Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 10:33
- Cyfraniadau
- 224
- Geiriau a lefarwyd
- 13,587
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd rhan gyhoeddus y cyfarfod am 10:33.
5. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Bore da a chroeso i'r cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Rydym ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Lee Waters a Heledd Fychan ar gyfer ein cyfarfod heddiw. Mae croeso mawr i Llyr Gruffydd sydd yma ar ran Heledd Fychan ar gyfer yr eitemau ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan, plis? Dwi ddim yn gweld bod yna.
6. Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru): Sesiwn dystiolaeth weinidogol
Felly, mi wnawn ni symud yn syth ymlaen at eitem 6, y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), sesiwn dystiolaeth ar waith Gweinidogion. Bydd y pwyllgor nawr yn cymryd tystiolaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y Bil. Mi wnaf i ofyn i'r Dirprwy Brif Weinidog gyflwyno ei hunan, a hefyd y tystion eraill, ar gyfer y record, plis.