Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:29
- Cyfraniadau
- 214
- Geiriau a lefarwyd
- 14,050
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:29.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Bore da, a chroeso i gyfarfod heddiw o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Rydyn ni wedi derbyn ymddiheuriadau ar gyfer ein cyfarfod heddiw gan Lee Waters a Mick Antoniw. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dydw i ddim yn gweld bod.
2. Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Fe wnawn ni symud yn syth ymlaen at eitem 2, sef craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Mae gennym ni sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog gyflwyno'i hun, a hefyd y tystion eraill, ar gyfer y record. Fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog yn gyntaf.