Diolch. Roedd y tri nod yn glir: ein bod ni eisiau codi proffil Cymru yn rhyngwladol; ein bod ni eisiau cael ein gweld fel gwlad sydd yn globally responsible; a hefyd ein bod ni eisiau tyfu'r economi trwy allforion a hefyd trwy inward investment. So, dyna oedd y tri nod. Beth ddigwyddodd, wrth gwrs, oedd, mwy neu lai’r foment y gwnaethon ni gyhoeddi hwn, daeth COVID. Felly, wnaeth lot o bethau newid. Dwi’n cofio, pan roeddwn i'n gyfrifol am y swydd yma, roedd popeth wedi cau lawr, so roedd yn rhaid i fi roi lot o'r cyllid i helpu gyda’r achos o ymdrin â COVID. Doedd neb yn symud, felly roedd mwy neu lai popeth wedi cau lawr am gyfnod eithaf hir, ac mae hwnna’n gwneud gwahaniaeth.
Roedd Brexit wedi digwydd hefyd. Ond, cofiwch, dyna ran o'r rheswm pam roeddem ni mor benderfynol o wneud hwn, oedd i ymateb i Brexit, i ddangos ein bod ni'n wlad sy'n edrych allan. Ers hynny, rŷn ni wedi cael rhyfel yn Wcráin, ac mae hwnna i gyd yn amharu ar sut rŷn ni'n delio gyda materion rhyngwladol. Ac, wrth gwrs, mae Trump wedi newid yr awyrgylch o ran materion rhyngwladol. So, mae lot o bethau wedi newid.
Beth sydd gyda ni o ran tystiolaeth yw—. Ac mae peth o hwn yn yr annual report, mae wedi'i setio allan yn yr annual report. Dwi’n eithaf hapus i fynd drwy'r tri pheth, ond jest i roi cwpl o syniadau i chi ynglŷn ag, er enghraifft, raising Wales's profile, bob Dydd Gŵyl Dewi, rŷn ni'n sicrhau bod lot o ddigwyddiadau yn digwydd o gwmpas y byd—mae hwnna’n gyfnod pan rŷn ni’n gwneud hynny. Ond rŷn ni hefyd yn manteisio ar gyfleoedd fel, er enghraifft, cymryd rhan yn yr ŵyl lenyddol fwyaf yn y byd yn Calcutta. Rŷn ni hefyd wedi creu perthnasau newydd gyda llefydd fel Oita, Silesia, Baden-Württemberg ac Alabama, felly mae hynny i gyd yn adeiladu ar hynny. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r blynyddoedd yma, er enghraifft Wales in India, ac eleni, wrth gwrs, Wales in Japan. Mae'r rheini’n rhoi cyfle i ni godi’n proffil.
O ran tyfu'r economi, wrth gwrs roedd hi’n anodd gyda Brexit, ac ati, ond y ffaith yw, os ŷch chi’n edrych ar yr allforion, rŷn ni wedi cynyddu'r allforion £370 miliwn. Mae hwnna’n rhywbeth rŷch chi'n gallu mesur, ac rwy'n meddwl bod hwnna’n rhywbeth werth ei nodi. Ac o ran inward investments, rŷn ni wedi gweld tua £4 biliwn o fuddsoddiad o ran capital, ac rŷn ni'n meddwl bod hwnna wedi creu neu wedi helpu i gadw 20,000 o swyddi. So, mae'r rhain yn bethau concrit.
O ran establishing Wales as a globally responsible nation, rŷn ni wedi gwneud lot i hyrwyddo a chael pobl i wybod am y Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, ac, wrth gwrs, mae hwnna’n 10 mlwydd oed eleni. Mae lot o ddiddordeb wedi bod yn hwnna. Er enghraifft, yn India, mae’r Maharashtra future generations Bill. Roedd hwnna’n fascinating pan es i i India. Rŷn ni'n edrych ar y future generations Bill—3 miliwn o bobl sy’n byw yng Nghymru; ym Mumbai, mae tua 20 miliwn o bobl yn mynd i gael eu heffeithio gan yr Act newydd yma maen nhw wedi dod i mewn â hi. Maen nhw wedi bod i Gymru, maen nhw'n rili excited ynglŷn â hwn, maen nhw wedi dysgu oddi wrthym ni. Am ryw reswm, roedden nhw wedi mynd i Lambed. Maen nhw'n dwlu ar Lambed, sy'n fascinating—y bobl yma oedd wedi dod draw o India i ddysgu am y future generations Bill. Mae hwnna nawr yn mynd i wneud gwahaniaeth i 20 miliwn o bobl, jest yn India. So, mae pethau fel hynny—. Dwi'n gallu mynd ymlaen ac ymlaen, ond jest i roi blas ichi o'r math o bethau rŷn ni wedi eu cyflawni.