Gyda chyfalaf, roedd hi'n stori bositif eleni, yn yr ystyr roedd gyda ni £8 miliwn. Jest i roi cyd-destun eto, £1.2 miliwn oedd gyda ni y llynedd—'Invest in Theatres' oedd y teitl bryd hwnnw. Roedd £8 miliwn eleni, ac rŷn ni'n hapus iawn ein bod ni wedi llwyddo i gynnig grantiau i 40 o sefydliadau, a hynny ledled Cymru. Fe wnaethon ni edrych ar gyfalaf yn yr ystyr ehangach, oedd yn cynnwys digidol, a hefyd yn cynnwys modd i gwmnïoedd teithio, er enghraifft, ddod mewn a rhoi ceisiadau am geir neu faniau, yn ymwneud â thrydan ac ati. Felly, roedd yna 40 cais llwyddiannus. Dwi’n meddwl y cawsom ni 69 cais yn gyfan gwbl. O ran yr ask, roedd e tua £13.3 miliwn, rhywbeth felly—£8 miliwn oedd gyda ni. Roedd rhaid gwneud penderfyniadau digon anodd, ond hefyd, jest i roi sicrwydd i’r pwyllgor o ran ein bod ni yn wasanaeth Cymru-gyfan, mae 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi elwa o’r penderfyniadau hynny.
Ond beth mae’r ceisiadau yma yn ei brofi i ni yw bod angen, yn sicr, ond, ar ben hynny, bod angen i ni fod yn cynllunio dros ddwy, tair, pum mlynedd o ran materion cyfalaf. Un o’r pethau sydd yn rhwystredigaeth i ni, ac i bobl sydd wedi ymgeisio ac wedi bod yn llwyddiannus, yw bod yn rhaid i’r arian yma gael ei wario yn y flwyddyn ariannol yma. Felly, mae hynny ynddo’i hunan yn mynd yn erbyn, mewn ffordd, yr ysbryd yma o drio cynllunio hirdymor, ac mae hwnna’n rhywbeth pwysig iawn, dwi’n meddwl, yn enwedig ym maes cyfalaf, ond, byddwn i’n dadlau, ym maes ein holl gyllidebu ni fel cyngor.
Felly, mae’r angen yno. Rŷn ni’n ymwybodol hefyd bod gap yna o ryw £5 miliwn. Bydd y gap yna dal yna flwyddyn nesaf, oherwydd mae'r rheini’n brosiectau sydd angen eu cyflawni ar ryw bwynt. Ond, ar ben hynny, rŷn ni’n ymwybodol hefyd o’r anghenion ar draws Cymru, o ran bod cwpwl o sefydliadau angen cartrefi newydd. Mae yna ambell i beth sydd yn brosiectau mawr, ond hefyd mae yna gynifer o adeiladau yn y sector, yn enwedig o’r 1970au, fel mae’n digwydd, neu’r 1970au hwyr, sydd ddim wedi cael unrhyw gyfalaf o ddifrif mewn ffordd i'w cadw nhw i fynd. Dwi ddim yn ymwybodol o unrhyw ganolfan o’r cyfnod yna sydd heb do yn gollwng. Felly, mae yna dipyn o waith, a thipyn o alw yn fanna. Petaech chi’n gofyn am ffigur, gall fod yn unrhyw beth o £50 miliwn i £100 miliwn, o ran yr angen yn y sector. Ond petaem ni yn gallu dechrau meddwl yn nhermau tair i bum mlynedd, byddai modd i fod yn fwy strategol, ac i ddatblygu yn fwy strategol felly.
Yr unig beth y byddwn i’n dweud am y Llywodraeth—. Fe ddechreuodd y trafodaethau am yr £8 miliwn, mi oedden ni’n trafod cyfnod o dair blynedd ar y cychwyn, sef £8 miliwn y flwyddyn, ond, yn anffodus, pan ddaeth y penderfyniad yn y diwedd, dim ond £8 miliwn am flwyddyn oedd.