Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:29
- Cyfraniadau
- 310
- Geiriau a lefarwyd
- 20,938
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:29.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes i chi i gyd i gyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae hwn yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal mewn fformat hybrid, ac ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat o'r fath, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma, fel bob tro, wrth gwrs, yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna gofnod o'r trafodion hefyd yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer.
Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna offer cyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Os bydd y larwm tân yn canu, a dŷn ni ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, ond os bydd e'n digwydd, yna mi ddylai Aelodau a thystion adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a'r staff. Gaf i ofyn i bawb sicrhau bod unrhyw ddyfeisiadau symudol sydd gennych chi wedi eu rhoi ar y modd tawel, fel eu bod nhw ddim yn amharu ar y cyfarfod? Gaf i hefyd, cyn cychwyn, ofyn a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Dim byd. Dyna ni. Iawn.