Diolch yn fawr i Lee am y cwestiwn. Dwi eisiau rhoi mwy o sylw i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Achos, fel dwi'n dweud yn aml, mae dau beth—. Mae dau beth, dwy uchelgais, gyda ni fel Llywodraeth. Rŷn ni eisiau creu miliwn o siaradwyr, ond rŷn ni eisiau dyblu'r defnydd o'r Gymraeg hefyd. Ble allwn ni wneud hynny? Wel, mae cyfleoedd naturiol yn dod atom ni yn y gweithle. Dyna pam roeddwn i'n awyddus i wneud mwy yn fewnol. Os ŷn ni'n mynd i ofyn i bobl eraill i'w wneud e, bydd yn rhaid i ni ddangos sut rŷn ni'n ei wneud e fel Llywodraeth. Roedd Jeremy wedi rhoi'r ffigurau i chi am y cynnydd sydd wedi bod yn nifer y bobl yn Llywodraeth Cymru sy'n dysgu Cymraeg ac yn defnyddio'r Gymraeg hefyd. Dyna pam mae posibiliadau technegol yn bwysig i ni, achos mae'n rhoi mwy o gyfleon i bobl ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw.
Rŷn ni'n dibynnu ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd i wneud gwaith pwysig yn y maes yma. 'Cymraeg Gwaith', y rhaglen maen nhw'n ei rhedeg, mae mwy na 30,000 o bobl nawr wedi bod yn rhan o'r cynllun yna, ac maen nhw newydd greu rhaglen newydd i bobl sy'n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cynnig rhagweithiol wedi bod yn y maes yna nawr am bron i ddegawd, ac mae pethau wedi newid yn sylweddol. Pan ŷch chi'n gweld pobl gyda'r bathodyn sy'n dweud 'Siarad Cymraeg', rŷch chi'n fodlon siarad Cymraeg â nhw, achos rŷch chi'n gwybod eu bod nhw'n mynd i ymateb. So, mae mwy o waith yn mynd ymlaen fanna. Mae rhaglen 'Arwain mewn gwlad ddwyieithog', rhaglen rŷn ni'n ei rhedeg. Rŷn ni wedi defnyddio'r rhaglen yn fewnol, ond rŷn ni'n ei defnyddio hi gyda'r awdurdodau lleol, a hefyd pobl yn y sector preifat. Mae'n hybu pobl i greu mwy o gyfleon i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
Roedd Lee yn gofyn, 'Beth am y dyfodol?' Wel, dydyn ni ddim wedi cyfeirio'r bore yma at y fframwaith cyfeirio cyffredin Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd, CEFR. So, roedd hwnnw'n rhan o'r Bil a oedd wedi mynd trwy'r Senedd. I fi, mae hwnna'n mynd—. Wel, mae'r potensial yna i'r CEFR wneud lot mwy yn y dyfodol i ddangos i bobl ifanc bod y ffaith eu bod nhw'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol, fod hwnna yn mynd i greu cyfleon iddyn nhw yn y gweithle yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, pan fydd pobl yn hysbysebu swydd, yr unig ddewis sydd gyda nhw yw dweud, 'essential' neu 'desirable', onid oes e? Yn y dyfodol, bydd cyflogwyr yn gallu dweud, 'Rŷn ni'n edrych am rywun gyda gallu yn y Gymraeg ar lefel B2 neu B1', neu beth bynnag yw e, a bydd pobl yn yr ysgol yn gallu gweld, 'Wel, mae'r Gymraeg sydd gyda fi, mae honno yn mynd i fod yn ddefnyddiol i fi os ydw i’n mynd i roi i mewn am y swydd yna'. So, am y dyfodol, dwi'n meddwl y bydd y CEFR yn newid sut mae pobl yn meddwl am y Gymraeg yn y gweithle, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n mynd i fod yn gefnogol i'r Gymraeg yn yr ysgol a'r Gymraeg y tu fas i'r ysgol hefyd.