Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:29
- Cyfraniadau
- 329
- Geiriau a lefarwyd
- 14,359
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:29.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso, bawb, i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Senedd Cymru. Croeso i'r Aelodau sydd gyda ni y bore yma. Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu yn fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna Gofnod o’r Trafodion yn cael eu cyhoeddi, fel sy’n digwydd bod tro. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael. Os bydd y larwm tân yn canu, yna mi ddylai Aelodau a thystion adael yr ystafell trwy’r allanfeydd tân, a dilyn y cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a’r staff. Dŷn ni ddim yn disgwyl larwm, felly yn amlwg bydd angen i ni ymateb iddo fe os glywn ni fe. A gaf i ofyn hefyd i Aelodau sicrhau bod unrhyw ddyfeisiadau symudol sydd gennych chi wedi eu distewi? Cyn i ni fwrw iddi, gaf i ofyn os oes gan unrhyw un fuddiannau i’w datgan? Nac oes, dim byd. Diolch yn fawr iawn.