eisiau gweld pob ysgol yn darparu 10 y cant trwy gyfrwng y Gymraeg, neu drwy ddysgu Cymraeg, cyn gynted ag sy’n bosib. Ond mae’n bwysig i ni ddod â phob un gyda ni ar y daith yma, ac, ambell waith, i ddangos ein bod ni wedi ymateb i bryderon rhai pobl yn y maes. A gallaf i weld mai nifer fach, fach o ysgolion ledled Cymru sy'n mynd i roi mewn am yr estyniad arall. Ond, jest wrth roi’r cyfle iddyn nhw, mae hwnna’n rhoi hyder iddyn nhw eu bod nhw’n gallu ymdopi â’r dyletswyddau newydd mae’r Bil yn ei roi arnyn nhw. Ac mae’r Bil yn rhoi dyletswyddau newydd ar gyrff llywodraethu ac yn blaen. So, trwy roi un cyfle arall—a dim ond un arall—yn y Bil, i fi, mae hwnna jest yn helpu rhoi hyder i bobl ein bod ni wedi gwrando arnyn nhw, a'n bod ni’n delio â phethau mewn ffordd resymol. Ac mae hwnna, yn fy marn i, yn mynd i gyflymu pethau yn y sector, achos dydyn nhw ddim yn meddwl ein bod ni’n gofyn iddyn nhw wneud pethau maen nhw’n teimlo ar hyn o bryd dydyn nhw ddim yn gallu eu gwneud. Dyna’r resymau pam dwi yn cefnogi'r ffaith bod eithriad arall yn y Bil, ac, am y rhesymau hynny, allaf i ddim cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp.
Diolch yn fawr iawn, a diolch am yr esboniad yna, Ysgrifennydd Cabinet. Dwi’n derbyn nad oes yna bellter mawr rhyngom ni ar y mater yma, a'n bod ni’n rhannu yr un uchelgais. Yr hyn sydd yn fy mhoeni i, efallai, yw'r math o negeseuon rŷn ni’n eu rhoi i ysgolion uwchradd. A dwi’n cofio eich tystiolaeth chi i’r pwyllgor yma, pan wnaethoch chi ddweud y gallai ysgolion uwchradd gael esemptiad hyd at ryw 10 mlynedd mewn rhai eithriadau prin. A dwi’n gwbl sicr mai nid eich bwriad chi oedd awgrymu y dylai pob ysgol uwchradd wneud hynny o gwbl; dwi’n derbyn yn ddiffuant eich bod chi eisiau cyrraedd yr un man â fi ar hyn.
Ond hwyrach y byddai rhai ysgolion uwchradd yn gweld hwn yn gyfle i oedi’r broses. Os ydyn nhw’n rhesymau cwbl, cwbl ddiffuant—a dwi’n derbyn y byddai yna rôl gan awdurdod lleol yn hyn—mi fyddai rhywun yn gallu dangos rywfaint o gydymdeimlad a rhoi cefnogaeth briodol. Ond dwi ddim yn gweld pam na ellid cyrraedd y man yna ymhen ryw saith mlynedd o nawr. Achos, erbyn i'r Bil yma ddod yn weithredol, ac erbyn rhoi ecsemptiad cyntaf i ysgol uwchradd, mi fydd ryw chwech neu saith mlynedd wedi mynd erbyn hynny. Dwi'n meddwl bod hynny yn amser rhesymol i ddisgwyl i ysgolion gynllunio eu gweithlu a chynllunio'r cwricwlwm i ddarparu, yn ein barn ni, o leiaf 20 y cant trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi wir yn poeni, os bydden ni'n rhoi dau ecsemptiad ar ben y cyfnod yma o wneud y Bil yn weithredol, y bydd, o bosib, ryw 12 mlynedd yn cael ei golli yn natblygiad sgiliau iaith disgyblion. A petai gormod o ysgolion uwchradd yn gwneud y dewis yna, wel, mi fydd y targed o o leiaf miliwn o siaradwyr yn gwbl amhosibl i'w gyflawni.
Felly, dwi'n bryderus ynglŷn â rhoi dau ecsemptiad, am y rhesymau dwi wedi eu hamlinellu, achos mi fyddai rhai, am wn i, efallai yn cymryd mantais o hyn am y rhesymau anghywir. Ond i fi gael bod yn bositif, efallai, i orffen y sylwadau yma, dwi'n mawr obeithio y gallwn ni fod yn rhoi negeseuon cadarnhaol i ysgolion, i rieni ac i ddisgyblion eu bod nhw'n gweld y gwerth yna, eu bod nhw ddim yn mynd am ail ecsemptiad—llywodraethwyr yn ogystal ag awdurdodau lleol—er mwyn dechrau'r plentyn, y disgybl, ar y daith yna i ddod yn siaradwr hyderus. Diolch.
Thank you. The question is that amendment 122 be agreed. Does any Member object? [Objection.] Yes, there is an objection, so we'll move to a vote. All those in favour of amendment 122, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 122 is not agreed.
Is there an objection to 123? [Objection.] There is. All those in favour, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 123 is not agreed.
Okay. Are there any objections to 124? [Objection.] There are. All those in favour, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 124 is not agreed.
Are there any objections? [Objection.] There are. All those in favour of 125, please show. That's three. All those against. That's three. As there is a tie, I use my casting vote in the negative, so 125 is not agreed.
Now, looking at the time, I think we will take group 13 and then we will break for lunch once we have had the opening and closing, as group 14 follows on immediately afterwards after the lead amendment.
So, for the first time today, the bowling will be opened by Samuel Kurtz, to speak to the lead amendment in this group, which is amendment 92. So, Samuel Kurtz to speak to the lead amendment and all others in the group.
Diolch yn fawr i chi, Gadeirydd. Dyma'r tro cyntaf imi siarad ar brif welliant, ac rwyf am ganmol nod y Bil o gynyddu siaradwyr Cymraeg yma yng Nghymru. Fel siaradwr Cymraeg, rwy'n llwyr gefnogi defnydd mwy dyddiol o'r iaith a'i rôl mewn addysg. Fodd bynnag, er mwyn i'r Bil fod yn effeithiol ac yn deg, mae angen inni graffu arno yn ofalus. Er imi etifeddu'r Bil hwn, ac nad oeddwn yn rhan o'r dechrau, rwy'n disgwyl cynnig mwy o welliannau yng Nghyfnod 3.
Mae ein system addysg eisoes yn cael trafferth gyda phrinder athrawon, presenoldeb isel a rhwystrau sy'n gysylltiedig â'r pandemig. Dylid mynd i'r afael â'r materion hyn. Pryder mawr yw'r diffyg athrawon cyfrwng Cymraeg. Mae adroddiadau gan Estyn ac NEU Cymru yn amlygu'r angen brys am recriwtio a hyfforddi. Heb gefnogaeth briodol, bydd gosod gofynion ychwanegol ar athrawon yn anodd, yn enwedig mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith yn draddodiadol.
Mae fy ngwelliannau 92, 94, 95 a 96 yn canolbwyntio ar (1) datblygu cynllun i ddiwallu anghenion athrawon yn y dyfodol, a (2) sicrhau bod safon y pwnc addysgu yr un fath â safon y Gymraeg, fel nad yw ansawdd addysgu'r pwnc yn cael ei effeithio gan allu ieithyddol. Yn fy marn i, mae'r rhain yn cyd-fynd ag argymhellion 2, 3 a 4 o adroddiad y pwyllgor ar y Bil hwn.
Mae adroddiad diweddaraf Estyn yn dangos bod recriwtio athrawon yn fater difrifol. Mae llai na 25 o fyfyrwyr y flwyddyn wedi’u hyfforddi i addysgu Cymraeg dros y pedair blynedd diwethaf—llawer is na'r targed. Yn yr un modd, mae'r nifer sy'n hyfforddi i addysgu drwy'r Gymraeg ar lefel uwchradd wedi gostwng yn sydyn dros y degawd diwethaf. Rhaid mynd i’r afael â hyn er mwyn i’r Bil lwyddo.
Er y cysylltiad clir rhwng argaeledd athrawon ac addysg cyfrwng Cymraeg, ni soniodd cynllun gweithlu addysg diweddar Llywodraeth Cymru am y Gymraeg. Mae hyn yn peri pryder, yn enwedig gan iddo gael ei ryddhau ychydig cyn trafodion Cyfnod 1 y Bil hwn yn y Siambr. Mae ystadegau o 2024 yn dangos gostyngiad yn nifer yr athrawon cofrestredig sy’n gallu gweithio drwy'r Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth allweddol rhwng athrawon sy’n siarad Cymraeg a’r rhai sy’n ddigon hyderus i addysgu ynddi. Gallai anwybyddu hyn niweidio ansawdd addysg. Mae angen gwybodaeth pwnc gref ar athrawon yn ogystal â sgiliau yn yr iaith. Rhaid i’r Bil hwn sicrhau bod gennym ddigon o athrawon cyfrwng Cymraeg wedi’u hyfforddi’n dda i gefnogi myfyrwyr a chynnal safonau addysgu uchel. Dyna pam y cynigais welliannau 92, 94, 95 a 96.
O ran gwelliannau’r Gweinidog, 28 a 35, rwy’n pryderu eu bod yn dileu'r gofyniad i asesu anghenion athrawon awdurdodau lleol a sicrhau hyfforddiant priodol. Heb y rhain, rydym mewn perygl o golli trosolwg o anghenion y gweithlu a methu â helpu athrawon i wella eu sgiliau Cymraeg, a allai leihau ansawdd addysg.
Ac yn olaf, Cadeirydd, rwy’n llwyr gefnogi gwelliannau Cefin Campbell, 153, 154 a 155, gan y byddant yn helpu i gynnal safonau uchel mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Diolch.
Ie. Diolch yn fawr iawn. Yn fy marn i, does dim ymrwymiad yn y Bil hwn i greu cynllun ar gyfer datblygu gweithlu dwyieithog ar draws y gwahanol sectorau addysg, o addysg feithrin i addysg bellach ac uwch. Mae hyn wedi cael ei nodi fel diffyg gan fwyafrif helaeth y rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth i ni fel pwyllgor. I fi, mae hyn yn gwbl ganolog i lwyddiant y Bil ac i'r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Fel nododd y Comisiynydd y Gymraeg i’r pwyllgor, a dwi'n dyfynnu:
'gellid mynegi’r flaenoriaeth hon yn gliriach drwy osod dyletswydd yn y Bil ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi Cynllun Gweithlu Addysg Gymraeg fel rhan o’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg a Dysgu Cymraeg.'
Dyna pam dwi hefyd wedi cyflwyno gwelliannau mewn perthynas â chreu cynllun gweithlu addysg dwyieithog drwy welliant 147.
Yn syml, fel y mae Sam wedi nodi yn barod, dydyn ni ddim yn recriwtio digon o athrawon cyfrwng Cymraeg. Eto, yn y noson a gafodd ei chynnal gan Estyn neithiwr, fe wnaethon nhw danlinellu hynny'n glir, a'n bod ni'n methu'n arbennig yn y sector uwchradd. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o ran faint sydd yn hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg o ryw 30 y cant bob blwyddyn, ond y ffigwr recriwtio diweddaraf oedd 20 y cant, nôl yn 2021-22, a dim ond rhyw 325 o’r 1,600 a ddechreuodd gyrsiau hyfforddiant athrawon oedd yn gwneud hynny yn y Gymraeg. Yn wir, ers 2015, dyw'r ffigwr ddim wedi cynyddu fawr ddim—dim ond 18.7 y cant oedd y ffigwr bryd hynny. Felly, dydyn ni ddim yn symud i'r cyfeiriad iawn ac, yn fy marn i, oni bai bod yna gynllun statudol yn cael ei roi yn ei le, yna dwi'n ofni y bydd y diffyg capasiti yma yn ein rhwystro ni rhag datblygu addysg Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Felly, dwi'n credu bod angen cynllun statudol. Dwi'n cydnabod gwelliannau'r Llywodraeth, ond allaf i ddim eu cefnogi gan nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell, yn fy marn i.
Dwi hefyd yn poeni am ymrwymiad y Llywodraeth i greu cynllun anstatudol o ran y gweithlu, a hynny’n seiliedig ar ddatganiad diweddar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y mater hwn. Doedd ganddi, yn ei datganiad, ddim unrhyw gyfeiriad, dim un paragraff, dim brawddeg, dim gair, hyd yn oed, yn sôn am greu gweithlu dwyieithog, felly dwi'n poeni am yr ymrwymiad yn sgil y datganiad hwnnw. Hefyd, dyw hi ddim yn glir i fi sut mae cynnwys gwelliant y Llywodraeth ar y gweithlu yn cyd-fynd â’r cynllun a amlinellwyd yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog addysg. Felly, mae yna anghysondeb rhwng eich gwelliannau chi a’r hyn oedd yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. Ac mae rhanddeiliaid wedi bod yn glir bod angen cynllun statudol penodol—dyna’r farn fwyafrifol—sy’n sefyll ar draed ei hunan ac yn gosod ffordd glir ymlaen o ran recriwtio a chadw athrawon. Dyw camau gweithredu o fewn fframwaith cenedlaethol ddim yn ddigonol, yn fy marn i. Ac yn unol ag ymateb Cyngor y Gweithlu Addysg i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a’r cyfnod craffu diweddar, rŷn ni wedi cynnwys cyfeiriad at yr angen i Weinidogion i osod targedau o ran y gweithlu.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd, a diolch i Sam Kurtz a Cefin Campbell am y sylwadau y maen nhw wedi eu rhoi o flaen y pwyllgor. Roedd adroddiad y pwyllgor ar ddiwedd Cyfnod 1 yn nodi’n glir y dystiolaeth a gafwyd gan lawer o randdeiliaid am yr her o sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y gweithlu addysg i gyflawni nodau’r Bil. Mae’r Llywodraeth yn cytuno â chasgliadau’r pwyllgor yn ei adroddiad y dylid mynd i’r afael â’r her o sicrhau gweithlu digonol i gyflawni’r Bil ochr yn ochr â’r heriau eraill o ran y gweithlu addysg. Ar 13 Ionawr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, ddatganiad ar y gwaith y mae hi wedi’i ddechrau wrth lunio cynllun gweithlu addysg ar gyfer Cymru. Fe ges i’r cyfle i siarad â hi pan oedd hi’n paratoi’r datganiad, a gallaf ddweud wrth y pwyllgor heddiw y bydd y gwaith y mae Lynne Neagle yn ei wneud yn cynnwys y capasiti o roi addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, bydd y cynllun hwnnw'n cynnwys addysgu'r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, nid i roi hwnnw fel rhywbeth ar wahân i ddatblygu'r gweithlu i gyd. At ddibenion penodol y Bil hwn, rwyf wedi cael fy mherswadio o'r angen i gryfhau'r manylion o ran y gweithlu. Dyna'r cyd-destun ar gyfer gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.
Mae gwelliant 38 yn sicrhau bod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnwys yn y fframwaith cenedlaethol y camau y byddant yn eu cymryd mewn perthynas â'r gweithlu. Yn benodol, bydd y ddyletswydd newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r fframwaith nodi'r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gweithio yng Nghymru yn diwallu'r angen. Bydd yr angen hwnnw'n seiliedig ar asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg sydd eu hangen ym mhob awdurdod lleol er mwyn cyrraedd unrhyw darged a osodwyd yn y fframwaith cenedlaethol. O'r herwydd, buaswn yn annog yr Aelodau i wrthod gwelliannau 94 a 95 yn enw Sam Kurtz a gwelliant 147 yn enw Cefin Campbell gan eu bod yn ceisio gwneud pethau tebyg iawn i welliannau’r Llywodraeth, ond fel cynllun annibynnol yn hytrach na fel rhan o'r fframwaith cenedlaethol. Mae'n well gennym welliant y Llywodraeth gan ei fod yn sicrhau bod elfen gweithlu'r fframwaith cenedlaethol yn cael ei datblygu yng nghyd-destun y polisi cyffredinol, ac nid ar ei phen ei hun.
Mae gwelliant 147 yn enw Cefin Campbell hefyd yn crwydro i diriogaeth y gweithlu addysg Saesneg. Ni fyddai'n briodol cynnwys pwerau yn y Bil hwn ar gyfer y gweithlu addysg Saesneg. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithlu addysg strategol anstatudol a fydd yn cynnwys pob sector addysg. Bydd elfennau'r cynllun strategol hwn sy'n ymwneud â'r gweithlu addysg Gymraeg yn cael eu hadlewyrchu yn y fframwaith cenedlaethol.
Mae gwelliant 38 y Llywodraeth hefyd yn sicrhau bod y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gweithlu o fewn y fframwaith cenedlaethol i gyd mewn un adran. Pwrpas gwelliannau 28 a 35 yw hepgor darpariaethau sy'n ymwneud â'r gweithlu o adrannau eraill er mwyn sicrhau bod yr holl ddarpariaethau mewn perthynas â'r gweithlu yn y fframwaith cenedlaethol yn yr adran newydd a fewnosodir gan welliant 38. Mae angen gwelliant 40 yng ngoleuni'r adran newydd a fewnosodir gan welliant 38. Yr effaith bydd gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'w galluogi i gyflawni'r hyn sy'n ofynnol o dan yr adran newydd.
Nid oes angen gwelliant 153 Cefin Campbell o ystyried gwelliant 38, ac mae'n peryglu dyblygu neu orgyffwrdd rhwng swyddogaethau. Ni fyddai'n briodol i'r athrofa gynnal asesiad ar wahân o anghenion y gweithlu addysg er mwyn cyrraedd targedau ar gyfer cynyddu darpariaeth addysg Gymraeg. Mae gwelliant 38 yn gosod y ddyletswydd honno ar Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth yn credu bod gwerth i welliant 154, Cefin Campbell, i'r graddau y dylai'r athrofa wneud trefniadau i ddarparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg ac sy’n cymryd sylw o’r asesiad o anghenion y gweithlu. Mae gwelliant 38 y Llywodraeth hefyd yn effeithio ar y gwelliant. Felly, er na all y Llywodraeth gefnogi'r gwelliant fel y'i drafftiwyd, byddai gennyf ddiddordeb mewn gweithio gyda'r Aelod gyda'r bwriad o gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3.
Ie, diolch, Cadeirydd. I ddechrau, dwi'n ddiolchgar i Cefin Campbell am ei gefnogaeth i'r gwelliannau yn fy enw i. I ddod yn ôl, dwi wedi clywed a dwi wedi gwrando ar beth mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddweud ynglŷn â'r gwelliannau yn fy enw i. A'r pwynt cyntaf, dwi'n credu, yw'r safon y mae plant yn cael eu haddysgu yn yr iaith a'r pwnc. Dwi'n credu bod hynny'n hollbwysig. Achos os ydyn ni'n moyn plant sy'n datblygu hyder, nid dim ond yn yr iaith ond yn y pwnc hefyd, dwi'n credu ei bod yn hollbwysig bod y ddau yn gyfartal, a dyna'r rheswm dros y gwelliant hwn. A dwi'n credu bod rhoi rhyw fath o bŵer i'r llywodraethwyr yn hollbwysig yn sgil hynny, achos mae yna enghreifftiau o athrawon yn cael eu recriwtio i addysgu mewn un pwnc, a chyn gynted ag y maen nhw yn yr ysgol ac yn addysgu, yn symud i addysgu pwnc arall, ac efallai dydy'r safon ddim yn gyfartal â beth roedden nhw wedi cael eu recriwtio ynddo yn y lle cyntaf. I glirio hwnnw lan, dwi'n credu dyna pam mae angen rhyw fath o welliant.
Rwy'n credu hefyd yr oedd yna siom—. Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet sôn am beth ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mas ag ef, sef ei datganiad hi. Doedd yna ddim sôn am yr iaith Gymraeg yn y datganiad hwnnw, y diwrnod cyn inni drafod hyn yn y Siambr. Roedd hynny'n peri bach o bryder i mi. Wrth gwrs, mae angen strategaeth ar gyfer y gweithlu, ond i beidio sôn am yr iaith Gymraeg ar adeg pan rydych yn cyflwyno Bil ar yr iaith Gymraeg ac addysg, rydw i’n credu bod mwy o gyfrifoldeb arnaf i, fel gwleidydd yr wrthblaid, o ran sicrhau bod yr iaith yn ganolog i unrhyw strategaeth staffio a recriwtio sydd yn dod ymlaen.
Efallai drwy gydweithio ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gallwn ni gael rhywbeth sydd wedi cael ei 'update-o' i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn gyfartal yn y strategaeth hirdymor ar y gweithlu. Ond, ie, rwy’n ddiolchgar i gael clywed a gwrando ar beth mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud. Yn ôl atoch chi, Gadeirydd.
Thank you. So, the question is that amendment 92 be agreed. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. So, all those in favour of amendment 92, please show. That's two. Cefin?
No, that's the end. That's the conclusion. That's the reply to the debate, so we are moving on to the vote. So, all those in favour of amendment 92. Two. Okay. All of those against. Three. Are there any abstentions? No. Cefin Campbell is not voting. So, that's two in favour and three against. Amendment 92 is not agreed.
We are going to pause there for lunch. Could Members please return to be ready to go into public session at quarter past one, if that's possible? We will have a short session, and hopefully we will get through three, if not four, groups. Then, there will be a break at two o'clock. At this rate, we are not going to complete all of the groups today, unless we move much faster this afternoon, but I am keen that we get as many groups concluded today as possible. So, I will see you all back here at a quarter past one. Thank you very much.
We're now back in public session, resuming Stage 2 of the Welsh Language and Education (Wales) Bill. The first group after lunch is group 14 on parental support. The lead amendment to this group is amendment 93, so I call on Samuel Kurtz to move and speak to the lead amendment and the other amendments in the group.
Diolch yn fawr i chi, Gadeirydd. Byddaf yn siarad ar yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Mae rhieni a gwarcheidwaid yn bwysig i addysg plant. Maent yn addysgu gartref ac yn cefnogi'r hyn y mae eu plant yn ei ddysgu yn yr ysgol. Mae eu cyfraniad yn allweddol i helpu plant Cymru nid yn unig siarad yr iaith, ond hefyd i lwyddo yn eu hastudiaethau. Maent yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol Cymru.
Un o brif gryfderau'r Bil hwn yw y bydd pob plentyn yn dysgu Cymraeg, ni waeth pa iaith maen nhw'n ei siarad yn y cartref, ond, er mwyn i hyn weithio, mae angen i rieni helpu gyda'r gwaith cartref a'r gwaith ysgol. Rwy'n bryderus y gallai rhieni di-Gymraeg gael trafferth gyda hyn, a diffyg hyder i gymryd rhan.
Byddai gwelliant 93 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gefnogi rhieni i ddeall addysg Gymraeg fel y gallant helpu eu plant. Yn ystod y pandemig, roedd llawer o rieni Saesneg eu hiaith yn ei chael yn anodd cefnogi eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, gyda rhai myfyrwyr iau yn dibynnu ar frodyr a chwiorydd i gyfieithu. Mae'n rhaid inni ddatrys y broblem hon. Mae'r Bil hwn yn gyfle i roi'r offer sydd eu hangen ar rieni i helpu eu plant i ddysgu. Byddai gwelliant 97 yn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi cyrff llywodraethu'r ysgolion yn yr ymdrech hon, wedi'i gryfhau gan welliant 98. Diolch, Gadeirydd.
Yn fyr iawn, dwi jest eisiau cefnogi'r gwelliannau yma. Mae Sam yn hollol iawn i ddweud bod yn rhaid i ni roi cefnogaeth i rieni. Maen nhw wedi, yn aml iawn, gwneud y dewis yna o roi plant mewn addysg Gymraeg ac efallai eu bod nhw'n ddi-Gymraeg eu hunain. Felly, os ydyn nhw'n dysgu'r iaith, neu os ydyn nhw'n helpu gyda'r gwaith cartref, neu jest yn helpu'n gyffredinol o ran cefnogi ethos yr ysgol, wedyn, rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ei fod yn cael ei adlewyrchu yn y Bil, a'n bod ni, efallai, yn rhannu'r arfer da yma ar draws Cymru gyfan. Felly, dyna i gyd yw fy sylwadau. Diolch.
I also want to speak on this, and I don't know whether it's in the Bill itself, but certainly in guidance, that parents have rightly made a choice for their child, but they will need support if they themselves don't speak Welsh but want their children to do so. So, I think it's an important point, and whether it needs to be in the Bill or in guidance, of course, is a different issue. But it's an important issue and I think it probably feeds back to, as Cefin Campbell has said, when we had lockdown and parents were struggling on their own. It demonstrates a need, and there might be a direct link between those two things that you've mentioned already—that the options were going down and we need to understand why that is. I think, potentially, this was part of that.
Diolch yn fawr i Sam Kurtz a phob un arall. Dwi hefyd, yn sicr, yn cefnogi meddylfryd y gwelliannau hyn. Mae'n hollol bwysig ein bod yn galluogi'r rhieni i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddeall taith dysgu Cymraeg eu plentyn. Dwi'n hapus i weithio tuag at rywbeth ar wyneb y Bil i adlewyrchu'r pwyntiau mae Joyce Watson wedi'u gwneud.
Ar hyn o bryd, mae un neu ddwy o broblemau gyda'r gwelliannau, a dwi eisiau gweithio gyda Sam Kurtz cyn Cyfnod 3 i weld os gallwn ni ddod ymlaen â gwelliannau sy'n gwneud y pethau rŷn ni eisiau eu gwneud, ond heb yr un neu ddwy o broblemau sydd yna ar hyn o bryd.
Dwi’n ymwybodol bod y pwyllgor wedi clywed cryn dipyn o dystiolaeth yn mynegi pryder am y llwyth gwaith ar y gweithlu addysgu, ac rwy’n awyddus i fod yn ystyrlon o hyn. Nid yw’r gwelliant, fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd, yn cynnwys digon o fanylion yn hyn o beth. So, dyna un pwynt i'w drafod, ac i fynd nôl ato.
Pan fyddwn ni'n siarad am welliant 97, wrth gwrs, mae rhinwedd i’r hyn mae’r gwelliant yma yn ceisio ei gyflawni gan y byddai’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau lleol ystyried pa gamau y byddant yn eu cymryd i gefnogi cyrff llywodraethu i ymgysylltu â rhieni ynghylch addysg Gymraeg. Mater i’r awdurdod lleol fyddai mesur beth ddylai’r camau hynny fod. Fodd bynnag, mae’r geiriad o ran 'ymgysylltu' angen mwy o eglurder cyfreithiol os yw am osgoi canlyniadau anfwriadol o ran llwyth gwaith.
Fel y dywedais i, rwy'n credu bod potensial i weithio ar hyn yng Nghyfnod 3, ond, am heddiw, bydd yn rhaid i fi ofyn i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliannau yn y grŵp. Ond dwi'n awyddus i gydweithio i roi rhywbeth ar wyneb y Bil yn ystod Cyfnod 3.
Diolch yn fawr i chi, Gadeirydd. Diolch i bob un Aelod sydd wedi cefnogi nid, efallai, y gwelliant ei hun, ond thema'r gwelliant. Dwi'n gwerthfawrogi hynny a hefyd yn gwerthfawrogi'r offer gan Ysgrifennydd y Cabinet i gydweithio. Dwi'n credu bod hwnna'n hollbwysig i ddangos, yn y dyddiau yma, fod yr iaith wedi cael ei dadwleidyddoli. Gallwn ni fel pleidiau siarad am ddyfodol yr iaith gyda'r offer o gydweithio, ac mae hynny i'w groesawu ar yr adeg yma. Felly, dwi'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am hynny, a siŵr o fod y byddaf i'n hala neges iddo rywbryd dros y penwythnos i ddechrau'r sgwrs am hyn, achos mae'r cymorth i rieni sydd yn cefnogi eu plant nhw yn hollbwysig. Rŷm ni wedi cael ysgol cyfrwng Cymraeg iau newydd ym Mhenfro, i'r de o linell Landsker, ardal sy'n hanesyddol yn Saesneg ei hiaith, ac mae rhieni yn dewis anfon eu plant nhw i'r ysgol iau Gymraeg newydd, ond mae angen cymorth ar y rhieni hefyd i sicrhau bod mwy a mwy yn teimlo y gallen nhw hala eu plant i ysgol Gymraeg. Felly, dwi'n gwerthfawrogi hynny, a nôl atoch chi, Gadeirydd. Fyddaf i ddim yn symud y rhain tuag at bleidlais, felly.
Okay. So, the Member is seeking permission to withdraw amendment 93 and not to proceed with amendments 97 and 98. Is the committee happy? Does any Member object to 93 being withdrawn? No. Thank you, all. So, amendment 93 does not proceed to a vote.
Amendment 126 is moved. Is there any objection? [Objection.] There is. So, all those in favour of 126, please show. That's three. All those against. That's three. Three in favour, three against. I therefore use my casting vote in the negative. Amendment 126 is not agreed.
I move the amendment in the name of the Cabinet Secretary and look forward to his explanation for this series of amendments, speaking to the lead amendment and all others in the group.
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Mae nifer eithaf mawr o welliannau yn y grŵp hwn, ond gwelliannau technegol ydyn nhw i gyd, ac rŷm ni wedi eu cyflwyno nhw i sicrhau bod darpariaethau'r Bil yn gweithio fel y bwriadwyd. Dwi am drio mynd yn glou trwyddyn nhw i gyd. Mae mwy o fanylion ar gael os yw unrhyw aelod o'r pwyllgor eisiau clywed mwy.
Pwrpas ac effaith gwelliannau 16, 29, 52, 54, 70 yw sicrhau cywirdeb y testun. Pwrpas ac effaith gwelliannau 19, 21, 24, 39, 44, 45 yw sicrhau cysondeb drafftio gyda darpariaethau eraill yn y Bil. Pwrpas ac effaith gwelliannau 25, 33, 34, 46 yw hepgor y geiriau 'mewn ysgolion' o adran 23 gan ei fod ymhlyg yn y diffiniad o 'addysg Gymraeg' yn adran 35. Pwrpas ac effaith gwelliannau 48 a 67 yw sicrhau cysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Pwrpas ac effaith gwelliant 77 yw sicrhau cysondeb drafftio o fewn yr adran a sicrhau cyfwerth rhwng testunau Cymraeg a Saesneg. Buaswn yn hapus i esbonio rhagor ar y gwelliannau hyn pe bai Aelodau'n dymuno.
Jest nodyn byr, Cadeirydd, i ddweud fy mod i'n hapus i gefnogi bob un o'r gwelliannau yma. Maen nhw'n rhai technegol, ac eithrio un, sef gwelliant 29, am y rhesymau y gwnes i eu nodi'n gynharach pan oeddem yn trafod grŵp 11. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. So, the question is that amendment 16 be agreed. Does any Member object? There are no objections. Amendment 16 is, therefore, agreed.
We now come to group 16. This group of amendments relates to new schools and school reorganisation proposals. The lead amendment is amendment 128 in the name of Cefin Campbell, so I'll ask Cefin to move that amendment and speak to all the other amendments is the group. Over to you, Cefin.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Mae gwelliant 128 yn gofyn am asesiad effaith ieithyddol i gael ei gynnal pan fydd awdurdod lleol yn ceisio agor ysgol newydd mewn ardal. Mae ysgol newydd yn golygu naill ai adeilad newydd neu ad-drefnu ysgolion sydd yn bodoli yn barod i greu ysgol newydd. Bydd hyn wedyn yn rhoi sicrhad ac yn gwarchod, mewn gwirionedd, darpariaeth addysg Gymraeg mewn ardal, i sicrhau nad oes yna unrhyw benderfyniad negyddol yn cael ei wneud sy'n mynd i effeithio ar dwf addysg Gymraeg mewn ardal. Roedd gwelliant 159 wedi cael ei gyflwyno yn ganlyniadol i welliant 128, ond, am resymau technegol yn ymwneud â'r drafftio, dwi'n bwriadu tynnu gwelliant 159 yn ôl, Gadeirydd. Felly, os yw gwelliant 128 yn pasio, byddaf yn cyflwyno gwelliant pellach yng Nghyfnod 3 er mwyn sicrhau bod unrhyw reoliadau gan Weinidogion sydd yn cael eu pasio drwy'r pwerau hyn yn cael eu cymeradwyo'n gadarnhaol gan y Senedd.
O ran ysgolion newydd, does dim sylw o gwbl i hyn yn y Bil. Roedd paragraffau 66 i 67 o’r Papur Gwyn yn gosod dau safbwynt posibl, ond, yn anffodus, does dim un o'r safbwyntiau wedi cael ei gynnwys yn narpariaethau’r Bil drafft yma. Yn bersonol, rwy’n ffafrio gosod rhagdybiaeth y byddai unrhyw ysgol newydd yn ysgol Gymraeg. Mae gwelliannau 131 a 132, felly, yn ymateb i hynny, a hefyd yn ymateb i dystiolaeth Cymdeithas yr Iaith oedd wedi nodi,
'Byddai sefydlu unrhyw ddarpariaeth cyfrwng Saesneg newydd yn tanseilio’r nod o gynyddu canran y ddarpariaeth addysg Gymraeg.'
A dwi yn cytuno gyda hynny. Felly, mae angen adrannau newydd yn y Bil er mwyn ymdrin â statws ieithyddol ysgolion newydd neu ad-drefnu ysgolion presennol. Mae fy ngwelliannau i, felly, yn ceisio sicrhau, o fewn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mai tybiaeth o blaid cyfrwng Cymraeg fydd unrhyw ysgol newydd a sefydlir a bod unrhyw ysgol sy'n deillio o ad-drefnu darpariaeth bresennol yn symud i fyny'r continwwm ieithyddol. Diolch.
Just briefly, Chair, I agree with the general theme here, but we do see certain areas where schools in the primary and secondary sectors have come together, and the way that I've read the amendments tabled by Cefin Campbell is that if they are two English-medium schools, they would have to move towards becoming Welsh-medium schools, and I do think that that is perhaps too much to ask in the first instance. So—
—symud un categori ymlaen. So, ar hyn o bryd, ni allaf i gefnogi'r rhain, ond dwi'n ddigon hapus i weld os oes rhywbeth arall y gallem ni ei wneud i sicrhau, lle bydd ysgolion sydd yn Saesneg eu hiaith sydd yn dod at ei gilydd mewn ffederasiwn, neu beth bynnag, fod angen iddyn nhw symud ymlaen cyn gynted â'u bod nhw'n dod at ei gilydd, i sicrhau bod yna ryw fath o transition, sydd yn hollbwysig.
Diolch, Cadeirydd. Mae’r Bil yn ceisio gwella’r ffordd y caiff darpariaeth Gymraeg ei chynllunio o fewn y gyfundrefn addysg. Yr amcan polisi yw bod pob awdurdod lleol yn cymryd penderfyniadau sy’n effeithio’n bositif ar y Gymraeg yn lleol ac yn cyfrannu tuag at y targedau a gaiff eu gosod arnynt gan Weinidogion Cymru drwy'r fframwaith cenedlaethol. Mae gan bob awdurdod lleol ffactorau lleol sy'n unigryw iddyn nhw, ac wrth gynllunio bydd yn rhaid iddynt gymryd ystyriaeth o'r ffactorau hynny. Gan hynny, barn y Llywodraeth yw mai yng nghyd-destun cynlluniau strategol lleol y Gymraeg mewn addysg, a'r targedau a fydd yn gyrru'r cynlluniau hynny, y dylai awdurdodau lleol benderfynu ar gategori ieithyddol ysgol newydd, gan eu galluogi i ystyried ffactorau lleol.
Wrth benderfynu ar gategori iaith ysgol newydd, bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried y targedau a osodir arnynt gan y fframwaith cenedlaethol a'u dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i gyrraedd y targedau hynny. Bydd yn rhaid iddynt hefyd fodloni gofynion y cod. Mae hynny'n rhesymol gan fod y Bil fel cyfanwaith yn esblygu'r modd y caiff y Gymraeg mewn addysg ei gynllunio, a bydd y cynlluniau strategol lleol yn rhan allweddol o hynny. Byddai gofyniad i ragdybio fod pob ysgol newydd yn un prif iaith Cymraeg yn torri ar draws y broses o gynllunio yn unol â'r targedau. Mae risg hefyd y gallai dilyn y trywydd o osod rhagdybiaeth arwain at ganlyniadau anfwriadol fyddai'n niweidiol i'r Gymraeg. Er enghraifft, y gallai gorfodi penderfyniad ar y gymuned leol arwain at ddiffyg perchnogaeth. Rŷn ni i gyd wedi gweld hynny wedi digwydd, pan ŷn ni'n colli tir i'r iaith Gymraeg drwy fod yn rhy orfodol yn y maes hwn. Rhaid i'r Llywodraeth, felly, wrthod gwelliant 132 yn enw Cefin Campbell.
Mae'r egwyddor na ddylai cynigion ad-drefnu ysgolion penodol, lle y bo'n rhesymol, arwain at ostyngiad yn yr addysg Gymraeg a ddarperir i ddisgyblion y mae cynnig yn effeithio arnynt yn un rhesymol, ond mae geiriad gwelliant 131 hefyd yn cyfeirio at dybiaeth y bydd addysg yn cael ei darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni all y Llywodraeth gefnogi'r geiriad hwnnw am y rhesymau a amlinellais mewn perthynas â gwelliant 132. Mae yna hefyd nifer o faterion polisi cymhleth iawn yn ymwneud â'r gwelliant hwn sy'n gofyn am ystyriaeth ofalus. Rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliant 131, ond mae'r Llywodraeth yn barod i barhau i drafod y mater hwn gyda'r Aelod, ond heb unrhyw sicrwydd o welliant yng Nghyfnod 3.
Cadeirydd, mae cryfhau'r gofynion o ran asesu effaith cynigion am ysgolion newydd, yn ogystal â chynigion am aildrefnu ysgolion, hefyd yn rhan o'r ateb i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymryd penderfyniadau sy'n rhoi'r cyfle gorau i'r Gymraeg ffynnu yn lleol. Mae gan Weinidogion Cymru eisoes y pŵer i gynnwys yn y cod trefniadaeth ysgolion yr hyn mae gwelliant 128 Cefin Campbell yn ceisio ei gyflawni. Yn wir, mae ymgynghoriad ar y cod diwygiedig yn digwydd ar hyn o bryd, a'r dyddiad cau yw yfory, 14 Chwefror. Mae'r cod diwygiedig drafft wedi'i gryfhau i'w gwneud yn ofynnol i—a dyna beth sydd yn y cod drafft—
'cynnal asesiad o'r effaith ar y Gymraeg ar gyfer pob cynnig, ni waeth beth fo categori iaith yr ysgolion sy’n destun y cynigion. Rhaid iddo gynnwys tystiolaeth berthnasol a'r ffactorau lliniaru isod fel gofyniad sylfaenol'.
Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i asesiad effaith ar y Gymraeg gael ei gynnwys fel rhan o'r ddogfen ymgynghori neu ei chyhoeddi ochr yn ochr a'r ddogfen ymgynghori. O ystyried mai ymgynghoriad byw yw hwn, ac y bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw'n hysbys yn fuan iawn, byddai'n well gan y Llywodraeth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw cyn ystyried y camau nesaf. Felly, rwy'n galw ar Aelodau i wrthod gwelliant 128.
Iawn, diolch yn fawr iawn. Os caf i efallai gyfeirio at y pwynt olaf wnaethoch chi, dwi'n derbyn bod yr ymgynghoriad yn fyw tan yfory, felly byddwn ni'n hoffi yn fawr cael sgwrs, efallai, ar ôl yfory i weld beth yw canlyniad yr ymgynghoriad. Dwi yn croesawu’n fawr, yn bersonol, fod yna ryw astudiaeth effaith ieithyddol yn cael ei chynnal lle mae yna drefniadaeth ar gyfer creu ysgol newydd, ond fel mae'r gwelliannau hyn yn eu hawgrymu, mi fyddwn ni'n hoffi iddo fe fynd ymhellach, wrth gwrs, na hynny a bod yna ragdybiaeth o blaid bod ysgol newydd o leiaf yn symud i gategori uwch. I dderbyn yn llwyr y pwynt roedd Sam yn ei wneud, mae e’n dipyn o her i fynd o fod yn ysgol cyfrwng Saesneg i fod yn ysgol prif iaith Cymraeg dros nos, felly byddwn i'n disgwyl, efallai, i'r trefniadau hynny gefnogi proses cam wrth gam tuag y nod o fod yn ysgol Gymraeg yn y pen draw, a dyna, mewn ffordd, yw ysbryd y gwelliannau yma, ein bod ni yn gyrru negeseuon positif ynglŷn â'n datganiad bwriad ni ein bod ni am i fwy o ysgolion fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, achos rŷn ni'n gwybod mai dyna'r dull mwyaf effeithiol o greu'r siaradwyr Cymraeg hyderus yma rŷn ni i gyd eisiau eu gweld yn cael eu cynhyrchu. Felly, mi fyddwn i o blaid rhagdybiaeth. Dyw rhagdybiaeth ddim yn absoliwt. Mae rhagdybiaeth yn dweud, 'Wel, os gallwch chi wneud hyn, dyna’r trywydd dylech chi fod yn ei ddilyn. Os oes yna resymau da pam na allwch chi, wedyn gadewch i ni drafod hynny.' Felly, mae rhagdybiaeth i fi yn rhoi'r hyblygrwydd, ond mae e hefyd yn gyrru neges bositif i awdurdodau lleol, 'Wel, gwrandewch, ystyriwch symud eich ysgolion i gyd ar hyd y continwwm gan fod cyfle gyda chi i'w wneud.' Felly dyna sydd tu ôl i'r gwelliannau yma.
Diolch, Cefin. So, the question is that amendment 128 be agreed. Does any Member object to 128? [Objection.] There are. So, all those in favour of 128, please show. That's three. All those against. That's three. So, there are three in favour, and three against. I therefore use my casting vote in the negative. So, 128 is not agreed.
Symud. So, are there any objections to 130? [Objection.] There are. So, can I see all those in favour of amendment 130? That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. So, 130 is not agreed.
Okay. Are there any objections? [Objection.] There are. So, all those in favour of amendment 131? That's one. All those against. Five. One in favour, five against; 131 is not agreed.
Okay. Are there any objections? [Objection.] There are. So, all those in favour of 132, please show. That’s one. All those against. Five. One in favour, five against; 132 is not agreed.
I move amendment 19 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that 19 is agreed. Does any Member object? There are no objections. Amendment 19 is therefore agreed.
I move amendment 22 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 22 be agreed. Does any Member object? No. Amendment 22 is agreed.
Okay. Amendment 133 is moved. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. So, we'll see all those in favour of 133. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 133 is not agreed.
Now, we have a bit of time before I have to leave. I have a hard stop just before 2 o’clock. I think it is probably best to start the section, because, otherwise, we’ll just lose, potentially, time that might mean we get to complete another section at the end of the day. So, we’ll start the group. We may not have time to finish it before our break, but we’ll come back at the place in proceedings where we end.
So, Cefin Campbell, you have the lead amendment, 134, on amendments to the Learner Travel (Wales) Measure 2008. If you’d like to move your lead amendment and all others in the group.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Fel rŷn ni i gyd yn gwybod, un o’r heriau mwyaf sydd yn wynebu disgyblion a rhieni pan fo’n dod at sicrhau mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yw trafnidiaeth. Ac yn llawer rhy aml rydym yn clywed am achosion ble mae angen i rieni dalu am neu i drefnu trafnidiaeth eu hunain i’w plant, neu achosion ble mae plant yn gorfod cerdded i’r ysgol Gymraeg sydd ychydig ymhellach i’r ffwrdd na’r ysgol Saesneg agosaf, sydd yn aml yn cynnig trafnidiaeth ar fws gan yr awdurdod lleol, sy’n ei gwneud hi’n annheg iawn wedyn i'r rhai sydd yn dewis addysg Gymraeg.
Felly, drwy roi rhwystrau diangen o flaen ein disgyblion a'n plant, rŷn ni'n galluogi system ble, yn aml iawn, y penderfyniad rhwyddaf yw anfon plant i’r ysgol Saesneg agosaf, yn hytrach nag efallai y dewis oedd yng nghalon y rhieni yna, ac, oherwydd problemau trafnidiaeth ac argaeledd o ran pellter, maen nhw’n dewis yr ysgol Saesneg agosaf. Dwi ddim yn credu y gall hyn barhau os ydym ni o ddifri ynglŷn â sicrhau mynediad cyfartal a theg i bawb sydd am addysg Gymraeg i’w plant. Mae’n syndod felly does yna ddim unrhyw ddarpariaethau ar wyneb y Bil i ymdrin â’r mater yma, a phwrpas gwelliannau 134 a 135 yw cywiro hyn.
Nododd nifer o randdeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad fod hyn yn rhywbeth y dylid ystyried ei ddiwygio. Yn benodol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud:
'Pryderwn nad oes unrhyw ymdriniaeth â darpariaeth teithio am ddim i’r ysgol wedi’i gynnwys yn y Bil i gryfhau’r ddarpariaeth bresennol drwy’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Fel y nodwyd, y nod yn y pen draw yw bod pob ysgol yn darparu drwy'r Gymraeg, ond yn y cyfamser credwn fod rhaid cryfhau'r ddarpariaeth bresennol o ran teithio gan ddysgwyr er mwyn sicrhau tegwch.'
Mae adran 10 y Mesur teithio gan ddysgwyr yn cynnwys dyletswydd cyffredinol bod:
'Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.'
Mae’r ddyletswydd i ddarparu trafnidiaeth yn rhad ac am ddim yn seiliedig ar y cysyniad o, mewn dyfynodau, ‘ysgol addas agosaf’. Mae angen i’r awdurdod lleol, felly, ddarparu hynny pan fo disgybl cynradd yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf, ac ar gyfer disgybl uwchradd pan fo’r pellter hwnnw yn dair milltir neu fwy.
Nawr, yn y ddogfen ganllaw, 'Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Mehefin 2014', mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod angen i awdurdodau lleol weithredu eu dyletswydd i hybu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg wrth benderfynu ar yr ysgol addas agosaf. Nodir ymhellach fod adran 6 o'r Mesur teithio yn caniatáu disgresiwn i awdurdod lleol i ddarparu trafnidiaeth ar gyfer disgybl sydd ddim yn mynychu ei ysgol addas agosaf oherwydd dewis ieithyddol. Ond mae'r awgrym bod yr ysgol agosaf yn gallu bod yn 'addas' er nad yw'n darparu'r cyfrwng iaith o ddewis rhieni yn gyfeiliornus ac yn deillio o'r ffaith fod y cysyniad o ysgol 'addas' yn cael ei ddiffinio yn y Mesur mewn perthynas ag oed, gallu a doniau'r plentyn ac unrhyw anhawsterau dysgu a all fod ganddo. Nid oes cyfeiriad o gwbl yma at addasrwydd o ran cyfrwng iaith yr addysg a ddarperir, ac felly mae hwn yn ymddangos fel gwendid sylfaenol wrth geisio pennu'r ddyletswydd sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth.
Felly, wrth ystyried hyn oll, mae gwelliant 134 yn addasu'r Mesur teithio fel y mae er mwyn cynnwys cyfrwng iaith yr addysg yn ddiamwys o fewn y diffiniad o ysgol addas agosaf, yng nghyd-destun trefniadaeth teithio i ddysgwyr.
Rwyf hefyd wedi cyflwyno gwelliant 135, sydd yn galw ar awdurdodau lleol i ddarparu, yn lle dim ond hybu, mynediad at addysg Gymraeg fel gwelliant procio, gan yr hoffwn glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet sut yn union mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau mynediad teg at addysg Gymraeg drwy drafnidiaeth. Felly, dyna ni. Rwy'n edrych ymlaen at y sgwrs, a chlywed barn y grŵp.
Wel, dwi hefyd yn cydymdeimlo gyda rhai o'r pethau mae'r Aelod wedi eu dweud, ond allaf i ddim cefnogi'r gwelliannau yn fan hyn, achos does dim modd cyfyngu effaith y gwelliannau i ystyriaethau Cymraeg yn unig. Byddai disgwyliad o bosib i hefyd ystyried mynediad teg i ysgolion neu leoliadau eraill, fel ysgolion ffydd. Byddai hyn yn arwain at oblygiadau cost sylweddol ac anghynaliadwy.
Mae'r Deddfau addysg hefyd yn cyfeirio at hawl i rieni fynegi ffafriaeth ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg, felly nid yw gwelliant sy'n ei gwneud yn ofynnol i blentyn fynegi dewis iaith yn cyd-fynd â hynny. Gallai arwain at sefyllfa fel plentyn yn mynegi ffafriaeth yn ôl iaith, ac felly ysgol, sy'n wahanol i'w rieni.
Gallai hefyd fod yn ofynnol i awdurdodau lleol, o ganlyniad i'r gwelliant hwn, wneud trefniadau cludiant ysgol i ddysgwyr sy'n pennu dewis ar gyfer addysg cyfrwng Saesneg, pan nad oedd yn ofynnol iddynt wneud hynny o'r blaen. Byddai hyn yn arbennig o berthnasol mewn ardaloedd lle mae'r rhan fwyaf o'r addysg yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel rŷch chi wedi clywed gyda Cefin Campbell, mater yw hwn yn bennaf pan fydd dysgwr yn byw o fewn y pellter o 2 filltir ar gyfer ysgolion cynradd neu o fewn y pellter o 3 milltir ar gyfer ysgolion uwchradd, ac felly nid yw'n gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol. Os yw'r Bil yn cael y cyfle i gyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud, sef cynyddu darpariaeth addysg Gymraeg a galluogi mwy o ddysgwyr i ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus tra yn yr ysgol, dros amser byddwn yn disgwyl i'r materion hyn ddod yn llai cyffredin.
Dylid defnyddio adran 10 o'r Mesur, law yn llaw gyda’r WESP, i gefnogi penderfyniadau awdurdodau lleol i ddefnyddio eu disgresiwn i wneud trefniadau teithio ysgol i ddysgwyr i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn barod yn ddisgwyliad wrth gynllunio WESP ac yn ymateb cymesur i ddelio ag achosion unigol.
Pwrpas gwelliant 135 yw diwygio adran 10 Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sydd ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru hyrwyddo mynediad at addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur. Mae'r gwelliant yn cynnig disodli 'hyrwyddo' gyda 'darparu'. Nid yw'n glir beth fyddai effaith darparu mynediad at addysg a hyfforddiant yn y cyd-destun hwn, yn ychwanegol i’r gofynion a nodir yn adran 3 y Mesur. Mae adran 3 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau trafnidiaeth ar gyfer pob dysgwr oed cynradd sy'n byw 2 filltir neu fwy o'r ysgol, ac i ddysgwyr ysgolion uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'r ysgol. Mae adrannau 6 a 10 o'r Mesur eisoes yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol ddarparu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn amgylchiadau sydd y tu allan i amodau adran 3, fel meini prawf pellter. Mae hyn yn bosib heb welliant 135.
Looking at the time, I don’t think it would be fair to ask Cefin to respond to the debate in 30 seconds, so we’ll pause at that point and return to our proceedings no later than 3 o’clock. And when we do return, Cefin Campbell will reply to the debate in this group. We’ll then take a vote, if that’s required, and move on, and we’ll soon be into group 18, but I do want to maximise the time available. I think that last 13 or 14 minutes or so were quite helpful in getting us nearly to the end of this group. Thank you, all. I’ll see you in about an hour.
Okay, we're now back in public session. Prynhawn da, bawb. We have reached the stage in group 17 where Cefin Campbell is going to reply to the debate. So, Cefin, over to you to reply to the debate on this amendment and all the others in the group.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Fe wnes i wrando’n astud ar sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n rhaid dweud, ar y cyfan, fy mod i’n siomedig gyda’r ymateb, ac eto, ar yr un pryd, dwi’n cydnabod nifer o bethau y gwnaeth e ddweud am ganlyniadau anfwriadol, felly fe ddof i at y rheini yn nes ymlaen.
Hynny yw, dyw’r status quo ddim yn gweithio o blaid tyfu addysg Gymraeg, achos rŷn ni’n gwybod, ac wedi gwybod hyn ers nifer fawr o flynyddoedd, fod diffyg trafnidiaeth i ysgolion Cymraeg lle maen nhw’n bellach i ffwrdd na’r ysgol Saesneg agosaf yn rhwystr i nifer o rieni rhag dewis addysg Gymraeg. Ac mae hynny wedi bod yn ffactor sydd wedi cael ei amlygu drosodd a thro gan rieni ymhob rhan o Gymru, bron. Felly, dyw mynnu bod system sydd yn methu yn parhau, i fi, ddim yr ateb gorau o ran symud pethau ymlaen. Ond dwi hefyd yn cydnabod y pwynt wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, efallai mewn rhai ardaloedd o Gymru, byddai’r canlyniad anfwriadol, sef rhoi dewis a thrafnidiaeth i rywun osgoi addysg Gymraeg i fynd at addysg Saesneg, yn gallu bod yn wir, ond dwi’n meddwl, yn y mwyafrif o achosion, fod diffyg trafnidiaeth yn rhwystr rhag tyfu addysg Gymraeg. Derbyn y pwynt efallai yn y tymor canol a’r tymor hir, wrth i fwy o ysgolion Cymraeg gael eu sefydlu, y bydd y sefyllfa yn newid, ond dwi jest yn ofni yn y tymor byr fod y catalydd rŷn ni eisiau ei weld o ran ei gwneud hi’n hwylus i bobl i ddewis addysg Gymraeg, o safbwynt trafnidiaeth, ddim yn mynd i gael ei roi yn ei le.
Ond dwi eisiau jest cydio fel pwynt olaf yn rhywbeth y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet gyfeirio ato fe, sef yn ein gwelliant ni, rŷn ni wedi nodi dewis iaith plentyn. Rŷn ni yn cydnabod bod hynny wedi bod yn gamgymeriad; dewis iaith rhieni roeddwn i wedi ei fwriadu. Felly, ar sail hynny, dwi am dynnu gwelliant 134 yn ôl, fel ein bod ni yn cael amser i ailgyflwyno ac efallai trafod ymhellach cyn Cyfnod 3, os ydy hynny’n iawn gan y Cadeirydd hefyd. Iawn? Ocê. Diolch yn fawr.
Indeed. So, the mover has indicated that he wishes to withdraw amendment 134. Does any Member object to the withdrawal of that amendment? No. Amendment 134 is not put.
We now move to group 18, which is late immersion education in Welsh. The lead amendment is amendment 136, so I ask Cefin Campbell to speak to the lead amendment and all other amendments within this group. Over to you, Cefin.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cyfeiriad at addysg drochi yn y Bil; mae'n gydnabyddiaeth o ddarpariaeth sydd wedi bod ar gael ers nifer fawr o flynyddoedd ac wedi bod yn hynod o lwyddiannus. I'r rhai sydd ddim yn gwybod, mae e'n gyfle i drochi plant di-Gymraeg yn yr iaith mewn cyfnod byr iawn, iawn, lle maen nhw'n dod yn siaradwyr hyderus ac yn cael eu rhoi i mewn i'r system addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae llwyddiant y cynllun yma wedi bod yn ysgubol, a dweud y gwir.
Ond, o ran y gwelliant, dŷn ni ddim yn cytuno mai ar sail galw y dylai'r ddarpariaeth hon fod, ond yn hytrach dylai fod yn gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i fynd ati i gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar ddarpariaeth drochi hwyr, er mwyn dod yn siaradwyr Cymraeg, a'u bod nhw'n gwneud hynny mewn ffordd ragweithiol, yn hytrach na ymateb i'r galw. Felly, dyna beth yw byrdwn y gwelliannau cyntaf yn y grŵp yma, yn benodol gwelliannau 136, 137 a 138.
Roedd cyfeiriadau penodol tuag at drochi hwyr hefyd yn adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac roedden nhw'n gweld yn glir fod y ddarpariaeth yma'n grymuso cymunedau ac yn cryfhau’r iaith Gymraeg. Yn yr adroddiad, mae'r comisiwn yn dweud,
'Mae sicrhau trochi ieithyddol effeithiol ar gyfer newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg yn fater o flaenoriaeth'.
Rŷn ni'n gwybod am y symudoledd poblogaeth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae e'n ymateb i hynny. Mae'r comisiwn yn dweud,
'a’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw trwy ganolfannau trochi.'
'Gan fod canolfannau trochi mor allweddol, dylid gwarchod ac ehangu eu cyllidebau hyd yn oed mewn gwasgfa gyllidol.'
Felly, argymhelliad y comisiwn yw y dylai’r Llywodraeth ac awdurdodau lleol sicrhau bod canolfannau trochi yn derbyn adnoddau digonol i gyflawni eu hamcanion. Yn yr un modd, tra’n croesawu’r ddyletswydd mae’r Bil yn ei gosod ar awdurdodau lleol o ran trochi hwyr, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn galw am addysg o’r fath a chynyddu hynny hefyd. Felly, mae angen mwy o gyllid—dyna'r neges, yn glir, gan y cyrff yma—ac mae angen negeseuon cenedlaethol i gyd-fynd â hynny hefyd i godi ymwybyddiaeth rhieni bod y ddarpariaeth yma ar gael iddyn nhw. Felly, dyna pam rwy'n cyflwyno gwelliant 140 fel gwelliant procio, er mwyn cael sgwrs bellach gyda'r Llywodraeth a deall sut maen nhw am ymateb i hyn.
Felly, gwelliannau 136, 137 ac 138, pleidlais ar y rheini, ac wedyn mae 140 yn welliant procio. Diolch, Cadeirydd.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Ar ôl ystyried gwelliannau 136 a 137 a chlywed beth mae Cefin Campbell wedi'i ddweud y prynhawn yma, rwy'n hapus i dderbyn y gwelliannau hynny. Mae'n cryfhau'r egwyddor y bydd annog y galw yn arwain at fwy o gyfranogiad mewn addysg trochi hwyr. Dyna bolisi y Llywodraeth, i gefnogi hwnna, a dwi'n hapus i dderbyn y ddau welliant. Doeddwn i ddim cweit yn gweld beth oedd yn newydd yng ngwelliant 138. Os bydd 136 ac 137 yn cael eu derbyn, dydw i ddim yn meddwl y bydd 138 yn rhoi mwy na'r hyn sydd yna. Felly, rydw i'n mynd i ofyn i Aelodau wrthod gwelliant 138.
Diolch i Cefin Campbell am beth ddywedodd e am welliant 140. Wrth gwrs, gallaf weld pam mae'r WLGA yn gofyn am ddyletswydd i ariannu rhywbeth, ond y ffaith yw, rŷm ni’n ei ariannu heb ddyletswydd o gwbl. Mae cyllid ar gyfer trochi hwyr yn rhan o elfen 'Cymraeg 2050' grant addysg yr awdurdodau lleol, gyda’r cynnydd yn cael ei fonitro’n flynyddol drwy’r WESPs. Dros y blynyddoedd, gan weld y galw am drochi hwyr yn codi, rŷm ni wedi rhoi mwy o arian. Dyna un o’r rhesymau pam rŷn ni nawr yn gweld trochi hwyr ar gael mewn awdurdodau lleol newydd, lle roedd un neu ddau awdurdod lleol ddim cweit yn hyderus y byddai galw am drochi hwyr. Ond nawr maen nhw’n gallu gweld, gyda'r ddarpariaeth, fod y galw yna. Rŷm ni, fel Llywodraeth, wedi ariannu hynny yn barod, a’r bwriad yw cario ymlaen i wneud hynny.
Rŷn ni’n gweld y rhaglen trochi hwyr fel rhywbeth sydd wedi llwyddo yma yng Nghymru. Dylai hyn roi hyder, dwi’n meddwl, i awdurdodau lleol fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi eu cynnig trochi hwyr lleol, ac i’w helpu nhw yn ariannol i wneud beth maen nhw’n ei wneud.
Wel, diolch y fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet am dderbyn y gwelliannau. Rwy’n croesawu hynny’n fawr iawn. Jest o ran y pwynt roedd e’n ei godi ynglŷn â gwelliant 138, rydw i’n meddwl mai sicrhau cysondeb ydyn ni fan hyn, sef bod adran 22 yn dweud yr un peth ym mhob man. Mater o dacluso yw e, yn hytrach na gwelliant sydd yn mynd â ni i ryw gyfeiriad gwahanol. Felly, tacluso yw pwrpas hwnnw i gyd. Felly, dyna i gyd sydd angen imi ei ddweud o ran hynny. Hwyrach y cawn ni gyfle i drafod yr ariannu rywbryd eto.
Does any Member object? [Objection.] There is an objection. So, all those in favour of 138, please show. That's three. All those against. That's three. That's three each. I therefore use the casting vote in the negative. So, amendment 138 is not agreed.
We therefore move to group 19. This relates to Welsh language education qualifications. The lead amendment is amendment 139. I ask Cefin Campbell to move and speak to his lead amendment and the other amendments in the group. Over to you again, Cefin.
Ie, diolch yn fawr iawn. Pwrpas y gwelliant yma yw gweithredu ar adroddiad a gafodd ei gyhoeddi 12 mlynedd yn ôl bron, gan yr Athro Sioned Davies—adroddiad ar ddysgu ail iaith yng Nghymru, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ei hun. Wrth gwrs, byrdwn yr adroddiad i bob pwrpas, yw bod dysgu ail iaith yn ein hysgolion ni yn methu, at ei gilydd, o ran creu siaradwyr Cymraeg hyderus.
Mae'r adroddiad, ac rwy'n dyfynnu, yn dweud:
'Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith...mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro.... Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.'
Y geiriau allweddol i fi fanna yw 'mater o frys', ac mae wedi bod yn 12 mlynedd bron ers i'r adroddiad yma gael ei gyhoeddi. Felly, rŷn ni'n ceisio defnyddio'r gwelliant yma i symud at beth roedd Sioned Davies yn ei argymell, sef creu un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg yn bennaf, a lleoliadau dwyieithog, a bod yna ganllawiau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant ar gael i sicrhau ein bod ni, yn y bôn, yn dileu TGAU Cymraeg ail iaith a'n bod ni'n creu'r un continwwm yma o asesiad yn yr iaith Gymraeg.
Felly, rŷn ni wedi parhau dros y 12 mlynedd diwethaf gyda system ail iaith sydd yn methu ein disgyblion ni a'n pobl ifanc ni, ac mae hyn wedi cael ei gefnogi gan nifer o aelodau o'r Cabinet—Cabinet y Llywodraeth—a Phrif Weinidogion hefyd. Ar 18 Tachwedd 2015, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ar y pryd ei fod ef a'r Gweinidog addysg Huw Lewis wedi dod i'r un casgliad, ac rwy'n dyfynnu:
'Rydym o’r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol'.
Ar 28 Medi 2016, yn Siambr y Cynulliad fel roedd ef, dywedodd Alun Davies, y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ar y pryd, y byddai Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli gan un cymhwyster Cymraeg erbyn 2021. Wel, rŷn ni wedi methu'r garreg filltir honno. Ym mis Mawrth 2018, dywedodd yr Ysgrifennydd addysg Kirsty Williams y bydd, a dwi'n dyfynnu, 'un cymhwyster Cymraeg' i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau Cymraeg a Chymraeg ail iaith presennol. Dyma pam, felly, dwi wedi cyflwyno gwelliant 139, er mwyn rhoi’r cyfle i Lywodraeth Cymru adleisio'r hyn mae'r Gweinidogion dwi wedi'u nodi wedi'i ddweud, a gwireddu eu polisi blaenorol nhw, wedi'i selio ar argymhellion gwreiddiol yr Athro Sioned Davies.
Mae gwelliant 141 yn ceisio gosod dyletswydd ar Gymwysterau Cymru i rannu data a gwybodaeth ynglŷn â nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau ym mhob blwyddyn academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyflawniad disgyblion yn erbyn y nodau dysgu Cymraeg mewn Cymraeg fel pwnc. Fel mae’n sefyll, nid oes gofyniad i Gymwysterau Cymru, neu fyrddau arholi megis CBAC, i rannu data o’r fath.
Yn 2019, cyhoeddwyd adroddiad, a theitl yr adroddiad oedd ‘Gwella’r Broses Cynllunio Addysg Gymraeg’ gan y Bwrdd Cynghori Strategol y Gymraeg Mewn Addysg. Yn adran 40 o’r adroddiad yna, fe nodwyd, a dwi'n dyfynnu:
'Mater arall sydd angen sylw gan Adran Addysg y Llywodraeth, Cymwysterau Cymru a CBAC yw’r aneglurder o ran data pan fo disgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer papurau arholiad mewn ysgolion dwyieithog. Byddai’n da gwybod faint yn union o ddisgyblion sy’n sefyll eu arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg fel bod gwaelodlin gwrthrychol a phendant ar gael at ddibenion cynllunio a mesur cynnydd.'
Diolch yn fawr, Cefin. Are there other Members who wish to speak in the debate? No, there are not. So, I invite Ysgrifennydd y Cabinet dros yr iaith to speak to the debate at this point.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Dim ond dau welliant sydd yn y grŵp hwn, ond mae dadl eithaf cymhleth y tu ôl i'r ddau. Fel mae Cefin Campbell wedi dweud, diben gwelliant 139 yw diwygio Deddf Cymwysterau Cymru 2015 mewn perthynas â'r ddyletswydd ar Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru i baratoi rhestr ar y cyd o gymwysterau blaenoriaeth. Byddai'r gwelliant yn atal y rhestr rhag cynnwys cymwysterau sy'n seiliedig ar y Gymraeg fel ail iaith. Byddai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gymwysterau Cymraeg ar y rhestr alinio gyda nodau dysgu Cymraeg a’r cod. Mae'r gwelliant hefyd yn atal math o gymhwyster rhag cael ei ddynodi os yw'n seiliedig ar y Gymraeg fel ail iaith.
Rwy'n cytuno gyda’r egwyddor y dylai cymwysterau Cymraeg dysgwyr fod wedi eu halinio gyda'r cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg. Ond dwi ddim yn derbyn yr egwyddor na ddylai cymwysterau fod yn seiliedig ar y ffaith mai Cymraeg yw ail iaith dysgwr. Mae dysgwyr mewn ysgolion ledled Cymru, mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn enwedig, yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Pwrpas y Bil yw cydnabod y ffaith dydy'r ysgolion sy'n rhoi mwyafrif eu haddysgu trwy Saesneg ddim yn troi mas bobl sy'n hyderus i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Dyna'r pwrpas y tu ôl i'r Bil i gyd. Ond dwi ddim eisiau rhoi'r neges i bobl sy'n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd fel ail iaith ein bod ni'n meddwl eu bod nhw wedi methu a dydyn nhw ddim yn mynd i gael cymwysterau ar ôl gwneud hynny, achos byddai'r gwelliant yn gwrthod y posibiliad i hwnna ddigwydd. Dylai cymwysterau alinio gyda lefelau hyfedredd dysgwyr i roi cyfle teg iddyn nhw ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud. Am y rheswm hwn, rwy’n annog Aelodau i wrthod gwelliant 139.
Mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan brif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, i’r pwyllgor yn rhoi hyder i mi bod modd mapio cymwysterau yn erbyn y cod i ddisgrifio gallu'r Gymraeg. Mae hefyd yn rhoi hyder i mi y gall cymwysterau sydd wedi eu mapio felly gefnogi bwriad polisi'r Llywodraeth i'r safon TGAU bresennol newid dros amser yn unol â'r darpariaethau ar gyfer y nodau dysgu Cymraeg yn y Bil. Mae'r Llywodraeth yn barod i drafod alinio cymwysterau Cymraeg gyda'r cod i ddisgrifio gallu'r Gymraeg gyda'r Aelod, ond heb unrhyw sicrwydd o unrhyw welliannau yng Nghyfnod 3.
A throi nawr at welliant 141, y pwrpas, fel mae Cefin Campbell wedi dweud, yw diwygio Deddf Cymwysterau Cymru 2015 fel bod dyletswydd ar Gymwysterau Cymru i rannu'r wybodaeth a'r data sydd wedi eu nodi. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru ddarparu gwybodaeth a data sydd ddim yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar nifer y disgyblion sy'n sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob blwyddyn academaidd, ac ar gyflawniad disgyblion yn erbyn y nodau dysgu Cymraeg yn y Gymraeg fel pwnc.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Dwi am ddechrau gyda gwelliant 139. Mae'n rhaid i mi fod yn onest fan hyn—dwi yn gweld yr ymateb yn syfrdanol, a dweud y gwir, i'r mater yma o fethu delio gydag argymhellion rhywun sydd wedi cael ei chydnabod yn arbenigwr yn y maes yma, yr Athro Sioned Davies, a'n bod ni wedi methu gwneud hynny fel cenedl, a chithau fel Llywodraeth, ers dros 12 mlynedd.
Nawr, fe wnaethoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, gyfeirio at y ffaith bod yna nifer fawr o ddisgyblion yn gwneud ail iaith. Does yna ddim unrhyw fwriad gan neb i fychanu hynny mewn unrhyw ffordd nac i ddibrisio'r ffaith eu bod nhw'n astudio'r Gymraeg fel ail iaith. Beth mae Sioned Davies yn ei ddangos yw bod y system yn eu methu nhw—nad ydyn nhw'n gallu llwyddo, ar y cyfan, i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus nid oherwydd eu bai nhw, ond oherwydd y system. Felly, dwi ddim yn hollol glir os ydych chi'n dadlau dros barhau â system sydd wedi methu, ac yn methu, neu a ydych chi'n barod i drafod yr hyn mae Sioned Davies yn ei argymell, sef creu un continwwm sydd yn cydnabod ar unrhyw bwynt ar y continwwm yna beth yw sgiliau iaith disgyblion gwahanol.
Yn sicr, byddai'r mwyafrif ohonyn nhw yn siaradwyr ail iaith, ond fydden nhw ddim yn cael eu labelu fel siaradwyr ail iaith, sydd yn ei hun yn awgrymu eu bod nhw rywsut yn llai na gwerthfawr o'u cymharu â siaradwyr iaith gyntaf. Hynny yw, byddai eu gosod nhw ar un continwwm, i fi, yn awgrymu yn seicolegol eu bod nhw'n perthyn i'r un cymhwyster neu'r un lefel o asesu, yn hytrach na'u rhannu nhw yn iaith gyntaf ac yn ail iaith—hynny yw, eu gosod nhw, mewn gwirionedd, yn is o ran safon a statws. Felly, dwi'n rhyfeddu nad yw'r Llywodraeth yn barod i fynd i'r afael â methiant yn ein system ni ar ôl 12 mlynedd.
Os caf i symud ymlaen i'r data, rŷch chi'n cydnabod bod data'n ddefnyddiol fel dangosydd, a dwi'n cytuno'n llwyr â hynny. Rŷch chi'n gofyn, fel gwrthddadl, pa ddata sydd angen cael eu casglu, pwy fyddai'n gyfrifol am eu casglu. Wel, i fi, her weinyddol yw hon, nid mater o egwyddor.
Rŷch chi eto wedi crybwyll dewis ieithoedd—ie, mae hynny'n gallu bod yn gymhleth. Roeddech chi wedi cyfeirio at bapur sydd yn dechrau yn y Gymraeg ac yn troi i'r Saesneg—ie, ocê, eithriadau prin iawn, iawn fyddai'r rheini, wrth gwrs. Ond dyw e ddim y tu hwnt i allu gweinyddiaeth i fedru rhoi data i ni ynglŷn â faint sydd yn ateb cwestiynau trwy gyfrwng y Gymraeg neu drwy gyfrwng y Saesneg, ac yn y blaen. Hynny yw, mater o fwriad yw naill ai ein bod ni o ddifrif yn casglu data neu dydyn ni ddim. Fy nadl i yw, os nad oes data gyda ni, dydyn ni ddim yn gallu mesur cynnydd, ac mae'r Bil yma yn ymwneud â sicrhau cynnydd mewn sgiliau. Petaem ni'n gweld mwy a mwy yn ateb arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae hynny'n rhoi neges glir inni hefyd fod hyder pobl yn datblygu, wrth inni gyflwyno mwy o Gymraeg yn y cwricwlwm.
Diolch yn fawr, Cefin. The question is that amendment 139 be agreed to. Does any Member object to amendment 139? [Objection.] I see there are objections. So, all those in favour of amendment 139, please show. That's one. All those against. That's five. One in favour, five against. Amendment 139 is not agreed.
Are there any objections to 141? [Objection.] There are. So, all those Members in favour of 141, please show. That's three. All those against. That's three. So, that's three each; it's a tie. So, I therefore use my casting vote in the negative and 141 is not agreed.
I move the amendment in the name of the Cabinet Secretary, and invite Ysgrifennydd y Cabinet to speak to the lead amendment and all others in the group.
Thank you very much, Chair. The overall policy objective for the national framework for Welsh language education and learning Welsh is to ensure that Welsh language education for pupils of compulsory school age, and the arrangements for learning Welsh beyond school, are designed in an integrated way in one comprehensive framework. In addition to including matters relating to Welsh language education, the Bill requires the framework to set out the steps Welsh Ministers will take to provide opportunities for persons of all ages in Wales to learn Welsh. This includes through pre-compulsory school age childcare, through nursery education, through tertiary education, in the workplace and in the community.
I studied carefully the evidence provided to the committee by stakeholders from the tertiary education sector and beyond. The Government agrees with the view expressed by many, and articulated in the committee’s report in recommendations 8 and 9, that further clarity is required in the Bill about the scope of the national framework as it relates to the teaching of Welsh and teaching through the medium of Welsh in tertiary education in Wales.
The purpose of amendment 23 is to add Welsh language provision in tertiary education to the matters that must be included in the national framework in section 23(1) of the Bill. The effect of this is that there will be a requirement on Welsh Ministers to set out how they will implement the Welsh language strategy’s proposal in relation to Welsh language provision in tertiary education.
Amendment 72 defines Welsh language provision in tertiary education for the purposes of section 23(1) of the Bill. This is defined as 'Welsh language teaching in tertiary education in Wales' and 'tertiary education through the medium of Welsh in Wales'.
In addition to moving these amendments, the Government committed in its response to the committee's report to amend the explanatory memorandum to clarify the role of the tertiary education sector in the context of the national framework. By convention, that amended memorandum will be published prior to Stage 3 proceedings. I call on committee members to support the Government's amendments in this group.
Pwynt byr iawn, Gadeirydd, jest i ddweud ein bod ni'n cefnogi'r gwelliannau yma ac yn croesawu'r ffaith fod yna gadarnhad gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod addysg drydyddol yn cwympo o fewn cwmpas y Bil. Mae'r newidiadau rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw'n sicrhau fframwaith cynllunio a gweithredu strategol a fyddai'n hwyluso'r llwybrau dilyniant i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol i addysg ôl-statudol a thrydyddol. Felly, hapus i gefnogi.
I move amendment 24 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 24 be agreed. Does any Member object? No. Amendment 24 is agreed.
Symud amendment 142. [Objection.] I see an objection already, so we'll move to a vote. All those in favour of amendment 142, please show. That's one. All those against. That's five. So, one in favour, five against. Amendment 142 is not agreed.
I move amendment 25 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 25 be agreed to. Does any Member object? There are no objections. Amendment 25 is agreed to.
I move amendment 26 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 26 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 26 is agreed.
I move amendment 27 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 27 be agreed. Does any Member object? [Objection.] Object. We'll move to a vote. So, all those in favour of amendment 27, please show. That's four. All those against. Four in favour, two against. Amendment 27 is agreed.
I move amendment 28 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 28 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] Okay. There is an objection. We move to a vote. All those in favour of amendment 28, please show. Three. All those against amendment 28. That's three. So, I use my casting vote in the negative. Amendment 28 is not agreed.
I move amendment 29 in the name of the Cabinet Secretary. If amendment 29 is agreed, then amendment 143 will fall. The question is that amendment 29 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. All those in favour of amendment 29, please show. That's five. And any against. That's one. Five in favour, one against. Amendment 29 is agreed to. So, amendment 143 has fallen.
I now move amendment 30 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 30 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 30 is agreed.
We now come to what I think will be the last group of the day, on the national framework. The lead amendment to this group is amendment 144, so I call on Cefin Campbell to move that amendment and speak to not just the lead amendment, but all amendments within the group. Cefin.
Mae'r gwelliannau yma'n rhan o grŵp sy'n ymwneud â'r fframwaith cenedlaethol. Dwi'n falch i agor y drafodaeth ar y grŵp yma o welliannau. Yn gyntaf, mae gwelliant 144 yn ceisio cryfhau'r galw ar Weinidogion Cymru, drwy'r fframwaith, i nid yn unig ddarparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, ond hefyd i gynnal a gwella gallu Cymraeg unigolion a’u defnydd ohoni. Dwi’n credu bod hyn yn bwynt gweddol syml oherwydd, wrth inni ystyried ein bod ni yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg fel canlyniad i amcanion y Bil, mae’n bwysig bod elfennau o’r Bil yma yn cwmpasu’r meddylfryd o roi cefnogaeth i bobl sydd am ddysgu a gwella eu sgiliau iaith.
Pwrpas gwelliant 45 yw cynnwys gwasanaethau datblygu ieuenctid o fewn cwmpas y fframwaith cenedlaethol. Awgrymodd Estyn yn eu tystiolaeth y dylai gwaith ieuenctid, a gynhelir gan yr awdurdodau lleol eu hunain neu drwy gytundebau â’r sector anstatudol, gael ei gynnwys yng nghwmpas y Bil ac o fewn y fframwaith cenedlaethol. Dywedodd Estyn y dylai gallu’r sector i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i leoliadau addysgol ffurfiol ac mewn cyd-destunau amrywiol fod yn ganolog i strategaeth 'Cymraeg 2050'.
Mae'r gwaith ymgysylltu y mae’r pwyllgor wedi ei wneud wedi amlygu bod cyfleoedd ac anogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol yn brin ar hyn o bryd, yn arbennig mewn rhai ardaloedd. Dywedodd 82 y cant o ymatebwyr yr arolwg a gynhaliwyd fel rhan o waith y pwyllgor, a hynny'n bennaf yn Eisteddfod Pontypridd y llynedd, eu bod nhw prin byth yn defnyddio’r Gymraeg y tu fas i’r ysgol, ac ni ddywedodd un ohonyn nhw eu bod nhw yn ei defnyddio hi bob amser, y rhan fwyaf o’r amser, neu, yn anffodus, yn weddol aml. Felly, pan ofynnwyd beth y gellid ei wneud i gynyddu’r niferoedd sy'n defnyddio'r Gymraeg y tu fas i'r ysgol, un o’r awgrymiadau mwyaf poblogaidd gan bobl ifanc oedd cyfleoedd mwy anffurfiol, fel clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau. Awgrymodd rhywun y byddai hyn yn helpu plant i ddod i arfer â chymdeithasu yn y Gymraeg, ac awgrymodd un neu ddau arall fod angen clybiau ieuenctid Cymraeg. Rŷn ni wedi clywed sawl gwaith yn ystod y dydd heddiw am bwysigrwydd nid yn unig dysgu'r iaith, caffael iaith, ond hefyd gwneud defnydd o'r iaith hefyd unwaith mae'r sgiliau yna gyda chi.
Felly, mae gwelliant 146 yn ymgorffori argymhelliad 10 o adroddiad trawsbleidiol Cyfnod 1 y pwyllgor deddfwriaeth a oedd yn nodi y dylid diwygio’r Bil i gynnwys dyletswydd i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gosod rheoliadau drafft o dan adran 23(9). Fel mae'r Bil yn sefyll ar hyn o bryd, ac fel sy'n cael ei nodi yn adroddiad y pwyllgor, gall Gweinidogion y dyfodol
'newid cynnwys pum is-adran Bil heb fawr ddim goruchwyliaeth. Rydym o’r farn bod y ddarpariaeth hon yn ddirprwyaeth amhriodol o bŵer.'
Ac rwy'n cytuno gyda’r pwyllgor ar y mater hwnnw. Mae'r pum is-adran o dan sylw yma yn rhai sydd yn gwbl greiddiol i nod ac amcanion y Bil, drwy greu fframwaith cenedlaethol effeithiol ar gyfer cynyddu'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg. Rhaid diogelu'r fframwaith rhag—. Efallai, rhywbryd yn y dyfodol, y byddai'n rhoi cyfle i Weinidogion rwyfo'n ôl ar yr amcanion presennol, ac felly dyna pam fy mod i'n cyflwyno'r gwelliant i sicrhau na fydd hynny yn digwydd. Felly, mae hynny'n esbonio pwrpas y gwelliant arbennig yna.
Felly, yn unol â'r drafodaeth flaenorol ar addysg drydyddol, dwi'n cefnogi gwelliant 43 er mwyn sicrhau bod cyfle i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fwydo i mewn i'r ymgynghoriad i lunio a/neu ddiwygio'r fframwaith cenedlaethol. Dwi hefyd yn gefnogol i welliannau 41 a 42 yr Ysgrifennydd Cabinet, a byddaf yn hapus i bleidleisio o'u plaid. Diolch.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Mae'r Llywodraeth yn cytuno bod cynnal a gwella gallu a defnydd y Gymraeg yn rhan annatod o gaffael iaith. Felly, mae'n briodol i Weinidogion Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn yn y fframwaith cenedlaethol. Felly, bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 144, gan nodi y byddwn yn ystyried y posibilrwydd o fireinio’r testun yng Nghyfnod 3. Ond dim ond pethau i ddelio gyda nhw o ran geiriau, nid y cynnwys.
Fodd bynnag, ni allwn gefnogi gwelliant 145, sy'n ceisio ymestyn adran 23(4) i gynnwys gwasanaethau datblygu ieuenctid yn y rhestr o faterion y mae'n rhaid i'r fframwaith fynd i'r afael â hwy, o ran darparu cyfleoedd i bobl o bob oed yng Nghymru ddysgu Cymraeg, ac, o ganlyniad i welliant 144, gynnal a gwella gallu a defnydd.
Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu cynigion i gryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys egluro diffiniad o waith ieuenctid. Byddai ymgorffori'r cyfeiriad arfaethedig at wasanaethau datblygu ieuenctid, sy'n wahanol i waith ieuenctid yn benodol, yn torri ar draws y gwaith hwnnw. Gallai hynny greu dryswch ar adeg pan mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau eglurder a chydlyniad ar y materion hyn.
O ran gwelliant 146, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru ar wyneb y Bil i ymgynghori cyn gwneud rheoliadau i ddiwygio'r hyn sy'n ofynnol neu a gaiff ei ganiatáu i'w gynnwys yn y fframwaith cenedlaethol. Yn dibynnu ar natur unrhyw newid, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnwys rheoliadau fel mater o drefn. Byddai'r rheoliadau dan sylw hefyd yn dod o dan y weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth wrthod gwelliant 146.
Mae adran 25 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys, adolygu a diwygio'r fframwaith cenedlaethol. Mae'r Llywodraeth wedi adolygu'r adran hon ers ei chyflwyno ac wedi cyflwyno gwelliant 41 sy'n gwneud nifer o bethau.
Yn gyntaf, mae'n rhoi sicrwydd bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth adolygu a diwygio'r fframwaith cenedlaethol cyn diwedd pob cyfnod o bum mlynedd, ddiweddaru'r camau sydd wedi'u cynnwys ynddo, yn hytrach nag ystyried diweddaru'r camau yn unig. Yn ail, mae'n rhoi sicrwydd bod yn rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r targedau a osodwyd gan y fframwaith cenedlaethol, a gosod targedau newydd os ydynt yn ystyried bod angen hynny. Ac yn drydydd, mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru, o bryd i'w gilydd, ddiwygio'r fframwaith cenedlaethol heb ddiwygio'r cyfnod y mae'r camau hynny'n gymwys iddo, neu baratoi fframwaith newydd.
Mae gwelliant 42 gan y Llywodraeth yn sicrhau cywirdeb drafftio yn adran 26 yng ngoleuni gwelliant 41. Nid oes angen cyfeirio at 'neu ddiwygio' oherwydd bod adran 25 yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r fframwaith.
Very briefly, if I may, Chair. I welcome the support to amendment 144, and again I acknowledge that the wording of the amendment as it currently stands needs to be refined somewhat. On amendment 145, with regard to youth work, I would like to know, of course, in conversation, more about the work that is currently being done to strengthen the role and status of the Welsh language in youth work. I don't know exactly what the nature of that work is, and what the timeline is in terms of publishing an analysis of that research. The only thing that I would ask kindly, and perhaps we can have a further conversation about this, is whether that could be placed on a statutory footing, in order to strengthen the provision and that it is there in statute as a provision that sits alongside the provision that we see in early years, that we see in compulsory education and in post-16 education.
And then, on amendment 146, I am always uncomfortable when I hear any member of the Government say that they place their trust in the Ministers—and I don't see why they wouldn't say that, of course—and that they don't need to consult. I sometimes think of a possible future scenario where we might not see Ministers who are supportive to the situation of the Welsh language like we are, and perhaps they would make decisions that would undermine the Welsh language. So, in placing any issue with regard to consultation on a statutory footing, there would then be a compulsion and requirement to consult and to discuss, rather than for individualistic decisions to be made by Ministers in the future. Thank you.
Symud. Are there any objections to amendment 145? [Objection.] There are. All those in favour of amendment 145, please show. That's three. All those not in favour. That's three. That's three in favour, three against, and I therefore use my casting vote in the negative. Amendment 145 is not agreed.
I move amendment 31 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 31 be agreed. Does any Member object? No. Therefore, amendment 31 is agreed.
I move amendment 32 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 32 be agreed. Does any Member object? No. Amendment 32 is agreed.
I move amendment 35 in the name of the Cabinet Secretary. Does any Member object? [Objection.] There are objections to amendment 35, so we will move to a vote. All those in favour of amendment 35, please show. One, two, three. All those against amendment 35. That's one, two, three. That's three in favour, three against. As it's a tie, I therefore use my casting vote in the negative. Amendment 35 is not agreed.
Amendment 36. I move this amendment in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 36 be agreed to. Does any Member object? No. There are no objections. Amendment 36 is therefore agreed to.
I now move amendment 72 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 72 be agreed to. Does any Member object? No. There are no objections. Amendment 72 is therefore agreed.
Symud. The question is that amendment 146 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections, so we will move to a vote. All those in favour of amendment 146, please show. That's three. And all those against. That's one, two, three. It's a tie—three in favour, three against—therefore, I use my casting vote in the negative. Therefore, amendment 146 is not agreed.
I move amendment 38 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 38 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. We'll move to a vote. All those in favour of amendment 38, please show. Five. All those against. One. So, five in favour, one against. Amendment 38 is agreed.
I move amendment 39 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 39 be agreed to. Does any Member object? No. There are no objections. Amendment 39 is therefore agreed.
I move amendment 40 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 40 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is an objection, so all those in favour of amendment 40, please show. That's five. And all those against amendment 40. That's one. Five in favour, one against. Amendment 40 is therefore agreed to.
I move amendment 73 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 73 be agreed to. Does any Member object? No. Amendment 73 is agreed.
I move amendment 41 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 41 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. We'll move to a vote. All those in favour of amendment 41, please show. Four. All those against. Two. Four in favour, two against. Amendment 41 is therefore agreed.
I move amendment 42 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 42 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There is an objection. So, the question is that amendment 42 be agreed to. All those in favour please show. That's four. All those against please show. That's two. Four in favour, two against. Amendment 42 is agreed to.
I move amendment 43 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 43 be agreed to. Does any Member object? No, there are no objections. Amendment 43 is agreed.
I move amendment 44 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 44 be agreed to. Does anyone object? No. Amendment 44 is agreed.
I move amendment 45 in the name of the Cabinet Secretary. The question is that amendment 45 be agreed to. Does any Member object? No. Therefore, amendment 45 is agreed to.
Diolch yn fawr. The question is that amendment 94 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections. So, all those in favour of amendment 94, please show. Three. And all those against. That's three again. Three in favour, three against. I use my casting vote in the negative. Amendment 94 is not agreed.
Diolch yn fawr. The question is that amendment 95 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] Yes, so we'll move to a vote. All those in favour of amendment 95. That's three. All those against. That's three. Three in favour, three against. I use my casting vote in the negative and amendment 95 is therefore not agreed.
Symud. The question is that amendment 147 be agreed to. Does any Member object? [Objection.] There are objections, so we'll move to a vote. All those in favour of amendment 147. That's one. All those against. There we are. So, one in favour, five against. Therefore, amendment 147 is not agreed.
The next group is group 22. I don't propose to start this group because we're two minutes away from the end time, and we're not going to finish proceedings today. So, that will bring the end of today's consideration of amendments in Stage 2. For the record, the clerks inform me that sections 1 to 27 have been deemed agreed by the committee.
We'll recommence Stage 2 proceedings from group 22 onwards and the remaining amendments in the marshalled list. So, I'll look forward to seeing you all on Wednesday morning in one form or another. Thank you to Members and to the good professor and his team for joining us today. See you on Wednesday.
We have—for members of the committee, although Professor Drakeford may want to stay to observe these matters, but he doesn't have to—papers to note under item 4. They've been circulated in advance. Full details are set out in the paper pack. Are Members content to note the papers? Thank you very much. That concludes today's proceedings for everyone. Thank you all very much.
Amendment 36 will allow Welsh Ministers to set further targets to be met by local authorities for the purpose of implementing the national framework. Amendment 32 removes the need for the information that must be included in the framework under section 23(6) to be for the purposes of setting targets on local authorities.
Amendment 73 is consequential to amendment 36. It allows Welsh Ministers to require local authorities to provide them with any information that they need in order to set targets under the new subsection inserted by amendment 36. I urge Members to support all amendments in this group, apart from amendment 101.
Cafodd gwelliant 125 ei gynnig ar y rhagdybiaeth y byddai gwelliant 124 yn cael ei basio. Mae'r gwelliant hwn yn dileu'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i benderfynu bob pum mlynedd a ddylid cynyddu'r isafswm ar gyfer y categori prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg. Ond rydyn ni'n parhau i gredu bod yr adolygiad rheolaidd bob pum mlynedd yn fwy gwerthfawr yn ymarferol, yn hytrach na'r ddyletswydd benagored sy'n cael ei chynnig gan welliant 124.
Mae gwelliant 126 yn gosod gofyniad yng nghynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol i nodi sut y byddan nhw'n paratoi i symud i'r categori nesaf. Nid ydym yn credu y byddai'n rhesymol disgwyl i bob ysgol weithio tuag at symud i'r categori nesaf. Roedd y pwyllgor wedi cael tystiolaeth eithaf cryf gan rai rhanddeiliaid am yr her sydd yna i ddod at y pwynt mae'r Bil yn setio mas nawr. Ac, wrth gwrs, gallai hyn hefyd fod yn gam yn ôl gan na fyddai'r gwelliant yn ei ffurf bresennol yn caniatáu i ysgolion prif iaith Saesneg, rhannol Gymraeg symud yn syth i'r categori prif iaith Cymraeg.
Mae adran 14(1)(g) o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu nodi, os ydynt yn bwriadu cynyddu faint o addysg Gymraeg sy'n cael ei darparu gyda golwg ar newid categori iaith yr ysgol, sut y byddant yn paratoi ar gyfer y newid.
Am yr un rheswm ag y gwnes i wrthod gwelliant 126, rwyf yn gwrthod gwelliant 142. Gan ein bod yn gwrthod gwelliant 120, rhaid inni hefyd wrthod gwelliant 158. Gan ein bod yn gwrthod gwelliant 124, rhaid inni hefyd wrthod gwelliant 160.
Felly, dyna’r unig sylwadau sydd gyda i. Dwi'n falch bod yna gyfle i drafod ymhellach ein bod ni'n gweld uwchraddio cyson yn rhan o’r daith yna, ac yn bersonol dwi ddim yn gweld problem gydag erbyn 2050, ond gallwn ni drafod hynny ymhellach maes o law. Diolch, Gadeirydd.
Amendment 118 proposes a requirement on governing bodies to ensure that the school offers at least 5 per cent of any activities that it provides outside of school sessions through the medium of Welsh. And I agree with Sam Kurtz—I want to see more opportunities for students to use the Welsh language outside the classroom. But extra-curricular activities are not mandatory and, therefore, a five per cent minimum requirement would be difficult to enforce, and it's likely that it would not be a meaningful requirement. In a practical sense, a school could provide activities outside school sessions through the medium of Welsh, with little or no participation. They could provide the sessions, but that doesn't mean that everyone is going to turn up and take advantage of those sessions. And, of course, I support the sentiment behind this amendment and acknowledge the importance of providing opportunities for pupils to use their Welsh language skills outside the classroom. However, the fact that this couldn't be effectively enforced leads me to reject this amendment. I believe that this principle is accomplished more effectively in practice through the provision in section 14(1)(f) of the Bill, that requires schools to set out the steps that they will take to, first of all, promote a Welsh language ethos and culture within the school—and I agree with Cefin Campbell's comments on the importance of that ethos within the school—and, secondly, to promote the use of the Welsh language within the school. These are intended to cover the school’s actions outside of the Welsh language education. I think those steps are more practical and more effective, and I urge Members to reject the amendments in this group.
Nawr, fel dwi wedi ei ddweud yn barod, mae hyn yn cyd-fynd â’n cred mai’r categori hwn yw’r ffordd gyflymaf i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Dwi ddim yn cytuno â Sam Kurtz fod hynny yn tynnu rhywbeth yn ôl o rieni. Mae rhieni yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau maen nhw eisiau eu gwneud. Beth mae'r gwelliant hwn yn ei wneud yw hybu'r ffaith ein bod ni'n credu fel Llywodraeth mai'r ffordd gyflymaf i ddod yn siaradwr Cymraeg yw addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Diben gwelliant 49 yw ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddweud yn y cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg pa gamau y byddant yn eu cymryd i hwyluso dilyniant rhwng ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir o ran addysgu’r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu gwelliant 30 yn y grŵp yma, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhad yn y ddarpariaeth Gymraeg o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Diolch, Gadeirydd.
Ac i gloi, jest ar y darn bach yna, mae fy ngwelliant hefyd yn dweud bydd rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cynllun gweithlu addysg dwyieithog cyntaf cyn diwedd y 10 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn dod i rym, ac yn gosod dyletswydd i adolygu neu ddiweddaru’r cynllun ar ôl pob etholiad Senedd, fel bod y cynllun yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd er mwyn sicrhau cynnydd.
Gan symud ymlaen yn awr i rôl yr athrofa, dwi'n cydnabod bod yna rôl bwysig iawn gan yr athrofa mewn perthynas â datblygu’r gweithlu addysg at ddiben gwella dulliau addysgu’r Gymraeg a darparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg i’r gweithlu addysg. Nawr, mae hynny'n gwbl hanfodol, ond nid yw'n ddigon ynddo'i hun. Mae gwelliannau 153, 154, a 155, felly, yn ceisio gosod dyletswydd i sicrhau bod gan yr athrofa adnoddau digonol i ddarparu cyrsiau dwys ar gyfer gwella capasiti’r gweithlu presennol o ran y Gymraeg er mwyn gwireddu amcanion y Bil a’i ddyletswydd, a darparu cymorth a chymhellion i’r system addysg ymgymryd â’r ddarpariaeth honno.
Ac i gloi, o ran y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, mi fyddaf i’n pleidleisio o blaid gwelliannau 94 a 95, gan y byddan nhw hefyd yn ceisio rhoi cynllun gweithlu penodol ar wyneb y Bil. Er eu bod yn debyg iawn i’n gwelliannau ni, hoffwn gynyddu’r siawns bod cynllun o’r fath yn cael ei weithredu, felly byddaf yn pleidleisio o blaid gwelliannau 92 a 95, yn enw Sam Kurtz, sy’n ceisio cryfhau gallu cyrff llywodraethwyr i sicrhau gweithlu sydd wedi eu hyfforddi’n ddigonol. Diolch yn fawr, Cadeirydd.
Mae'r Llywodraeth hefyd o'r farn bod gwerth i welliant 155, Cefin Campbell, i'r graddau y mae gan hwn y potensial i sicrhau dyfodol darpariaeth ddwys, sef y ddarpariaeth sabothol a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer y gweithlu addysg. Ond, mae is-adran (b), fel y'i drafftiwyd, yn benagored. Mae’n cwmpasu ystod eang o gymorth a chymhellion i’r gweithlu addysg, sydd ar hyn o bryd yn eistedd mewn mannau eraill yn y system. Byddai’r rhain yn cael eu nodi gan Weinidogion Cymru yn y fframwaith cenedlaethol mewn perthynas â'r gweithlu. Felly, unwaith eto, er na all y Llywodraeth gefnogi'r gwelliant fel y'i drafftiwyd, byddai gennyf ddiddordeb mewn gweithio gyda'r Aelod gyda'r bwriad o gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3.
Mae gwelliant 92, yn enw Sam Kurtz, yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu gynnwys yn eu cynllun darparu addysg Gymraeg yn yr ysgol yr hyn y byddant yn ei wneud i sicrhau bod ymarferwyr addysg yn ddigon cymwys. Yn yr un modd, mae gwelliant 96 yn ceisio gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i gynnwys yn eu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr hyn y byddant yn ei wneud i alluogi cyrff llywodraethu i sicrhau bod ymarferwyr addysg yn ddigon cymwys. Mae'r gwelliannau hyn yn ddiangen ym marn y Llywodraeth, o ystyried bod rheoliadau eisoes i ddelio ag addasrwydd staff. Rhaid i'r awdurdodau lleol a'r cyrff llywodraethu gyflawni eu swyddogaethau o dan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006, gyda'r bwriad o sicrhau, yng ngeiriau'r rheoliadau,
‘rhaid cyflogi, neu gymryd ymlaen heblaw o dan gontractau cyflogaeth, staff sy'n addas ac yn ddigonol o ran eu niferoedd er mwyn sicrhau y darperir addysg sy'n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd, cymwyseddau ac anghenion y disgyblion’.
Rwy'n annog yr Aelodau, felly, i gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn, ond gwrthod rhai Sam Kurtz a Cefin Campbell.
Mae angen canolbwyntio mwy ar gefnogi gweithrediad mwy cydweithredol a chyson o’r Mesur teithio gan ddysgwyr. Am y rheswm hwn, a’r rheini rydw i eisoes wedi eu nodi, hoffwn i ofyn i Aelodau i wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr, Cadeirydd.
Er hynny, mae’n debyg does dim llawer o gynnydd wedi bod ar y mater yma ers hynny. Ac yn wir, pan wnaeth pwyllgor craffu addysg Cyngor Gwynedd godi hyn haf diwethaf gyda CBAC, derbyniwyd ymateb siomedig gan y prif weithredwr a ddywedodd, 'Nid ydym yn casglu data gan y canolfannau ar hyn o bryd.'
Felly, i gloi, Cadeirydd, os ŷn ni o ddifrif am gyrraedd y nod o greu o leiaf miliwn o siaradwyr Cymraeg hyderus, dylem ni fod yn barod i fonitro faint ohonyn nhw sydd â gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn mesur eu cynnydd ac asesu unrhyw dueddiadau o ran faint sydd yn sefyll arholiadau yn y Gymraeg. Felly, diolch i chi am wrando, a dwi'n edrych ymlaen i glywed yr ymateb.
Nawr, rwy'n cytuno â'r egwyddor y byddai data ar gyflawniad disgyblion mewn cymwysterau Cymraeg yn ddangosydd defnyddiol i ddangos pa gynnydd mae ysgolion yn ei wneud tuag at gyflawni eu nodau dysgu Cymraeg. Ond mae nifer o faterion polisi cymhleth yn ymwneud â hyn, ac mae angen gwneud mwy o waith i weld pa ddata fyddai'n ddefnyddiol a phwy ddylai fod yn gyfrifol am ei gasglu a'i gyhoeddi. Felly, rwy'n annog Aelodau i wrthod gwelliant 141.
Mae data ar nifer y dysgwyr sydd wedi cofrestru i ddilyn cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg bob blwyddyn academaidd yn cael ei gyhoeddi yn barod. Rydym felly yn credu mai data ar yr iaith y mae dysgwyr yn ei defnyddio i gwblhau’r arholiadau sydd o dan sylw. Gan fod 'arholiadau' heb ei ddiffinio, mae amwysedd ynghylch ei ystyr. Byddai gwelliant 141 yn golygu casglu data ar nifer y dysgwyr sy'n sefyll pob math o arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol.
Mae penderfynu os yw disgybl wedi cymryd arholiad yn y Gymraeg yn gymhleth hefyd. Mae dysgwyr yn gallu defnyddio ieithoedd gwahanol wrth wneud papurau arholiad gwahanol, neu hyd yn oed o fewn un papur wrth ateb cwestiynau gwahanol. Dwi'n cofio, Gadeirydd, edrych ar bapurau gyda phobl yn y brifysgol lle roedd pobl yn dechrau yr ateb yn y Gymraeg a throi i Saesneg hanner ffordd drwodd, a dod nôl i'r Gymraeg ar y diwedd. So, dyw e ddim cweit mor syml ag mae'n ymddangos i ddechrau. Nid yw CBAC yn casglu’r data yma ar hyn o bryd a byddai angen buddsoddiad sylweddol i alluogi hyn. Nid wyf yn argyhoeddedig bod y gost o wneud hyn yn gymesur. Mae’r Llywodraeth yn barod i drafod y defnydd o ddata cymwysterau gyda’r Aelod, wrth gwrs, ond heb unrhyw sicrwydd o welliannau yng Nghyfnod 3.
Felly, mae arnaf ofn nad wyf i'n gallu derbyn y dadleuon sydd wedi cael eu rhoi ar y ddau welliant yma o gwbl, a dweud y gwir. Byddwn i'n croesawu sgwrs bellach. Ond, ar fater Cymraeg ail iaith, dwi'n siŵr, os ydyw pobl yn gwrando y prynhawn yma, y byddan nhw wedi'u siomi'n fawr iawn gyda'r ymateb rŷn ni wedi'i glywed. Ar ôl 12 mlynedd, mae'n fy nharo i nad ydym ni wedi symud cam ymhellach ymlaen, ac mae hynny'n fater o siom. Diolch, Gadeirydd.
Gwelliant olaf y Llywodraeth yn y grŵp hwn yw gwelliant 43 i ychwanegu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel ymgynghorai wrth baratoi'r fframwaith cenedlaethol, o gofio y bydd gan y coleg rôl bwysig wrth gyflawni’r fframwaith.
Gofynnaf, felly, i Aelodau gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth a gwelliant 144, ond i wrthod gwelliannau 145 a 146.