Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 234
- Geiriau a lefarwyd
- 18,874
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da. Hoffwn i estyn croeso i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Gaf fi ofyn yn gyntaf a oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld bod yna rai, felly fe wnawn ni symud—. Wel, cyn inni fynd at ein sesiynau tystiolaeth y bore yma, mae yna ddau beth yr hoffwn i eu rhoi ar y record.
Cawsom y newyddion bod Dr Simon Brooks wedi camu i'r naill ochr fel cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg am gyfnod oherwydd ei driniaeth canser. Rhoddodd Dr Brooks a'i gydweithwyr dystiolaeth eithriadol o bwysig a defnyddiol i'n pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl, ar 5 Mawrth. Felly, dŷn ni fel pwyllgor yn diolch iddo fe am ei gyfraniad craff a gwerthfawr i'n hymchwiliad 'Cymraeg i bawb?', a hefyd wrth gwrs yn dymuno pob hwyl i Simon yn ei driniaeth. Dŷn ni'n dymuno pob hwyl i chi, Simon.
Yn anffodus, cawsom y newyddion torcalonnus ddydd Llun fod Claire O'Shea wedi ein gadael. Roedd Claire wedi derbyn gwahoddiad i roi tystiolaeth i'r pwyllgor heddiw ar y strategaeth ryngwladol. Byddwn ni'n talu teyrnged ac yn cynnal munud o dawelwch er cof amdani cyn yr ail sesiwn heddiw, lle'r oedd hi'n mynd i roi tystiolaeth i ni. Bydd hynny am 10.40 y bore yma. Dŷn ni'n ymwybodol bod ffrindiau agos iawn i Claire yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor y bore yma. Dŷn ni'n ddiolchgar iawn i chi, a hefyd yn meddwl amdanoch yn eich colled.