Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:33
- Cyfraniadau
- 136
- Geiriau a lefarwyd
- 14,564
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:33.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes i chi i gyd i gyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn Senedd Cymru. Croeso i’r Aelodau yn arbennig. Mae ymddiheuriadau heddiw wedi dod i law gan Delyth Jewell ac mi fydd Cefin Campbell yn dirprwyo ar ei rhan hi, felly croeso cynnes i Cefin. Mae ymddiheuriadau hefyd wedi dod i law gan Julie Morgan.
Fel rŷch chi’n gwybod, mae hwn yn gyfarfod sy’n digwydd ar ffurf hybrid, ac er fy mod i’n cymryd rhan o bell, mae’r pwyllgor wedi cytuno—wel, 'gan fy mod i', dylwn i ei ddweud. Gan fy mod i’n cymryd rhan o bell, mae’r pwyllgor wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, mai Cefin Campbell, sydd yn bresennol yn yr ystafell, wrth gwrs, fydd yn cadeirio’r trafodion dros dro, os byddaf i’n cael unrhyw anawsterau technegol neu os byddaf i’n colli cysylltiad yn ystod y cyfarfod. Gan fy mod i, hefyd, yn cymryd rhan o bell, dwi wedi gofyn i Cefin i alw siaradwyr yn ystod yr ail eitem, sef y sesiwn craffu ar y Dirprwy Brif Weinidog, gan fod bod yn bresennol yn yr ystafell, dwi’n meddwl, yn mynd i fod yn help i gynnal busnes yn effeithiol. Mi fyddaf i’n parhau i arfer fy swyddogaeth fel Cadeirydd gydol y cyfarfod ac fe fyddaf i’n ymyrryd os oes angen, ond fel dwi’n dweud, Cefin fydd yn llywio’r drafodaeth ar gyfer yr eitem benodol honno.
Felly, ar wahân i addasiadau'n ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat hybrid, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv ac mi fydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'n gyfarfod dwyieithog hefyd, wrth gwrs, felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Os bydd larwm tân yn canu, yna mi ddylai Aelodau a thystion adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a'r staff, ond dydyn ni ddim yn disgwyl ymarfer tân heddiw, gyda llaw. A gaf i ofyn, hefyd, i Aelodau sicrhau bod unrhyw ddyfeisiau symudol sydd gennych chi wedi'u distewi? A minnau hefyd. Hefyd, a gaf i ofyn a oes gan unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau i'w datgan cyn inni gychwyn? Nac oes, iawn, dyna ni.