Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 9
- Geiriau a lefarwyd
- 600
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da, bawb. Croeso i gyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae hwn yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal, wrth gwrs, fel arfer ar fformat hybrid, ac ar wahân i addasiadau'n ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv ac mi fydd yna Gofnod o'r Trafodion yn cael ei gyhoeddi fel arfer. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Os bydd larwm tân yn canu, yna mae gofyn i bawb adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn y cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a'r staff. Dŷn ni ddim yn rhagweld neu'n disgwyl y bydd yna larwm tân, ond yn amlwg os oes yna bydd angen i ni ymateb i hynny. Gaf i ofyn hefyd i chi sicrhau bod yr holl ddyfeisiau symudol wedi eu distewi a gaf i ofyn cyn cychwyn os oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Nac oes. Dyna ni, iawn.